Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y safle, adeilad neu’r ardal y mae gennych ddiddordeb ynddo (er enghraifft y cyfeiriad llawn neu’r cyfeirnod grid cenedlaethol) a’r mathau o wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt (er enghraifft awyrluniau, mapiau, planiau, ac ati). Fe fydd hyn yn ein helpu i ateb mor gyflawn â phosibl.
Rydym yn darparu gwasanaeth dwyieithog.
Ni fyddwn yn pasio eich gwybodaeth ymlaen i drydydd parti.
Bydd CBHC yn prosesu gwybodaeth bersonol cwsmeriaid at ddibenion cyflenwi nwyddau neu wasanaethau. CBHC yw’r ‘rheolydd data’ mewn perthynas â’r data hyn.
Oherwydd y datblygiadau diweddar mewn perthynas â’r Coronafeirws, mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi cau ei Ystafell Ymchwil a’i swyddfeydd i’r cyhoedd nes clywir yn wahanol. Byddwn yn parhau i gynnig gwasanaeth ymholiadau cyfyngedig.
Bydd y gwasanaeth ymholiadau’n cael ei atal o Ddydd Iau 24 Rhagfyr hyd Ddydd Llun 4 Ionawr 2021. Ni fydd ymholiadau ac archebion a dderbynnir yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu cydnabod nac yn cael sylw tan ar ôl y gwyliau Nadolig. Mae’r Llyfrgell ac Ystafell Ymholiadau ar gau o hyd oherwydd y pandemig, ond mae’r staff yn hapus i wneud chwiliadau ar eich rhan. Mae’n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleuster y gall hyn ei achosi.