
Addasu i newydd yr hinsawdd – Grwp arbenigol yn cynnig agwedd newydd tuag at reoli’r amgylchedd hanesyddol
Mae grŵp o arbenigwyr a alwyd ynghyd i roi cyngor ar sut i reoli rhai o safleoedd hanesyddol mwyaf eiconig Cymru yng ngoleuni newid yr hinsawdd, yn cynnig syniadau newydd, yn seiliedig ar yr angen i addasu i’r realiti newydd. Maent yn gofyn am adborth ar eu cynllun.
Mae Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol yn lansio ymgynghoriad ar eu Cynllun Addasu ar gyfer yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd. Mae hyn yn amlinellu sut y dylai’r sector amgylchedd hanesyddol yng Nghymru fynd i’r afael â her newid yn yr hinsawdd.
Meddai’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rhaid inni ailystyried sut rydym yn rheoli’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru i ymateb i fygythiadau newid yn yr hinsawdd. Er ein bod yn cymryd camau i gyfyngu ar newid yn yr hinsawdd, rhaid inni hefyd addasu i’r newidiadau sydd eisoes yn digwydd o ganlyniad i allyriadau hanesyddol a pharhaus. Hoffwn ddiolch i’r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol am y cynllun hwn i helpu codi ymwybyddiaeth o’r materion a fe fyddwn i’n annog pawb yn y sector i ymateb i’r ymgynghoriad pwysig hwn ac i’w rannu profiadau a syniadau. “
Mae rhai o safleoedd mwyaf eiconig Cymru yn cael eu bygwth gan dymheredd cynhesach, lefel y môr yn codi, patrymau glaw yn newid a digwyddiadau tywydd eithafol mwyaf cyffredin. Felly mae’n rhaid i’r rhai sy’n gyfrifol am reoli’r safleoedd hyn ail-feddwl y ffordd y maent wedi gwneud pethau yn y gorffennol. Mae angen annog cydweithredu a gweithredu ar draws pob sector a fydd yn gwella dealltwriaeth, yn adeiladu gallu addasu ac yn cynyddu gwydnwch yr amgylchedd hanesyddol.
Dyma gasgliadau allweddol y arbenigol a sefydlwyd i gynghori Llywodraeth Cymru ar sut i reoli safleoedd mor amrywiol â Bryngaerau Dinas Dinlle ger Caernarfon, y Lloches Bathrock yn Aberystwyth, a safle Mesolithig Waen Fignen Felen ym Mannau Brycheiniog.
Dywed Jill Bullen, Cadeirydd Grŵp Newid Hinsawdd Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol, Jill Bullen: “Mae llawer o’r rheini sy’n rheoli’r safleoedd pwysig iawn hyn eisoes yn meddwl yn ddwfn am newid hinsawdd a’i oblygiadau ar eu gwaith. Rydym wedi ceisio dysgu o’u harbenigedd a rhannu eu profiad a gwersi a ddysgwyd yn ehangach “
Mae’r cynllun addasu yn tynnu sylw at nifer o astudiaethau achos lle mae’r dull newydd hwn eisoes yn cael ei ddatblygu. Yn safle hela hanesyddol Waun y Fignen Felen ym Mannau Brycheiniog, mae tystiolaeth archeolegol werthfawr yn cael ei golli oherwydd fod y gors yn sychu allan. Yma, mae hydroleg ffafriol yn cael ei adfer trwy ailsefydlu’r gors i warchod a gwella bioamrywiaeth a gwerthoedd archeolegol y safle.
Ym mryngaer Dinas Dinlle, ger Caernarfon, mae ochr orllewinol y safle yn cael ei olchi i ffwrdd gan y môr. Er bod erydiad naturiol, sy’n digwydd yn gyflymach o lawer oherwydd newid yn yr hinsawdd, yn cael ei dderbyn fel rhan o reolaeth y safle, mae mynediad i’r cyhoedd yn achosi mwy byth o erydiad. Yma mae llwybrau pren i reoli erydiad, ffens a adeiladwyd ar hyd ymyl y safle ac atgyweirio erydiad llwybrau eraill wedi digwydd yn ddiweddar. Mae ymchwil newydd yn cael ei arwain gan dîm o archeolegwyr, syrfewyr, geograffwyr a gwyddonwyr o brosiect CHERISH a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r grŵp yn chwilio am bobl sy’n gweithio o fewn y sector, mewn sectorau eraill ac unrhyw un arall sydd ag awgrymiadau, i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Gellir gweld y cynllun drafft a’r cwestiynau ymgynghori ar dudalen Grŵp Amgylchedd Hanesyddol ar wefan Cadw. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 7 Rhagfyr: http://cadw.gov.wales/about/partnershipsandprojects/partners/histenvgroup/climatechange/?lang=cy
Cysylltiadau: Jill.Fairweather@gov.wales
Delweddau:
Gellir defnyddio’r tri llun sy’n cyd-fynd â’r datganiad i’r wasg hwn ar yr amod bod hawlfraint RCAHMW yn cael ei gydnabod.
© Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Lloches Bathrock, Aberystwyth.

Dinas Dinlle, Caernarfon.

Glantowy Fawr, Sir Gaerfyrddin.
Ynglŷn â’r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol:
Mae’r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol yn gorff lefel uchel a sefydlwyd yn 2004 i gynghori Gweinidogion Cymru ar faterion a blaenoriaethau strategol a fydd o fudd ac yn hyrwyddo amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae’r grŵp yn fforwm ar gyfer sefydliadau sydd â diddordeb yn yr amgylchedd hanesyddol.
09/10/2018