CBHC / RCAHMW > Newyddion > A Story of Sand, Sea and Storms: Uncovering the Secrets of Dinas Dinlle Hillfort in Gwynedd

A Story of Sand, Sea and Storms: Uncovering the Secrets of Dinas Dinlle Hillfort in Gwynedd

Mae caer arfordirol Dinas Dinlle yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae hi ar ben bryn o waddodion drifft rhewlifol, ac yn edrych dros y môr a gwastadedd arfordirol Sir Gaernarfon. Mae’r gaer wedi’i diogelu fel Heneb Gofrestredig ac mae’r bryn ei hun yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd pwysigrwydd daearegol y gwaddodion rhewlifol.
Mae caer arfordirol Dinas Dinlle yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae hi ar ben bryn o waddodion drifft rhewlifol, ac yn edrych dros y môr a gwastadedd arfordirol Sir Gaernarfon. Mae’r gaer wedi’i diogelu fel Heneb Gofrestredig ac mae’r bryn ei hun yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd pwysigrwydd daearegol y gwaddodion rhewlifol.

5 Rhagfyr, Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol, Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 5pm. Teitl darlith eleni yw A Story of Sand, Sea and Storms: Uncovering the Secrets of Dinas Dinlle Hillfort in Gwynedd a chaiff ei rhoi gan Louise Barker a Daniel Hunt (CHERISH, CBHC) gyda Sarah Davies a Patrick Robson (CHERISH, Prifysgol Aberystwyth: Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear). Fel rhan o’r prosiect CHERISH – Newid Hinsawdd a Threftadaeth Arfordirol – mae ymchwiliadau cyffrous newydd yn cael eu gwneud i ddatgelu cyfrinachau bryngaer Dinas Dinlle cyn iddi gael ei cholli i’r môr.

Bydd y sgwrs yn canolbwyntio ar uchafbwyntiau’r gwaith diweddar ar y safle, gan gynnwys cloddiadau 2019 a ddadorchuddiodd un o’r tai crwn mwyaf ei faint a mwyaf cyflawn yng Ngogledd Cymru.

Mynediad am ddim drwy docyn.

Dyddiad ac Amser: 5 Rhagfyr 2019, 5pm

Lleoliad: Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwth, SY23 3BU.

I gofrestru ar gyfer tocynnau ar-lein, ewch i: A Story of Sand, Sea and Storms: Uncovering the Secrets of Dinas Dinlle Hillfort in Gwynedd.

Unwaith eto fe gynhelir Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol yr un pryd â digwyddiad siopa Nadolig hwyr y Llyfrgell Genedlaethol: Noswaith Siopa Hwyr, 5pm─8pm, lle bydd adloniant a lluniaeth tymhorol ar gael a stondinau lle gallwch brynu detholiad o nwyddau o safon.

*****

Byddwch cystal â nodi y rhoddir y ddarlith hon am 6pm ar 16 Ionawr 2020 ym Mangor hefyd.

18/11/2019

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x