Sylwadau a Chrynodebau

 

Prif Siaradwyr

Dr Sarah Colley (SMC Research and Consultancy)

Dogfennau Clyweled, Treftadaeth Ddiwylliannol Ddigidol a Moeseg

Yn fy mhapur byddaf yn tynnu sylw at y materion moesegol i randdeiliaid treftadaeth a godir gan rai ‘dogfennau clyweled’ (cymh. Baron J. 2014 The Archive Effect) mewn byd lle mae technolegau a chyfryngau ar-lein yn hollbresennol. Bydd ffilmiau a fideo ‘ffeithiol’ neu ddogfennol, realiti rhithwir ac ailgreadau digidol eraill yn aml yn defnyddio cynnwys hanesyddol neu archifol i ail-greu neu ail-ddychmygu agweddau ar dreftadaeth. Gall hyn godi cwestiynau am wirionedd, ymddiriedaeth a moeseg. Gall problemau godi o’r gwerthoedd moesegol anghymarus sy’n gyffredin mewn ymarfer treftadaeth o’u cymharu â’r diwydiannau datblygu technoleg a chynhyrchu cyfryngol. Mae cyd-destunau lle mae ‘cynulleidfaoedd’ yn profi dogfennau clyweled sy’n gysylltiedig â threftadaeth hefyd yn allweddol i’w priodweddau moesegol newidiol.

Hyfforddodd Sarah Colley fel archaeolegydd ac mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad o weithio mewn addysg uwch, o waith ymchwil, ac o ymarfer treftadaeth ddiwylliannol proffesiynol yn Awstralia a’r DU. Ei diddordebau ymchwil hirdymor yw moeseg broffesiynol, archaeoleg gyhoeddus, addysg, a chymhwyso technolegau digidol ym meysydd archaeoleg a threftadaeth. Roedd hi’n gysylltiedig â datblygu delweddiadau cyfrifiadurol cynnar ar gyfer archaeoleg ac ers hynny mae hi wedi gweithio ar archifau digidol cynaliadwy, cronfeydd data o ddelweddau, cynhyrchu fideo, a rhaglenni meddalwedd ‘data mawr’ mewn archaeoleg. Mae hi ar hyn o bryd yn ymchwilydd annibynnol ac yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerlŷr.

 

Gaël Hamon (Art Graphique & Patrimoine)

Arbenigwr blaenllaw ym meysydd arolygu a hybu diogelu treftadaeth yw Gaël Hamon. Ar ôl cael profiad helaeth o adfer adeiladweithiau mawr eu bri, fe sylfaenodd Art Graphique & Patrimoine gyda chymorth Hervé Quelin ym 1994. Mae ganddo ddiploma proffesiynol BPMH mewn henebion hanesyddol ac enillodd y fedal aur am y naddwr cerrig rhyngwladol gorau yn yr Olympiades des Métiers. Mae ar hyn o bryd yn is-gadeirydd Appareilleurs de France ac yn aelod o reithgor y gystadleuaeth MOF i grefftwyr. Bydd yn siarad yn rheolaidd yn yr INP ac ym mhrifysgolion Poitiers, Paris VIII ac Aix-en-Provence.

 

Dr Marinos Ioannides (Prifysgol Technoleg Cyprus / UNESCO)

Gorffennol Digidol: Mae i gyd yn ymwneud â Gwybodaeth, Stori a Chof

Canlyniad gwneud arolwg o wrthrych cyffyrddadwy fel arteffact, heneb neu safle fu ailgread 3D manwl gywir o’i adeiladwaith geometregol rhithwir, ond nid, mae’n siwr, o’i werth hanesyddol a’i berthynas â’i gymdeithas. Yn y cyflwyniad hwn fe ganolbwyntir ar weithgareddau ymchwil cyfredol ym maes dogfennaeth gyfannol 3D ac, yn fwyaf arbennig, ar gyfoethogi 3D gyda semanteg a chynhyrchu gwybodaeth benodol a chof unigryw y gwrthrych. Yn ogystal, trafodir heriau fel y safoni coll yn y ddogfennaeth 3D a chyflwyno offer Dealltwriaeth Artiffisial i faes Treftadaeth Ddiwylliannol.

