Archaeoleg Arforol

Mae mwy na 8,000 o gofnodion arforol yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Mae’r rhain yn cwmpasu’r ardal o’r marc penllanw i derfyn sgafell gyfandirol Cymru ym Môr Iwerddon a Sianel San Siôr. Mae elfen arforol CHCC yn cynnwys safleoedd a chofnodion ar gyfer drylliadau (llongau ac awyrennau), coedwigoedd boddedig, harbyrau a maglau pysgod. Fel rhan o’i waith, mae’r Comisiwn Brenhinol yn gyfrifol am wella ein dealltwriaeth o’r cofnodion hyn ac am ychwanegu rhai newydd wrth i ddarganfyddiadau newydd gael eu gwneud.

Mae gan Gymru hanes morwrol cyfoethog, o’r mordeithiau cynhanesyddol cynharaf ar hyd ac ar draws Môr Iwerddon tan heddiw. Mae’r gweithgareddau dynol hyn wedi gadael amrywiaeth eang o ddefnyddiau archaeolegol ar hyd yr arfordir, ym mharth rhynglanw ein traethau a’n morydau, ac o dan y dŵr oddi ar y lan. Mae effeithiau newid hinsawdd, fel mwy o stormydd, yn peri i safleoedd newydd gael eu datgelu neu i safleoedd hysbys ddod i’r golwg eto. Mae’r broses hon yn arbennig o amlwg yn y parth rhynglanw (yr ardal rhwng y marc distyll a’r marc penllanw). Defnyddiwn dechnolegau digidol fel GPS drachywir, laser-sganio, ffotogrametreg ac arolygon UAV (drôn) i gofnodi’r safleoedd hyn ar fyrder pan ymddangosant, ac i fonitro eu cyflwr yn y tymor hir. Rhan allweddol o’r gwaith hwn yw ein rhaglen Archaeoleg o’r Awyr sy’n cynnwys hediadau dros yr arfordir. Yn y cyfamser, mae’r Comisiwn Brenhinol yn arwain y prosiect CHERISH , wedi’i gyllido gan yr UE, sydd wedi bod yn gwneud gwaith pwysig i wella ein dealltwriaeth o effaith newid hinsawdd ar ein treftadaeth ddiwylliannol.

Boncyff cynhanesyddol ar draeth Niwgwl, Sir Benfro.
Boncyff cynhanesyddol, 5.4m o hyd, a haenau cysylltiedig o fawn, a ddaeth i’r golwg ar draeth Niwgwl, Sir Benfro, Hydref 2021.

Cynllunio Arforol

Mae’r Comisiwn Brenhinol hefyd yn gorff y mae’n rhaid ymgynghori ag ef pan wneir cais am drwydded forol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn adolygu cynigion ar gyfer gwaith datblygu ar raddfa fawr, fel ffermydd gwynt alltraeth neu amddiffynfeydd arfordirol, yn ogystal â chynlluniau llai o faint, fel acwafeithrin a gosod angorfeydd. Gall y gwaith hwn fod yn y parth alltraeth (yr ardal y tu hwnt i’r marc distyll) neu yn y parth rhynglanw, neu yn y ddau. Pwrpas ymgynghori â ni yw sicrhau bod archaeoleg arforol Cymru, yn ei holl ffurfiau, yn cael ei hystyried yn briodol a’i diogelu yn ystod y camau cynllunio, adeiladu a datgomisiynu.
Felly mae ein cylch gwaith yn ymestyn yr holl ffordd hyd at ffin y sgafell gyfandirol, yn hytrach na dim ond y terfyn tiriogaethol 12-milltir.

Ydych chi wedi darganfod Archaeoleg Arforol?

Mae arfordir Cymru yn newid yn barhaus a gall olion archaeolegol, fel y rheiny a ddisgrifiwyd uchod, ddod i’r golwg yn sydyn mewn ardaloedd lle na chawsant eu gweld o’r blaen. Gall yr olion hyn fod o dan y dŵr, ar draethau neu mewn morydau. Mae’r Comisiwn Brenhinol bob amser yn awyddus i glywed am ddarganfyddiadau archaeolegol newydd gan ei bod hi’n amhosibl cadw golwg ar y cyfan o arfordir ac ardal alltraeth Cymru! Os darganfyddwch safle archaeolegol arforol newydd (neu un sydd wedi dod i’r golwg eto) ar arfordir Cymru byddem yn hoffi clywed gennych, felly Cysylltwch â Ni! Os gallwch dynnu llun o’r hyn sydd yno, ar ôl galluogi unrhyw osodiadau lleoliad sydd ar eich camera neu ffôn, byddai’n ein helpu i ddeall yr olion a dod o hyd iddynt eto, a gallwn ychwanegu’r darganfyddiad at ein rhestr o safleoedd arforol yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddiadau Archaeoleg Arforol

Gallwch ddysgu mwy am archaeoleg arforol Cymru yn y cyhoeddiadau hyn o eiddo’r Comisiwn Brenhinol, sy’n cynnwys e-lyfrau a chyhoeddiadau di-dâl.

Tweets