Archaeoleg o’r Awyr

Cychwynnodd y Comisiwn Brenhinol ar waith Archwilio Strategol o’r Awyr yn 1986, gan nodi chwarter canrif o waith arolygu yn 2011. Nod y rhaglen hedfan yw dogfennu safleoedd, henebion a thirluniau sy’n darlunio pobl, tirlun a hanes Cymru. Mae’n ceisio darganfod henebion newydd, cofnodi safleoedd a thirluniau yr ydym yn gwybod amdanyn nhw mewn gwahanol olau a thymhorau, a hedfan dros Henebion Rhestredig Cadw i ddogfennu’u ffurf a’u cyflwr at ddibenion rheoli.

 

Dod o hyd i’r gorffennol o’r awyr – ôl cnydau

Bob blwyddyn, daw archaeolegwyr y Comisiwn Brenhinol o hyd i safleoedd a henebion o’r awyr. Mae henebion archaeolegol di-rif wedi’u colli oherwydd amaethu, dinistrio ac erydu dros y canrifoedd ers iddynt gael eu codi gyntaf. Ar lawr gwlad, fe all nad oes dim i ddangos i ni ble y bu ffermydd cynhanesyddol a filâu Rhufeinig, ond fe all fod olion sylweddol o ffosydd claddedig, sylfeini waliau a nodweddion eraill o’r golwg o dan yr haen uchaf o bridd. Yn ystod hafau sych bydd y cnydau sy’n tyfu ar briddoedd a gaiff eu draenio’n dda ar dir isel yn gallu datgelu siâp a safle’r olion claddedig hynny drwy gyfrwng ôl cnydau.

Bydd ôl cnydau i’w gweld pan fydd y planhigion sy’n tyfu dros nodweddion archaeolegol claddedig, megis hen ffosydd neu dyllau pyst, yn tyfu’n dalach a gwyrddach dros y pridd mwy ffrwythlon a thamp yn y tyllau. Ar y llaw arall, bydd y rhai sy’n tyfu dros waith maen a muriau claddedig yn aeddfedu’n gyflym ac yn troi’n felyn am fod y pridd yn fas a heb fawr o faeth ynddo.

O’r awyr y caiff y gwahaniaethau hynny yn nhyfiant yr haf, a all ymddangos fel pelydr-X o’r cae, eu gweld gliriaf. O dan amodau eithriadol haf sych iawn, mae modd canfod cannoedd ar gannoedd o safleoedd ôl cnydau newydd mewn ychydig fisoedd, a dyna ddangos cyfraniad sylfaenol awyrluniau i’r broses o geisio deall archaeoleg Cymru.

Cofnodi gwrthgloddiau mewn goleuni isel

‘Twmpathau’ â gwair yn tyfu drostynt yw llawer iawn o safleoedd archaeolegol Cymru erbyn hyn. Mae rhai o’r gwrthgloddiau’n amlwg ac wedi’u diogelu’n dda, fel sy’n digwydd yn achos rhai tomenni canoloesol (twmpathau cestyll) neu fryngaerau o’r Oes Haearn. Mae eraill heb eu diogelu cystal o bell ffordd. Yr adeg orau i dynnu lluniau o weddillion gwrthgloddiau yw pan fydd yr heulwen yn isel ac ar ongl sy’n dadlennu patrymau’r safleoedd drwy olau a chysgod. Gall cysgodion hwyrddydd haf gynnig amodau delfrydol, er y gall llystyfiant guddio rhai o’r manylion. Yn y gaeaf, ac yn enwedig ar ôl yr eira cyntaf, bydd y ffaith fod y gwair a’r rhedyn yn isel yn golygu bod modd tynnu lluniau eithriadol o glir o lawer gwrthglawdd ar yr ucheldiroedd.

O dynnu lluniau ohonynt o’r awyr pan fydd hi wedi rhewi’n galed neu o dan haen ysgafn o eira, bydd modd gweld amlinelliadau o wrthgloddiau mân iawn yn gliriach o lawer. Mae nifer y darganfyddiadau newydd a wneir wrth gofnodi gwrthgloddiau ar fryniau a mynyddoedd Cymru yn debyg i nifer yr ôl cnydau a ddarganfyddir ar y tiroedd is yn ystod yr haf.

Cyhoeddiadau Archaeoleg o’r Awyr

Gallwch ddysgu mwy am ein rhaglen Archaeoleg o’r Awyr o’r cyhoeddiadau Comisiwn Brenhinol yma…

Historic Wales from the Air book

Cymru Hanesyddol o’r Awyr

Above Brecknock - An Historic County from the Air

Above Brecknock – An Historic County from the Air

Pembrokeshire - Historic Landscapes from the Air book

Pembrokeshire – Historic Landscapes from the Air

Oriel Ôlion-Cnydau: Cliwiau o dan y Dirwedd

Tweets