Rhannu ein gorffennol digigol

1. Ein cynhadledd Gorffennol Digidol

2. Canrif o arolygon

3. Arolygu archaeolegol

4. Cofnodi ein treftadaeth adeiledig

5. Ffotograffiaeth ddigidol a gigapicsel

6. Sganio â laser ar lawr gwlad

7. Ail-greu’r gorffennol

8. Sganio â laser o’r awyr

9. Arolygon gan Gerbydau Awyr Di-griw

10. Ffotogrametreg

11. Geoffiseg archaeolegol

12. System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)

13. Digido

14. Gweithio mewn partneriaeth


1. Ein cynhadledd Gorffennol Digidol

Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi ymrwymo i ddarparu rhaglenni sy’n hyrwyddo arloesi a rhagori wrth ymchwilio i’n treftadaeth ac wrth ei chofnodi, ei harchifo a’i deall. Ers 2009 yr ydym yn cynnal cynhadledd Gorffennol Digidol yn flynyddol i hyrwyddo’r cymwysiadau digidol diweddaraf yn ein maes.

© Jeff Griffiths. Y Llwyfan Golau, Adran Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth, 2018.
© Jeff Griffiths. Miro’r Robot gyda’n cynadleddwr ifancaf, Adran Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth, 2018.

Nod ei chynnal yw arddangos yr arloesi a’r arferion gorau mewn amrywiaeth o dechnolegau, gan gynnwys sganio-â-laser, LiDAR, ffotogrametreg, trin a rheoli data, delweddu, technolegau ymgolli, technolegau amgueddfaol ac adnoddau gwe. Daw ag amrywiol  gynulleidfaoedd ynghyd o ystod eang o gefndiroedd treftadaeth. Dros y deng mlynedd ddiwethaf mae dros 1450 o gynadleddwyr wedi dod i 211 o sgyrsiau a seminarau ac i 71 o sesiynau hyfforddi.
Nôl i ben y dudalen


2. Canrif o arolygon

Ers ei sefydlu ym 1908, mae gan y Comisiwn Brenhinol enw da am ei arbenigedd o ran arolygu, dehongli ac adlunio safleoedd ac adeiladau. Mae hynny wedi cwmpasu defnyddio amrywiaeth o dechnegau i greu cofnodion gweledol – o arolygon metrig â llaw i adluniadau Realiti Rhithwir.

Arolwg manwl o Dre’r Ceiri, a gwblhawyd gan y Comisiwn Brenhinol ym 1956. NPRN 95292
[Cliciwch ar yr NPRN (Prif Rif Cofnod Cenedlaethol, cyfeirnod unigryw Coflein) i ddarganfod mwy am y safle.]
Tynnu lluniau oddi fry o’r cloddio ym mryngaer Pendinas yn y 1930au. NPRN 92236
Defnyddio’r Orsaf Gyflawn gyntaf ar Brosiect y Capeli. NPRN 6938

Yr ydym wedi defnyddio technolegau newydd i geisio datblygu a lledaenu safonau arolygu. Ac er bod y genhedlaeth newydd o Orsafoedd Cyflawn Diadlewyrchydd, Systemau Lleoli Byd-Eang (GPS), sganio-â-laser a LiDAR, ffotograffiaeth gigapicsel a dronau yn awr wedi disodli’r Ddyfais Mesur Electronig gyntaf a brynwyd gennym  ym 1984, mae’n harolygon ni’n dal i roi pwys ar ddeall a dehongli.

Golchlun o Eglwys Gadeiriol Llanelwy gan Mervyn Pritchard, 1912. NPRN 140540

Nôl i ben y dudalen


3. Arolygu archaeolegol

Technolegau Gorsaf Gyflawn Theodolit a System Loeren Lywio Fyd-Eang hynod fanwl-gywir (GNSS) yw offer safonol y Comisiwn Brenhinol wrth wneud arolygon archaeolegol dadansoddol. Mae cofnod tri-dimensiwn manwl-gywir o safle neu dirwedd yn darparu’r data hanfodol ar gyfer dehongli ac yn esgor ar wybodaeth ddefnyddiol am ffurf a chyflwr nodweddion ac yn amlygu’r perthnasoedd cronolegol rhyngddynt.

