
2018: Adolygiad o’r Flwyddyn – ein gwelliannau i Coflein!
Bydd y Comisiwn Brenhinol yn gwella ei gofnodion a’i adnoddau’n barhaus er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am amgylchedd hanesyddol cyfoethog Cymru mor hygyrch â phosibl i bawb. Drwy gydol 2018, rydym wedi gweithio i wella’r wybodaeth ar Coflein – ein cronfa ddata ar-lein a Rhestr o henebion – sy’n cynnwys cofnodion chwiliadwy ar gyfer degau ar filoedd o safleoedd a channoedd ar filoedd o ddogfennau, cynlluniau, lluniadau, ffotograffau a mapiau.

Un o’n hawyrluniau a gafodd ei gatalogio a’i roi ar Coflein yn ddiweddar: Ysgol Bro Teifi, Llandysul, yn cael ei hadeiladu; awyrlun a dynnwyd yn 2015.
Gwnaed newidiadau sylweddol i wasanaeth Mapio Coflein. Mae ganddo ryngwyneb beiddgar newydd sydd wedi’i integreiddio’n llwyr â phrif wefan Coflein. Mae ein map newydd yn caniatáu i chi amlygu ardaloedd er mwyn gweld y safleoedd sydd mewn lleoliad penodol, neu greu mapiau dosbarthiad drwy chwilio am ardaloedd neilltuol neu fathau neilltuol o safleoedd. Gellir gweld y canlyniadau fel rhestr ac ar y map, sy’n cynnig mwy o gyd-destun ar gyfer y berthynas ddaearyddol rhwng safleoedd. Gellir gweld y canlyniadau hefyd ar fap 25 modfedd 2il argraffiad yr Arolwg Ordnans, sy’n dangos yr henebion ac adeiladau mewn tirwedd hanesyddol. I ddarganfod mwy am ddefnyddio Mapio Coflein, darllenwch ein canllaw i ddefnyddwyr.
Rydym hefyd wedi ychwanegu miloedd o awyrluniau yn deillio o arolygon diweddar o’r awyr. Mae’r lluniau hyn yn dangos safleoedd o’r awyr ar hyd a lled Cymru dan wahanol amodau. Mae’r lluniau digidol bendigedig hyn wedi’u catalogio gyda disgrifiad llawn ac maen nhw’n rhoi cyfle i chi weld Cymru o bersbectif hollol newydd. Gallwch ddarllen mwy am y darganfyddiadau syfrdanol a wnaed gan y Comisiwn Brenhinol yn ystod ei arolygon diweddar o’r awyr yma ac yma.

Mae’r awyrlun hwn o’r Fynwent Anifeiliaid Anwes ym Mrynffordd, Treffynnon, a dynnwyd yn 2015, yn dangos yn glir y lawnt siâp-pawen yng nghanol y safle.
Yn olaf, buom yn gweithio’n galed i wella ein disgrifiadau o’r safleoedd a gynhwyswn ar Coflein. Ers y gwanwyn rydym wedi ysgrifennu cannoedd o ddisgrifiadau safle newydd ar gyfer safleoedd ledled Cymru, gan gynnwys cofebau rhyfel, aneddiadau gwag, eglwysi canoloesol, cerrig arysgrifenedig, adeiladau cyhoeddus, tafarndai, a llawer llawer mwy. Fel rhan o’r gwaith hwn, ymgymerwyd ag adolygiad o’n disgrifiadau o safleoedd yn Nhre-biwt, Caerdydd gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd ym mis Awst. Ychwanegwyd at y wybodaeth am safleoedd yn yr ardal a thynnwyd llawer o luniau newydd. Yn ystod y flwyddyn, casglwyd detholiadau o’r gwelliannau hyn ynghyd i greu orielau tymhorol a oedd yn croniclo ein gweithgareddau. Mae’r rhain wedi’u cyfuno bellach mewn un oriel ‘Gwellwyd yn Ddiweddar – Hydref 2018’, y gellir ei gweld ar Coflein.

Ewch i Coflein i weld Oriel newydd sy’n dangos detholiad o’r cofnodion safle a wellwyd gennym yn 2018.
Efallai bod 2018 wedi dod i ben, ond cawn lawer o gyfleoedd newydd yn 2019 i barhau i wella ein cofnodion a’ch profiad chi o amgylchedd adeiledig cyfoethog Cymru drwy Coflein. Os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau, byddem yn falch iawn o dderbyn eich adborth. Bydd eich sylwadau yn ein helpu ni i sicrhau ein bod ni’n darparu’r gwasanaeth gorau posibl i bobl Cymru ac yn ehangach.
Adam N. Coward
08/01/2019