Gorffennol Digidol 2018

DP Header 18

Dathlu deg mlynedd o dechnolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan

Cynhaliwyd cynhadledd Gorffennol Digidol 2018 ar 7 ac 8 Chwefror 2018 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Aberystwyth.

 

Cynhaliwyd Gorffennol Digidol 2018 yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, y ganolfan gelfyddydau fwyaf yng Nghymru, sydd wedi ennill llawer o wobrau ac sy’n cael ei chydnabod yn ‘fanerlong genedlaethol ar gyfer y celfyddydau’. Cafodd 188 o gynadleddwyr gyfle i wrando ar 24 o bapurau ac wyth o sgyrsiau anghynhadledd ac i fynychu chwe gweithdy. Yn ogystal, bu’r amrywiaeth o stondinau a oedd yn arddangos gwaith, gwasanaethau a chynhyrchion cwmnïau masnachol, y sector cyhoeddus, academia a grwpiau trydydd sector yn fodd i ddarparu cyfleoedd gwerthfawr ychwanegol ar gyfer rhwydweithio anffurfiol a rhannu syniadau a gwybodaeth. Cafodd y cynadleddwyr gyfle pellach i sgwrsio a thrafod yn ystod cinio ardderchog y gynhadledd yn Ystafelloedd Medrus Prifysgol Aberystwyth.

 

Darparwyd y cyfieithu gan: Cymen

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn ddiolchgar iawn am y nawdd ar gyfer digwyddiad 2018 a ddarparwyd gan:

FARO logo HLF
                                        orangeleafweblogo copy
Aber Uni logo with 1872_black_transparent CM logo  WAlogo_RGB

Tweets