Cynhadledd ddau ddiwrnod a lansiwyd yn 2009 ac sy’n cael ei threfnu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw Gorffennol Digidol. Mae’n canolbwyntio ar dechnegau a thechnolegau digidol arloesol ar gyfer cofnodi a deall yr amgylchedd hanesyddol. Bob blwyddyn bydd y gynhadledd gyffrous hon yn dwyn ynghyd rhwng 150 a 175 o unigolion o’r sectorau masnachol, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol a’i nod yw hyrwyddo dysgu, trafod a dadlau mewn perthynas ag amrywiaeth o dechnolegau digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, neu’n cael eu datblygu, i gofnodi a deall ein treftadaeth.
Mae Gorffennol Digidol yn cynnig cyfle delfrydol i chi hyrwyddo eich sefydliad, rhwydweithio a chreu partneriaethau newydd gyda chynadleddwyr a siaradwyr o’r DU a gwledydd tramor fel UDA ac Israel. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae siaradwyr o Microsoft Research UK, Amgueddfa Victoria ac Albert, V-MUST ac Europeana wedi cymryd rhan yn y gynhadledd.
Yn 2017 bydd y gynhadledd yn dilyn dau drywydd, y naill wedi’i seilio ar agweddau technegol arolygu, archifo, a phrosesu a rheoli data, a’r llall ar ddehongli, ymgysylltu ac addysg. Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ar y 15fed a’r 16eg o Chwefror yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd.
Bellach yn ei nawfed flwyddyn, mae proffil y gynhadledd Gorffennol Digidol wedi tyfu ar hyd y blynyddoedd. Caiff ei hyrwyddo drwy wefan y gynhadledd, sy’n parhau ar-lein ar ôl y digwyddiad gan weithredu fel man cyfeirio a chronfa gwybodaeth hirdymor, a hefyd drwy wefan y Comisiwn Brenhinol a chyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter a LinkedIn, felly mae’r digwyddiad yn cael dylanwad ymhell y tu hwnt i’r cynadleddwyr sy’n ei mynychu.
Bob blwyddyn bydd y gynhadledd yn denu amrywiaeth o noddwyr o’r sectorau masnachol, academaidd a chyhoeddus. Mae hyn yn caniatáu i sefydliadau a chwmnïau hyrwyddo eu cynhyrchion, gwasanaethau, prosiectau ac ymchwil ac yn helpu i sicrhau bod y gynhadledd mor ariannol agored a hygyrch ag y bo modd i bawb.
Mae’n bleser gennym yn awr allu cynnig cyfleoedd noddi ar gyfer Cynhadledd Gorffennol Digidol 2017. Disgwyliwn y mynychir y gynhadledd gan rhwng 160 a 170 o bobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd treftadaeth technegol, deongliadol ac addysgol yn y sectorau masnachol, academaidd a chyhoeddus a’r trydydd sector, felly dyma gyfle perffaith i hyrwyddo eich sefydliad.
Cynigiwn dair lefel o nawdd: Efydd (£150), Arian (£525) ac Aur (£850). Mae’r pecynnau Aur wedi’u cyfyngu i uchafswm o dri noddwr yn y gynhadledd. Mae’r buddion yn cynnwys: cael eich logo ar wefan y gynhadledd ac ar gyfryngau hyrwyddo cyn ac yn ystod y digwyddiad, cael eich cynnwys yn allbwn cyfryngau cymdeithasol y gynhadledd, cynnwys taflenni hyrwyddo ym mhecynnau’r cynadleddwyr, a chael baneri hyrwyddo yn y digwyddiad. Mae’r pecynnau Arian ac Aur hefyd yn cynnwys cofrestru a lle arddangos am ddim, gan gynnig gwerth ardderchog am arian.
Pecyn Efydd |
Pecyn Arian |
Pecyn Aur |
Cost: £150 |
Cost: £525 |
Cost: £850 |
Logo bach ar y wefan (hyd a lled mwyaf 30mm) | Logo canolig ar y wefan (hyd a lled mwyaf 50mm) | Logo mawr ar y wefan gyda chyswllt i wefan y cwmni (hyd a lled mwyaf 70mm) |
Logo bach ar ddeunydd hyrwyddo yn y digwyddiad (hyd a lled mwyaf 30mm) | Logo canolig ar ddeunydd hyrwyddo yn y digwyddiad (hyd a lled mwyaf 50mm) | Logo canolig ar ddeunydd hyrwyddo yn y digwyddiad (hyd a lled mwyaf 70mm) |
Taflen ym mhecyn y cynrychiolwyr | Taflen ym mhecyn y cynadleddwyr | Dim cyfyngiad ar ddeunydd hyrwyddo ym mhecyn y cynadleddwyr (hyd at drwch o 1.5cm ar y mwyaf) |
Sylw i’r cwmni yn ystod y porthiant Twitter #digitalpast2017 | 1 x baner hyrwyddo yn y cyntedd (heb fod yn fwy na 0.80 x 2.00m) | 1 x baner hyrwyddo yn y cyntedd (heb fod yn fwy na 0.80 x 2.00m) |
Stondin Poster | Stondin Arddangos | |
1 x cofrestriad am ddim ar gyfer y gynhadledd | 2 x cofrestriad am ddim ar gyfer y gynhadledd | |
Sylw i’r cwmni yn ystod y porthiant Twitter #digitalpast2017 | 2 x cinio rhwydweithio yn y gynhadledd | |
Logo canolig ar y wefan (hyd a lled mwyaf 50mm) | 1 x lle i faner ar y prif lwyfan (heb fod yn fwy na 0.80 x 2.00m) | |
Sylw ar flog gwefan Gorffennol Digidol / blog Treftadaeth Cymru | ||
Sylw i’r cwmni yn ystod y porthiant Twitter #digitalpast2017 |
I ddod yn noddwr, byddwch cystal â dychwelyd y Ffurflen Noddi. Rydym yn eich annog i fanteisio’n gynnar ar y cynnig hwn er mwyn i’ch sefydliad gael cymaint o sylw â phosibl.
Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gynhadledd neu’r pecynnau, cysylltwch â Susan Fielding neu Reina van der Wiel yn gorffennoldigidol@cbhc.gov.uk neu ar 01970 621 219 / 01970 621 240. Edrychwn ymlaen at drafod y cynnig noddi hwn gyda chi.
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr