
Addoliad y Doethion

Y ffenestr orllewinol yn Eglwys Sant Deiniol, Penarlâg, Sir y Fflint, yn dangos Addoliad y Doethion. DI2005_0594, NPRN 310514
Mae’r ffenestr hon yn Eglwys Sant Deiniol, Penarlâg, Sir y Fflint. Mae’n portreadu Addoliad y Doethion a chafodd ei dylunio gan Syr Edward Burne-Jones (1833-98).

Manylyn o’r ffenestr, yn dangos y Forwyn Fair, y baban Iesu ac angylion. DI2005_0594, NPRN 310514
Arlunydd a dylunydd Prydeinig oedd Burne-Jones a chwaraeodd ran allweddol yn adfywiad celf gwydr lliw ym Mhrydain yn rhan olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd hefyd yn un o’r partneriaid a sefydlodd y cwmni celfyddydau addurnol hynod o ddylanwadol Morris, Marshall, Faulkner & Co. ym 1861, ochr yn ochr â William Morris, Charles Faulkner, Peter Paul Marshall, Dante Gabriel Rossetti, Ford Madox Brown a Phillip Webb. Ailffurfiwyd y cwmni o dan yr enw Morris & Co. ym 1875, ac mae llawer o’i ddyluniadau’n parhau i gael eu defnyddio i addurno cartrefi heddiw.
Mae’r ffenestr hon yn nodweddiadol o’r dyluniadau gwydr lliw a gynhyrchwyd gan Burne-Jones: mae ei feistrolaeth ar ddilladaeth, ei dreswaith llyfn a’r llu o angylion sy’n amgylchynu’r Iesu yn nodweddiadol o’i arddull.

Manylyn o’r ffenestr, yn dangos y Doethion yn dod ag anrhegion o aur, thus a myrr. DI2005_0594, NPRN 310514
18/12/2012