Astudiodd Marinos Ioannides ym Mhrifysgol Stuttgart yn yr Almaen. Ei faes arbenigol ar gyfer ei BSc a’i MSc mewn Cyfrifiadureg oedd ystorfeydd digidol, ac ar gyfer ei PhD bu’n astudio peirianneg wrthdro 3D, gan ddatblygu un o’r peiriannau ailgreu cyntaf. Ers 1989 mae dogfennaeth 3D ar gyfer Treftadaeth Ddiwylliannol wedi cael ei holl sylw. Ef yw cyfarwyddwr y Gadair UNESCO newydd ei sefydlu ar Dreftadaeth Ddiwylliannol Ddigidol a chydlynydd Cadair ERA yr UE ar Dreftadaeth Ddiwylliannol Ddigidol: Mnemosyne. Prif ddiddordeb ymchwil presennol Marino yw Dogfennaeth Gyfannol mewn Treftadaeth Ddigidol.

 

Harry Verwayen (Europeana)

Cafodd Harry Verwayen ei benodi’n Gyfarwyddwr Gweithredol Europeana ym mis Mai 2018. Bu’n gweithio i gyhoeddwyr academaidd am ddeng mlynedd cyn ymuno â Kennisland, ‘seiat ddoethion’ yn Amsterdam, lle roedd yn gyfrifol am fodelau busnes arloesol yn y sector treftadaeth ddiwylliannol. Ymunodd â Sefydliad Europeana yn 2010, gan gymryd cyfrifoldeb dros gynllunio busnes, datblygu strategaeth a Chasgliadau Europeana mewn sawl gwahanol rôl. Yn fwyaf neilltuol, bu’n gweithio gyda Chymdeithas Rhwydwaith Europeana ar ddatblygu a gweithredu safonau yn y diwydiant, megis Fframwaith Cyhoeddi Europeana ac, yn fwy diweddar, Canllaw Effaith Europeana.


Lansio’r Wefan

Helen Rowe a Tom Pert (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru): Llongau-U: Coffáu’r Rhyfel ar y Môr, 1914-1918

Menter ar y cyd rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yw’r Prosiect Llongau-U, 1914-18. Gan gyfuno deunydd ar-lein mynediad agored (https://prosiectllongauu.cymru/ a https://www.casgliadywerin.cymru/users/29486), arddangosfa deithiol, sgyrsiau am ddim i’r cyhoedd, a dyddiau gweithgarwch i’r teulu cyfan, mae’r Prosiect Llongau-U yn rhoi cyfle heb ei debyg i bobl archwilio’r llongau ar waelod y môr sy’n rhan o dreftadaeth Cymru. Mae’r ymchwil sy’n cael ei wneud gan y partneriaid yn datgelu storïau newydd am y Rhyfel Mawr yn nyfroedd Cymru.

Archifydd cymwysedig gyda phrofiad ym meysydd digido a hanes llafar yw Helen Rowe. Mae hi wedi gweithio ar sawl prosiect arall a ariannwyd gan CDL, gan gynnwys Prydain oddi Fry, yn ystod ei 10 mlynedd yn y Comisiwn Brenhinol. Mae hi wedi cyfrannu’n helaeth at Gasgliad y Werin Cymru, gan hel deunydd CBHC at ei gilydd a’i uwchlwytho i’r wefan, a hyfforddi cyfranwyr cymunedol. Mae hi bellach yn Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar y Prosiect Llongau-U ac wedi bod yn gweithio gydag amgueddfeydd a lleoliadau ledled Cymru i ddarganfod hanesion lleol am y Rhyfel ar y Môr.

Rheolwr Datblygu Ar-lein y Comisiwn Brenhinol yw Tom Pert. Mae’n gyfrifol am ddatblygu’r wefan a gwasanaethau eraill, ac mae hefyd yn arwain y llinyn arloesedd ar gyfer Casgliad y Werin Cymru. Ef yw rheolwr prosiect Darpariaeth Ddigidol y Comisiwn.