Arolwg GNSS ym mryngaer Castell Grogwynion. NPRN 303671
Gorsaf Gyflawn yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Sudbrook. NPRN 96627

Defnyddir meddalwedd lluniadu cyfrifiadurol (fel AutoCAD neu Adobe Illustrator) i gynhyrchu’r darluniadau arolygu terfynol sy’n sail i waith dehongli pellach megis adluniadau  ac animeiddiadau.

Cynllun ‘hachure’ deongliadol (uchod) ac adluniad (isod) gan y Comisiwn Brenhinol o safle gwrthglawdd a dau anheddiad gwledig anghyfannedd o’r Oesoedd Canol diweddar wrth odre uwchdiroedd Cymru yng Ngheredigion. NPRN 15220

Nôl i ben y dudalen


4. Cofnodi’n treftadaeth adeiledig

Ymchwilir i amrywiaeth mawr o adeiladau ac adeiladweithiau hanesyddol, er enghraifft, i gofnodi asedau treftadaeth sydd mewn perygl neu i gefnogi enwebiadau am statws Safle Treftadaeth Byd. O gestyll canoloesol i gymhlygion o’r ugeinfed ganrif, mae technolegau digidol yn helpu i ddogfennu a dadansoddi’n treftadaeth adeiledig.

Golwg AutoCAD o wyneb gorllewinol Neuadd y Dref, Dinbych. Mae’n dangos gwahanol gyfnodau’r adeiladu. NPRN 23423

Drwy ddefnyddio Gorsafoedd Cyflawn Theodolit diadlewyrchydd a TheoLT, ynghyd â meddalwedd ffotogywiro megis PhoToPlan, gallwn gynhyrchu cofnodion tri-dimensiwn cywir ar gyfer llu o allbynnau digidol. Dewis arall yw sganio adeilad neu adeiladwaith â laser i ddal manylion llawn yr adeilad a’i amgylchedd. Defnyddir pecynnau cyfrifiadurol megis AutoCAD i gynhyrchu lluniadau a modelau clir sy’n cyfleu llwyth o wybodaeth.

Model torlun 3D Studio Max sy’n dangos adeiladwaith cwt moch Fferm Leighton, Sir Drefaldwyn. NPRN 85873

Nôl i ben y dudalen


5. Ffotograffiaeth ddigidol a gigapicsel

Gan fod ffotograffiaeth yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth gofnodi’r Comisiwn Brenhinol ers amser maith, ffotograffwyr y Comisiwn sydd wedi cynhyrchu rhai o’r delweddau mwyaf eiconig sydd yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Defnyddiwyd ffilm du-a-gwyn i ddechrau, ond ffotograffau digidol yn unig a dynnwyd oddi ar 2006.

Defnyddiwyd goleuni cyfeiriadol i dynnu ffotograff o garreg arysgrifedig liw nos: Penwaun, De Abergwaun, Sir Benfro. NPRN 276068
Manylyn o’r Goeden Jesse, ffenestr ddwyreiniol Eglwys Sant Dyfnog, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. NPRN 165239

Wrth gofnodi safleoedd ac adeiladau, bydd y Comisiwn hefyd yn tynnu ffotograffau gigapicsel 360˚. Bydd hynny’n cynhyrchu sffêr ffotograffig 360˚ drwy gyd-uno cannoedd o luniau unigol manwl a dynnwyd o un pwynt. Mae’n fodd i gofnodi cyd-destun llawn y safle yn ffotograffig fel endid unigol, a gellir ei chwyddo i weld elfennau a manylion unigol mewn cydraniad uchel.

