Ailddiffinio Treftadaeth? Cofnodi Cymru Fodern

Beth sy’n dod i’r meddwl pan feddyliwch am ‘adeilad hanesyddol’? Cestyll, eglwysi’r Oesoedd Canol, tai fframwaith coed? Safleoedd diwydiannol, capeli anghydffurfiol a phlastai Fictoraidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg efallai? Mae’n debyg na fyddai theatrau, canolfannau dinesig neu ysgolion o’r cyfnod ar ôl y rhyfel yn gyntaf ar restr y rhan fwyaf o bobl, na hyd yn oed yn cael eu hystyried yn adeiladau o ‘ddiddordeb hanesyddol’!

Yn yr ugeinfed ganrif yng Nghymru gwelwyd newidiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol, technolegol, crefyddol a diwylliannol enfawr, a thrawsnewidiwyd yr amgylchedd adeiledig dros gyfnod o 100 mlynedd mewn ymateb i hyn. Mae’r adeiladau a thirweddau cynlluniedig hyn wedi siapio ein bywydau, o’n profiadau beunyddiol o gludiant, gwaith, cartref a hamdden i adeiladweithiau dinesig a gwleidyddol pwysig.

Mae dymchwel ac ailddatblygu yn fygythiad cynyddol i dreftadaeth yr ugeinfed ganrif, yn enwedig treftadaeth y cyfnod ar ôl y rhyfel, ac mae angen i ni feddwl ar frys am y goblygiadau i Gymru. Mae’n bwysig i adeiladau a thirweddau o’r cyfnod hwn, ochr yn ochr ag adeiladau o gyfnodau cynharach, gael eu cofnodi cyn iddynt ddiflannu er mwyn diogelu eu hanes i’r cenedlaethau a ddaw, ond rydym hefyd yn awyddus i gydnabod a dathlu cyflawniadau datblygiadau’r ugeinfed ganrif o ran dylunio, pensaernïaeth ac arloesi technolegol a sicrhau y gellir eu deall a’u gwerthfawrogi fel y bennod ddiweddaraf yn ein hanes hir. Gall fod yn anodd caru rhai o’r adeiladau hyn ar yr olwg gyntaf oherwydd eu maint, defnyddiau neu hanes cymhleth, ond maen nhw’n hynod bwysig fel tystiolaeth weledol o orffennol mwy diweddar ein cymdeithas.

I’r perwyl hwn, mae’r Comisiwn Brenhinol yn brysur yn cofnodi treftadaeth yr 20fed ganrif sydd mewn perygl ac yn llunio rhaglenni strategol o ymchwil thematig i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Buom yn gysylltiedig hefyd â ffurfio Cymdeithas yr C20 yng Nghymru ac rydym yn edrych ymlaen at gydlynu cyfnod yr ugeinfed ganrif pan gaiff y Fframwaith Ymchwil ar gyfer Archaeoleg Cymru ei ddiwygio.

Astudiaethau Achos:

Tŷ Darlledu’r BBC, Llandaf

Tŷ Darlledu’r BBC oedd cartref parhaol cyntaf darlledu Cymraeg ac yn ôl rhai hwn oedd un o’r adeiladau modernaidd gorau a godwyd yng Nghymru ar ôl y rhyfel. Cafodd ei gynllunio gan y practis mwyaf a mwyaf llwyddiannus yng Nghymru, sef Partneriaeth Percy Thomas. Y pensaer oedd Ivor Dale Owen, brodor o Ferthyr Tudful, a hyfforddwyd gan bobl fel Walter Gropius a gafodd ddylanwad mawr arno. Mae’r prif ffasâd yn cyfuno amrywiaeth gynnil o ffurfiau a defnyddiau sy’n ei gwneud hi’n bosibl i adnabod pob elfen yn weledol: y bloc gweinyddol, y stiwdio sain, y stiwdios teledu, a’r ffreutur. Y tu ôl i’r adeilad y mae set allanol wreiddiol ‘Pobl y Cwm’, opera sebon Gymraeg y BBC.

