Cynhadledd ddau ddiwrnod a lansiwyd yn 2009 ac sy’n cael ei threfnu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw Gorffennol Digidol. Mae’n canolbwyntio ar dechnegau a thechnolegau digidol arloesol ar gyfer cofnodi a deall yr amgylchedd hanesyddol. Bob blwyddyn bydd y gynhadledd gyffrous hon yn dwyn ynghyd rhwng 150 a 175 o unigolion o’r sectorau masnachol, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol a’i nod yw hyrwyddo dysgu, trafod a dadlau mewn perthynas ag amrywiaeth o dechnolegau digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, neu’n cael eu datblygu, i gofnodi a deall ein treftadaeth.
Mae Cynhadledd Gorffennol Digidol yn ei deuddegfed flwyddyn bellach, ond oherwydd yr ansicrwydd sy’n cael ei achosi gan COVID-19, fe fydd cynhadledd 2021 yn cael ei chynnal ar-lein gan ddefnyddio’r platfform Zoom. Bydd diwrnod o sgyrsiau ar Ddydd Mercher 10 Chwefror, ynghyd â gweithdai drwy’r wythnos o 8 i 12 Chwefror 2021.
Mae Gorffennol Digidol yn cynnig cyfle delfrydol i chi hyrwyddo eich sefydliad i gynadleddwyr a siaradwyr o’r DU a gwledydd tramor fel Chile, UDA ac Awstralia. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae siaradwyr o Microsoft Research UK, Amgueddfa Victoria ac Albert, V-MUST ac Europeana wedi cymryd rhan yn y gynhadledd.
Yn 2021 bydd y gynhadledd yn dilyn dau drywydd, y naill wedi’i seilio ar agweddau technegol arolygu, archifo, a phrosesu a rheoli data, a’r llall ar ddehongli, ymgysylltu ac addysg, gan roi sylw arbennig i: Mynediad rhithiol i dreftadaeth, Amrywiaeth mewn treftadaeth ddiwylliannol ddigidol a Threftadaeth ddigidol, yr amgylchedd a newid hinsawdd.
Bellach yn ei deuddegfed flwyddyn, mae proffil y gynhadledd Gorffennol Digidol wedi tyfu. Caiff ei hyrwyddo drwy wefan y gynhadledd, sy’n parhau ar-lein ar ôl y digwyddiad gan weithredu fel man cyfeirio a chronfa gwybodaeth hirdymor, a hefyd drwy wefan y Comisiwn Brenhinol a chyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter a LinkedIn, felly mae’r digwyddiad yn cael dylanwad ymhell y tu hwnt i’r cynadleddwyr sy’n ei mynychu.
Bob blwyddyn bydd y gynhadledd yn denu amrywiaeth o noddwyr o’r sectorau masnachol, academaidd a chyhoeddus. Mae hyn yn caniatáu i sefydliadau a chwmnïau hyrwyddo eu cynhyrchion, gwasanaethau, prosiectau ac ymchwil ac yn helpu i sicrhau bod y gynhadledd mor ariannol agored a hygyrch ag y bo modd i bawb.
Nôl i ben y dudalen
Mae’n bleser gennym yn awr allu cynnig cyfleoedd noddi ar gyfer Cynhadledd Gorffennol Digidol 2021. Disgwyliwn y mynychir y gynhadledd ar-lein gan rhwng 175 a 200 o bobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd treftadaeth technegol, deongliadol ac addysgol yn y sectorau masnachol, academaidd a chyhoeddus a’r trydydd sector, felly dyma gyfle perffaith i hyrwyddo eich sefydliad.
GORFFENNOL DIGIDOL 2021 Pecyn Noddwyr Rhithwir |
---|
Cost: £250 |
Wedi’i gynnwys: |
Cydnabyddiaeth gan y Cadeirydd yn y sesiynau Agor a Chau |
Logo ar faner waelod pob tudalen o’r wefan |
Logo a thestun hysbysebu ar Dudalen Noddwyr gwefan y gynhadledd gyda chyswllt i wefan y cwmni (hyd a lled mwyaf 50mm) |
Logo ar Lyfryn y Gynhadledd (hyd a lled mwyaf 50mm) |
Logo ar y sleid Ddal (hyd a lled mwyaf 50mm) |
Hysbyseb ½ tudalen yn Llyfryn y Gynhadledd (Arlunwaith i’w ddarparu gan y noddwr) |
Crybwyllir y noddwr yn ystod ymgyrch Cyfryngau Cymdeithasol 2021 |
I ddod yn noddwr, byddwch cystal â dychwelyd y Ffurflen Noddi. Rydym yn eich annog i fanteisio’n gynnar ar y cynnig hwn er mwyn i’ch sefydliad gael cymaint o sylw â phosibl.
Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gynhadledd neu’r pecynnau, cysylltwch â Susan Fielding neu Reina van der Wiel yn gorffennoldigidol@cbhc.gov.uk neu ar 01970 621 219 / 01970 621 240. Edrychwn ymlaen at drafod y cynnig noddi hwn gyda chi.
Nôl i ben y dudalen