Llun gigapicsel sfferig 360° – wedi’i ddadrolio – o Lyfrgell Castell y Penrhyn. Cafodd ei dynnu yn 2017 a’i gynhyrchu fel rhan o daith ar-lein ar gyfer prosiect Taith i’r Gorffennol. NPRN 16687

Mae modd dwyn amryw o sfferau 360˚ ynghyd hefyd i lunio taith ar-lein hygyrch o amgylch safle, ac ymgorffori ynddi luniau hanesyddol fideos a thestun i greu naratif.







Gallwch archwilio ein teithiau gigapicsel rhyngweithiol ar:

Nôl i ben y dudalen


6. Sganio â laser ar lawr gwlad

Gan fod sganio 3D â laser yn fodd i ddal gwybodaeth hynod fanwl-gywir er mwyn cofnodi tirweddau ac adeiladweithiau mewn cyfnod byr, mae’n arf arolygu hynod effeithlon. Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, mae sganio tir â laser wedi datblygu’n dechneg sefydlog yn y sector treftadaeth, gan gynnwys y Comisiwn Brenhinol sydd â’i alluoedd ei hun i sganio â laser.

Trychiad drwy gwmwl o bwyntiau sganio-â-laser o glochdy Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel-y-Creuddyn. Fe’i crëwyd gan y Comisiwn Brenhinol yn 2019. NPRN 105145

Gan fod sganio-â-laser yn hyblyg a chyflym, gellir ei ddefnyddio ar draws amrywiol dirweddau ac amgylcheddau Cymru. Defnyddir y data sy’n deillio ohono i greu modelau 3D trawiadol sydd nid yn unig yn cynnig adluniadau gweledol trawiadol o dirweddau ac adeiladweithiau ond hefyd yn cynnwys data sy’n fanwl-gywir i’r milimetr. Mae modd eu defnyddio, felly, i ddiogelu yn y cofnod digidol yr asedau treftadaeth sydd fwyaf mewn perygl.

Sgan-â-laser o Abaty Tyndyrn, Dyffryn Gwy, Sir Fynwy. Fe’i cynhyrchwyd i fod yn sail i adluniad Realiti Rhithwir ar gyfer y prosiect Taith i’r Gorffennol. Luminous wnaeth y sganio. NPRN 359
Cwmwl pwyntiau o wyneb Bethania, Capel y Bedyddwyr, Maesteg. Fe’i cynhyrchwyd drwy ei sganio â laser yn 2014 fel rhan o brosiect ‘Anghydffurfio Digidol’. Prifysgol Aberystwyth wnaeth y sganio. NPRN 13780







Gallwch archwilio ein hediadau-trwodd wedi’u laser-sganio o nifer o gapeli Cymru:

Nôl i ben y dudalen


7. Ail-greu’r gorffennol

Er bod y Comisiwn Brenhinol yn adnabyddus ers tro byd am ei adluniadau cywrain o safleoedd ac adeiladau, mae animeiddio cyfrifiadurol, amgylcheddau gemau rhyngweithiol a Realiti Rhithwir wedi ychwanegu dimensiwn hollol newydd at ein gallu i ail-greu’r gorffennol.

‘Avo Penn Bid Pont’ gan Jonah Jones, gynt yng Ngholeg Harlech. Llun llonydd o animeiddiad gan See3D Cyf a’r Comisiwn Brenhinol a ddefnyddiwyd yn y gyfres deledu Hidden Histories. NPRN 409586







Gallwch archwilio ein Profiad Realiti Rhithwir Abaty Tyndyrn, a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Brenhinol ar y cyd â Luminous fel rhan o’r prosiect Taith i’r Gorffennol:

Mae’r technolegau lledaenu newydd hynny’n fodd i bobl ymchwilio i adeiladau fel petaent yn amgueddfeydd rhithwir ar-lein, i ddilyn adluniadau o brosesau sydd wedi hen ddiflannu ac i ymgolli mewn adluniadau o asedau treftadaeth a’u hamgylcheddau.

Maent yn help i’r cyhoedd ym mhedwar ban y byd fagu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad llawnach a chliriach o’u treftadaeth, boed mewn sioeau a darlithiau, arddangosfeydd amgueddfaol neu ar-lein. Gallant hefyd fod yn arf ymchwil pwysig wrth gyfoethogi’n dealltwriaeth a’n dehongliad o safle unigol.

