Sylwadau a Chrynodebau 2020

Prif Siaradwyr

Dr Sarah Colley (SMC Research and Consultancy)

Dogfennau Clyweled, Treftadaeth Ddiwylliannol Ddigidol a Moeseg

Yn fy mhapur byddaf yn tynnu sylw at y materion moesegol i randdeiliaid treftadaeth a godir gan rai ‘dogfennau clyweled’ (cymh. Baron J. 2014 The Archive Effect) mewn byd lle mae technolegau a chyfryngau ar-lein yn hollbresennol. Bydd ffilmiau a fideo ‘ffeithiol’ neu ddogfennol, realiti rhithwir ac ailgreadau digidol eraill yn aml yn defnyddio cynnwys hanesyddol neu archifol i ail-greu neu ail-ddychmygu agweddau ar dreftadaeth. Gall hyn godi cwestiynau am wirionedd, ymddiriedaeth a moeseg. Gall problemau godi o’r gwerthoedd moesegol anghymarus sy’n gyffredin mewn ymarfer treftadaeth o’u cymharu â’r diwydiannau datblygu technoleg a chynhyrchu cyfryngol. Mae cyd-destunau lle mae ‘cynulleidfaoedd’ yn profi dogfennau clyweled sy’n gysylltiedig â threftadaeth hefyd yn allweddol i’w priodweddau moesegol newidiol.

Hyfforddodd Sarah Colley fel archaeolegydd ac mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad o weithio mewn addysg uwch, o waith ymchwil, ac o ymarfer treftadaeth ddiwylliannol proffesiynol yn Awstralia a’r DU. Ei diddordebau ymchwil hirdymor yw moeseg broffesiynol, archaeoleg gyhoeddus, addysg, a chymhwyso technolegau digidol ym meysydd archaeoleg a threftadaeth. Roedd hi’n gysylltiedig â datblygu delweddiadau cyfrifiadurol cynnar ar gyfer archaeoleg ac ers hynny mae hi wedi gweithio ar archifau digidol cynaliadwy, cronfeydd data o ddelweddau, cynhyrchu fideo, a rhaglenni meddalwedd ‘data mawr’ mewn archaeoleg. Mae hi ar hyn o bryd yn ymchwilydd annibynnol ac yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerlŷr.

Josie Fraser (Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol)

Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth

Bydd Josie Fraser yn rhoi sgwrs ar pam mae sgiliau a hyder digidol bellach yn hanfodol i unigolion a sefydliadau sy’n gweithio yn y sector treftadaeth. Yn ei phrif araith bydd hi’n ymdrin â’r amrywiaeth eang o ffyrdd y mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn bwrw ymlaen â’i huchelgais ar gyfer y sector drwy hybu gallu digidol a datblygu arweinyddiaeth, a bydd yn amlinellu’r ffyrdd y gall sefydliadau ddod yn rhan o hyn a chael budd ohono.

Technolegydd Cymdeithasol ac Addysgol yw Josie Fraser sydd wedi gweithio ar draws y sectorau addysg, llywodraeth a dinesig i wreiddio arfer arloesol ac effeithiol mewn perthynas â defnyddio technoleg. Dyfarnwyd Aelodaeth Anrhydeddus am Oes o Gymdeithas y Technolegwyr Dysgu iddi yn 2017. Hi yw Pennaeth Polisi Digidol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Hyd Ionawr 2020 Josie oedd yr uwch ymgynghorydd technoleg yn yr Adran ar gyfer Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, ac yn gyfrifol am amryw feysydd polisi ar draws llywodraeth ac yn rhyngwladol.

Gaël Hamon (Art Graphique & Patrimoine)

Sganio 3D a Threftadaeth Ddiwylliannol: Pan fydd Technolegau Digidol yn Cyfarfod ag Arbenigedd Hanesyddol

Pwrpas y sgwrs hon fydd egluro’r broses arolygu 3D yn ôl y dulliau gwreiddiol a gyflwynwyd gan Art Graphique & Patrimoine, sydd wedi bod yn gweithio am 25 mlynedd yn y sector technolegau digidol ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol. Yn y cyflwyniad, rhoddir sylw i effaith gadarnhaol yr arferion hyn a’u cyfraniad at waith yr holl randdeiliaid proffesiynol sy’n gysylltiedig ag adfer treftadaeth ddiwylliannol, gan ddefnyddio Notre-Dame, yn arbennig, yn astudiaeth achos. O ganlyniad i’r mapio 3D a wnaed gan AGP, roedd yn bosibl cofnodi dwbl digidol dilys o’r “Goedwig” (gwaith coed yr eglwys gadeiriol) a gollwyd yn y tân ar 15 Ebrill 2019.

