Proffiliau o’r Comisiynwyr

Yr Athro Nancy Edwards (Cadeirydd), BA, PhD, FBA, FLSW, FSA

Llun o'r Athro Nancy Edwards

Mae Nancy Edwards wedi bod yn weithgar ym maes archaeoleog Cymru am bron deugain mlynedd. Cafodd ei geni yn Portsmouth a’i haddysgu ym Mhrifysgol Lerpwl ac yna ym Mhrifysgol Durham, cyn symud i Gymru ym 1979. Ei swydd bresennol yw Athro Archaeoleg Ganoloesol ym Mhrifysgol Bangor. Ei meysydd ymchwil arbenigol yw archaeoleg Cymru ac Iwerddon c. OC 400–1100, yn enwedig cerrig arysgrifedig a cherflunwaith carreg, ac archaeoleg eglwysig.

Mewn cydnabyddiaeth o bwysigrwydd ei gwaith ymchwil, mae hi wedi’i hethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr. Mae hi wedi gwasanaethu ar Gyngor Amgueddfa Cymru a Bwrdd Henebion (Ymgynghorol) Cadw. Bu’n Is-Lywydd y Gymdeithas Archaeoleg Ganoloesol ac yn Gadeirydd y Gymdeithas Archaeoleg Eglwysig. Mae hi’n siarad Cymraeg yn rhugl.

Penodwyd Nancy yn Gadeirydd y Comisiwn Brenhinol ym mis Ebrill 2019.


Dr Hayley Roberts (Is-Gadeirydd), LLB, PhD, FHEA

Mae Hayley, sy’n hanu o Gaernarfon, Gwynedd, tref â hanes hir a chyfoethog, wedi bod â diddordeb erioed mewn treftadaeth a’r dirwedd hanesyddol. Astudiodd y Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, gan arbenigo yn y gyfraith yn ymwneud â gwarchod llongddrylliadau hanesyddol, cyn parhau â’r ymchwil  hwn ar gyfer ei doethuriaeth. Yn 2013, ymunodd ag Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor fel Darlithydd mewn Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus (fel darlithydd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y dechrau), a bu’n datblygu rhaglenni yng nghyfraith y môr a chyfraith forwrol.

Mae ymchwil Hayley yn adlewyrchu ei harbenigedd mewn treftadaeth forwrol, gartref a thramor. Ei diddordebau arbennig yw rheoleiddio treftadaeth ddiwylliannol danddwr yn rhyngwladol, effaith datganoli ar amddiffyn treftadaeth forwrol yn y DU, a dulliau amgen o ddiogelu’r amgylchedd hanesyddol. Mae hi wedi arwain nifer o brosiectau ymchwil ac wedi cyhoeddi erthyglau mewn cylchgronau blaenllaw yn ei maes. Y Gymraeg yw iaith gyntaf Hayley. Cafodd hi ei phenodi’n Gomisiynydd ym mis Ebrill 2019.


Caroline Crewe-Read, BA, MPhil, FRSA, MAPM

Llun o Caroline Crewe-Read

Darllenodd Caroline Hanes ym Mhrifysgol Bryste, gan arbenigo mewn crefyddau paganaidd Prydain Fore. Ar ôl gweithio am bum mlynedd i Accenture, cwmni blaenllaw o ymgynghorwyr rheoli, dychwelodd Caroline i’r byd academaidd, gan ennill Clod am ei M.Phil mewn Rheoli Treftadaeth Archaeolegol ym Mhrifysgol Caergrawnt. Ar ôl hynny, fe dreuliodd Caroline ddeunaw mlynedd yn gweithio i Gomisiwn Adeiladau Hanesyddol a Henebion Lloegr mewn sawl rôl, gan arwain a chwblhau prosiectau corfforaethol allweddol gan gynnwys y dad-gyfuno i greu Historic England, y corff cyhoeddus sy’n gofalu am amgylchedd hanesyddol Lloegr, a’r English Heritage Trust, yr elusen sydd wedi’i thrwyddedu i ofalu am fwy na 400 o safleoedd hanesyddol a’u hagor i’r cyhoedd. Arhosodd Caroline gyda Historic England ar ôl y rhannu ac roedd yn gyfrifol am sefydlu ac yna arwain tîm codi arian llwyddiannus, gan sicrhau cefnogaeth unigolion, ymddiriedolaethau, sefydliadau a chwmnïau i alluogi’r corff i gyflawn ei amcanion.

Gadawodd Caroline Historic England ym mis Rhagfyr 2020 ar ôl llwyddo i godi £5.8 miliwn gyda’i thîm ar gyfer prosiectau’n gysylltiedig â Threftadaeth mewn Perygl, yr Archif, a sgiliau a phrentisiaethau. Mae hi ar hyn o bryd yn ymgymryd â gradd Meistr mewn Astudiaethau Dyngarol ym Mhrifysgol Caint.