Adluniad o Fwynglawdd Metelau Ystrad Einon, Ceredigion. Llun llonydd o animeiddiad a gynhyrchwyd gan ay-pe Cyf, y Comisiwn Brenhinol ac Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru. Ariannwyd y gwaith gan brosiect PLWM Cyngor Sir Ceredigion. NPRN 33908
Defnyddio lletwad i godi copr tawdd yn y siediau smeltio yng Ngwaith Copr yr Hafod yn Abertawe. Llun llonydd o animeiddiad a gynhyrchwyd gan ThinkPlay Cyf a’r Comisiwn Brenhinol fel rhan o brosiect y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ‘Copr Cymru yn Fyd-Eang ac yn Lleol’. NPRN 34089







Gallwch weld ein hanimeiddiadau ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol:

Nôl i ben y dudalen


8. Sganio â laser o’r awyr

Gan fod modelau a delweddiadau manwl o dirweddau’n werthfawr dros ben wrth gofnodi a dehongli’r amgylchedd hanesyddol, mae’r Comisiwn yn defnyddio sganio-â-laser o’r awyr neu LiDAR (Canfod ac Amrywio Golau o’r Awyr) ers tro’r mileniwm fel rhan hollbwysig o’r broses o ddod o hyd i amryw byd o safleoedd archaeolegol newydd ledled Cymru ac i gyfoethogi’n dealltwriaeth o safleoedd hysbys.

Mewn arolwg LiDAR anelir pelydr laser gweithredol o awyren at y ddaear. Yna, caiff adlewyrchiad y pelydrau’n ôl i’r awyren ei fesur i greu Model Uchder Digidol (DEM) 3D o’r dirwedd islaw. Mae modd dileu o’r data unrhyw goed a llystyfiant a all, gynt, fod wedi atal eitemau archaeolegol rhag cael eu gweld o arolygon traddodiadol o’r awyr.

Delweddiad o lechweddau Ynys Dewi ar sail data LiDAR o’r awyr. Mae’r arlliwiau o lwyd a du yn dangos mor serth yw’r llechweddau, a hefyd y topograffi naturiol a’r nodweddion o wneuthuriad dyn yn y dirwedd. Cynhyrchwyd y LiDAR gan Blue Sky International ar gyfer prosiect CHERISH. NPRN 404188
Llun o Ynys Enlli a grëwyd ar sail data LiDAR o’r awyr. Gan ddefnyddio golau artiffisial o dri chyfeiriad, gwelir topograffi’r ynys yn fanwl dros ben. Amlygir y nodweddion archaeolegol di-rif sydd yno. Cynhyrchwyd y LiDAR gan Blue Sky International ar gyfer prosiect CHERISH. NPRN 402783

Mae ymdriniaeth data LiDAR â Chymru yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn a’r weledigaeth yw ymdrin â’r cyfan ohoni yn ystod y degawd nesaf, ac mae’r Comisiwn yn cyfrannu i gasglu’r data drwy gomisiynu gwneud LiDAR cydraniad-uchel o rai o dirweddau hanesyddol cyfoethocaf Cymru a’r rhai sydd fwyaf mewn perygl.
Nôl i ben y dudalen


9. Arolygon gan Gerbydau Awyr Di-griw

Mae UAVs (Cerbydau Awyr Di-griw) yn cynnig cyfle unigryw i weithwyr proffesiynol byd treftadaeth archwilio a chofnodi henebion a thirweddau o’r awyr. O’u cymharu ag arolygon traddodiadol o’r awyr, gall UAVs dynnu lluniau o uchder is fel bod modd cofnodi’r safleoedd yn fanylach o lawer. Gellir hefyd eu defnyddio i wneud arolygon ffotogrametrig a sganiau-â-laser o nodweddion y dirwedd i esgor ar ddata y gellir eu defnyddio i greu modelau 3D at ddibenion ymchwilio ac estyn-allan. 

