Cynhadledd ddau ddiwrnod a lansiwyd yn 2009 ac sy’n cael ei threfnu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw Gorffennol Digidol. Mae’n canolbwyntio ar dechnegau a thechnolegau digidol arloesol ar gyfer cofnodi a deall yr amgylchedd hanesyddol. Bob blwyddyn bydd y gynhadledd gyffrous hon yn dwyn ynghyd rhwng 150 a 175 o unigolion o’r sectorau masnachol, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol a’i nod yw hyrwyddo dysgu, trafod a dadlau mewn perthynas ag amrywiaeth o dechnolegau digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, neu’n cael eu datblygu, i gofnodi a deall ein treftadaeth.
Mae Gorffennol Digidol yn cynnig cyfle delfrydol i chi hyrwyddo eich sefydliad, rhwydweithio a chreu partneriaethau newydd gyda chynadleddwyr a siaradwyr o’r DU a gwledydd tramor fel UDA ac Israel. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae siaradwyr o Microsoft Research UK, Amgueddfa Victoria ac Albert, V-MUST ac Europeana wedi cymryd rhan yn y gynhadledd.
Digwyddiad 2018 fydd ein 10fed gynhadledd, ac fel y cyfryw bydd yn ddathliad a hefyd yn gyfle i edrych yn ôl a’i werthuso. Bydd y gynhadledd yn dilyn dau drywydd, y naill wedi’i seilio ar agweddau technegol arolygu, archifo, a phrosesu a rheoli data, a’r llall ar ddehongli, ymgysylltu ac addysg. Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ar y 6ed a’r 7fed o Chwefror yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Yn ystod y deng mlynedd hyn mae proffil y gynhadledd Gorffennol Digidol wedi tyfu. Caiff ei hyrwyddo drwy wefan y gynhadledd, sy’n parhau ar-lein ar ôl y digwyddiad gan weithredu fel man cyfeirio a chronfa gwybodaeth hirdymor, a hefyd drwy wefan y Comisiwn Brenhinol a chyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter a LinkedIn, felly mae’r digwyddiad yn cael dylanwad ymhell y tu hwnt i’r cynadleddwyr sy’n ei mynychu.
Bob blwyddyn bydd y gynhadledd yn denu amrywiaeth o noddwyr o’r sectorau masnachol, academaidd a chyhoeddus. Mae hyn yn caniatáu i sefydliadau a chwmnïau hyrwyddo eu cynhyrchion, gwasanaethau, prosiectau ac ymchwil ac yn helpu i sicrhau bod y gynhadledd mor ariannol agored a hygyrch ag y bo modd i bawb. Rhai o’n noddwyr blaenorol yw Leica Geo-Systems, Korec, Luminous, Orangeleaf, IIC Technologies, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Casgliad y Werin Cymru, Internet Archaeology, ICOMOS UK, Maney Publishing a CifA.
Mae’n bleser gennym yn awr allu cynnig cyfleoedd noddi ar gyfer Cynhadledd Gorffennol Digidol 2017. Disgwyliwn y mynychir y gynhadledd gan rhwng 160 a 170 o bobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd treftadaeth technegol, deongliadol ac addysgol yn y sectorau masnachol, academaidd a chyhoeddus a’r trydydd sector, felly dyma gyfle perffaith i hyrwyddo eich sefydliad.
Cynigiwn dair lefel o nawdd: Efydd (£180), Arian (£550) ac Aur (£950). Mae’r pecynnau Aur wedi’u cyfyngu i uchafswm o dri noddwr yn y gynhadledd. Mae’r buddion yn cynnwys: cael eich logo ar wefan y gynhadledd ac ar gyfryngau hyrwyddo cyn ac yn ystod y digwyddiad, cael eich cynnwys yn allbwn cyfryngau cymdeithasol y gynhadledd, cynnwys taflenni hyrwyddo ym mhecynnau’r cynadleddwyr, a chael baneri hyrwyddo yn y digwyddiad. Mae’r pecynnau Arian ac Aur hefyd yn cynnwys cofrestru a lle arddangos am ddim, gan gynnig gwerth ardderchog am arian.