Arbenigwr blaenllaw ym meysydd arolygu a hybu diogelu treftadaeth yw Gaël Hamon. Ar ôl cael profiad helaeth o adfer adeiladweithiau mawr eu bri, fe sylfaenodd Art Graphique & Patrimoine gyda chymorth Hervé Quelin ym 1994. Mae ganddo ddiploma proffesiynol BPMH mewn henebion hanesyddol ac enillodd y fedal aur am y naddwr cerrig rhyngwladol gorau yn yr Olympiades des Métiers. Mae ar hyn o bryd yn is-gadeirydd Appareilleurs de France ac yn aelod o reithgor y gystadleuaeth MOF i grefftwyr. Bydd yn siarad yn rheolaidd yn yr INP ac ym mhrifysgolion Poitiers, Paris VIII ac Aix-en-Provence.

Dr Marinos Ioannides (Prifysgol Technoleg Cyprus / UNESCO)

Gorffennol Digidol: Mae i gyd yn ymwneud â Gwybodaeth, Stori a Chof

Canlyniad gwneud arolwg o wrthrych cyffyrddadwy fel arteffact, heneb neu safle fu ailgread 3D manwl gywir o’i adeiladwaith geometregol rhithwir, ond nid, mae’n siwr, o’i werth hanesyddol a’i berthynas â’i gymdeithas. Yn y cyflwyniad hwn fe ganolbwyntir ar weithgareddau ymchwil cyfredol ym maes dogfennaeth gyfannol 3D ac, yn fwyaf arbennig, ar gyfoethogi 3D gyda semanteg a chynhyrchu gwybodaeth benodol a chof unigryw y gwrthrych. Yn ogystal, trafodir heriau fel y safoni coll yn y ddogfennaeth 3D a chyflwyno offer Dealltwriaeth Artiffisial i faes Treftadaeth Ddiwylliannol.

Astudiodd Marinos Ioannides ym Mhrifysgol Stuttgart yn yr Almaen. Ei faes arbenigol ar gyfer ei BSc a’i MSc mewn Cyfrifiadureg oedd ystorfeydd digidol, ac ar gyfer ei PhD bu’n astudio peirianneg wrthdro 3D, gan ddatblygu un o’r peiriannau ailgreu cyntaf. Ers 1989 mae dogfennaeth 3D ar gyfer Treftadaeth Ddiwylliannol wedi cael ei holl sylw. Ef yw cyfarwyddwr y Gadair UNESCO newydd ei sefydlu ar Dreftadaeth Ddiwylliannol Ddigidol a chydlynydd Cadair ERA yr UE ar Dreftadaeth Ddiwylliannol Ddigidol: Mnemosyne. Prif ddiddordeb ymchwil presennol Marino yw Dogfennaeth Gyfannol mewn Treftadaeth Ddigidol.

Harry Verwayen (Sefydliad Europeana)

Europeana: Yn Gyrru Trawsnewid Digidol

Un o effeithiau Blwyddyn Treftadaeth Ddiwylliannol Ewrop 2018 oedd deffro’r rheiny sy’n gweithio ym maes treftadaeth ddiwylliannol i’r effaith gymdeithasol ac economaidd y gall ein sector ei chael. Yn ogystal â chyfrannu at hwyluso mynediad diwydiannau diwylliannol a chreadigol i adnoddau gwerthfawr, gwelir y sector fwyfwy fel labordy Ymchwil a Datblygu, fel tir ffrwythlon, fel amgylchedd lle gellir ymgymryd ag arbrofi technolegol, ymddygiadol a threfniadaethol yn gymharol ddiogel. Yr un pryd, mae’r byd o’n cwmpas yn parhau i newid. Mae dealltwriaeth artiffisial yn bwydo ar y Data Mawr rydym i gyd yn ei fasgynhyrchu ac mae bydoedd peiriant-ddarllenadwy newydd mewn 3D yn cael eu creu yn garejis Silicon Valley. Gan ddefnyddio Europeana yn enghraifft, byddwn yn ystyried sut y gallai’r byd newydd hwn edrych a’r hyn y gallwn ei wneud i chwarae rhan ystyrlon yn ystod y degawd nesaf.

