 |
Ymgynghorwyr Treftadaeth Ddigidol sy’n arbenigo mewn datblygu rhyngwynebau mynediad cyhoeddus ar-lein ar gyfer casgliadau Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol, Archifdai, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd yw Orangeleaf Systems Ltd. Cawsom ein ffurfio ym 1998 a chynhyrchwn gynnyrch o’r enw CollectionsBase: cronfa metadata, rhyngwyneb chwilio wedi’i seilio ar WordPress, a system rheoli ystafell chwilio ac archebu ar-lein. Gan weithio gyda safonau MIDAS, CIDOC CRM, SPECTRUM ac ISAD(G) mae gennym brofiad unigryw yn y DU o bron pob System Rheoli Casgliadau a ddefnyddir gan y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol, Archifdai ac Amgueddfeydd.
Mae prosiectau ar gyfer 2016/2017 yng Nghymru yn cynnwys dau sy’n llwyr ddwyieithog: Archifau Sir Ddinbych/Denbighshire Archives, a Meysydd Brwydr/ Battlefields i CBHC. Mae gan y ddau ryngwynebau mapio gwe llawn i haenau map hanesyddol wedi’u digido a haenau map modern.
Mae croeso i chi gysylltu â James Grimster yn y gynhadledd neu ar 01743 352000 i gael trafodaeth anffurfiol ar eich prosiect heb eich clymu’ch hun mewn unrhyw ffordd. |