Treftadaeth Ddigidol

Adam Clarke a Victoria Bennett (Y Werin Bobl): Mapio’r Gwagle – Sut y Gellir Defnyddio Technolegau Digidol Newydd i Archwilio Naratifau Absenoldeb

“… olion enigmatig pobl eraill yw rhan o’r hyn ydwyf …” (Judith Butler)

Pan gollwn rywun arall, ceisiwn ffyrdd o wneud synnwyr o absenoldeb y person hwnnw. Siaradwn yn aml am “y gwagle a adawyd ar ei ôl”. Mae gan y gwagle hwn siâp, ffurf, gwead – ac eto mae wedi’i lunio’n gyfan gwbl gan absenoldeb y person arall. Yr hyn ydyw yw’r gwagle negyddol o amgylch yr hyn a oedd unwaith yn bresennol. Pan lywiwn ein ffordd drwy’r profiad o golli rhywun, rydym ni’n ceisio ffyrdd o greu naratif o’r absenoldeb hwnnw. O greu amgylcheddau testunol ymgollol i fapio tirweddau naratif Ynysoedd Erch yn yr Oes Neolithig, mae’r cyflwyniad hwn yn archwilio ein hymwneud creadigol cydweithredol ag ysgrifennu creadigol a thechnolegau digidol newydd i greu naratifau o’r olion enigmatig hyn.

Penelope Foreman (Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys) a’r tîm Treftadaeth Ddisylw?: Treftadaeth Ddisylw? Dyfodol Digidol ar gyfer Gorffennol Cuddiedig, Safbwynt Rhai Pobl Ifanc ym Mhowys

Mae technegau digidol ac archifau ar-lein yn aml yn agwedd hanfodol ar brosiectau a ariennir drwy grantiau, er enghraifft grantiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Y syniad yw bod treftadaeth yn cael ei gwneud yn “hygyrch” i bawb. Sut bynnag, mae gwaddol yr ystorfeydd digidol hyn yn aml yn fyrhoedlog, yn ddisylw, ac yn methu â chyrraedd llawer o’r gynulleidfa arfaethedig. Yn y papur hwn fe gyflwynir barn pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect Treftadaeth Ddisylw yn Llanandras, Powys am dreftadaeth ddigidol a’i pherthnasedd i’w cenhedlaeth hwy.

Tim Hill (Cadw): Celf Ddigidol – Lens ar Safleoedd Treftadaeth

Arweiniodd cyfarfod dros gwpanaid o goffi at gychwyn prosiect partneriaeth cydweithredol rhwng pika, cwmni digidol ac addysg gweddol ifanc bryd hynny yng Nghasnewydd, a Cadw a fyddai’n dwyn ynghyd ac yn cyfuno bydoedd celf ddigidol a threftadaeth mewn ffordd ddeniadol newydd. Ar ôl ei brofi gydag amrywiaeth o grwpiau defnyddwyr ar-y-safle a manteisio ar wybodaeth ceidwaid safleoedd, cafodd y syniad cychwynnol ar gyfer app ei ddatblygu a’i fireinio’n gynnyrch Dyfarniad Celfyddydau / cwricwlwm newydd cyfeillgar, byw, rhad ac am ddim, sy’n hybu creadigrwydd, dysgu drwy brofiad a chymhwysedd digidol, ac sy’n hwyl i’w ddefnyddio ar hyd y ffordd.

Gareth Morlais (Llywodraeth Cymru): Pam mae Angen Mwy o Brosiectau Mapio yn Gymraeg ac Ieithoedd Llai Eraill

Sut y byddwn ni’n parhau i ddefnyddio’r enwau lleoedd yn ein hiaith os na chânt eu hysgrifennu ar fapiau? Yn yr oes ddigidol, mae angen i hyn gynnwys mapiau rhyngweithiol ar ein dyfeisiau. Rhaid i’r fersiynau gwe fod yn fewnblanadwy a ‘llithradwy’ ac mae angen iddynt ddangos pwyntiau o ddiddordeb. Yn y papur hwn edrychwn ar rai o’r heriau – pa enwau i’w defnyddio, sut i ymdopi â gwahanol fersiynau o enwau o wahanol gyfnodau a lleoliadau, pa mor fanwl y dylid bod, ac ati.

Sheena Payne-Lunn (Cyngor Dinas Caerwrangon) a Dr Natasha Lord (Ymddiriedolaeth GIG Iechyd a Gofal Swydd Gaerwrangon): Hanesion Bywyd Caerwrangon – Cyd-gynhyrchiad Cymunedol ar gyfer Treftadaeth ac Iechyd

Menter gydweithredol rhwng Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Dinas Caerwrangon a’r arweinydd seicoleg Oedolion Hŷn yn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd a Gofal Swydd Gaerwrangon yw Hanesion Bywyd Caerwrangon (Worcester Life Stories). Yn y papur hwn byddwn yn crynhoi ein taith hyd yma tuag at gyd-gynhyrchu adnodd cymunedol wedi’i greu o ddeunydd treftadaeth a gwybodaeth leol sydd ar gael yn rhwydd, a darparu model grymus ar gyfer gwella iechyd a lles drwy rannu diddordebau a hanesion a thrwy feithrin ymdeimlad cryfach o gymuned.