Harry Verwayen yw Cyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad Europeana, sy’n gweithredu’r platfform Europeana. Mae amgueddfeydd, orielau ac archifdai ar hyd a lled Ewrop wrthi’n digido eu casgliadau. Nod Europeana yw cefnogi gwaith trawsnewid digidol y sefydliadau hyn er mwyn sicrhau bod eu casgliadau mor hygyrch â phosibl i’r cyhoedd. Cyn hyn bu Harry’n gweithio i’r ‘seiat ddoethion’ Knowledgeland yn Amsterdam lle roedd yn gyfrifol am ddatblygu modelau busnes arloesol ar gyfer y sector treftadaeth ddiwylliannol. Mae gan Harry MA mewn Hanes o Brifysgol Leiden a bu’n gweithio am fwy na deng mlynedd yn y Diwydiant Cyhoeddi Academaidd.

Mario Wallner (Sefydliad Ludwig Boltzmann ar gyfer Archwilio Archaeolegol ac Archaeoleg Rithwir)

10 Mlynedd o LBI ArchPro: Prosiectau Archwilio Geoffisegol Cydraniad-uchel Graddfa-fawr yn Ewrop

Mae Sefydliad Ludwig Boltzmann ar gyfer Archwilio Archaeolegol ac Archaeoleg Rithwir (LBI ArchPro) wedi ymrwymo i ddatblygu technegau a chysyniadau methodolegol newydd ar gyfer archaeoleg dirweddol. Yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf, mae LBI ArchPro wedi cynnal nifer o astudiaethau achos archwilio archaeolegol graddfa-fawr ar hyd a lled Ewrop, ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ein gwybodaeth a dealltwriaeth o’r dreftadaeth ddiwylliannol yr ymchwiliwyd iddi. At y diben hwn, mae’r rhaglen ymchwil ryngddisgyblaethol yn cyfuno geoffiseg, synhwyro o bell a chyfrifiadureg i ddatblygu dulliau mwy effeithlon a chyffredinol gymwysadwy o ganfod safleoedd a thirweddau archaeolegol heb eu dinistrio, eu dogfennu, eu dadansoddi, eu dehongli a’u delweddu.

Astudiodd Mario Wallner Astudiaethau Celtaidd yn Vienna ac mae wedi bod yn gweithio i LBI ArchPro o’r cychwyn cyntaf. Cymerodd ran amlwg yn y gwaith maes a oedd yn gysylltiedig â phrosiectau archwilio geoffisegol graddfa-fawr y sefydliad, er enghraifft, ‘Prosiect Tirweddau Cuddiedig Côr y Cewri’, tref Rufeinig Carnuntum, ac aneddiadau’r Llychlynwyr yn Birka. Mae hefyd yn gyfrifol am ddehongli a dadansoddi’n archaeolegol sawl set ddata gyfatebol. Ers 2010 mae ganddo gysylltiad cryf â Phrifysgol Bangor, yn sgil ymuno â ‘Phrosiect Meillionydd’, prosiect cloddio ym mhen pellaf Penrhyn Llŷn.


Lansio’r Wefan

Helen Rowe a Tom Pert (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru): Llongau-U: Coffáu’r Rhyfel ar y Môr, 1914-1918

Menter ar y cyd rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yw’r Prosiect Llongau-U, 1914-18. Gan gyfuno deunydd ar-lein mynediad agored (https://prosiectllongauu.cymru/ a https://www.casgliadywerin.cymru/users/29486), arddangosfa deithiol, sgyrsiau am ddim i’r cyhoedd, a dyddiau gweithgarwch i’r teulu cyfan, mae’r Prosiect Llongau-U yn rhoi cyfle heb ei debyg i bobl archwilio’r llongau ar waelod y môr sy’n rhan o dreftadaeth Cymru. Mae’r ymchwil sy’n cael ei wneud gan y partneriaid yn datgelu storïau newydd am y Rhyfel Mawr yn nyfroedd Cymru.

Archifydd cymwysedig gyda phrofiad ym meysydd digido a hanes llafar yw Helen Rowe. Mae hi wedi gweithio ar sawl prosiect arall a ariannwyd gan CDL, gan gynnwys Prydain oddi Fry, yn ystod ei 10 mlynedd yn y Comisiwn Brenhinol. Mae hi wedi cyfrannu’n helaeth at Gasgliad y Werin Cymru, gan hel deunydd CBHC at ei gilydd a’i uwchlwytho i’r wefan, a hyfforddi cyfranwyr cymunedol. Mae hi bellach yn Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar y Prosiect Llongau-U ac wedi bod yn gweithio gydag amgueddfeydd a lleoliadau ledled Cymru i ddarganfod hanesion lleol am y Rhyfel ar y Môr.

