
Addasu I Newid Hinsawdd
Yn Ebrill 2019, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd genedlaethol er mwyn gweithredu’n gyflymach i’r newid hinsawdd.
Mae hyn yn gofyn am fesurau i leihau nwyon tŷ gwydr drwy fabwysiadu mesurau fel arbedion ynni yn ogystal â pharatoi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd. Er mwyn creu ymwybyddiaeth o’r risgiau a’r cyfleoedd o newid hinsawdd a’r angen i addasu, mae is-grŵp o’r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol (HEG) wedi cyhoeddi Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd: Cynllun Addasu’r Sector a’r newid hinsawdd.
⬇️ Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd yng Nghymru Cynllun Addasu’r Sector
PDF 13.04 MB
Nod y cynllun hwn yw annog cydweithrediad a gweithredu ar draws pob sector er mwyn:
- cynyddu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r bygythiad a’r cyfleoedd i’r amgylchedd hanesyddol o ganlyniad i newid mewn tywydd a hinsawdd yn y tymor byr, y tymor canolig ac yn hir dymor
- cynyddu ein gallu i ddeilio ag effeithiau newid hinsawdd drwy greu ymwybyddiaeth, meithrin sgiliau a datblygu dulliau i reoli effaith newid hinsawdd ar yr amgylchedd hanesyddol
- cryfhau ein gallu i amddiffyn yr amgylchedd hanesyddol drwy ein gwaith o addasu ac ymateb i’r peryglon, ein gwneud yn fwy abl i ymateb ac i leihau’r peryglon ac elwa ar y budd a ddaw o’r newidiadau.
Mae Cynllun Addasu’r Sector wedi’i anelu at lunwyr polisi a chynllunwyr, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, sefydliadau’r sector cyhoeddus a sefydliadau trydydd sector, yn ogystal â sefydliadau anllywodraethol ac academaidd. Mae gan bob un o’r sefydliadau hyn eu rhan i’w chwarae i ddatblygu a gweithredu’r camau a nodir yn y cynllun.
Mae’r cynllun hwn yn ychwanegu at ganfyddiadau adroddiad HEG sef A strategic approach for assessing and addressing the potential impacts of climate change on the historic environment of Wales yn ogystal â’r gweithrediadau strategol oedd wedi eu nodi yng nghynllun ymaddasu Llywodraeth Cymru I newid hinsawdd sef Ffyniant i bawb: Cymru sy’n effro i’r hinsawdd.
⬇️ A Strategic Approach for Assessing the Impacts of Climate Change on the Historic Environment 2012
PDF 1.55 MB
Ffynhonnell: Cadw – Addasu I Newid Hinsawdd
Dewis o astudiaethau achos:
ASTUDIAETH ACHOS
Yn gynnar ym mis Ionawr 2014, cafodd promenâd Aberystwyth ei daro gan un storm ar ôl y llall, gan ddifrodi llawer o adeileddau gan gynnwys Lloches Bathrock, sef adeilad rhestredig gradd II a godwyd yn y 1920au.

ASTUDIAETH ACHOS
Mae Waun Fignen Felen yn safle archaeolegol Mesolithig pwysig. Fe’i defnyddiwyd dros sawl mileniwm fel lleoliad hela gan boblogaethau a oedd yn ymelwa ar yr ucheldir.

ASTUDIAETH ACHOS
Mae heneb gofrestredig Dinas Dinlle yn fryngaer amlwg a saif ar arfordir gogledd Gwynedd ar ben marian rhewlifol, sydd wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei arwyddocâd daearegol.

ASTUDIAETH ACHOS
Dros gyfnod o dair wythnos yn ystod haf sych 2018, aeth archaeolegydd awyr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) ati i dynnu 4,000 o luniau cydraniad uchel a arweiniodd at ddarganfod tua 100 o asedau hanesyddol newydd.

ASTUDIAETH ACHOS
Mae clefyd coed ynn wedi ymledu ledled Cymru erbyn hyn, a bydd yn cael effaith fawr ar y dirwedd.

ASTUDIAETH ACHOS
Mae tir ffermio yn cynnwys safleoedd archaeolegol, adeiladau fel ffermydd a’u hadeileddau fferm cysylltiedig, a thirweddau amaethyddol sy’n cael eu dylanwadu’n gryf gan systemau a ffiniau caeau hanesyddol.

03/04/2020