Sylwadau a Chrynodebau 2021

Prif siaradwyr

Louise Barker a Kieran Craven (CHERISH: Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd)

Dronau, Cychod, Laserau a Rhaffau. Astudio Effeithiau Newid Hinsawdd ar Safleoedd a Thirweddau Treftadaeth Arfordirol Cymru ac Iwerddon yn y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol Agos

Bydd Louise Barker o’r Comisiwn Brenhinol a Dr Kieran Craven o Arolwg Daearegol Iwerddon yn cyflwyno CHERISH – Newid Hinsawdd a Threftadaeth Arfordirol, prosiect Iwerddon-Cymru a ariennir gan yr UE. Mae hwn yn dwyn ynghyd dîm amlddisgyblaethol o archaeolegwyr, daearegwyr a gwyddonwyr amgylcheddol sy’n defnyddio methodoleg arolygu ac ymchwilio gyfannol, ar rwydwaith o safleoedd arfordirol ac arforol yng Nghymru ac Iwerddon, i gofnodi a monitro effeithiau newid hinsawdd.

Uwch-ymchwilydd gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac archaeolegydd ar y prosiect CHERISH yw Louise Barker. Mae’n gweithio fel archaeolegydd ers graddio o Brifysgol Newcastle ym 1996. Dechreuodd ei gyrfa mewn archaeoleg gontract cyn ymuno ag English Heritage ym 1999 ac yna’r Comisiwn Brenhinol yn 2004. Arbenigedd Louise yw arolygu a dehongli tirweddau, ac mae hi wedi gweithio ar amrywiaeth eang o safleoedd a thirweddau yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol hyd heddiw.

Geowyddonydd morol a chydlynydd y prosiect CHERISH ar ran Arolwg Daearegol Iwerddon ers mis Gorffennaf 2018 yw Dr Kieran Craven. Graddiodd gyda BSc mewn Geowyddoniaeth a Bioleg Amgylcheddol o Brifysgol St Andrews yn 2006 a chwblhaodd ei PhD mewn Daeareg o Goleg y Drindod Dulyn yn 2013. Pwnc ei ymchwil oedd effeithiau’r codiad yn lefel y môr ar amgylcheddau arfordirol. Mae Kieran wedi gweithio fel darlithydd yng Ngholeg y Drindod Dulyn ac ym Mhrifysgol Maynooth, a chyda rhaglen INFOMAR yr Arolwg Daearegol, yn dadansoddi technolegau acwstig i ddehongli amgylcheddau ar wely’r môr ac o dan yr wyneb.

Drew Ellery (Canolfan RACE ac Ymddiriedolaeth Addysg Ahmed Iqbal Ullah)

Coming in from the Cold’: Defnyddio Rhannu-sgiliau Digidol i Ddemocrateiddio Ymgysylltu Cymunedol a Datblygu Casgliadau

Sut y gall rhannu-sgiliau digidol ddemocrateiddio cydweithredu rhwng cymunedau sydd wedi’u tangynrychioli a sefydliadau sy’n casglu? A all storïa digidol roi i gymunedau lwyfan ar gyfer curaduro ac adrodd eu storïau eu hunain? Yn y papur hwn byddaf yn edrych ar y cwestiynau hyn, sydd wedi cael eu codi gan ein prosiect Coming in from the Cold a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Byddaf yn rhannu ein profiad o ddefnyddio technolegau digidol a’n hymagwedd gyfannol at ymgysylltu cymunedol a datblygu casgliadau. Byddaf hefyd yn trafod heriau megis rheoli ansawdd, moeseg, y RhDDC (GDPR), a hawlfraint, wrth i ni geisio datblygu archif (yn Llyfrgell Ganolog Manceinion) sy’n adlewyrchu’n well natur amrywiol Manceinion Fwyaf.

