
Ail-greu’r Gorffennol mewn Realiti Rhithwir
Mae’r lefel o fanylder a gynigir gan dechnegau arolygu digidol, fel laser-sganio, yn ein galluogi i greu modelau digidol 3D manwl gywir, ond weithiau rydym am ddefnyddio’r model manwl gywir hwnnw yn sylfaen ar gyfer ail-greu adeilad fel y gallai fod wedi edrych yn y gorffennol. Yn 2018, fel rhan o brosiect wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, a’r Comisiwn Brenhinol, aethom ati i ail-greu Abaty Tyndyrn fel y byddai wedi edrych yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Manteisiwyd ar adroddiadau ymwelwyr o’r Cyfandir â Chymru i greu allbynnau digidol i ddod â’u disgrifiadau’n fyw. Contractiwyd Luminous i laser-sganio Abaty Tyndyrn ac i greu modelau 3D o’r adeilad ar sail y data a gasglwyd. Ar ôl astudio ffotograffau cynnar a hen luniadau o’r abaty fe roddwyd yr eiddew yn ôl ar yr adfeilion a thyfiant trwchus o’u cwmpas fel eu bod yn edrych yn flerach ac yn debycach i’r golygfeydd o’r abaty sydd gennym o ran gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y cam nesaf oedd gosod y model mewn amgylchedd 3D a fyddai’n caniatáu i’r defnyddiwr symud o le i le ac anturio, ond er mwyn gwneud y profiad yn fwy ymgollol fe ddefnyddiwyd realiti rhithwir hefyd.
Drwy ddefnyddio penset realiti rhithwir, gall y defnyddiwr symud ei ben i edrych i bob cyfeiriad a gweld yr abaty fel pe bai yno a chyda theimlad go iawn o uchder. Mae’n bosibl symud o gwmpas yr abaty, gan fynd i ben yr adfeilion, ac mae’r profiad realiti rhithwir mor ymgollol fel eich bod chi’n teimlo y gallech ddisgyn! Yma ac acw yn yr abaty bydd y defnyddiwr yn gweld pobl mewn dillad o’r cyfnod a phwyntiau gwybodaeth y gall eu hagor a darllen mwy am y safle. Mae’r tudalennau hyn mewn pedair iaith wahanol, Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg ac Almaeneg, gan adlewyrchu ieithoedd y ffynonellau gwreiddiol.
Byddwn yn defnyddio’r penset realiti rhithwir mewn digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd i ddangos sut gall ein data arolwg gael eu defnyddio ac i gyflwyno realiti rhithwir i gynulleidfa ehangach. Mae gwahanol fersiynau o’r profiad ar gael ar wefan y prosiect, yn ogystal â ffilm fer sy’n rhoi blas o’r hyn y gellir ei weld, ac allbynnau digidol amrywiol eraill megis ffotograffau Gigapicsel ac ailgreadau digidol.

10/11/2019