CHERISH: Prosiect wedi’i ariannu UE ar Newid Hinsawdd a Threftadaeth yr Arfordir

 

CHERISH Logo (VARIOUS)

Prosiect wedi’i ariannu gan Ewrop yw CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd). Mae’n cael ei arwain gan Comisiwn Brenhinol mewn partneriaeth â’r Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesedd Iwerddon, Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ac Arolwg Daearegol, Iwerddon.

Dechreuodd y prosiect 5 mlynedd hon ar 1 Ionawr 2017 a bydd yn derbyn mwy na €4m o arian yr UE drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru 2014-2020, Echel Flaenoriaethol 2 – Addasiad Cymunedau Môr Iwerddon ac Arfordirol i Newid Hinsawdd.

Prif amcan CHERISH yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd (ddoe, heddiw ac yn y dyfodol) a’r cynnydd mewn stormydd a digwyddiadau tywydd eithafol ar dreftadaeth ddiwylliannol riffiau, ynysoedd a phentiroedd moroedd rhanbarthol Cymru ac Iwerddon. Bydd y prosiect yn targedu bylchau mewn data a gwybodaeth rheoli, gan ddefnyddio technegau arloesol i ddarganfod, asesu, mapio a monitro asedau treftadaeth ar y tir ac o dan y môr. Caiff y canlyniadau eu lledaenu’n eang a datblygir arfer gorau ar gyfer addasu i newidiadau yn yr  hinsawdd yn y dyfodol.

Darllenwch ein Crynodeb Gweithredol i gael gwybod mwy am y prosiect

 

Cadwch mewn cysylltiad â CHERISH:

 

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:

  • Tîm CHERISH: cherish@cbhc.gov.uk

 

IW Group

Tweets