Drew Ellery yw Swyddog Digidol Canolfan RACE ac Ymddiriedolaeth Addysg Ahmed Iqbal Ullah. Dechreuodd ei yrfa fel Archifydd dan Hyfforddiant gyda rhaglen Sgiliau i’r Dyfodol National Archives. Prif ffocws ei waith yw defnyddio digido a thechnolegau digidol i gynyddu mynediad i’r casgliadau archifol yn Llyfrgell Ganolog Manceinion. Cwblhaodd MA mewn Astudiaethau Amgueddfa ac Oriel ym Mhrifysgol Manceinion yn ddiweddar.

Zhirong Li and Changyu Diao (Sefydliad Ymchwil Treftadaeth Ddiwylliannol, Prifysgol Zhejiang)

Ail-wneud y Gorffennol

Mae ogofdai – adeiladweithiau cymhleth sy’n cynnwys cerfluniau, murluniau, ac arysgrifau – yn un o’r mathau mwyaf heriol o dreftadaeth ddiwylliannol ar gyfer ymarfer technolegau cadwraeth ddigidol ac arddangos digidol. Buom yn cydweithredu ag Academi Ogofdai Yungang i adeiladu’r replica 3D symudol maint-llawn cyntaf o ogofdy yn y byd. Buom yn cydweithredu ag Academi Ogofdai Longmen i greu replicâu 3D maint llawn hynod o fanwl gywir. Mae’r rhain yn cael eu harddangos mewn amgueddfeydd yn China, ac yn tynnu sylw at ddulliau cadwraeth ddigidol newydd a dulliau arloesol o ail-wneud y gorffennol.

Is-ddeoniaid yn y Sefydliad Treftadaeth Ddiwylliannol, Prifysgol Zhejiang, China yw Changyu Diao a Zhirong Li. Maen nhw’n arwain tîm ymchwil a chymwysiadau digidol ers 10 mlynedd. Eu maes ymchwil yw digido treftadaeth ddiwylliannol, gan gynnwys digido 3D, rheoli gwybodaeth, prosesu a dadansoddi gwybodaeth, arddangosfeydd rhithiol, amgueddfeydd digidol, argraffu 3D, ac ati. Mae rhai o’u cyflawniadau ymchwil yn y meysydd hyn yn China ar y lefel uchaf, a chawsant eu cymhwyso’n llwyddiannus at lawer o safleoedd ac amgueddfeydd.

Will Megarry (Prifysgol Queen’s Belfast, Gweithgor Newid Hinsawdd a Threftadaeth Ddiwylliannol ICOMOS)

‘Heritage on the Edge’: Rôl Treftadaeth wrth Gynyddu Uchelgais a Gweithredu Hinsawdd Fyd-eang

Yn y cyflwyniad hwn fe ddisgrifir y prosiect ‘Heritage on the Edge’, menter gydweithredol rhwng ICOMOS, CyArk a Google Arts and Culture. Trafodir amrywiaeth o themâu’n ymwneud â newid hinsawdd a threftadaeth ddiwylliannol, gan gynnwys cyfathrebu a brys, a gwerth technolegau digidol o ran cofnodi treftadaeth mewn perygl. Cyflwynir nodau, amcanion a naratifau’r prosiect cyn canolbwyntio ar rai o’r safleoedd sydd wedi’u cynnwys ynddo, er enghraifft, Adfeilion Kilwa Kisiwani ac Adfeilion Songo Mnara yn Nhansanïa a Pharc Cenedlaethol Rapa Nui. I gloi, crynhoir y ddadansoddeg we ac adborth a gafwyd gan y partneriaid, ac ystyrir effeithiolrwydd prosiectau fel ‘Heritage on the Edge’ o ran symbylu newid ar y lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Mae gan Will Megarry, archaeolegydd tirwedd ac arbenigwr ym maes systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS) a rheoli treftadaeth, fwy na 15 mlynedd o brofiad masnachol ac academaidd. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cymhwyso technolegau geo-ofodol at archaeoleg a rheoli a gwarchod safleoedd treftadaeth ddiwylliannol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu’n ymchwilio i’r croestoriadau rhwng treftadaeth ddiwylliannol a newid hinsawdd, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio treftadaeth ddiwylliannol fel caffaeliad i godi ymwybyddiaeth ac ysgogi gweithredu yn wyneb newid hinsawdd. Mae ef hefyd yn archaeolegydd maes prysur, ac yn gweithio ar hyn o bryd ar brosiect ar dirweddau Neolithig ynysoedd Shetland.

