100 mlynedd yn ôl i’r mis hwn – ymosodiadau gan longau tanfor yn nyfroedd Cymru

Ar 1 Chwefror 1917 datganodd yr Almaen ei bod hi’n cychwyn o’r newydd ‘ryfel heb gyfyngiad gan longau tanfor’ mewn ymgais ffyrnig olaf i ddod â’r Rhyfel Byd Cyntaf i ben. Bron ar unwaith, collwyd cryn nifer o longau masnach yn nyfroedd Cymru. Cafodd tair llong ar ddeg eu suddo oddi ar Ynys Enlli ac arfordir Penfro yn ystod y mis hwnnw yn unig – pob un gan yr un llong danfor Almaenig, yr UC-65, yr oedd Otto Steinbrinck, un o gomanderiaid llong danfor mwyaf llwyddiannus yr Almaenwyr, yn gapten arni.

 

Llong danfor Almaenig UC-31© IWM (Q 19323)

Llong danfor Almaenig UC-31© IWM (Q 19323)

Pawb o’r Llong!

Ar ddechrau Chwefror 1917, teithiodd yr UC-65 i fyny o arfordir Cernyw i fod yn ei lle i ymosod ar longau masnach oddi ar Ynys Enlli yng Ngogledd Cymru. Ar 10 Chwefror am 7am, gwelodd y SALLAGH, agerlong a oedd yn cludo glo o borthladd Lydney ar afon Hafren i Larne yn Belfast. Ar ôl tanio ergyd rybuddio at y SALLAGH, cododd y llong danfor y faner ‘pawb o’r llong’.

Tra oedd y bad achub yn cael ei ostwng fel bod y criw yn gallu gadael, taniodd y llong danfor eto, gan ladd y prif beiriannydd, William McKay, o Ogledd Iwerddon, ac anafu dau longwr arall. Yna rhoddwyd bomiau ar fwrdd y llong a’u ffrwydro. Gadawyd i’r cwch a oedd yn cludo’r goroeswyr anelu am y lan a chododd y llong danfor hwyl ar ei bwrdd, fel ei bod yn edrych fel cwch pysgota bach, a disgwyl y llong fasnach nesaf. Yr OLIVIA oedd honno, agerlong o Gernyw a oedd yn cludo glo o Lerpwl i Portreath, Cernyw. Cafodd y llong ei suddo yn yr un modd ond y tro hwn ni chafodd neb ei ladd.

Y diwrnod wedyn, teithiodd yr UC-65 i lawr yr arfordir i Sir Benfro lle suddodd y LYCIA, agerlong arfog a oedd yn teithio o Abertawe i Lerpwl, a’r VOLTAIRE a oedd yn hwylio o Lanelli i Lerpwl. Ni chafodd neb ei frifo. Roedd arfau ysgafn yn unig ar fwrdd y LYCIA, sef dryll calibr ysgafn ar ei bwrdd starn a gwn maes Rwsiaidd hen iawn; ni wyddys a gafodd y gynnau eu defnyddio. Y diwrnod nesaf, saethodd yr UC-65 ddau dorpido at y PINNA a oedd yn cludo olew o Texas, ond methodd â’i suddo. Daethpwyd â hi i dir yn Aberdaugleddyf. Ymosodwyd ar yr holl longau hyn ger goleudy South Bishop oddi ar arfordir gorllewinol sir Benfro. Y diwrnod wedyn, (ar y 13eg), suddodd yr UC-65 gwch pysgota bach oddi ar Oleudy’r Smalls. Hwn oedd y FRIENDSHIP, o Aberdaugleddyf. Er iddynt lwyddo i fynd ar fad achub y cwch, fe gollwyd y criw o bedwar. Cafwyd disgrifiadau lliwgar yn y papurau newydd lleol am suddo’r VOLTAIRE a’r OLIVIA, gan gynnwys disgrifiadau’r criw o’u profiadau dychrynllyd, yr Almaenwyr yn cipio bwyd a diod ac, yn arwyddocaol, eu hawch am newyddion o bapurau newydd Prydeinig. Mae adroddiadau diweddarach am suddo’r FRIENDSHIP yn adlewyrchu’n ingol iawn bryder mawr y cymunedau lleol am dynged eu llongwyr.