Bernard Tiddeman (Adran Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth): Astudiaeth Achos Realiti Estynedig o Fryn Celli Ddu

Byddwn yn trafod datblygiad app Realiti Estynedig prawf-o-gysyniad ar gyfer y domen gladdu a’r dirwedd o gwmpas beddrod cyntedd Bryn Celli Ddu ym Môn. Mae’r app yn delweddu’r safle fel yr oedd ar bedair adeg wahanol yn ei hanes, yn darparu seinwedd ymgollol, yn delweddu arteffactau a ddarganfuwyd ar y safle neu sy’n nodwedddiadol o’r oes, ac yn cynnwys disgrifiadau testun a fideos. Byddwn yn rhoi sylw i benderfyniadau dylunio’n ymwneud ag iawnlinio 3D, cyfyngiadau cof, sut i ymdrin â’r ffaith bod y defnyddiwr “o dan y ddaear”, a phroblemau gyda gwrthrychau blaendir yn ymddangos yn y cefndir.


Data Digidol

David Thomas a Tom Pert (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru): Darparu’r Archif – Dull Modiwlaidd

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn ailddatblygu ei systemau ar gyfer rheoli cynnwys ei archif a threfnu iddo fod ar gael i’r cyhoedd. Mae’r datrysiad newydd, sydd ar hyn o bryd yn cael ei gyflawni drwy bartneriaeth â Historic Environment Scotland, yn mabwysiadu dull modiwlaidd wedi’i seilio ar feddalwedd ffynhonnell agored. Caiff data eu hintegreiddio drwy ddatrysiad canolwedd cyn eu danfon i borth y gall y cyhoedd ei gyrchu. Yn y cyflwyniad, edrychir ar elfennau’r datrysiad modiwlaidd ac ar fanteision, a risgiau, dull o’r fath.

Dr Holly Wright (Archaeology Data Service): Cyflwyniad i’r Weithred COST Achub Archaeoleg Ewropeaidd rhag yr Oes Dywyll Ddigidol (SEADDA)

Nod SEADDA (Achub Archaeoleg Ewropeaidd rhag yr Oes Dywyll Ddigidol), un o Weithredoedd y sefydliad COST, yw creu rhwydwaith ymchwil ar gyfer archifo a lledaenu data archaeolegol a’u hailddefnyddio drwy fynediad agored. Mae mwy na 30 o wledydd Ewropeaidd a phartneriaid rhyngwladol yn cymryd rhan. Rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o archaeolegwyr a chyfrifiadurwyr yw SEADDA – arbenigwyr mewn rheoli data archaeolegol a lledaenu data agored. Yn y cyflwyniad hwn fe drafodir ffyrdd o gymryd rhan yn y Weithred ac elwa arni.

Gerben Zaagsma (Canolfan Hanes Cyfoes a Digidol (C²DH) Luxembourg): Yr Archif Ddigidol a Gwleidyddiaeth Digido

Yn y papur hwn ymdrinnir â chwestiwn sy’n dod yn fwyfwy pwysig i haneswyr sy’n gweithio ym maes treftadaeth ddiwylliannol wedi’i digido: beth yw gwleidyddiaeth digido a beth yw ei goblygiadau ar gyfer ymchwil hanesyddol? Wrth drafod y cwestiwn hwn, byddaf yn pwysleisio pwysigrwydd bod yn fwy tryloyw, a’r angen am ganllawiau ar gyfer sefydlu archifau digidol.


