
Aftermath: remembering the Great War in Wales, Angela Gaffney. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1998
Mae llawer o lyfrau ardderchog sy’n ymdrin â chofebau a choffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf. Sut bynnag, llyfr Angela Gaffney, Aftermath, yw’r unig gyfrol sy’n canolbwyntio ar y cofebau rhyfel yng Nghymru a godwyd i goffáu’r 31,000 i 40,000 o Gymry a gollodd eu bywydau.

Er eu bod i’w cael ymron pob tref a phentref yng Nghymru, mae’r holl gofebau hyn yn unigryw, gan amrywio o obelisgau i neuaddau i gerfluniau i ysbytai. Mae’r llyfr darllenadwy hwn yn seiliedig ar ymchwil helaeth a thrylwyr a thrafodir nifer enfawr o gofebau a’r cymhelliannau dynol iawn dros eu codi. Mae’r awdures yn trafod pam y teimlai cymunedau lleol fod angen codi cofebau, ac yn ystyried y penderfyniadau a arweiniodd at eu lleoli, eu hariannu a’u cynllunio.
Mae hunaniaeth Gymreig, wedi’i mesur yn erbyn hunaniaethau lleol a Phrydeinig, yn cael sylw arbennig hefyd. I mi, roedd y llyfr yn amhrisiadwy pan oeddwn yn gweithio ar ganmlwyddiant y Rhyfel Mawr yng Nghymru gan fod y cofebau hyn yn parhau’n ganolbwynt ar gyfer cymunedau a digwyddiadau coffáu. Mae’n gyfrol hanfodol i’r sawl sydd â diddordeb yn hunaniaeth a hanes cymdeithasol Cymru ar ôl y rhyfel a’r effaith hirbarhaol a gafodd y rhyfel ar dirwedd Cymru.
Rhodri E Lewis
Er bod y Llyfrgell ar gau ar hyn o bryd, gallwch fynd ar daith rithiol a phori’r silffoedd neu chwilio catalog ein Llyfrgell.


10/09/2020