Chao Tayiana (Treftadaeth Ddigidol Affricanaidd)

Dyfodol Hanes: Cryfhau Hanesion Cyhoeddus drwy Ymyriadau Digidol

Yn y sgwrs hon fe ystyriwn y rhan y mae hanes digidol cyhoeddus yn ei chwarae mewn newid persbectifau ar orffennol Affrica. Mae’r ymagweddau hyn at hanes a chof, a arweinir gan y gynulleidfa, yn denu cynulleidfaoedd newydd ac yn creu mannau mawr eu hangen ar gyfer deialog ar wahanol lefelau o gymdeithas. Pa offer, gofynnwn, y mae eu hangen arnom i hybu a chryfhau’r diwylliant hwn o gyfranogiad cyhoeddus mewn sector y bu lleisiau arbenigol a pharadeimau Ewroganolog yn tra-arglwyddiaethu ynddo? Sut y byddwn ni’n mesur effaith y casgliadau a rhyngweithiadau digidol hyn? A sut y gall amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol ddod yn fannau sy’n hwyluso’r trafodaethau hyn?

Arbenigwr mewn treftadaeth ddigidol ac ysgolhaig mewn dyniaethau digidol o Kenya sy’n gweithio ym maes diwylliant a thechnoleg yw Chao Tayina Maina. Hi yw sylfaenydd Treftadaeth Ddigidol Affrica, corff nid-er-elw yn Kenya a sefydlwyd i hybu ymagwedd fwy beirniadol, gyfannol a gwybodaeth-seiliedig at ddylunio a gweithredu datrysiadau digidol o fewn treftadaeth ddiwylliannol Affrica. Mae hi hefyd yn gyd-sylfaenydd y fenter ar-lein, Amgueddfa Gwladychiaeth Brydeinig, ac yn gyd-sylfaenydd y prosiect ‘Open Restitution Africa’. Mae ei gwaith wedi cael sylw yn y New York Times, Reuters, Newyddion y BBC, Celfyddydau’r BBC, Ntv, KBC a 3Sat.

Keith Pendergrass (Ysgol Fusnes Harvard)

Dadl dros Gadwraeth Ddigidol sy’n Amgylcheddol Gynaliadwy

Mae’r holl bethau a wnawn yn cyflym ddiradddio ein hamgylchedd naturiol a rhaid i ni symud i fodelau cynaliadwy ym mhob agwedd ar gymdeithas er mwyn osgoi’r canlyniadau mwyaf trychinebus. Yn y sgwrs hon fe gyflwynir dadl dros newid cyflym, ond meddylgar, i gadwraeth ddigidol gynaliadwy sy’n cymryd i ystyriaeth effeithiau amgylcheddol cylchred-oes lawn y dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu y mae ein hymdrechion cadwraeth ddigidol yn dibynnu arni. Drwy ddod ynghyd fel cymuned fyd-eang o ymarferwyr, gallwn leihau’n sylweddol effeithiau negyddol ein gwaith ond hefyd barhau i ddiogelu ein gwaddol digidol a darparu canlyniadau llwyddiannus ar gyfer ein cymunedau.

Keith Pendergrass yw’r archifydd digidol sy’n gyfrifol am Gasgliadau Arbennig Llyfrgell Baker yn Ysgol Fusnes Harvard ac am ddatblygu a goruchwylio llifoedd gwaith ar gyfer deunyddiau digidol-anedig. Mae ei ymchwil diweddar gyda Walker Sampson, Tessa Walsh, a Laura Alagna yn edrych ar sut y gellir ymgorffori egwyddorion cynaliadwyedd amgylcheddol yn arfer safonol archifau digidol a chadwraeth ddigidol. Mae ganddo MSLIS o Goleg Simmons a BA mewn Hanes o Goleg Amherst.

