
Adroddiad Pum Mlynedd – Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru
Mae’r Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol wedi bodoli ers pum mlynedd bellach, ac mae llawer wedi digwydd ers hynny. Sefydlwyd y Rhestr fel ymateb i’r pryder cynyddol am fygythiadau i’n henwau lleoedd hanesyddol. Roedd gan y Rhestr ddau bwrpas; yn gyntaf, i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth gyfoethog enwau lleoedd ac annog eu defnydd cyfredol, ac yn ail, i greu cofnod o holl gyfoeth enwau lleoedd Cymru, fel bod modd cadw’r enwau’n fyw, hyd yn oed yn yr achosion lle nad oeddent bellach mewn defnydd actif.
Ar ôl pum mlynedd o waith caled, rydym wedi profi cryn lwyddiant. Mae’r Rhestr bellach yn cynnwys ychydig dan 700,000 enw o 1254 ffynhonnell ac mae’r awdurdodau lleol yn defnyddio ein data ac yn cadw enwau hanesyddol yn fyw trwy eu defnyddio wrth enwi strydoedd, datblygiadau ac eiddo. Rydym wedi rhoi dwsinau o sgyrsiau cyhoeddus ar bwnc enwau lleoedd, ar lein ac wyneb yn wyneb, ac mae rhai ohonynt ar gael ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol. https://www.youtube.com/watch?v=HJccnH93BA0&t=8s Mae adnabyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol wedi tyfu yn sgil sefydlu’r Rhestr, ond nid da lle gellir gwell.
Mae pumed penblwydd y Rhestr yn rhoi cyfle i ni gymryd stoc a gofyn barn y cyhoedd a’r arbennigwyr ynglŷn â sut gallen ni gryfhau’r Rhestr a’i hybu’n fwy effeithlon ymysg y cyhoedd, fel bod cymaint â phosibl o bobl Cymru’n gallu dysgu am ein henwau lleoedd ni. Llenwyd holiadur gan aelodau o’r cyhoedd, yn gofyn iddynt leisio eu barn am sut y gellid gwella’r Rhestr, a ffurfiwyd grŵp tasgio a gorffen gyda chynrychiolwyr o’r Llywodraeth, llywodraeth lleol, Cadw, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd i ystyried beth fyddai’r camau nesaf i’w cymryd. Mae’r broses honno bellach wedi’i chwblhau, a gallwch ddod o hyd i’r adroddiad terfynol yma: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2022/07/Adroddiad-ar-y-Rhestr-o-Enwau-Lleoedd-Hanesyddol-2022.pdf
Mae’r cymhellion yn cynnwys gwella gweithrediadedd y Rhestr, meithrin partneriaethau ffrywthlon, a defnyddio adnoddau’r Rhestr i ddatblygu’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Trwy ddilyn cymhellion byddwn yn medru datblygu’r Rhestr ymhellach, a sicrhau ein bod yn cadw treftadaeth enwau lleoedd amhrisiadwy Cymru’n ddiogel i genedlaethau i ddod.
25/07/2022