Yn 2019 fe symudodd BBC Cymru Wales i’w swyddfeydd newydd yn Sgwâr Canolog Caerdydd. Er gwaethaf ei bwysigrwydd pensaernïol a diwylliannol, nid ystyriwyd bod modd rhestru’r adeilad a chaiff ei ddymchwel cyn bo hir er mwyn codi stâd o dai ar y safle.

Ysgol Uwchradd Cantonian ac Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd

Cafodd addysg ei hailwampio ar ôl yr Ail Ryfel Byd. O ganlyniad i Ddeddf Addysg 1944 fe gafodd y gwahaniaeth rhwng addysg gynradd ac uwchradd ei gryfhau, diddymwyd ffioedd ar gyfer mynychu ysgolion uwchradd y wladwriaeth fel bod modd i blant dosbarth gweithiol eu mynychu, a sefydlwyd yr ysgolion cyfun cyntaf. Roedd angen ysgolion newydd wrth i’r boblogaeth gynyddu, ac adeiladwyd ysgolion eraill i gymryd lle’r rheiny a ddifrodwyd yn ystod y cyrchoedd bomio. Manteisiwyd ar y cyfle i ddefnyddio technegau adeiladu arloesol i gyflymu’r gwaith adeiladu, lleihau costau a gwella’r amgylchedd dysgu.

Achoswyd difrod mawr i Ysgol Uwchradd Drefol Fitzalan, Waunadda (Adamsdown), yn ystod blitz Mawrth 1941. Cafodd ei hailenwi’n Ysgol Uwchradd Dechnegol Fitzalan ym 1953 ac ar ôl prynu’r safle presennol yn Lecwydd fe agorodd yr ysgol newydd ym mis Mawrth 1964. Cafodd Ysgol Uwchradd Drefol Cantonian, Market Road, Treganna ei hagor ym mis Hydref 1907. Dinistriwyd yr adeilad hwn hefyd yn ystod y cyrchoedd bomio ar ddechrau 1941 ac, er iddo gael ei drwsio dros dro, prynwyd safle newydd yn y Tyllgoed ac agorodd Ysgol Uwchradd Cantonian ar ei safle presennol ym mis Medi 1962

Mae’r ddwy ysgol yn enghreifftiau pwysig o’r dull llenfur o adeiladu ysgolion a oedd yn nodweddiadol o’r cyfnod hwn. Mae ganddynt fframiau dur ysgafn a oedd yn ei gwneud hi’n bosibl i osod ffenestri mawr yn yr ystafelloedd dosbarth ar y naill ochr a’r llall i goridor canolog sydd â grisiau ym mhob pen. Mae ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu yn eu lle o dan gynllun Addysg i’r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, ac ar ôl eu cwblhau fe gaiff yr ysgolion presennol eu dymchwel.

Llyfrgell Sir Benfro, Hwlffordd

Cafodd llyfrgelloedd cyhoeddus, fel lleoedd pwysig ar gyfer addysg hygyrch ac am ddim i oedolion a phlant ysgol, gryn sylw wedi’r rhyfel, er enghraifft, yn Neddf Addysg 1944, adroddiad y Weinyddiaeth Addysg ‘The structure of the public library service in England and Wales’, ac Adroddiadau Robbins a Newson ar Addysg, 1964. O dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, daeth yn ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaeth llyfrgell a oedd yn gynhwysfawr ac effeithlon ac a oedd hefyd yn hybu gweithgareddau diwylliannol mewn cymunedau.