Diane Zorich (Sefydliad Smithsonian)

Ehangu Dimensiynau Digido: Profiad y Smithsonian

Mae hanes digido casgliadau’r Smithsonian yn ymestyn dros bedwar degawd. Mae ei ymdrechion digido wedi newid yn ddramatig yn ystod y cyfnod hwn mewn ymateb i faint ei ddaliadau, technolegau newydd, ac anghenion cynyddol y cyhoedd. Yn 2009, cafodd Swyddfa Rhaglen Ddigido (DPO) ganolog ei sefydlu i weithio ar draws holl amgueddfeydd y Smithsonian er mwyn gwella ansawdd a chynyddu maint ac effaith y casgliadau wedi’u digido. Yn y cyflwyniad hwn fe drafodir sawl rhaglen yn Swyddfa Rhaglen Ddigido’r Smithsonian a roddwyd ar waith i gwrdd â’r her drwy greu casgliadau wedi’u digido o ansawdd uchel sy’n gynaliadwy, a all gael eu darparu ar y platfformau digidol presennol a rhai newydd, ac y gellir eu hailbwrpasu at anghenion y dyfodol.

Cyfarwyddwr Swyddfa Rhaglen Ddigido Sefydliad Smithsonian lle mae hi’n arwain tîm arbenigol sy’n digido casgliadau’r Smithsonian at ddefnydd y cyhoedd yw Diane Zorich. Mae hi’n goruchwylio masddigido, digido 3D, a gweithgareddau asesu sy’n datblygu ac yn gwella prosesau digido ar draws y Sefydliad. Cyn ymuno â’r Smithsonian, roedd hi’n ymgynghorydd am fwy nag ugain mlynedd ym meysydd rheoli gwybodaeth, digido, a pholisi digidol mewn sefydliadau diwylliannol.


Arolygu Digidol

Xavier Aure (Prifysgol Gorllewin Lloegr)

Sganiwr Arwyneb 3D Awtomataidd Fforddiadwy: Achos ‘Y Gamlas Fawr, Y Dyrchafael’ gan Canaletto

Rydym yn cyflwyno sganiwr 3D fforddiadwy ac awtomataidd sy’n cofnodi strwythur a lliw arwynebau planol gweithiau celf. Mae’r system yn seiliedig ar gyfuniad o ddata ffotogrametrig a Delweddu Trawsnewid Adlewyrchrwydd (RTI) ac mae’n atgynhyrchu delweddau digidol eglur iawn. Drwy gofrestru delweddau RTI yn rhwydd ar y data rhwyll ffotogrametrig, mae amrywiaeth o gynnyrch 2D a 3D yn cael eu cynhyrchu at ddibenion dogfennu a delweddu.  Mae’r dyluniad yn cael ei ddatblygu i gofnodi paentiadau o unrhyw faint yn eu lleoliad gwreiddiol.  Rydym wedi sganio paentiad ar gynfas sy’n dyddio o’r 18fed ganrif gan yr artist o Fenis, Canaletto, i ddangos y canlyniadau cynnar.

Emily La Trobe-Bateman a Bob Johnston (Prifysgol Sheffield) a John G. Roberts (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri)

Cymwysiadau LiDAR ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Ymchwilio i Dirweddau a Chadwraeth yn y Carneddau, Gogledd Eryri

Ymgymerwyd ag arolwg LiDAR cydraniad uchel fel rhan o gynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau. Yn y papur hwn fe grynhoir nodau, gweithredoedd a gweithgareddau’r cynllun a’r canlyniadau a ddisgwylir ar gyfer lleoedd, pobl a chymunedau. Trafodir defnyddio’r data a chymwysiadau’r data, gan roi pwyslais ar yr amgylchedd hanesyddol. Cyflwynir arsylwadau rhagarweiniol mewn cyfuniad â darganfyddiadau ymchwil doethurol lidar-seiliedig diweddar a wnaed ar y cyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Phrifysgol Sheffield. Mae hyn wedi tynnu sylw at bwysigrwydd yr aneddiadau a chaeau cynhanesyddol yn y Carneddau, sydd mewn cyflwr eithriadol o dda.