Arolygu Digidol

Anthony Corns (Y Rhaglen Ddarganfod): Uwchgylchu treftadaeth ddigidol 3D

Cwblhaodd y Rhaglen Ddarganfod ei chyfraniad i’r prosiect 3D-ICONS lle defnyddiwyd amrywiaeth o dechnolegau geo-ofodol i ddogfennu’n ddigidol fwy na 200 o adeiladweithiau hanesyddol mewn 3D. Yna defnyddiwyd Sketchfab ac Europeana i wneud y setiau data yn hygyrch i’r cyhoedd. Mae’r data a grëwyd wedi cael eu hailddefnyddio gan lawer o unigolion gwahanol sydd wedi llwyddo i fanteisio ar y cynnwys digidol ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau a diwydiannau, gan gynnwys: twristiaeth, y sector celf a chreadigol, y diwydiant gemau cyfrifiadur, cadwraeth, a’r diwydiant ffilm/teledu. Yn y cyflwyniad hwn edrychir ar y gwahanol enghreifftiau hyn o ailddefnyddio’r data a thynnir sylw at werth eang data treftadaeth ddiwylliannol.

Sophia Mirashrafi (Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban): The Hill House: Cydweithredu ym meysydd Dogfennu Digidol ac Ymchwilio Gwyddonol

Wedi’i osod yn ddiweddar mewn blwch o faelwisg a dur, The Hill House yn Helensburgh, yr Alban, a gynlluniwyd gan Charles Rennie Mackintosh, yw’r lle perffaith i ymestyn ffiniau dogfennu digidol ac ymchwilio gwyddonol. Mae Historic Environment Scotland ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban yn cydweithredu ar brosiect i ddefnyddio data digidol a gwyddonol i ymchwilio i hanes yr adeilad a’i gyflwr presennol, a hefyd i lywio penderfyniadau cadwraeth yn y dyfodol. Drwy archwilio data thermograffig mewn gofod 3D, bydd cadwraethwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd yn gallu gweld yn well gyflwr The Hill House yn ei gyfanrwydd

Yr Athro Bob Stone (Prifysgol Birmingham): Manteisio ar Realiti Rhithwir wrth Ddehongli Data Arolwg System Awtonomaidd am Amgylcheddau Tanddwr

Mae Realiti Rhithwir wedi dod yn arf hanfodol sy’n ategu’r defnydd o systemau awtonomaidd i wneud arolygon o amgylcheddau peryglus a digroeso, y mae llawer ohonynt yn celu arteffactau hanesyddol hirgolledig. Defnyddiwyd data sonar wedi’u trawsnewid yn ddelweddau Realiti Rhithwir, a gasglwyd gan gwch arolygu awtonomaidd yn ystod arolwg o Gronfa Ddŵr yn Ne-orllewin Lloegr, i helpu i ail-greu’n ddigidol y dyffryn fel yr oedd cyn iddo gael ei foddi a’r adeiladweithiau o waith dyn sydd yno o hyd. Roedd yr arolwg o gymorth hefyd i adnabod olion rhwydi torpido o’r Ail Ryfel Byd a osodwyd i amddiffyn cyflenwad dŵr allweddol i Plymouth. Yn ogystal, roedd y trawsnewidiad Realiti Rhithwir yn ddefnyddiol wrth gynllunio rhaglen ddeifio ar gyfer cerbyd wedi’i reoli o bell (ROV) a arweiniodd at ddarganfod olion sfferau hynofedd y rhwydi ac adeiladweithiau “maelwisg”.


Gweithdai

Jon Dollery (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru): GIS – Fu Pethau Erioed Mor Dda!: Sut i Greu, Adeiladu a Defnyddio Amgylchedd GIS gan Ddefnyddio GIS Ffynhonnell Agored a Data Agored

Mae GIS ymhob man. Mae yn ein cartrefi, yn ein ceir a hyd yn oed ar ein ffonau. Mae gan GIS bosibiliadau diderfyn, ac eto gall fod yn ddigon anodd ei defnyddio. Bydd y ddau weithdy hyn yn rhoi cyfle i chi greu eich gweithle GIS eich hun, gan ddefnyddio QGIS, a’i lenwi â mapiau a setiau data sydd ar gael i bawb. Byddwn yn ymdrin â’r hanfodion yn ystod y sesiwn 40-munud gyntaf: sut i lywio, mewnforio data a chreu eich data eich hun. Yn yr ail sesiwn 40-munud edrychir ar ddefnyddio LiDAR i ddelweddu data mewn amgylcheddau 3D. “Gadewch i ni fod yn onest: Fu pethau erioed mor dda!”