Penodwyd Caroline yn Gomisiynydd yn 2016 ac mae hi’n Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, gyda chyfrifoldeb dros oruchwylio ac arwain ym meysydd archwilio, risg, cyllid a dibenion cyffredinol. Mae hi’n byw yn Nhrefynwy.


Neil Beagrie, BA, FRSA

Llun o Neil Beagrie

Mae gan Neil ddiddordeb cryf mewn archaeoleg a’r amgylchedd adeiledig. Ar ôl graddio mewn Archaeoleg ym Mhrifysgol Durham, dechreuodd ei yrfa broffesiynol yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Lloegr lle y daeth yn Bennaeth Archifau Archaeolegol. Ers hynny, yn ei yrfa yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, mae ef wedi canolbwyntio ar strategaethau ar gyfer cadwraeth ddigidol; cyrchu gwybodaeth ddigidol mewn archifdai, llyfrgelloedd a chanolfannau data; ac astudiaethau o’u gwerth a’u dylanwad economaidd. Mae’n un o gyfarwyddwyr Charles Beagrie Ltd, cwmni o ymgynghorwyr, ers 20 mlynedd a bu’n gweithio gydag amrywiaeth eang o gwsmeriaid yn y DU a thramor. Yn 2014 dyfarnwyd y Fedal Technoleg Archifol iddo gan Gymdeithas y Peirianwyr Ffilm a Theledu yn Los Angeles i gydnabod ei gyfraniadau hirdymor i ymchwilio i strategaethau a datrysiadau ar gyfer cadwraeth ddigidol a’u gweithredu. Cafodd Neil ei benodi’n Gomisiynydd yn 2017.


Dr Louise Emanuel, MA, MSc, PhD, PGCODE

Llun o Dr Louise Emanuel

Ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, bu Louise yn astudio ar gyfer MSc mewn Datblygu Rhanbarthol ym Mhrifysgol Caerdydd. Thema gyffredin yn ei holl waith yw ei diddordeb mewn lleoedd, eu datblygiad hanesyddol, a’r ffordd y bydd unigolion a chymunedau yn ymgysylltu â’r mannau y maen nhw’n byw, gweithio a dysgu ynddyn nhw ac yn ymweld â nhw. Arweiniodd y diddordeb hwn mewn ‘lle’ at ei hymchwil ar gyfer ei PhD i’r berthynas rhwng canfyddiadau lle a datblygu economaidd. Ar ddiwedd y 1990au bu Louise yn gweithio gyda chymunedau yn Sir Gâr, ei sir enedigol, i astudio a dehongli treftadaeth gymunedol. Ers 1999 bu’n ddarlithydd yn y sefydliad a elwir bellach yn Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant lle y mae hi wedi llunio rhaglenni ym meysydd treftadaeth, twristiaeth a busnes cynaliadwy, yn ogystal â datblygu a rheoli sawl prosiect treftadaeth a ariannwyd gan yr UE. Cafodd Louise ei phenodi’n Gomisiynydd yn 2017.


Chris Brayne, BSc

Llun o Chris Brayne

Hyfforddodd Chris fel Pensaer Tirwedd ym Mhrifysgol Sheffield ac ym 1989 ymunodd â phractis preifat yn Lerpwl i weithio ar brosiectau dylunio ac asesu effeithiau amgylcheddol i gleientiaid fel yr Adran Drafnidiaeth a Glo Prydain. Daeth Chris yn Rheolwr Technoleg Gwybodaeth y cwmni a helpodd y tîm i fabwysiadu amryfal dechnegau arolygu, delweddu a chyhoeddi digidol. Yn ddiweddarach bu’n arbrofi gyda chymhwyso’r technegau hyn at gofnodi archaeolegol ar ôl bod yn gweithio i Sefydliad Ymchwil Treftadaeth Ddiwylliannol Norwy. Ym 1999 symudodd yn ôl i’r DU i weithio i Wessex Archaeology, gan ddatblygu systemau archaeolegol a busnes y cwmni.

Daeth yn Brif Weithredwr Wessex Archaeology yn 2013 a bu’n goruchwylio’r gwaith o ailstrwythuro’r sefydliad a roddodd y cwmni ar sylfaen gref ar gyfer tyfu ymhellach. Mae gan Chris ddiddordeb technegol mawr mewn dulliau arloesol o gasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth am dreftadaeth, ac mae ei brofiadau wedi dwysáu ei werthfawrogiad o werth cymdeithasol gweithgareddau treftadaeth a’r gwahanol ffyrdd y gellir defnyddio treftadaeth i wella ein profiadau pob dydd. Cafodd Chris ei benodi’n Gomisiynydd yn 2017.