Rheolwr Datblygu Ar-lein y Comisiwn Brenhinol yw Tom Pert. Mae’n gyfrifol am ddatblygu’r wefan a gwasanaethau eraill, ac mae hefyd yn arwain y llinyn arloesedd ar gyfer Casgliad y Werin Cymru. Ef yw rheolwr prosiect Darpariaeth Ddigidol y Comisiwn.


Treftadaeth Ddigidol

Adam Clarke a Victoria Bennett (The Common People): Mapio’r Gwagle – Sut y Gellir Defnyddio Technolegau Digidol Newydd i Archwilio Naratifau Absenoldeb

“… olion enigmatig pobl eraill yw rhan o’r hyn ydwyf …” (Judith Butler)

Pan gollwn rywun arall, ceisiwn ffyrdd o wneud synnwyr o absenoldeb y person hwnnw. Siaradwn yn aml am “y gwagle a adawyd ar ei ôl”. Mae gan y gwagle hwn siâp, ffurf, gwead – ac eto mae wedi’i lunio’n gyfan gwbl gan absenoldeb y person arall. Yr hyn ydyw yw’r gwagle negyddol o amgylch yr hyn a oedd unwaith yn bresennol. Pan lywiwn ein ffordd drwy’r profiad o golli rhywun, rydym ni’n ceisio ffyrdd o greu naratif o’r absenoldeb hwnnw. O greu amgylcheddau testunol ymgollol i fapio tirweddau naratif Ynysoedd Erch yn yr Oes Neolithig, mae’r cyflwyniad hwn yn archwilio ein hymwneud creadigol cydweithredol ag ysgrifennu creadigol a thechnolegau digidol newydd i greu naratifau o’r olion enigmatig hyn.

Jamie Davies (Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau): AHRC – Cyfleoedd Cyllid Treftadaeth a Rhaglenni a Gweithgareddau Allweddol

Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) y DU yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, corff newydd sy’n gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion, sefydliadau ymchwil, busnesau, elusennau a’r llywodraeth i greu’r amgylchedd gorau posibl ar gyfer ymchwil ac arloesedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu’r Cyngor yn adeiladu ar ei fuddsoddiadau blaenorol ac yn cryfhau ei waith ym maes treftadaeth drwy ffurfio partneriaethau ag asiantaethau eraill, targedu cyllid, a sefydlu mentrau cydweithredol yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn y cyflwyniad byr hwn, eglurir y cyfleoedd cyllid treftadaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ac amlinellir rhaglenni a gweithgareddau allweddol.

Penelope Foreman (Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys) a’r tîm Treftadaeth Ddisylw?: Treftadaeth Ddisylw? Dyfodol Digidol ar gyfer Gorffennol Cuddiedig, Safbwynt Rhai Pobl Ifanc ym Mhowys

Mae technegau digidol ac archifau ar-lein yn aml yn agwedd hanfodol ar brosiectau a ariennir drwy grantiau, er enghraifft grantiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Y syniad yw bod treftadaeth yn cael ei gwneud yn “hygyrch” i bawb. Sut bynnag, mae gwaddol yr ystorfeydd digidol hyn yn aml yn fyrhoedlog, yn ddisylw, ac yn methu â chyrraedd llawer o’r gynulleidfa arfaethedig. Yn y papur hwn fe gyflwynir barn pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect Treftadaeth Ddisylw yn Llanandras, Powys am dreftadaeth ddigidol a’i pherthnasedd i’w cenhedlaeth hwy.

Tim Hill (Cadw): Celf Ddigidol – Lens ar Safleoedd Treftadaeth

Arweiniodd cyfarfod dros gwpanaid o goffi at gychwyn prosiect partneriaeth cydweithredol rhwng pika, cwmni digidol ac addysg gweddol ifanc bryd hynny yng Nghasnewydd, a Cadw a fyddai’n dwyn ynghyd ac yn cyfuno bydoedd celf ddigidol a threftadaeth mewn ffordd ddeniadol newydd. Ar ôl ei brofi gydag amrywiaeth o grwpiau defnyddwyr ar-y-safle a manteisio ar wybodaeth ceidwaid safleoedd, cafodd y syniad cychwynnol ar gyfer app ei ddatblygu a’i fireinio’n gynnyrch Dyfarniad Celfyddydau / cwricwlwm newydd cyfeillgar, byw, rhad ac am ddim, sy’n hybu creadigrwydd, dysgu drwy brofiad a chymhwysedd digidol, ac sy’n hwyl i’w ddefnyddio ar hyd y ffordd.