Roedd Llyfrgell Sir Benfro, a gynlluniwyd gan Gilbert Ray, pensaer sirol Sir Benfro, ac a adeiladwyd rhwng 1967 a 1969, yn rhan o’r rhaglen adeiladu ddilynol. Prif nodwedd y ffasâd yw cerflun gan David Tinker sy’n cynrychioli tudalennau o lyfrau agored, yr olaf o’i gyfresi a ysbrydolwyd gan Ddilyniant Fibonacci, tra bo ardaloedd cynllun-agored mawr a golau y tu mewn. Mae theatr gron ar y chwith, wedi’i sgrinio gan wal gerrig grom â ffenestri cul uchel sy’n adlewyrchu gwreiddiau’r dref ganoloesol hon.

Yn 2018 fe symudwyd y llyfrgell i ganolfan ddiwylliannol Glan-yr-Afon, ac mae’r adeilad ar werth ar hyn o bryd.

Coleg Harlech

Mae Coleg Harlech yn gyfuniad o rannau cyferbyniol o’r ugeinfed ganrif, a ddaeth fel cyfanwaith i ymgorffori addysg oedolion ar ei gorau yng Nghymru fel y coleg ‘ail gyfle’. Roedd yn wreiddiol yn dŷ Celf a Chrefft a adeiladwyd ym 1910 gan George Walton, pensaer o’r Alban, i George Davison, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Kodak. Ym 1927 fe gafodd ei brynu drwy gymorth Thomas Jones i’w ddefnyddio’n goleg addysg oedolion. Araf ond cyson oedd yr ymgyrch i sefydlu’r coleg ar y dechrau, a bu’r myfyrwyr eu hunain yn gweithio i glirio’r tir ar gyfer adeiladu eu llyfrgell newydd, wedi’i chynllunio gan Moses Griffiths, ym 1939. Ym 1969 fe agorodd y neuadd breswyl bwrpasol gyntaf – tŵr deuddeg-llawr ynghyd â cherflun gan Jonah Jones, ‘Y Bont’. Ym 1974 fe agorodd Theatr Harlech (Theatr Ardudwy) ar safle’r hen neuadd gerdd a ddinistriwyd gan dân ym 1968; roedd y £350,000 a godwyd tuag at y gost yn dangos bod gan Goleg Harlech le arbennig yng nghalonnau pobl Cymru.

Caewyd popeth yn 2017, ac mae’r safle bellach yn nwylo preifat ac yn disgwyl ei ‘ail gyfle’ ei hun.

Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug

Nodwyd yr angen am Neuadd y Sir newydd i Sir y Fflint, i gymryd lle’r hen Neuadd yng nghanol yr Wyddgrug, yn y 1930au. Serch hynny, dim ond ym 1966 y dechreuodd y pensaer sirol, Robert W Harvey, ar gynllun mawr i godi adeilad newydd ar dir uchel i’r gogledd o’r dref. Bloc o bedair adran yn edrych dros gwrt oedd y cynllun gwreiddiol ond ehangwyd y safle i gynnwys tri bloc mawr arall yn sgil Deddf Llywodraeth Leol 1972 a arweiniodd at ad-drefnu Sir y Fflint a Sir Ddinbych i ffurfio sir newydd Clwyd. Ym 1996, daeth yr adeilad yn ganolfan weinyddol i Gyngor Sir y Fflint eto , ac ar ôl ail-leoli nifer o adrannau fe gafodd y tri bloc diweddarach eu dymchwel ym mis Mai 2020. Mae dyfodol y cwrt gwreiddiol yn parhau’n ansicr.

Costiodd yr adeilad £800,000 a gwariwyd £65,000 ar osodion a ffitiadau. Roedd Llysgenhadaeth yr UDA yn Llundain, a gafodd ei chynllunio gan Eero Saarinen, pensaer o’r Ffindir, a’i chwblhau ym 1960, y dywedwyd ei bod yn cyfuno dyfeisgarwch technegol â dawn addurnol, yn ddylanwad mawr arno.