Jonathan Vining, BSc, BArch, MSc, RIBA, AoU

Llun o Jonathan Vining

Pensaer siartredig a dylunydd trefol yw Jonathan Vining. Cafodd ei eni yng Nghaerdydd ac mae ganddo gefndir ym maes celf a dylunio. Astudiodd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru a Phrifysgol Caerfaddon. Mae ganddo fwy na deugain mlynedd o brofiad mewn practis preifat ar brosiectau pensaernïol a phrosiectau uwchgynllunio, dylunio trefol a chadwraeth. Mae’n arbenigo ar integreiddio datblygiadau newydd mewn lleoliadau hanesyddol neu sensitif. Roedd Jonathan yn academydd ymweld yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru am ddeng mlynedd ar hugain ac mae’n is-olygydd y cyfnodolyn ‘Touchstone’ – cylchgrawn Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru – ers ei gychwyn ym 1996 ac wedi gwneud cyfraniadau o bwys iddo ar bwnc pensaernïaeth wedi’r rhyfel yng Nghymru. Mae’n un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas ac fe’i penodwyd yn Gomisiynydd ym mis Ebrill 2019.


Yr Athro Timothy Darvill, BA, PhD, DSc, OBE, MCIFA, FSA

Cynhanesydd yw Timothy Darvill a fu’n astudio archaeoleg Cymru am ddeugain mlynedd a mwy. Ar ôl cwblhau PhD ym Mhrifysgol Southampton ar y cyfnod Neolithig yng Nghymru a gorllewin Lloegr, bu’n gweithio i’r Western Archaeological Trust a Chyngor Archaeoleg Prydain. Cafodd ei benodi gan Brifysgol Bournemouth ym mis Hydref 1991, ac mae’n Athro Archaeoleg yn yr Adran Archaeoleg ac Anthropoleg. Yn ogystal ag ysgrifennu rhyw ddeuddeg o lyfrau, gan gynnwys Prehistoric Britain from the air (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1996) a Prehistoric Britain (Routledge, 2010), mae’n gyd-olygydd Historic landscapes and mental well-being (Archaeopress, 2019) ac mae wedi cyfrannu i Pembrokeshire County History Volume I (PCHT, 2016). Yn ei lyfr Stonehenge: the biography of a landscape (Tempus, 2006) mae’n cyflwyno nifer o ddamcaniaethau newydd ynghylch sut y defnyddid Côr y Cewri fel canolfan iacháu.

Bu’n gwasanaethu fel cadeirydd Sefydliad yr Archaeolegwyr Maes, roedd yn is-lywydd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr, a bu’n aelod o gyngor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae ef wedi cloddio safleoedd yn Lloegr, Cymru, Rwsia, Gwlad Groeg, Yr Almaen, ac Ynys Manaw, a’i brif ddiddordebau ymchwil ar hyn o bryd yw rheoli adnoddau archaeolegol, gan ddefnyddio safleoedd archaeolegol i gynhyrchu gwerth cyhoeddus, a’r cyfnod Neolithig yng ngogledd-orllewin Ewrop. Yr Athro Darvill yw Cadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr Cotswold Archaeology, derbyniodd OBE yn 2010 am ei wasanaeth i archaeoleg, a bydd yn ymddangos yn rheolaidd ar y teledu a’r radio i siarad am Gôr y Cewri a chynhanes Prydain. Cafodd Tim ei benodi’n Gomisiynydd yn 2021.


Sarah Perons, BA, MSc

Sarah Perons yw Swyddog Datblygu Eglwysi Esgobaeth Llandaf yr Eglwys yng Nghymru. Archaeoleg oedd maes ei gradd gyntaf a ddyfarnwyd gan Sefydliad Archaeoleg Llundain. Ar ôl ymuno â’r Esgobaeth yn 2005 bu’n astudio am MSc mewn Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol ym Mhrifysgol Caerfaddon ac ysgrifennodd draethawd ar ddiogelu pensaernïaeth yr 20fed ganrif gyda phwyslais ar waith George Pace yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Mae swydd Sarah yn mynd â hi i ryw 200 o eglwysi yn ne-ddwyrain Cymru lle bydd hi’n rhoi cymorth a chyngor technegol i blwyfi ar yr arferion gorau ym maes cadwraeth adeiladau hanesyddol ac yn annog eu datblygu i gwrdd â heriau’r 21ain ganrif. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn datrys materion rheoli treftadaeth drwy ddulliau digidol ac yn 2017 fe gymerodd hi flwyddyn allan i astudio am Ddiploma mewn Cyfrifiadureg a Rheolaeth TG ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Sarah hefyd yn Ymgynghorydd Archifau Esgobaeth Llandaf, a bydd hi’n gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Archifau Morgannwg a Gorllewin Morgannwg. Mae hi hefyd yn aelod o bwyllgor Capel: Cymdeithas Treftadaeth y Capeli. Cafodd hi ei phenodi’n Gomisiynydd yn 2021.

Tweets