Gareth Morlais (Llywodraeth Cymru): Pam mae Angen Mwy o Brosiectau Mapio yn Gymraeg ac Ieithoedd Llai Eraill

Sut y byddwn ni’n parhau i ddefnyddio’r enwau lleoedd yn ein hiaith os na chânt eu hysgrifennu ar fapiau? Yn yr oes ddigidol, mae angen i hyn gynnwys mapiau rhyngweithiol ar ein dyfeisiau. Rhaid i’r fersiynau gwe fod yn fewnblanadwy a ‘llithradwy’ ac mae angen iddynt ddangos pwyntiau o ddiddordeb. Yn y papur hwn edrychwn ar rai o’r heriau – pa enwau i’w defnyddio, sut i ymdopi â gwahanol fersiynau o enwau o wahanol gyfnodau a lleoliadau, pa mor fanwl y dylid bod, ac ati.

Sheena Payne-Lunn (Cyngor Dinas Caerwrangon) a Dr Natasha Lord (Ymddiriedolaeth GIG Iechyd a Gofal Swydd Gaerwrangon): Hanesion Bywyd Caerwrangon – Cyd-gynhyrchiad Cymunedol ar gyfer Treftadaeth ac Iechyd

Menter gydweithredol rhwng Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Dinas Caerwrangon a’r arweinydd seicoleg Oedolion Hŷn yn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd a Gofal Swydd Gaerwrangon yw Hanesion Bywyd Caerwrangon (Worcester Life Stories). Yn y papur hwn byddwn yn crynhoi ein taith hyd yma tuag at gyd-gynhyrchu adnodd cymunedol wedi’i greu o ddeunydd treftadaeth a gwybodaeth leol sydd ar gael yn rhwydd, a darparu model grymus ar gyfer gwella iechyd a lles drwy rannu diddordebau a hanesion a thrwy feithrin ymdeimlad cryfach o gymuned.

Bernard Tiddeman (Adran Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth): Astudiaeth Achos Realiti Estynedig o Fryn Celli Ddu

Byddwn yn trafod datblygiad app Realiti Estynedig prawf-o-gysyniad ar gyfer y domen gladdu a’r dirwedd o gwmpas beddrod cyntedd Bryn Celli Ddu ym Môn. Mae’r app yn delweddu’r safle fel yr oedd ar bedair adeg wahanol yn ei hanes, yn darparu seinwedd ymgollol, yn delweddu arteffactau a ddarganfuwyd ar y safle neu sy’n nodwedddiadol o’r oes, ac yn cynnwys disgrifiadau testun a fideos. Byddwn yn rhoi sylw i benderfyniadau dylunio’n ymwneud ag iawnlinio 3D, cyfyngiadau cof, sut i ymdrin â’r ffaith bod y defnyddiwr “o dan y ddaear”, a phroblemau gyda gwrthrychau blaendir yn ymddangos yn y cefndir.

Joe Vaughan (The Museum of English Rural Life): Mae’r Amgueddfa wedi Ymuno â’r Sgwrs – Archwilio Posibilrwydd Cyfryngau Cymdeithasol

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac orielau wedi cofleidio’r cyfryngau cymdeithasol, gan greu a churaduro cynnwys sydd wedi denu cynulleidfaoedd niferus iawn. Yn aml, ymddengys fod natur curaduro drwy gyfryngau cymdeithasol yn dra gwahanol i gyd-destunau’r amgueddfa draddodiadol. Yn y papur hwn dadleuir dros y cyfleoedd sy’n gynhenid i’r dieithrwch hwn, gan ystyried sut y gall cyfryngau cymdeithasol – ar eu mwyaf arbrofol hyd yn oed – adlewyrchu a chydategu gwaith yr amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac orielau eu hunain, gan ddefnyddio enghreifftiau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a gwaith hanesyddol yr Amgueddfa.


Data Digidol

Jo Pugh (The National Archives): Hyd Dragwyddoldeb oddi Yma? Adeiladu Gallu Digidol yn y Sector Archifau

O ganlyniad i’r angen i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar-lein, darparu mynediad i fetadata digidol a dogfennau wedi’u digido, a diogelu cofnodion digidol-anedig, ni fu’r pwysau ar archifyddion erioed mor fawr. Ymgymerodd yr Archifau Cenedlaethol a Jisc ag arolwg cynhwysfawr o sgiliau digidol yn y sector archifau a nododd dwy ran o dair o’r rhai a ymatebodd eu bod yn teimlo nad oedd ganddynt y sgiliau digidol i gyflawni eu dyletswyddau. Yn y sesiwn hon byddwn yn trafod y rhwystrau i ymgymryd â gwaith digidol a nodwyd gan yr archifyddion, sut y gellir mynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn, a’r rhaglenni y mae’r Archifau Cenedlaethol wedi’u sefydlu i helpu i ddatblygu sgiliau digidol yn archifdai’r DU.

