
Diwrnod Morwrol y Byd – Adennill Hanes o’r Môr
Yn 2007, dechreuodd y Comisiwn Brenhinol raglen fawr newydd o waith ymchwil i estyn Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) i gwmpasu cyfran y DU o’r Sgafell Gyfandirol sy’n gyfagos i Gymru. Gan weithio gyda Chofnodion Henebion Cenedlaethol Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Lloegr, Yr Alban ac Ynys Manaw, mae llongddrylliadau a ffurfi au eraill ar asedau tanddwr yr amgylchedd hanesyddol bellach yn cael eu cofnodi ym mhob rhan o Fôr Iwerddon.
Mae safl eoedd Palaeolithig newydd yn cynnwys elfennau o hen dirweddau megis dyffrynnoedd afonydd a deltâu sydd wedi’u cadw yn adeiledd daearegol gwely’r môr, ynghyd â mwy na 60 o eangderau o goedwig gynhanesyddol yn yr ardal rynglanw. Dangosir un enghraifft yma – mae’r gefnen o raean bras yng nghefn y traeth wedi cilio yn Llanrhystud, Ceredigion, gan ddatgelu haen o fawn sy’n cynnwys bonion coed hynafol o’r cyfnod Mesolithig.
Mae CHCC bellach yn cynnwys mwy na 340 o gofnodion ar gyfer awyrennau sifi l a milwrol a gollwyd ar hyd y blynyddoedd, o gyfnod cynnar yr
arloeswyr hedfan i’r Ail Ryfel Byd. Mae’r rhain yn cynnwys T9044, cwch hedfan Short Sunderland Marc 1 a suddwyd ger Doc Penfro ac sy’n cael ei ddangos yma fel delwedd sonar ochr-sgan. Gwyddom fod o leiaf 21 o safl eoedd tebyg ar hyd arfordir Cymru lle mae awyrennau nad oes unrhyw enghreifftiau ohonynt yn parhau i weithio neu mewn amgueddfeydd.
Mae oddeutu 1500 o safl eoedd llongddrylliadau wedi’u cadarnhau hyd yn hyn, gan gynnwys Dwyreinlongau o’r ddeunawfed ganrif a nifer fawr o longau masnach arfordirol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ogystal â 100 a mwy o longau a suddwyd gan y gelyn yn ystod y ddau Ryfel Byd. Bu llawer o ddarganfyddiadau newydd – megis y cwch cludo llechi hwn a ddaeth i’r golwg ar Draeth Castellmarch, ger Abersoch, yn ystod gaeaf 2013.
O ganlyniad i ymchwil archifol y Comisiwn Brenhinol, mae CHCC yn awr yn cynnwys manylion mwy na 5600 o longau a gollwyd. Dyma eitem o’r papur newydd The Welshman am dymestl ym mis Hydref 1859, a rhai enghreifftiau o gadarnhau llongddrylliadau mewn cofrestri llongau a ddiogelwyd gan Rwydwaith Archifau Cymru.
28/09/2017