Nurse Jane Henrietta Adeane

Adeane, yr O.B.E, a’r ysbyty ger y mor

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydyn ni’n dod â stori’r Nyrs Jane Henrietta Adeane atoch chi.

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydyn ni’n dod â stori’r Nyrs Jane Henrietta Adeane atoch chi.
Jane Henrietta Adeane atoch chi.

Yn annisgwyl, ar fore’r 28 Tachwedd 1917, cyrhaeddodd llond sawl cwch o ddynion llannau Ynys Mon. Gan eu bod nhw wedi’u clwyfo’n dost ac yn rhynnu gan oerfel, fe’u  cymerwyd i adeilad ger y lan. Cawsai eu llong, yr SS APAPA, ei tharo gan dorpido ychydig oriau ynghynt. Wrthi’n aros amdanynt yr oedd nyrsys Ysbyty Morwyr Stanley dan arweiniad Nyrs Adeane. 

Yn wraig gefnog, yr oedd Adeane wedi bod yn un o weinyddwyr a noddwyr yr ysbyty. 

Pan ddaeth y rhyfel, hi oedd Prif Swyddog Ysbyty’r Morwyr ar ran y Groes Goch. Gan nad oedd digon o staff i ymdrin a’r 1400 o gleifion a dderbyniwyd yno rhwng 1916 a 1919, bu’n rhaid i nyrsys yr ysbyty weithio’n ddiflino i gysuro a gofalu am y morwyr clwyfedig. 

Diolch i’w penderfyniad di-ildio, achubodd Adeane a’i staff fywydau ugeiniau o gleifion ac yr oedd yr ysbyty yn dal i weithredu ar ddiwedd y rhyfel. I gydnabod ei gwaith a’i hymrwymiad anhygoel, gwnaed Adeane yn Swyddog o Urdd Ymerodraeth Prydain, yn O.B.E.  

* * *

Gallwch ddod o hyd i hyn a straeon eraill yn ein eLyfr am ddim, Cymru a Rhyfel y Llongau-U: Suddo, Goroesi a Gast o’r Enw Lotte.

Gobeithio y bydd y straeon hyn yn eich ysbrydoli chi i ddarganfod rhagor ar ein gwefan: www.prosiectllongauu.cymru

03/06/2020

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x