David Thomas a Tom Pert (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru): Darparu’r Archif – Dull Modiwlaidd

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn ailddatblygu ei systemau ar gyfer rheoli cynnwys ei archif a threfnu iddo fod ar gael i’r cyhoedd. Mae’r datrysiad newydd, sydd ar hyn o bryd yn cael ei gyflawni drwy bartneriaeth â Historic Environment Scotland, yn mabwysiadu dull modiwlaidd wedi’i seilio ar feddalwedd ffynhonnell agored. Caiff data eu hintegreiddio drwy ddatrysiad canolwedd cyn eu danfon i borth y gall y cyhoedd ei gyrchu. Yn y cyflwyniad, edrychir ar elfennau’r datrysiad modiwlaidd ac ar fanteision, a risgiau, dull o’r fath.

Dr Holly Wright (Archaeology Data Service): Cyflwyniad i’r Weithred COST Achub Archaeoleg Ewropeaidd rhag yr Oes Dywyll Ddigidol (SEADDA)

Nod SEADDA (Achub Archaeoleg Ewropeaidd rhag yr Oes Dywyll Ddigidol), un o Weithredoedd y sefydliad COST, yw creu rhwydwaith ymchwil ar gyfer archifo a lledaenu data archaeolegol a’u hailddefnyddio drwy fynediad agored. Mae mwy na 30 o wledydd Ewropeaidd a phartneriaid rhyngwladol yn cymryd rhan. Rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o archaeolegwyr a chyfrifiadurwyr yw SEADDA – arbenigwyr mewn rheoli data archaeolegol a lledaenu data agored. Yn y cyflwyniad hwn fe drafodir ffyrdd o gymryd rhan yn y Weithred ac elwa arni.

Gerben Zaagsma (Canolfan Hanes Cyfoes a Digidol (C²DH) Luxembourg): Yr Archif Ddigidol a Gwleidyddiaeth Digido

Yn y papur hwn ymdrinnir â chwestiwn sy’n dod yn fwyfwy pwysig i haneswyr sy’n gweithio ym maes treftadaeth ddiwylliannol wedi’i digido: beth yw gwleidyddiaeth digido a beth yw ei goblygiadau ar gyfer ymchwil hanesyddol? Wrth drafod y cwestiwn hwn, byddaf yn pwysleisio pwysigrwydd bod yn fwy tryloyw, a’r angen am ganllawiau ar gyfer sefydlu archifau digidol.


Arolygu Digidol

Anthony Corns (Y Rhaglen Ddarganfod): Uwchgylchu Treftadaeth Ddigidol 3D

Cwblhaodd y Rhaglen Ddarganfod ei chyfraniad i’r prosiect 3D-ICONS lle defnyddiwyd amrywiaeth o dechnolegau geo-ofodol i ddogfennu’n ddigidol fwy na 200 o adeiladweithiau hanesyddol mewn 3D. Yna defnyddiwyd Sketchfab ac Europeana i wneud y setiau data yn hygyrch i’r cyhoedd. Mae’r data a grëwyd wedi cael eu hailddefnyddio gan lawer o unigolion gwahanol sydd wedi llwyddo i fanteisio ar y cynnwys digidol ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau a diwydiannau, gan gynnwys: twristiaeth, y sector celf a chreadigol, y diwydiant gemau cyfrifiadur, cadwraeth, a’r diwydiant ffilm/teledu. Yn y cyflwyniad hwn edrychir ar y gwahanol enghreifftiau hyn o ailddefnyddio’r data a thynnir sylw at werth eang data treftadaeth ddiwylliannol.

George Dey (Bluesky International): Bluesky Data… Ffenestr i’r Gorffennol

Bluesky yw cwmni arolygu o’r awyr blaenllaw y DU. Mae’n darparu ystod o ddata arolwg, daearyddol a CAD, gan gynnwys awyrluniau, mapio a LiDAR. Drwy fuddsoddi’n barhaus yn y dechnoleg ddiweddaraf, gall Bluesky gynnig y setiau data mwyaf cywir, cyfoes ac uchaf eu cydraniad sydd ar gael.