Hedfan yr UAV yn Nhan-y-bwlch. Yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) sy’n dyfarnu tystysgrif y Caniatâd i Gyflawni Gweithrediadau Masnachol (PfCO) sy’n sicrhau bodloni gofynion penodol gweithredu dronau’n ddiogel yn y DU.
Awyrlun 4k uchder-isel o Fryngaer Pendinas a Chofeb Wellington. Fe’i tynnwyd o UAV ym mis Rhagfyr 2017. NPRN 92236

Nôl i ben y dudalen


10. Ffotogrametreg

Defnyddir llawer ar dechneg ffotogrametreg ledled y sector treftadaeth i gofnodi gwrthrychau mewn 3D. Bydd hi’n defnyddio gorgyffyrddiad ffotograffau ac egwyddorion rhyngdoriad pelydrau goleuni i esgor ar gwmwl pwyntiau 3D o bwnc at ddibenion monitro ac ymchwilio. Mae ei rhychwant yn aruthrol am fod modd ei defnyddio i gofnodi popeth – o arteffactau unigol i dirweddau cyfan. Gan fod modd defnyddio ffotograffau i greu cynhyrchion 3D, mae poblogrwydd y dechneg wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn mae’n ddull creiddiol ym myd arolygu archaeolegol.

Cwmwl 3D dwys o bwyntiau o gaer bentir Gwersyll Caer-fai, Sir Benfro. Mae pob sgwâr glas yn cynrychioli ffotograff gorgyffyrddol unigol a ddefnyddiwyd yn yr adluniad 3D o’r model.
Llun o ragfuriau mawr caer bentir Gwersyll Caer-fai, Sir Benfro. Mae’n dangos y ‘clymbwyntiau’ unigol a gysylltwyd rhwng y ffotograffau gorgyffyrddol a ddefnyddiwyd i adlunio’r model 3D.
Cwmwl 3D dwys o bwyntiau o gaer bentir Castell Bach, Ceredigion. NPRN 93914







Gallwch weld ein modelau 3D ar dudalen Sketchfab y Comisiwn Brenhinol.

Nôl i ben y dudalen


11. Geoffiseg archaeolegol

Mae geoffiseg archaeolegol yn dal i fod yn un o’r ychydig ffyrdd anymwthiol i weld ‘dan bridd’ safle archaeolegol yn fanwl-gywir, a thrwyddi ceir cynllun digidedig o ffosydd, cloddiau, tyllau pyst ac adeiladweithiau sydd ynghladd. Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi defnyddio gwaith geoffiseg dan gontract ar brosiectau sy’n amrywio o’r ymchwiliad i fila Rufeinig Abermagwr ac asesiadau o olion cnydau sydd newydd eu darganfod, i arolygon o gaerau pentir y glannau ar gyfer prosiect CHERISH – un a ariannwyd gan yr UE. Gellir defnyddio gwahanol dechnegau yn ôl cyflwr y tir, daeareg y fan, a natur yr archaeoleg sy’n cael ei harolygu.

Awyrlun o safle olion cnydau Fach Farm a dynnwyd yn ystod sychdwr 2018. Lloc amddiffynedig cynhanesyddol mawr a chymhleth yn Abersoch, Gwynedd. NPRN 423304
Arolwg magnetometregol a dehongliad o safle olion cnydau Fach Farm gan SUMO Services Cyf ar gyfer Prosiect CHERISH 2019.

Magnetometreg yw un o’r technegau arolygu mwyaf cyffredin. Bydd gradiomedr magnetig yn mesur y newid cymharol ym maes magnetig y ddaear a achosir gan dderbynnedd magnetig amrywiol y priddoedd gwaelodol a nodweddion megis ffosydd sydd wedi’u llenwi, darnau tir sydd wedi’u llosgi, neu aelwydydd. Mae synwyryddion llaw safonol wedi’u defnyddio ers tro byd i arolygu’r safleoedd llai o faint, a bellach defnyddir systemau amlsynhwyrydd trawiadol i arolygu darnau helaethach o dir gan sicrhau cynnydd yn y cydraniad a chyflymder casglu’r data. Mae Gwrthedd a Radar sy’n Treiddio i’r Tir yn ddulliau gwahanol o wneud rhagolygon geoffisegol ac yn arbennig o addas wrth arolygu adeiladau ac adeiladweithiau sydd ynghladd.