Gorsaf yr Heddlu Wrecsam, Bodhyfryd

Adeiladwyd Gorsaf yr Heddlu Wrecsam rhwng 1973 a 1975. Cafodd ei chynllunio gan Stuart Brown, pensaer cynorthwyol, ar y cyd â’r pensaer sirol, Eric Langford Lewis, yn Bencadlys Heddlu Gogledd Cymru. Cafodd ei hadeiladu o goncrit cyfnerth a nodwedd amlycaf y safle oedd y tŵr canolog cantilifrog wyth-llawr, yn ymestyn o ‘goesyn’ concrit lle roedd y grisiau a siafftiau’r lifft. Roedd yn 142 droedfedd o uchder ac yn gartref i’r prif swyddfeydd a’r ystafelloedd briffio a chyfweld, yn ogystal ag ystafelloedd hynod arbenigol yr Heddlu Arbennig.

Roedd yn deyrnged ddigywilydd o feiddgar i bensaernïaeth Friwtalaidd nad oedd wrth fodd llawer un, er bod pobl eraill o’r farn ei bod yn enghraifft wych o adeiladwaith slab a phodiwm ac yn rhan annatod o’r cynllun ôl-ryfel ehangach ym Modhyfryd a oedd yn cynnwys y Neuadd Goffa, y llysoedd barn a phwll nofio. Caewyd y drysau i’r adeilad trawiadol hwn ym mis Ionawr 2019 gydag ail-leoli Heddlu Gogledd Cymru i Bencadlys newydd. Fe’i dymchwelwyd ym mis Tachwedd 2020 ac fe gafodd ei edmygwyr gyfle i ffarwelio gan i’r digwyddiad gael ei ffrydio’n fyw.

Cwmbrân

Anheddiad Cymreig unigryw yw Cwmbrân, gan mai hon yw’r unig un o’r un ar ddeg o Drefi Newydd Marc I a adeiladwyd yng Nghymru. Ym 1949 fe ddewiswyd safle mewn cwm iddi a oedd yn ‘llawer mwy deniadol nag yr oedd y pwyllgor wedi dychmygu’. Roedd Prif Gynllun 1951 yn cynnig model ar gyfer ffordd newydd o fyw, ar gyfer cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd cartref. Byddai amserau cymudo yn fyr, a byddai cyfleoedd ar gyfer mwynhau lleoedd gwyrdd a gweithgareddau hamdden a chymunedol yn helaeth ac yn hygyrch i bawb.

Manteisiodd Corfforaeth Datblygu Cwmbrân ar ddulliau arloesol o adeiladu a chynllunio; roedd canol y dref yn cynnig profiadau siopa, hamdden a dinesig cyffrous ac wedi’i amgylchynu gan rwydwaith o ‘unedau cymdogaeth’. Ym mhob un o’r rhain, cafodd cymunedau o 5,000 o bobl ar y mwyaf eu creu o gwmpas clwstwr o siopau lleol, ysgolion, neuaddau cymunedol a chanolfannau addysg oedolion, y cyfan ohonynt o fewn pellter cerdded hwylus i gartrefi’r trigolion. Cafodd technegau adeiladu newydd a chynlluniau arloesol eu cyfuno â safonau Parker Morris i greu cartrefi modern mwy golau ac agored. Yn ogystal â lleiniau o barcdir rhwng y cymdogaethau fe ddarparwyd lawntiau, parciau chwarae i blant bach, a chyfleusterau hamdden mwy ffurfiol a oedd yn cynnig ‘lle i anadlu’ a ‘llecynnau gwyrdd a oedd yn fwrlwm o weithgarwch’.

Bydd astudiaeth nodweddu a wnaed gan y Comisiwn Brenhinol, a gyhoeddir yn 2021, o gymorth i ddiogelu natur arbennig Cwmbrân drwy nodi’r asedau allweddol y dylid eu cadw a helpu i sicrhau bod datblygiadau yn y dyfodol yn adlewyrchu hanes modernedd ac arloesedd y 70 mlynedd ddiwethaf.