Shôned Jones (Wessex Archaeology): Prosiect Ôl Troed Abaty Caerfaddon: O Gofnodi Ffotogrametrig 4D i Realiti Rithwir

Yn ystod Prosiect ‘Footprint’ Abaty Caerfaddon bu’n rhaid i elfennau archaeolegol cyfoethog a chymhleth gael eu cloddio a’u cofnodi mewn segmentau bach. Ni chafodd ardaloedd mawr byth eu hagor yr un pryd, felly roedd deall y safle a chofnodi’r archaeoleg mewn ffordd effeithlon a phriodol yn her fethodolegol. Defnyddiwyd ffotogrametreg i oresgyn y problemau hyn, gan ei bod yn caniatáu i wahanol gyfnodau gael eu gweld gyda’i gilydd ac i nodweddion geometregol gymhleth gael eu cofnodi’n llawn. Mae’r broses hon hefyd wedi esgor ar bosibiliadau newydd ar gyfer ymgysylltu cymunedol, er enghraifft, drwy Realiti Rhithwir.

Sophia Mirashrafi (Historic Environment Scotland/Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban): The Hill House: Cydweithredu ym meysydd Dogfennu Digidol ac Ymchwilio Gwyddonol

Wedi’i osod yn ddiweddar mewn blwch o faelwisg a dur, The Hill House yn Helensburgh, yr Alban, a gynlluniwyd gan Charles Rennie Mackintosh, yw’r lle perffaith i ymestyn ffiniau dogfennu digidol ac ymchwilio gwyddonol. Mae Historic Environment Scotland ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban yn cydweithredu ar brosiect i ddefnyddio data digidol a gwyddonol i ymchwilio i hanes yr adeilad a’i gyflwr presennol, a hefyd i lywio penderfyniadau cadwraeth yn y dyfodol. Drwy archwilio data thermograffig mewn gofod 3D, bydd cadwraethwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd yn gallu gweld yn well gyflwr The Hill House yn ei gyfanrwydd


Gweithdai

Stephen Barlow (Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol) a Dr Jamie Davies (AHRC), Lleol, Cenedlaethol a Byd-eang – Gweithdy ar Ariannu Treftadaeth

Nod y gweithdy hwn yw darparu gorolwg o’r cyfleoedd ariannu treftadaeth sy’n cael eu cynnig gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Bydd y gweithdy’n cynnwys cyflwyniadau gan Stephen Barlow (Pennaeth Ymgysylltu Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru) a Dr Jamie Davies (Rheolwr Partneriaethau Rhyngwladol ac Ymgysylltu Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ac aelod o bwyllgor Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru).

Jon Dollery (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru): GIS – Fu Pethau Erioed Mor Dda!: Sut i Greu, Adeiladu a Defnyddio Amgylchedd GIS gan Ddefnyddio GIS Ffynhonnell Agored a Data Agored

Mae GIS ymhob man. Mae yn ein cartrefi, yn ein ceir a hyd yn oed ar ein ffonau. Mae gan GIS bosibiliadau diderfyn, ac eto gall fod yn ddigon anodd ei defnyddio. Bydd y ddau weithdy hyn yn rhoi cyfle i chi greu eich gweithle GIS eich hun, gan ddefnyddio QGIS, a’i lenwi â mapiau a setiau data sydd ar gael i bawb. Byddwn yn ymdrin â’r hanfodion yn ystod y sesiwn 40-munud gyntaf: sut i lywio, mewnforio data a chreu eich data eich hun. Yn yr ail sesiwn 40-munud edrychir ar ddefnyddio LiDAR i ddelweddu data mewn amgylcheddau 3D. “Gadewch i ni fod yn onest: Fu pethau erioed mor dda!”

Polly Groom (Cadw) a’r tîm Treftadaeth Ddisylw?: Minecraft, Sgrialu, Fortecs-amser Neidio-i-fyny (a Straeon Eraill)

Bydd cyfranogwyr a swyddogion y prosiect yn rhoi cyfle i gynadleddwyr ymgymryd â rhai o’r gweithgareddau rydym ni wedi bod yn eu gwneud, a gallwn i gyd drafod manteision ac anfanteision gweithio ag ystod o gyfryngau digidol ac amrywiaeth o bobl ifanc! Bydd cyfle hefyd i feddwl am ganlyniadau archaeolegol ac effeithiau cymdeithasol a phersonol y prosiect hwn – a’u cofnodi.