Busisiwe Chikomborero (Chiko) Ncube Makore (Prifysgol Salford) a Lukman E Mansuri (Athrofa Technoleg Genedlaethol Sardar Vallabhbhai)

Technolegau ‘BIM’ (Modelu Gwybodaeth Adeiladu) a Threftadaeth Drefol yn ninas Surat, India

Yn y papur hwn fe drafodir manteision cymhwyso technolegau digidol, yn enwedig Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM), i helpu i ddiogelu treftadaeth yn ninas hanesyddol Surat yn India.


Data Digidol

Einion Gruffudd (Llyfrygell Genedlaethhol Cymru)

Archif Ddarlledu Genedlaethol (yn y Gymraeg)

Sgwrs i gyflwyno’r Archif Ddarlledu Genedlaethol, yn egluro’r datblygiadau diweddaraf, yr archif enfawr sydd wedi ei roi gan BBC Cymru i’r Llyfrgell Genedlaethol, y gweithgareddau eraill sy’n cynnwys cydweithio ag ITV ac S4C, gwaith digido, catalogio, datblygu metadata, a’r gweithgareddau helaeth o ymgysylltu gyda’r cyhoedd sydd wedi cael eu cynllunio, ond wedi oedi oherwydd effaith y pandemig. Bydd yr Archif Ddarlledu yn agor safleoedd ar draws Cymru i sicrhau bod mynediad gan gymaint o bobl a phosib i’r wledd glyweledol yma, gan gynnwys deunydd na ellir ei roi arlein oherwydd cyfyngiadau hawliau.

Victoria Guzman (Observatorio Políticas Culturales)

Tueddiadau mewn Technolegau Digidol: Hunaniaethau Rhyweddol mewn Data Amgueddfaol

Er eu bod yn ymddangos yn naturiol, mae technolegau, systemau digidol, cronfeydd data ar-lein a hyd yn oed deallusrwydd artiffisial yn cynnwys ein rhagfarnau a’n mannau dall ein hunain. Mae tîm o ymchwilwyr sy’n dylunio methodoleg newydd ar gyfer ystadegau amgueddfeydd yn Chile wedi canfod yr anawsterau sy’n gysylltiedig â chynnwys gwybodaeth am hunaniaeth o ran rhywedd, y tu hwnt i’r ffurf ddeuaidd gwryw/benyw, o ran metrigau aelodau’r cyhoedd sy’n ymweld. Mae cyfyngiadau tebyg yn berthnasol i gronfa ddata ar-lein o wrthrychau a gwaith celf sy’n eiddo i amgueddfeydd pwysicach y wlad. Byddaf yn ymchwilio’n fanwl i’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â data am rywedd yng nghyswllt amgueddfeydd yn Chile gan gydnabod a derbyn hunaniaeth sydd y tu hwnt i’r hyn sydd wedi cael ei lunio i fod “y norm”.

Nicholas Pitt (Prifysgol New South Wales)

Archaeoleg Wrth Fy Ymyl: Archwilio’n Ddaearyddol Gasgliadau o Adroddiadau Llenyddiaeth Lwyd

Mae’r papur hwn yn disgrifio’r materion ymarferol a moesegol sy’n ymwneud â chreu Archaeology Near Me (ANM, http://archaeology-near-me.com/), sef ffordd newydd o archwilio llenyddiaeth lwyd treftadaeth ac archaeoleg o dalaith New South Wales yn Awstralia. Mae ANM yn cyflwyno dolenni at adroddiadau mewn mannau eraill drwy gyfrwng rhyngwyneb map ar-lein. Nid yn unig mae hyn yn golygu bod modd defnyddio’r deunyddiau’n well yn y sector rheoli treftadaeth fasnachol, mae hefyd yn golygu bod modd eu defnyddio’n ehangach yn gyhoeddus ym meysydd addysg a hanes. Fodd bynnag, mae’r prosiect yn wynebu heriau moesegol hefyd, yn arbennig o ran sut gall osgoi atgynhyrchu rhywfaint o’r gwaddol gwladychwyr-trefedigaethol sy’n gynhenid mewn rhai rhannau o waith rheoli treftadaeth yn Awstralia.