 

Haverfordwest and Milford Haven Telegraph 21 Feb 1917 - FRIENDSHIP, VOLTAIRE, OLIVIA

Haverfordwest and Milford Haven Telegraph 21 Feb 1917 – FRIENDSHIP, VOLTAIRE, OLIVIA

 

MILFORD SMACK SUNK

Once more Milford Haven is the scene of many distressing results of the new piracy campaign and during the past week a number of crews have been landed at the port after harrowing experiences at the hands of the Huns. News came to hand on Friday, that the smack “Friendship”, registered at Brixham, but owned by Mr. Thomas Jenkerson, had been sunk, and there were no tidings for the crew on Monday. They consisted of Skipper Albert Tucker, mate H. Rackley (senior), and two apprentices. This is the second smack Mr. Jenkerson has lost within a few weeks. Much anxiety is felt for the crew.
West Wales Guardian, Dydd Gwener 2 Mawrth 1917

 

Yn y cyfamser fe ddychwelodd yr UC-65 i Ynys Enlli ar 14 Chwefror, lle suddodd y FERGA, y MARGARITA, a’r GREENLAND, agerlongau a oedd yn teithio o Lerpwl i Abertawe gyda llwythi hanfodol o wenith a chyflenwadau cyffredinol. Goroesodd yr holl griwiau; yn wir, cafodd bad achub y GREENLAND ei dynnu i ddiogelwch ger yr arfordir gan yr UC-65. Bedwar diwrnod yn gynharach, roedd y GREENLAND wedi achub criw y SALLAGH – y rheiny oedd wedi goroesi – ac wedi mynd â nhw i Gaergybi, felly roedd y criw yn gwybod pa mor beryglus oedd dyfroedd Enlli. Lladdwyd John McMaster, llongwr 21 oed, yn y ffrwydrad. Roedd yn hanu o’r un rhan o Ogledd Iwerddon, sef Gransha, Islandmagee, â’r prif beiriannydd a laddwyd ar fwrdd y SALLAGH.

Y diwrnod wedyn, 15 Chwefror, roedd yr AFTON yn teithio o Fryste i Belfast gyda chargo cyffredinol pan gafodd ei suddo gan yr UC-65 oddi ar Ben Strwmbl. Yna aeth y llong danfor yn ôl i Ynys Enlli unwaith eto lle suddodd y KYANITE a oedd ar ei ffordd i Fryste gyda llwyth o alcali. Achubwyd holl forwyr y llongau hyn.

Yn olaf, ar 26 Chwefror, fe drawodd yr HANNAH CROASDELL, sgwner bren 3-hwylbren o Gei Connah yn Sir y Fflint, ffrwydryn yr oedd y llong danfor wedi’i osod yn y môr ar un o’i hymweliadau cynharach, ger Pentir Santes Ann, Sir Benfro. Collwyd pedwar bywyd, gan gynnwys y capten, Frederick Grenfell o Gei Connah. Mae ei enw wedi’i gofnodi ar y gofeb ryfel yno.

Yn ffodus, cafodd pawb a oedd wedi goroesi’r ymosodiadau hyn eu hachub. Cafodd y rhan fwyaf ohonynt eu codi gan longau a oedd yn mynd heibio a’u cludo i borthladdoedd Abergwaun, Aberdaugleddyf neu Gaergybi lle byddent wedi cael cymorth gan elusennau morwyr a’u rhoi ar drenau i fynd adref. Fel rheol byddent wedyn yn mynd yn syth ar long arall ac yn rhoi eu bywydau mewn perygl eto. Roedd y peryglon yn fawr; achosodd y rhan fwyaf o ymosodiadau gan longau tanfor golledion ar fwrdd y llongau a suddwyd, ond hefyd bu farw rhai ar ôl yr ymosodiad o ganlyniad i hypothermia, syched neu newyn pan oeddynt yn eu badau achub yn aros i rywun ddod ar eu traws.

