Gorffennol Digidol 2017

Logo am Gorffennol Digidol 2017

Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan

Cynhaliwyd cynhadledd Gorffennol Digidol 2017 ar 15 ac 16 Chwefror 2017 yn Theatr Glan yr Afon.

 

Cynhaliwyd Gorffennol Digidol 2017 yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd, un o leoliadau blaenllaw Cymru ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau. Cafodd 161 o gynadleddwyr gyfle i wrando ar 24 o bapurau ac 11 o sgyrsiau anghynhadledd ac i fynychu pum gweithdy. Yn ogystal, bu’r amrywiaeth o stondinau a oedd yn arddangos gwaith, gwasanaethau a chynhyrchion cwmnïau masnachol, y sector cyhoeddus, academia a grwpiau trydydd sector yn fodd i ddarparu cyfleoedd gwerthfawr ychwanegol ar gyfer rhwydweithio anffurfiol a rhannu syniadau a gwybodaeth. Cafodd y cynadleddwyr gyfle pellach i sgwrsio a thrafod yn ystod cinio ardderchog y gynhadledd ar Gampws Casnewydd, Prifysgol De Cymru.

 

Gellir gweld lluniau o’r ddau ddiwrnod yma

Gellir gweld rhai o’r cyflwyniadau gan brif siaradwyr yma

Darparwyd y cyfieithu gan: Cymen

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn ddiolchgar iawn am y nawdd ar gyfer digwyddiad 2017 a ddarparwyd gan:

Luminous Logo Logo orangeleafweblogo copy HLF

Tweets