Treftadaeth Digidol

Davar Ardalan (IVOW – “lleisiau deallus doethineb”)

Dysgu Treftadaeth i Ddeallusrwydd Artiffisial drwy Storïa

Mae AI yn ail-lunio cymdeithas ac yn newid y ffordd rydym yn byw, dysgu, a gweithio. Yn y sgwrs hon, byddaf yn canolbwyntio ar y gogwyddau hysbys o ran rhywedd mewn AI a setiau data dysgu peiriant, ac yn dangos mor rymus yw storïa o ran helpu peiriannau i ddysgu am rolau arloesol ddoe a heddiw. AI sgyrsiol ifanc o’r enw Sina yw storïwr digidol IVOW, sydd ar hyn o bryd yn brototeip ar Google Assistant. Mae hi wrth ei bodd yn dysgu am hanes dyn ac yna’n rhannu’r storïau hyn â phobl eraill. Hyn sy’n rhoi pwrpas i Sina. Rhowch gynnig arni – gofynnwch i Sina am Shirley Chisholm neu Marie Curie.

Sarah Colley (Prifysgol Caerlŷr)

Gwirionedd, Moeseg a Thechnegau Mynegiannol: Gwneud Fideos Digidol i Gofnodi a Dehongli Archaeoleg a Threftadaeth Ddiwylliannol

Byddaf yn manteisio ar fy mhrofiadau ymarferol fel archaeolegydd proffesiynol a chynhyrchydd fideos digidol i ystyried syniadau am wirionedd, cynrychioli, moeseg, a rôl technegau mynegiannol wrth wneud fideos ar-lein am archaeoleg a threftadaeth at ddibenion ymchwil, addysg, ac estyn-allan cyhoeddus.

Maria Economou  (Amgueddfa Hunterian, Prifysgol Glasgow)

Prosiect EMOTIVE: Teitl i’w gadarnhau

Todd Ogle, David Hicks a Thomas Tucker (Virginia Tech)

Cyrchu’r Gorffennol drwy Realiti Rhithwir: Tirweddau’r Rhyfel Byd Cyntaf

Pe bai’r lle hwn yn gallu siarad, beth fyddai’n ei ddweud wrthym? Y cwestiwn hwn sy’n llywio ymchwil tîm trawsddisgyblaethol o staff a myfyrwyr yn Virginia Tech, sy’n defnyddio amrywiaeth o offer casglu data, o LiDAR i ffotogrametreg, i greu profiadau ymgollol sydd â’r nod o helpu dysgwyr i feithrin dealltwriaeth o brofiadau’r rheiny a oedd yma o’n blaen, yn ogystal â’r prosesau a ddefnyddir gan archaeolegwyr a haneswyr i ddatblygu eu disgrifiadau o dirweddau, digwyddiadau a phobl o’r gorffennol.

Paul Quigley, Jessica Taylor, Alex O’Dea, Kenny Barnes ac Emily Humes (Virginia Tech)

Realiti Estynedig, Hanes Cynhwysol: Defnyddio Technoleg Realiti Estynedig i Archwilio Hanesion Campws Amrywiol

Yn y cyflwyniad hwn mae defnyddio Realiti Estynedig i gyflwyno hanes yn cael ei werthuso’n feirniadol. Fe’i seilir ar brosiect trawsddisgyblaethol sy’n ymchwilio i hanesion cudd Virginia Tech wrth i’r brifysgol nesáu at ei phen-blwydd yn 150 oed. Gan ganolbwyntio ar un o brif gynhyrchion y prosiect – taith Realiti Estynedig gan ddefnyddio penset drwy gartref planhigfa, yr adeilad hynaf ar y campws – ystyriwn y broses ddylunio, gan roi sylw arbennig i ddwy thema: (1) manteision ac anfanteision Realiti Estynedig i’r sawl sy’n ceisio cynnwys a chynulleidfaoedd mwy amrywiol mewn prosiectau treftadaeth ddiwylliannol; (2) y ffordd y mae technolegau penodol yn dylanwadu ar y mathau o storïau a adroddwn.

