Abermagwr: Y fila Rufeinig anghysbell yng Nghymru lle darganfuwyd bowlen unigryw o wydr nadd a thystiolaeth gynnar o grefft y töwr

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad cloddio terfynol ar gyfer un o’r filâu mwyaf anghysbell yng Nghymru, yn Abermagwr yng Ngheredigion, newydd gael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn Archaeologia Cambrensis. Mae’n adrodd stori lawn y darganfyddiad rhyfeddol hwn, sydd wedi dweud cymaint wrthym am ddylanwad y Rhufeinwyr ar dirwedd wledig gorllewin Cymru 1800 o flynyddoedd yn ôl.

Adeilad cymharol wladaidd oedd y fila, gyda lloriau clai a thanau agored, ond syfrdanwyd yr archaeolegwyr gan ddarganfyddiad hollol annisgwyl: darnau o un o’r llestri gwydr Rhufeinig ceinaf yng Nghymru. Hefyd dangosodd gwaith ymchwil i’r llechi to mor fawr oedd y dasg o doi’r fila: defnyddiwyd 6,600 o lechi carreg a oedd yn pwyso hyd at 23 tunnell fetrig.

 

Y fila Rufeinig fwyaf anghysbell yng Nghymru

Daethpwyd o hyd i fila Rufeinig Abermagwr wrth dynnu lluniau o’r awyr yn ystod haf sych 2006, a hon oedd y fila Rufeinig gyntaf i’w darganfod yn ardal Bae Ceredigion. Dyma’r fila fwyaf anghysbell yng Nghymru y gwyddom amdani, yn 50 km i ffwrdd o’i chymydog agosaf, ac mae’r cloddio yno wedi taflu goleuni newydd ar agweddau ar fywyd yn y cyfnod Rhufeinig diweddar yng ngorllewin Cymru. Yn fwyaf arbennig, mae’r darganfyddiad wedi newid ein syniadau am hanes cynnar canolbarth a gorllewin Cymru: tybiwyd hyd yma fod hon yn ardal dan reolaeth filwrol heb fawr ddim rhyngweithio rhwng y Rhufeinwyr a’r poblogaethau lleol, ac mai bach oedd ymwneud y brodorion â’r ffordd Rufeinig o fyw.

 

Y darganfyddiad a’r cloddio

Nid yw filâu Rhufeinig yn gyffredin yng Nghymru. Gwyddom am ychydig dros 30 o filâu neu filâu posibl ac mae’r mwyafrif o’r rhain yn y de a’r dwyrain. Darganfuwyd olion cnydau’r fila yn Abermagwr lai na milltir o’r gaer Rufeinig yn Nhrawsgoed. Er eu bod nhw’n meddwl ei fod yn adeilad Rhufeinig, roedd hyn mor annhebygol ar gyfer canolbarth Cymru fel y dechreuodd Dr Toby Driver a Dr Jeffrey Davies ar waith cloddio yno yn 2010 er mwyn dyddio’r adeilad yn iawn, gyda chymorth y Comisiwn Brenhinol, Cymdeithas Hynafiaethau Cymru ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed. Cadarnhaodd  y cloddio fod yng Ngheredigion fila Rufeinig – yr unig un i’w darganfod yno hyd yn hyn. Parhaodd y gwaith cloddio yn 2011 a 2015 fel cloddiad cymunedol bywiog. Cafwyd cymorth gweithwyr gwirfoddol, daeth mwy na 300 o ymwelwyr i ddiwrnod agored yn 2011, a chymerodd ysgolion cynradd lleol ran yn y prosiect.

Dangosodd y cloddiadau i’r fila gael ei sefydlu tua OC 230, canrif o leiaf ar ôl i’r milwyr adael y gaer Rufeinig gerllaw. Roedd pobl yn byw yno hyd tua OC 330 hyd nes i dân ei dinistrio’n llwyr. Cafodd pot coginio ei ollwng ar lawr y gegin a’i adael yno, sy’n dangos bod y preswylwyr wedi ffoi ar frys. Mae tystiolaeth i adfeilion y fila gael eu hailfeddiannu rywbryd yn ystod y cyfnod Rhufeinig diweddar neu’r cyfnod ôl-Rufeinig, ond yn ystod y canrifoedd diwethaf cafodd cerrig yr adeilad eu dwyn ac aeth yn angof yn y dirwedd.

 

Darganfyddiadau neilltuol: y bowlen wydr Rufeinig

Y darganfyddiad mwyaf arbennig oedd y llestr gwydr nadd nodedig o’r cyfnod Rhufeinig diweddar a gafodd ei wneud yn y Rheindir yn yr Almaen. Mae’n debyg bod y llestr yn bowlen fach. Mae’r darnau sydd wedi goroesi wedi’u haddurno â thri band o waith ffased-dorri geometrig ac mae llestri o’r fath yn brin ym Mhrydain. Yn ôl yr Athro Jennifer Price o Brifysgol Durham, a ysgrifennodd yr adroddiad arbenigol arno, dyma un o’r enghreifftiau gorau o waith gwydr o’r cyfnod Rhufeinig diweddar i’w darganfod yng Nghymru: ‘Its quality is vastly superior to the rest of the glass vessels found at the villa, and indeed to virtually all the late Roman tablewares known in Wales…’

Nid oes powlen arall o Brydain Rufeinig sydd â’r union un cynllun addurnol, ond mae rhai o’r patrymau i’w gweld ar bowlenni eraill. Roedd hon yn eitem hynod foethus ar gyfer fila gymharol ddi-nod, ac mae’n debyg iddi gael ei defnyddio ar gyfer cymysgu gwin a dŵr mewn ciniawau crand ac yn ystod dathliadau. Ni allwn ond dyfalu sut y cafodd ei thorri a’i gadael yn ystafell gefn fila Abermagwr. Yn dilyn gwaith cadwraeth arbennig bydd yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Ceredigion.