Canolfan Haul y Rhyl

Roedd Canolfan Haul y Rhyl yn symbol eiconig o ddiwydiant twristiaeth a hamdden ‘Riviera gogledd Cymru’ ac roedd ganddi le arbennig iawn yng nghalonnau cenedlaethau o bobl a fu’n mynd ar eu gwyliau neu’n tyfu i fyny yn y gogledd. Agorodd ym 1980 a chostiodd £4.25m. Roedd gan y ‘pentref trofannol’ dri phwll nofio gyda 13,000 o droedfeddi sgwâr o ddŵr. Roedd yn cynnig pwll syrffio cyntaf Ewrop, system glaw dan do artiffisial, traethau tywod a gwelyau haul, nifer o gaffis, a rheilffordd un-gledren hyd yn oed. Cynhelid disgos a nosweithiau ar wahanol themâu gyda’r nos. Roedd mor enwog fel ei bod yn hysbysebu ar oriau brig ar raglen ‘Roland Rat’ ITV, a chynhaliwyd sioe ‘Rod and Emu’ am gyfnod o 13 wythnos yno.

Erbyn 1985 roedd yn denu 500,000 o bobl y flwyddyn ond ar ôl i Gyngor Sir Dinbych werthu’r Ganolfan i gwmni preifat fe arweiniodd gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr a chostau gwresogi’r ‘Fosteresque glazed shed’ fawr at ei chau yn 2016 a’i dymchwel wedyn. Adeiladwyd parc dŵr CS2 ar y safle.

Coleg Technegol Sir Gaernarfon, Bangor

Darparodd Deddf Addysg 1944 ar gyfer ehangu addysg bellach mewn Colegau Technegol a Cholegau Addysg Bellach. Agorodd Coleg Technegol Sir Gaernarfon ym mis Medi 1957, gan gymryd lle coleg cynharach a gawsai ei godi ym 1947. Cafodd ei gynllunio gan y pensaer sirol, Westbury Lloyd Jones, ar y cyd â’r dirprwy bensaer, T Summers Davies, ac mae’n cydweddu’n dda â’r ardal breswyl o’i gwmpas.

Manteisiwyd ar y safle goleddol i sicrhau bod y rhan fwyaf o’r gweithdai allan o’r golwg. Defnyddiwyd cyfres o baneli ‘Truscanoid’ tonnog sy’n adlewyrchu’r bryniau yn y pellter i greu llinell to anghyffredin. Cafodd pwysigrwydd hanesyddol diwydiant llechi gogledd-orllewin Cymru i’r ddinas ei gyfuno â’r sgiliau technegol a ddysgid gan y Coleg mewn murlun cywrain yr oedd darluniau o ‘offer y grefft’ wedi’u hysgythru arno.

Daeth yn rhan o Goleg Menai ac fe’i caeodd yn 2019. Dymchwelwyd y gweithdai yn barod ar gyfer ailddatblygu’r safle. 

Mae angen eich help arnom!

Wrth astudio treftadaeth adeiledig yr 20fed ganrif rydym yn sylweddoli bod gennym gyfle unigryw i gasglu atgofion a gwybodaeth am y bobl a oedd yn gysylltiedig â’i chynllunio, ei dylunio a’i hadeiladu, ac i siarad â’r bobl a’r cymunedau y cafodd yr adeiladau eu codi ar eu cyfer. Os oes gennych wybodaeth yr hoffech ei rhannu â ni am yr adeiladau uchod neu adeiladau eraill o’r 20fed ganrif, boed ar ffurf ffotograffau, lluniadau ac ati, neu atgofion, cysylltwch â ni yn: helen.rowe@rcahmw.gov.uk

Susan Fielding, Uwch Ymchwilydd (Adeiladau Hanesdyddol) | Senior Investigator (Historic Buildings

Cysylltau:

20th Century Society

20th Century Society in Wales

The Modernist Society

Documenting and Conserving the Modern Movement

03/24/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x