Polly Groom (Cadw) a’r tîm Treftadaeth Ddisylw?: Minecraft, Sgrialu, Fortecs-amser Neidio-i-fyny (a Straeon Eraill)

Bydd cyfranogwyr a swyddogion y prosiect yn rhoi cyfle i gynadleddwyr ymgymryd â rhai o’r gweithgareddau rydym ni wedi bod yn eu gwneud, a gallwn i gyd drafod manteision ac anfanteision gweithio ag ystod o gyfryngau digidol ac amrywiaeth o bobl ifanc! Bydd cyfle hefyd i feddwl am ganlyniadau archaeolegol ac effeithiau cymdeithasol a phersonol y prosiect hwn – a’u cofnodi.

Daniel Hunt a Dr Toby Driver (Prosiect CHERISH, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru): Cyflwyniad Ymarferol i Ddronau ac Archaeoleg

Yn ystod y gweithdy naw deg munud hwn rhoddir cyflwyniad i hanfodion hedfan dronau’n ddiogel a phrosesu delweddau ar ôl hediadau at bwrpas arolygu archaeolegol, yng nghwmni dau beilot drôn cymwysedig o Brosiect CHERISH Iwerddon-Cymru, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd.

Gruffydd E. Jones (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a Reina van der Wiel (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru): Casgliad y Werin Cymru – Archif Cof

Menter o eiddo Casgliad y Werin Cymru sy’n cael ei harwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw ‘Archif Cof’. Cyfrif wedi’i guraduro yw hwn, sydd â’r nod o hwyluso gwaith hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementia. Mae’r casgliadau wedi’u rhannu’n themâu a degawdau (o fewn cof pobl fyw), ar sail adborth staff gofal iechyd proffesiynol. Yn y gweithdy hwn rhoddir cyflwyniad byr i wefan Casgliad y Werin Cymru cyn dangos sut orau i ddefnyddio’r adnoddau hyn ar gyfer gwaith hel atgofion. Byddwn hefyd yn eich gwahodd i greu’ch ‘archifau cof’ eich hun – naill ai drwy ddefnyddio’r cynnwys presennol neu drwy uwchlwytho/creu adnoddau newydd.

Liz Rawlings, David Llewellyn ac Angela Jones (Grwpiau Hanes Pum Cymuned Sir Benfro): Rhannu Hanes Lleol yn Ddigidol

Yn ystod cyfnod o lymder pan fo gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau, mae’r prosiect hwn yn rhoi grym i gymunedau lleol ofalu am eu treftadaeth archifol a diwylliannol. Mae’n cyfuno brwdfrydedd lleol â chymorth proffesiynol cost-niwtral i reoli diogelu a chyrchu treftadaeth archifol a hynny’n unol â safonau rhyngwladol. Felly mae’r prosiect yn creu ac yna’n datblygu system ar gyfer cofnodi treftadaeth y pum cymuned yn Sir Benfro drwy ddefnyddio technoleg ddigidol. Nod y prosiect dwyieithog arloesol hwn yw trefnu bod arteffactau, dogfennau, ffotograffau, darganfyddiadau archaeolegol a phapurau ymchwil lleol yn cael eu cofnodi ac ar gael i bawb. Mae dau Archifydd Digidol yn sicrhau agwedd broffesiynol at gatalogio a digido casgliadau, a bod materion hawlfraint yn cael lle blaenllaw.

Wyn Williams (Mapio Cymru): Mapio Cymru yn Cymraeg

Mae’r gweithdy hwn yn cynnwys: 1) Disgrifiad o gyrhaeddiad y prosiect yng nghyd destun grantiau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. 2) Esboniad o bwysigrwydd Data Agored i’r prosiect ac “awyrgylch” ac amgylchfyd y prosiect. 3) Ychydig o hanes a chefndir y prosiect, a beth yw’r rol Rheolwr Prosiect yn ei olygu. Son hefyd am ein partneriaid gwreiddiol Data Agored Caerdydd. 4) Galwad am gymorth o ran gosod enwau Cymraeg cyfredol ac hanesyddol ar ein map o Gymru a welir fan hyn: https://openstreetmap.cymru. Yn debyg i Wicipedia, gall unrhywun gyfrannu i’r map, ac yn wir gall hynny gynnwys cyfranogwyr y gynhadledd.  


Ein noddwyr:

Logo FARO
Logo KOREC
Logo o'r Gronfa Dreftadaeth
Logo Preservica

Tweets