Amy Shakespeare (Partneriaeth Amgueddfeydd Cernyw)

wAVE Profiadau Ymgollol mewn Amgueddfeydd

Mae’r Prosiect Profiadau Ymgollol mewn Amgueddfeydd wAVE (AVE = Augmented and Virtual Experiences) yn cael ei ariannu gan y Gronfa Cymunedau Arfordirol. Mae’n dwyn ynghyd gymunedau arfordirol, canolfannau treftadaeth ac arbenigwyr academaidd Cernyw ac Ynysoedd Sili i ddatblygu profiadau realiti rhithwir, estynedig ac ymgollol yn y pum cymuned sy’n cymryd rhan: Bude, Looe, St Agnes, Porthcurno ac Ynysoedd Sili. Datblywyd wAVE gan CIOSLEP, Partneriaeth Amgueddfeydd Cernyw, a Phrifysgol Falmouth. Ei nod yw manteisio ar dreftadaeth Cernyw i gefnogi arloesi digidol ac arallgyfeirio economaidd yn y pum cymuned arfordirol drwy hyrwyddo isadeiledd, sgiliau, a threftadaeth Cernyw.


Gweithdai

Davar Ardalan, Chamisa Edmo, Tracy Monteith, Kee Malesky a Nikki McLay (IVOW – “lleisiau deallus doethineb”)

Y Graff Gwybodaeth Frodorol (IKG)

Bydd Davar Ardalan a thîm o arbenigwyr, peirianwyr, ac ymchwilwyr o IVOW (Intelligent Voices of Wisdom) yn cyflwyno gweithdy ar eu Graff Gwybodaeth Frodorol (IKG). Prosiect yw hwn sy’n defnyddio ryseitiau a thraddodiadau o dreftadaeth yr Americanwyr Brodorol i ddangos sut y gall creu strwythur o amgylch storïau ehangu ymresymu a deallusrwydd diwylliannol mewn peiriannau a Deallusrwyddau Artiffisial sgyrsiol. Cyflwynir yr IKG yn llais Sina, chatbot IVOW. Mae Sina, y mae ffurf brototeip ohoni ar gael drwy Google Assistant, yn cynnig storïau a gwybodaeth am bobloedd, diwylliannau, a safbwyntiau sydd wedi’u tan-gynrychioli, gan gynnwys menywod pwysig ym maes gwyddoniaeth. Gofynnwch iddi bwy a ddarganfu’r coronafeirws.
https://www.ivow.ai/uploads/1/0/5/3/105390607/whitepaper_ikg_ivow_1.pdf

Valentina Bachi (Photoconsortium), John Balean (TopFoto), Antonella Fresa (Promoter SRL) a Fred Truyen (KU Leuven)

Achub Hanes Gweledol ar y Cyd

Mae casgliadau o ddeunyddiau analog sy’n disgrifio ein hanes gweledol cyfunol yn dirywio, ac mae taer angen eu hachub ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Os na allwn ni achub yr analog, ni allwn ei ddigideiddio.  Beth fyddwn ni’n ei wneud â’r gwrthrychau gwreiddiol ar ôl eu digideiddio?
Mae diffyg cyllid, gwaith cynllunio anodd a chamau aneglur ar ôl digideiddio, heb unrhyw fudd amlwg, yn golygu bod  trawsnewid i’r digidol yn heriol. Bydd y gweithdy hwn, sy’n awr o hyd, yn trafod y problemau a’r atebion y mae archifau ffotograffig cyhoeddus a phreifat wedi dod ar eu traws wrth ddefnyddio technolegau digidol i gadw a gwella ffotograffau treftadaeth. Mae’r drafodaeth hon wedi’i hanelu at sefydliadau sy’n ymwneud yn arbennig â threftadaeth ddiwylliannol.