Daniel Hunt a Dr Toby Driver (Prosiect CHERISH, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru): Cyflwyniad Ymarferol i Ddronau ac Archaeoleg

Yn ystod y gweithdy naw deg munud hwn rhoddir cyflwyniad i hanfodion hedfan dronau’n ddiogel a phrosesu delweddau ar ôl hediadau at bwrpas arolygu archaeolegol, yng nghwmni dau beilot drôn cymwysedig o Brosiect CHERISH Iwerddon-Cymru, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mensur Ibricic (Vizgu): Cyflwyno Vizgu a chreu arddangosfa

Pam mae’r rhan fwyaf o gwmnïau technoleg yn credu eu bod nhw’n gwybod yn well na’r arbenigwyr maen nhw’n ceisio eu gwasanaethu a’u cynorthwyo? Bydd Mensur yn trafod sut mae cwmnïau technoleg wedi esgeuluso haneswyr, archaeolegwyr, curaduron a gweithwyr proffesiynol wrth eu helpu i rannu’r wybodaeth maen nhw wedi’i chasglu â’r cyhoedd ac addysgu pobl am yr holl ddarganfyddiadau mawr sy’n cael eu gwneud ac ymchwil gwych sydd ar y gweill. Bydd hefyd yn dangos sut mae Vizgu’n newid y ffordd y mae cwmnïau technoleg yn gweithio gyda’r staff proffesiynol hyn drwy feithrin athroniaeth newydd, sef cyd-greu datrysiadau a fydd yn y pen draw yn ateb diben uwch.

Gruffydd E. Jones (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a Reina van der Wiel (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru): Casgliad y Werin Cymru – Archif Cof

Menter o eiddo Casgliad y Werin Cymru sy’n cael ei harwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw ‘Archif Cof’. Cyfrif wedi’i guraduro yw hwn, sydd â’r nod o hwyluso gwaith hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementia. Mae’r casgliadau wedi’u rhannu’n themâu a degawdau (o fewn cof pobl fyw), ar sail adborth staff gofal iechyd proffesiynol. Yn y gweithdy hwn rhoddir cyflwyniad byr i wefan Casgliad y Werin Cymru cyn dangos sut orau i ddefnyddio’r adnoddau hyn ar gyfer gwaith hel atgofion. Byddwn hefyd yn eich gwahodd i greu’ch ‘archifau cof’ eich hun – naill ai drwy ddefnyddio’r cynnwys presennol neu drwy uwchlwytho/creu adnoddau newydd.

Liz Rawlings, David Llewellyn ac Angela Jones (Grwpiau Hanes Pum Cymuned Sir Benfro): Rhannu Hanes Lleol yn Ddigidol

Yn ystod cyfnod o lymder pan fo gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau, mae’r prosiect hwn yn rhoi grym i gymunedau lleol ofalu am eu treftadaeth archifol a diwylliannol. Mae’n cyfuno brwdfrydedd lleol â chymorth proffesiynol cost-niwtral i reoli diogelu a chyrchu treftadaeth archifol a hynny’n unol â safonau rhyngwladol. Felly mae’r prosiect yn creu ac yna’n datblygu system ar gyfer cofnodi treftadaeth y pum cymuned yn Sir Benfro drwy ddefnyddio technoleg ddigidol. Nod y prosiect dwyieithog arloesol hwn yw trefnu bod arteffactau, dogfennau, ffotograffau, darganfyddiadau archaeolegol a phapurau ymchwil lleol yn cael eu cofnodi ac ar gael i bawb. Mae dau Archifydd Digidol yn sicrhau agwedd broffesiynol at gatalogio a digido casgliadau, a bod materion hawlfraint yn cael lle blaenllaw.

Wyn Williams (Mapio Cymru): Mapio Cymru yn Cymraeg

Mae’r gweithdy hwn yn cynnwys: 1) Disgrifiad o gyrhaeddiad y prosiect yng nghyd destun grantiau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. 2) Esboniad o bwysigrwydd Data Agored i’r prosiect ac “awyrgylch” ac amgylchfyd y prosiect. 3) Ychydig o hanes a chefndir y prosiect, a beth yw’r rol Rheolwr Prosiect yn ei olygu. Son hefyd am ein partneriaid gwreiddiol Data Agored Caerdydd. 4) Galwad am gymorth o ran gosod enwau Cymraeg cyfredol ac hanesyddol ar ein map o Gymru a welir fan hyn: https://openstreetmap.cymru. Yn debyg i Wicipedia, gall unrhywun gyfrannu i’r map, ac yn wir gall hynny gynnwys cyfranogwyr y gynhadledd.  

Taith Drwy Swyddfeydd y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Taith dywys i weld Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil y Comisiwn Brenhinol. Dewch i weld arddangosfa ddifyr o ddeunydd archifol gwreiddiol o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ac i bori yn y llyfrau ar silffoedd ein llyfrgell arbenigol. Bydd cyfle hefyd i weld y tu ôl i’r llenni ar daith drwy ein storfeydd.


Ein noddwyr:

Logo FARO
Logo KOREC
Logo o'r Gronfa Dreftadaeth
Logo Preservica

Tweets