 

Crefft ac arloesedd y Rhufeinwyr: Y to o lechi carreg

Roedd to llechi’r fila yn destun un o’r astudiaethau modern trylwyraf o grefft y töwr Rhufeinig, yr ymgymerwyd â hi dan arweiniad Bill Jones, arbenigwr ar hanes y diwydiant llechi. Oherwydd bod y llechfaen-siâl lleol a ddefnyddiwyd i doi’r fila yn weddol feddal, mae amrywiaeth o linellau marcio – neu farciau töwr – wedi’u cadw. Nid yw’r marciau hyn i’w cael ar lechi filâu eraill. Mae’r marciau’n dangos bod sgiliau, arferion ac offer toi wedi parhau o’r cyfnod Rhufeinig hyd y cyfnod diwydiannol diweddar, a bod arbenigwr yn bresennol ar y safle yn ystod y gwaith adeiladu.

Byddai’r to gorffenedig o lechi pumonglog a chweonglog pigfain wedi bod yn hynod addurnol. Mae Bill Jones yn amcangyfrif bod angen tua 6,600 o lechi ar gyfer to’r prif adeilad, a rhyw 2,475 o lechi ar gyfer toeon llai yr adenydd. Byddai’r to cyfan wedi pwyso rhwng 18 a 23 o dunelli metrig, gan ddibynnu ar feintiau’r llechi Rhufeinig a ddefnyddiwyd. Byddai trawstiau derw sylweddol wedi cynnal pwysau enfawr y llechi.

Mae’r fila wedi’i chladdu o dan dir amaethyddol modern, ond mae’r darganfyddiadau’n cael eu harddangos yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth, a gellir astudio ffotograffau a chynlluniau ar-lein yn www.coflein.gov.uk

 

Gwybodaeth bellach

Enw’r adroddiad terfynol gydag atodiadau llawn gan awduron arbenigol yw: ‘The Romano-British villa at Abermagwr, Ceredigion: excavations 2010–15’ gan J.L. Davies a T. Driver. Cafodd ei gyhoeddi yn Archaeologia Cambrensis, Cyfrol 167 (2018).

Mae’r holl ddarganfyddiadau o’r fila wedi’u rhoi ar adnau yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth, ac mae’r darganfyddiadau gorau’n cael eu harddangos yno. Mae’r archif ddigidol a phapur i’w chael yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, Aberystwyth.

I gael mwy o wybodaeth ewch i gofnod ar-lein y Comisiwn Brenhinol:
www.coflein.gov.uk/en/site/405315/details/abermagwr-roman-villaabermagwr-romano-british-villa

Ewch i’r dudalen Facebook ar gyfer y fila Rufeinig: www.facebook.com/AbermagwrRomanVilla

 

Cysylltiad:
Dr Toby Driver
Uwch Ymchwilydd (Arolygu o’r Awyr)
Ffordd Penglais | Penglais Road, Aberystwyth, SY23 3BU
+44 (0) 1970 621 207

toby.driver@cbhc.gov.uk | toby.driver@rcahmw.gov.uk

DELWEDDAU: (gellir darparu delweddau cydraniad uchel)

 

1 – Fila Rufeinig Abermagwr. Ailgread o’r tŷ neu domus gan Toby Driver, yn dangos gardd syml a llwybr graean o amgylch y fila, a lloc ehangach y fila a oedd mae’n debyg yn cael ei defnyddio fel iard i’r da byw.

1 – Fila Rufeinig Abermagwr. Ailgread o’r tŷ neu domus gan Toby Driver, yn dangos gardd syml a llwybr graean o amgylch y fila, a lloc ehangach y fila a oedd mae’n debyg yn cael ei defnyddio fel iard i’r da byw.

 

2 – Abermagwr. Llestr neu bowlen Rufeinig o wydr nadd. Ffotograffau o rai o ddarnau’r llestr gwydr nadd sydd wedi goroesi, gyda llun mewnosod yn dangos lluniad ailgreu o’r bowlen gan Yvonne Beadnell (Hawlfraint y Goron CBHC).

2 – Abermagwr. Llestr neu bowlen Rufeinig o wydr nadd. Ffotograffau o rai o ddarnau’r llestr gwydr nadd sydd wedi goroesi, gyda llun mewnosod yn dangos lluniad ailgreu o’r bowlen gan Yvonne Beadnell (Hawlfraint y Goron CBHC).

 

3 – Darn o lestr Rhufeinig o wydr nadd: y darganfyddiad gwreiddiol gan wirfoddolwr lleol ym mis Gorffennaf 2011 (Hawlfraint y Goron CBHC).

3 – Darn o lestr Rhufeinig o wydr nadd: y darganfyddiad gwreiddiol gan wirfoddolwr lleol ym mis Gorffennaf 2011 (Hawlfraint y Goron CBHC).

 

4 – Abermagwr. Llechen fawr o garreg leol o do’r fila, a ddarganfuwyd mewn ffos yn dyddio’n ôl i’r cyfnod Rhufeinig beth pellter o’r tŷ. Roedd wedi’i chymryd o adfeilion y fila (Hawlfraint y Goron CBHC).

4 – Abermagwr. Llechen fawr o garreg leol o do’r fila, a ddarganfuwyd mewn ffos yn dyddio’n ôl i’r cyfnod Rhufeinig beth pellter o’r tŷ. Roedd wedi’i chymryd o adfeilion y fila (Hawlfraint y Goron CBHC).

08/10/2018

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x