Nicolas Gutkowski, Doug Bowman, Todd Ogle a Carlos Augusto Bautista Isaza (Virginia Tech)

Dylunio Profiadau Dulliau Realiti Estynedig (i’w gwisgo ar eich pen) ar gyfer Treftadaeth Ddiwylliannol

Rhaid i safleoedd treftadaeth ddiwylliannol gydbwyso’r angen am ddiogelu hanes a chyflwyno gwybodaeth mewn ffordd ddiddorol er mwyn i bobl ddysgu am eu harwyddocâd. Mae tywyswyr yn gallu bod yn ddefnyddiol o ran cyflwyno’r wybodaeth hon heb dynnu oddi wrth gyd-destun y safle, ond mae’n bosib nad oes gan rai safleoedd yr adnoddau ar gyfer hyn. Mae dyfeisiau Realiti Estynedig (AR) i’w gwisgo ar eich pen yn un ateb posib. Mae’n caniatáu i ymwelwyr gael profiad uniongyrchol o fannau, dehongliadau hanesyddol ac arteffactau o’r byd go iawn ar ffurf estynedig. Rydym yn cynnig golwg gyffredinol ar ein gwaith hyd yma yn dylunio profiadau treftadaeth ddiwylliannol ar gyfer dyfeisiau realiti estynedig i’w gwisgo ar eich pen, a’r gwersi a ddysgwyd o ran tywys y defnyddiwr, creu cynnwys diddorol a chefnogi profiadau unigolion.

Daniel Hunt (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru), Rob Shaw (Y Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesi Iwerddon) a James Barry (Arolwg Daearegol Iwerddon)

‘Droning on’: Cyflwyniad Ymarferol i Ddronau ac Archaeoleg

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf fe fu cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy’n defnyddio dronau (neu UAVs) fel arf ar gyfer arolygu tirweddau a henebion archaeolegol oherwydd eu gallu i gasglu delweddau a data 3D. Ond pa gyfarpar sydd ei angen ar gyfer hediad arolygu llwyddiannus, a pha fathau o ganiatâd y mae’n rhaid i beilotiaid eu cael cyn ystyried lansio eu drôn hyd yn oed? Yn y gweithdy hwn, a arweinir gan ddau beilot UAV a ardystiwyd gan y CAA/IAA, cyflwynir hanfodion defnyddio dronau at bwrpas arolygu archaeolegol a sut i’w defnyddio nhw’n ddiogel, yn gyfrifol ac yn gyfreithlon. Byddwn hefyd yn trafod sut y gellir defnyddio dronau i gasglu, prosesu a storio data, ac yn rhoi sylw i rai o’r heriau a wynebir heddiw gan weithwyr treftadaeth proffesiynol wrth eu defnyddio.

Marinos Ioannides (Prifysgol Technoleg Cyprus, Limassol)

Pa Mor Gymhleth Yw Digideiddio mewn Treftadaeth Ddiwylliannol?

Mae digideiddio asedau Treftadaeth Ddiwylliannol mewn 3D yn broses heriol ac mae nifer o wahanol arbenigwyr amlddisgyblaethol ynghlwm â’r gwaith. Mae gwaith ymchwil blaenorol yn canolbwyntio ar ystyriaethau unigol, fel cydraniad 2D a 3D a gwahanol ffyrdd o gyflwyno metaddata. Y dull delfrydol fyddai sefydlu a chynnal cofnod sy’n fwy manwl a chynhwysfawr, gan gyfuno nodweddion arwyddocaol o ran estheteg, hanes, cymdeithas ac amgylchedd, ymhlith nodweddion eraill, â’r cofnod dimensiynol. Mae digideiddio, ynghyd â manylion technoleg recordio, yn broses gymhleth iawn. Nod y digwyddiad hwn yw trafod arferion gorau, taflu syniadau a chyfnewid gwybodaeth ag arbenigwyr ar draws sectorau ynghylch “cymhlethdod” digideiddio a modelu 3D.  

Tweets