Pecyn Efydd |
Pecyn Arian |
Pecyn Aur |
Cost: £180 | Cost: £550 | Cost: £1000 |
Cydnabyddiaeth gan y Cadeirydd yn y sesiynau Agor a Chau | Cydnabyddiaeth gan y Cadeirydd yn y sesiynau Agor a Chau | |
Logo ar faner waelod pob tudalen o’r wefan Gorffennol Digidol | Logo ar faner waelod pob tudalen o’r wefan Gorffennol Digidol | Logo ar faner waelod pob tudalen o’r wefan Gorffennol Digidol |
Logo a thestun hysbysebu ar Dudalen Noddwyr gwefan y gynhadledd gyda chyswllt i wefan y cwmni
(hyd a lled mwyaf 30mm) |
Logo a thestun hysbysebu ar Dudalen Noddwyr gwefan y gynhadledd gyda chyswllt i wefan y cwmni
(hyd a lled mwyaf 50mm) |
Logo a thestun hysbysebu ar Dudalen Noddwyr gwefan y gynhadledd gyda chyswllt i wefan y cwmni
(hyd a lled mwyaf 70mm) |
Logo ar Lyfryn y Gynhadledd (hyd a lled mwyaf 30mm) | Logo ar Lyfryn y Gynhadledd (hyd a lled mwyaf 50mm) | Logo ar Lyfryn y Gynhadledd (hyd a lled mwyaf 70mm) |
Logo ar y sleid Ddal ym mhob ystafell (hyd a lled mwyaf 30mm) | Logo ar y sleid Ddal ym mhob ystafell (hyd a lled mwyaf 50mm) | Logo ar y sleid Ddal ym mhob ystafell (hyd a lled mwyaf 70mm) |
Taflen ym mhecyn y cynadleddwyr | Taflen ym mhecyn y cynadleddwyr | Dim cyfyngiad ar ddeunydd hyrwyddo ym mhecyn y cynadleddwyr |
Hysbyseb ¼ tudalen yn Llyfryn y Gynhadledd (Arlunwaith i’w ddarparu gan y noddwr) | Hysbyseb ½ tudalen yn Llyfryn y Gynhadledd (Arlunwaith i’w ddarparu gan y noddwr) | Hysbyseb 1 dudalen yn Llyfryn y Gynhadledd (Arlunwaith i’w ddarparu gan y noddwr) |
1 x baner hyrwyddo yn y cyntedd (i’w darparu gan y noddwr) | 1 x baner hyrwyddo yn y cyntedd (i’w darparu gan y noddwr) | |
1 x lle i faner ar y prif lwyfan (i’w darparu gan y noddwr) | ||
Stondin yn mesur tua 2m x 2m | Stondin arddangos fawr yn mesur tua 4m x 3m | |
1 x cofrestriad am ddim ar gyfer y gynhadledd | 2 x cofrestriad am ddim ar gyfer y gynhadledd | |
1 x cinio rhwydweithio’r gynhadledd am ddim | 2 x cinio rhwydweithio’r gynhadledd am ddim | |
1 x baner hyrwyddo yng nghinio’r gynhadledd (i’w darparu gan y noddwr) | ||
Logo ar fwydlenni cinio’r gynhadledd | ||
Sylw ar flog gwefan Gorffennol Digidol / blog y Comisiwn Brenhinol | ||
Crybwyllir y noddwr yn ystod ymgyrch Cyfryngau Cymdeithasol 2018 | Crybwyllir y noddwr yn ystod ymgyrch Cyfryngau Cymdeithasol 2018 | Crybwyllir y noddwr yn ystod ymgyrch Cyfryngau Cymdeithasol 2018 |
I ddod yn noddwr, byddwch cystal â dychwelyd y Ffurflen Noddi. Rydym yn eich annog i fanteisio’n gynnar ar y cynnig hwn er mwyn i’ch sefydliad gael cymaint o sylw â phosibl.
Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gynhadledd neu’r pecynnau, cysylltwch â Susan Fielding neu Reina van der Wiel yn gorffennoldigidol@cbhc.gov.uk neu ar 01970 621 219 / 01970 621 240. Edrychwn ymlaen at drafod y cynnig noddi hwn gyda chi.
Nôl i ben y dudalen
![]() |
![]() |
||
![]() |
![]() |
![]() |