Mae gan Gymru hanes morwrol cyfoethog, o’r mordeithiau cynhanesyddol cynharaf ar hyd ac ar draws Môr Iwerddon tan heddiw. Mae’r gweithgareddau dynol hyn wedi gadael amrywiaeth eang o ddefnyddiau archaeolegol ar hyd yr arfordir, ym mharth rhynglanw ein traethau a’n morydau, ac o dan y dŵr oddi ar y lan. Mae effeithiau newid hinsawdd, fel mwy o stormydd, yn peri i safleoedd newydd gael eu datgelu neu i safleoedd hysbys ddod i’r golwg eto. Mae’r broses hon yn arbennig o amlwg yn y parth rhynglanw (yr ardal rhwng y marc distyll a’r marc penllanw). Defnyddiwn dechnolegau digidol fel GPS drachywir, laser-sganio, ffotogrametreg ac arolygon UAV (drôn) i gofnodi’r safleoedd hyn ar fyrder pan ymddangosant, ac i fonitro eu cyflwr yn y tymor hir. Rhan allweddol o’r gwaith hwn yw ein rhaglen Archaeoleg o’r Awyr sy’n cynnwys hediadau dros yr arfordir. Yn y cyfamser, mae’r Comisiwn Brenhinol yn arwain y prosiect CHERISH , wedi’i gyllido gan yr UE, sydd wedi bod yn gwneud gwaith pwysig i wella ein dealltwriaeth o effaith newid hinsawdd ar ein treftadaeth ddiwylliannol.
Mae’r Comisiwn Brenhinol hefyd yn gorff y mae’n rhaid ymgynghori ag ef pan wneir cais am drwydded forol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn adolygu cynigion ar gyfer gwaith datblygu ar raddfa fawr, fel ffermydd gwynt alltraeth neu amddiffynfeydd arfordirol, yn ogystal â chynlluniau llai o faint, fel acwafeithrin a gosod angorfeydd. Gall y gwaith hwn fod yn y parth alltraeth (yr ardal y tu hwnt i’r marc distyll) neu yn y parth rhynglanw, neu yn y ddau. Pwrpas ymgynghori â ni yw sicrhau bod archaeoleg arforol Cymru, yn ei holl ffurfiau, yn cael ei hystyried yn briodol a’i diogelu yn ystod y camau cynllunio, adeiladu a datgomisiynu.
Felly mae ein cylch gwaith yn ymestyn yr holl ffordd hyd at ffin y sgafell gyfandirol, yn hytrach na dim ond y terfyn tiriogaethol 12-milltir.
I hybu dealltwriaeth ehangach o’r gwaith hwn, rydyn ni wedi gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i greu ‘Datganiad Ardal’ i gyflwyno pobl i’r ‘Amgylchedd Hanesyddol Morol’ a’r gwahanol fathau o ‘asedau hanesyddol’ sydd ynddi, a fyddai o bosib yn ymddangos yn ystod datblygiad morol. Gallwch lawrlwytho’r Amgylchedd Hanesyddol Morol a Naturiol: Datganiad Ardal Forol yma.
Mae arfordir Cymru yn newid yn barhaus a gall olion archaeolegol, fel y rheiny a ddisgrifiwyd uchod, ddod i’r golwg yn sydyn mewn ardaloedd lle na chawsant eu gweld o’r blaen. Gall yr olion hyn fod o dan y dŵr, ar draethau neu mewn morydau. Mae’r Comisiwn Brenhinol bob amser yn awyddus i glywed am ddarganfyddiadau archaeolegol newydd gan ei bod hi’n amhosibl cadw golwg ar y cyfan o arfordir ac ardal alltraeth Cymru! Os darganfyddwch safle archaeolegol arforol newydd (neu un sydd wedi dod i’r golwg eto) ar arfordir Cymru byddem yn hoffi clywed gennych, felly Cysylltwch â Ni! Os gallwch dynnu llun o’r hyn sydd yno, ar ôl galluogi unrhyw osodiadau lleoliad sydd ar eich camera neu ffôn, byddai’n ein helpu i ddeall yr olion a dod o hyd iddynt eto, a gallwn ychwanegu’r darganfyddiad at ein rhestr o safleoedd arforol yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Gallwch ddysgu mwy am archaeoleg arforol Cymru yn y cyhoeddiadau hyn o eiddo’r Comisiwn Brenhinol, sy’n cynnwys e-lyfrau a chyhoeddiadau di-dâl.