Ein Noddwyr 2017

Noddwr Aur:

 Logo Luminous

Fel cwmni a fabwysiadodd arolygu digidol mor bell yn ôl â 1988, buom yn adeiladu enw da wedi’i seilio ar ein datrysiadau parod i’w defnyddio arloesol.

Rydym bellach yn cynnig ein harbenigeddau craidd ym meysydd cipio a delweddu data 3D, BIM a realiti rhithwir mewn tri maes gwasanaeth un-pwrpas: Arolygon Digidol, Pensaernïaeth Ddigidol a Realiti Rhithwir Digidol, i gyd o dan un to Luminous.

Gyda thros chwarter canrif o brofiad o weithio gyda chleientiaid ar draws y byd, mewn sectorau’n cynnwys adeiladu, pensaernïaeth, peirianneg a thwristiaeth treftadaeth, Luminous yw’r hyn yr ydym yn awr, a darparwn ddatrysiadau chwyldroadol a fydd yn cyflawni nodau’ch prosiect ac yn fwy na bodloni’ch holl ddisgwyliadau.

 

 Noddwr Arian:

 Logo Elusen gofrestredig sy’n gyfan gwbl yng ngofal gwirfoddolwyr yw Cyfeillion Llong Casnewydd. Dechreuodd fel ymgyrch i achub y llong, ond erbyn hyn mae’n cefnogi prosiect y llong.

Mae aelodau gweithgar y Cyfeillion wedi cyfrannu miloedd o oriau o waith gwirfoddol ond mae hyd yn oed aelodau nad ydynt yn gallu rhoi cymorth uniongyrchol yn darparu cefnogaeth hanfodol. Drwy’r weithred syml o ymuno, maen nhw’n helpu i ddangos mor fawr yw diddordeb y cyhoedd yn y llong. Mae hynny’n hollbwysig wrth i ni geisio rhoddion, nawdd, grantiau ac ymrwymiad i gwblhau’r prosiect. Anfonir Newyddlen ddwywaith y flwyddyn i roi gwybod i’r holl Gyfeillion am y datblygiadau diweddaraf, a byddant yn cael cyfleoedd i fynychu darlithiau a digwyddiadau eraill.

 

 orangeleafweblogo copy Ymgynghorwyr Treftadaeth Ddigidol sy’n arbenigo mewn datblygu rhyngwynebau mynediad cyhoeddus ar-lein ar gyfer casgliadau Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol, Archifdai, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd yw Orangeleaf Systems Ltd. Cawsom ein ffurfio ym 1998 a chynhyrchwn gynnyrch o’r enw CollectionsBase: cronfa metadata, rhyngwyneb chwilio wedi’i seilio ar WordPress, a system rheoli ystafell chwilio ac archebu ar-lein. Gan weithio gyda safonau MIDAS, CIDOC CRM, SPECTRUM ac ISAD(G) mae gennym brofiad unigryw yn y DU o bron pob System Rheoli Casgliadau a ddefnyddir gan y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol, Archifdai ac Amgueddfeydd.

Mae prosiectau ar gyfer 2016/2017 yng Nghymru yn cynnwys dau sy’n llwyr ddwyieithog: Archifau Sir Ddinbych/Denbighshire Archives, a Meysydd Brwydr/ Battlefields i CBHC. Mae gan y ddau ryngwynebau mapio gwe llawn i haenau map hanesyddol wedi’u digido a haenau map modern.

Mae croeso i chi gysylltu â James Grimster yn y gynhadledd neu ar 01743 352000 i gael trafodaeth anffurfiol ar eich prosiect heb eich clymu’ch hun mewn unrhyw ffordd.

Noddwr Efydd:

HLF O’r archaeoleg o dan ein traed i’r parciau hanesyddol rydym yn eu caru, o atgofion gwerthfawr i fywyd gwyllt prin… rydym yn defnyddio arian chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i helpu pobl ledled y DU i archwilio, i fwynhau ac i warchod y treftadaeth sy’n bwysig iddyn nhw.

 

 

Gorffennol Digidol 2017

Tweets