Cyfeillion y Comisiwn Brenhinol
‘Yn bendant iawn, dyfodol Cymru, yn ogystal â’i gorffennol, yw maes y Comisiwn Brenhinol.’ ― Huw Edwards
Y Comisiwn Brenhinol yw’r corff ymchwilio a’r archifgenedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Y Comisiwn sy’n arwain y gwaith o sicrhau bod treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru yn cael ei chofnodi’n awdurdodol, ac mae’n ceisio hybu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Ymunwch â Chyfeillion y Comisiwn Brenhinol i gael ein newyddion diweddaraf, diweddariadau am brosiectau, manylion digwyddiadau, a mwy!
Nodau
- Helpu i hyrwyddo defnydd o wasanaethau’r Comisiwn Brenhinol.
- Rhoi gwybod i’r Cyfeillion am ein prosiectau presennol a’r hyn yr ydym yn ei ddarganfod.
- Cynnal darlithoedd a digwyddiadau er budd y Cyfeillion.
- Rhannu gwybodaeth â’r Comisiwn am ddiddordebau ac anghenion ei ddefnyddwyr.
- Cynorthwyo’r Comisiwn drwy wirfoddoli.
- Annog pobl i roi deunydd archifol i’r Comisiwn ac i adael deunydd o’r fath iddo yn eu hewyllys
Manteision ymaelodi
- Cael diweddariadau’n rheolaidd am ein newyddion a’n digwyddiadau.
- Bod gyda’r cyntaf i glywed am ein darlithoedd a’n digwyddiadau, a chael cyfleoedd i gadw lle’n gynnar.
- Cyfleoedd i wirfoddoli yn y Comisiwn.
- Disgownt o 10% ar gyhoeddiadau’r Comisiwn.
Fedrwch cofrestru am ddim yn hawdd! Anfonwch ebost i Cyfeillion@cbhc.gov.uk.