Cliciwch ar enw’r llong i weld ein cofnodion ar Coflein

 

Y cefndir i’r ymosodiadau – ‘rhyfel heb gyfyngiad gan longau tanfor’

The whole world is amazed at German declaration of ruthless submarine warfare. The Cambria Daily Leader, 13 Chwefror 1917

Roedd America wedi bod yn agos iawn at fynd i ryfel ar ôl i’r llong deithio Lusitania gael ei suddo gan un o longau tanfor yr Almaen ym mis Mai 1915. Lladdwyd nifer fawr o bobl, gan gynnwys 128 o ddinasyddion Americanaidd. Ond cafodd Woodrow Wilson, Arlywydd America, ei sicrhau gan yr Almaen y byddai’n cydymffurfio â chyfraith ryngwladol: byddai unrhyw long niwtral nad oedd yn cario contraband yn cael mynd yn ddiogel i’r porthladd yr oedd yn hwylio iddo. Yn ystod dwy flynedd nesaf y rhyfel, nid ymosododd llongau tanfor yr Almaen ar longau niwtral, hynny yw, llongau’n hedfan baneri gwledydd nad oeddynt yn rhyfela – yn enwedig llongau o America.

Fodd bynnag, ar 1 Chwefror 1917 ailgydiodd yr Almaen mewn ‘rhyfel heb gyfyngiad gan longau tanfor’ mewn ymgyrch fawr i drechu Prydain mewn 6 mis drwy darfu ar y cyflenwadau bwyd a rhyfel a oedd yn cael eu cludo gan longau masnach yn y gobaith o orffen y rhyfel cyn i America gael cyfle i ymuno. Roedd y strategaeth hon yn llawn risg ond roedd llawer yn y fantol. Erbyn 1917 nid oedd y rhyfel yn mynd yn dda i’r Almaen ar y Ffrynt Gorllewinol, ac roedd gwarchae llynges Prydain ym Môr y Gogledd yn atal bwyd rhag cyrraedd yr Almaen gyda’r canlyniad bod pobl yn dechrau newynu.

Roedd gan yr Almaen 105 o longau tanfor yn barod i ymosod erbyn 1 February 1917. Roedd yr ymgyrch yn llwyddiant ysgubol i ddechrau: cawsai bron 25% o’r holl gargo a oedd ar ei ffordd i Brydain, bron 500,000 o dunelli, ei suddo erbyn mis Mawrth 1917. Roedd cyflenwadau Prydain o wenith yn isel iawn – digon am 6 wythnos yn unig. Hefyd, erbyn mis Mawrth, roedd 7 llong fasnach Americanaidd wedi’u suddo gan y llongau tanfor. Yn y diwedd, ar 6 Ebrill 1917, ymunodd America â’r rhyfel.

 

Dyfroedd Cymru

Roedd dyfroedd Cymru yn hanfodol bwysig i ymdrech ryfel Prydain. Byddai llawer o’r llongau o ac i Lerpwl yn teithio ar hyd arfordir Cymru, a dibynnai’r Llynges Frenhinol yn drwm ar lwythi o lo o Gaerdydd a phorthladdoedd eraill Cymru. Roedd hyn, ynghyd â’r ffaith nad oedd dyfroedd Cymru yn cael eu hamddiffyn mor gryf â rhai o ddyfroedd eraill Prydain, megis Môr Udd, yn golygu bod llongau masnach yn parhau i gael eu suddo gan longau tanfor ar hyd arfordir Cymru hyd ddiwedd y rhyfel.

Mae’r llongau hyn bellach yn ddrylliadau ar wely’r môr. Fel rhan o’r prosiect Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru bydd arolygon tanddwr newydd o rai o’r drylliadau hyn yn cael eu cyfuno i greu modelau rhyngweithiol 3D i’w harddangos ar wefan bwrpasol. Hefyd, ar ôl 100 mlynedd o dan y dŵr, mae’r drylliadau bellach yn gartrefi i boblogaethau hynod o lewyrchus o blanhigion ac anifeiliaid morol. Gobeithir y bydd y prosiect yn darparu cyfleoedd i wirfoddolwyr helpu i adnabod y gwahanol rywogaethau.

 

Helen Rowe

 

Cyfeiriadau:

  • Britannia’s Dragon – A Naval History of Wales, gan J D Davies, 2013, tt 203-204.
  • Anglesey at War gan Geraint Jones, 2012

Adnoddau ar-lein:

Darllen pellach:

Byddwn yn postio mwy o flogiau fel rhan o’r prosiect: Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914­-18. Darllenwch bostiadau blaenorol yma:

 

Galwad am gyfraniadau: os oes gennych unrhyw wybodaeth, dogfennau neu ffotograffau’n ymwneud ag unrhyw agwedd ar y prosiect hwn, neu os hoffech gymryd rhan, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

02/10/2017

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets