Mae’n dda gennym ddweud bod modd gwylio’r holl sgyrsiau o Gynhadledd Gorffennol Digidol 2021 ar ein sianel YouTube yn awr. Ni fydd Cynhadledd Gorffennol Digidol yn 2022. Rhoddir gwybod i chi am unrhyw gynhadledd y bwriedir ei chynnal yn y dyfodol.
Cynhadledd flynyddol wedi’i threfnu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n canolbwyntio ar dechnolegau a thechnegau digidol arloesol ar gyfer cipio data, dehongli a lledaenu gwybodaeth am dreftadaeth Cymru, y DU a thu hwnt yw Gorffennol Digidol.
Mae’n dwyn ynghyd unigolion o’r sectorau masnachol, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol, ac o’r trydydd sector, a’i nod yw hybu trafodaeth a gwybodaeth am y technolegau digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, neu sy’n cael eu datblygu, i gofnodi a deall yr amgylchedd hanesyddol.
Cynigir cyfuniad o gyflwyniadau a gweithdai ar-lein i’r cynadleddwyr mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol a’r nod yw hybu rhwydweithio a chyfnewid syniadau.
Mae adborth gan gynadleddwyr blaenorol wedi cynnwys sylwadau fel:
‘Fe fydda i’n dod yn ôl i’r gynhadledd yn rheolaidd gan ei bod yn wirioneddol unigryw.’
‘Mae’r gynhadledd wedi parhau i ddarparu rhaglen ardderchog gyda siaradwyr penigamp o lawer rhan o’r byd.’
‘O’r holl gynadleddau niferus rydw i wedi’u mynychu, hon oedd un o’r rhai gorau a mwyaf buddiol.’
‘Roedd trefniadaeth y gynhadledd yn arbennig o dda!’