Nôl i ben y dudalen


12. System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)

Mae System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) Comisiwn Brenhinol yn ganolog i lawer o’n gweithgareddau. Mae’n fodd i ni fapio a chwilio’n cofnodion mewn maes penodol, i astudio lluniau LiDAR i weld a oes yno safleoedd archaeolegol sydd heb eu cofnodi, ac i ymgynghori â mapiau hanesyddol i olrhain newidiadau yn y dirwedd a chreu terfynau hanesyddol digidol manwl-gywir. Bellach, mae cymhorthion darganfod ac iddynt geogyfeiriadau yn peri bod ein casgliad o awyrluniau hanesyddol yn haws ei ddefnyddio, a bydd y polygoneiddio ar ein data’n sicrhau mwy o fanwl-gywirdeb lleoliadol.

Mae gwaith y Comisiwn Brenhinol o gofnodi safleoedd archaeolegol a hanesyddol yn estyn hyd at derfyn môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig o amgylch glannau Cymru. Yma, cyfunwyd data’r Cofnod Henebion Cenedlaethol a bathymetreg i ddangos safleoedd y nifer rhyfeddol o longddrylliadau sydd ar hyd arfordir Cymru.
Drwy gyfuno delweddau-o’r-awyr modern a mapiau hanesyddol gallwn greu darlun hynod ddiddorol o’r newid sydd wedi bod yn natur ein hamgylcheddau trefol.

Nôl i ben y dudalen


13. Digido

Mae Uned Ddigido y Comisiwn Brenhinol yn darparu sganiau cydraniad-uchel o ddeunydd archifol i’n cyhoeddiadau, ein harddangosfeydd, ein darlithiau a’n harchif digidol. Mae’r gwasanaeth hefyd ar gael i’r cyhoedd a threfnir i ddeunydd digidedig yn fformat y we fod ar gael yn uniongyrchol i’r cyhoedd drwy ein system mynediad-ar-lein, Coflein.

Esgorodd y cloddio yn 2011 ar Fila Frythonig-Rufeinig Abermagwr ar ddarganfyddiad unigryw, sef darnau o fowlen wydr. Darlunnir un ohonynt uchod. Defnyddiwyd technegau sganio manwl i lunio cofnod o’r darganfyddiadau, ac amlygir manylion hardd y torri a fu ar ffasedau’r gwydr. NPRN 40531
Indentur a roddwyd ar fenthyg gan yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig i’r Comisiwn Brenhinol i’w ddiogelu drwy ei sganio’n ddigidol. Mae’n dyddio o 1731 ac yn ymwneud â Maesyronnen, y capel Anghydffurfiol hynaf sy’n goroesi yng Nghymru (o’r 1690au). NPRN 8328

Mae gan y Comisiwn raglen gadwraeth sefydledig o ddigido’r eitemau sydd mewn perygl yn archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, yn enwedig y casgliad sylweddol o ffotograffau, fel bod modd lledaenu a diogelu lluniau hanesyddol.
Nôl i ben y dudalen


14. Gweithio mewn partneriaeth

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn gweithio gyda llawer o bartneriaid i ddatblygu ei ddealltwriaeth a’i arbenigedd ym maes technolegau digidol ac i rannu ei sgiliau â grwpiau a chyrff eraill.

Ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, yr Arolwg Daearegol o Iwerddon a’r Rhaglen Ddarganfod, yr ydym wrthi’n arwain prosiect CHERISH sydd wedi’i ariannu gan yr UE ac yn defnyddio dronau a sganio-â-laser i greu modelau 3D manwl-gywir y gellir eu defnyddio i ganfod newidiadau yn yr asedau treftadaeth yr effeithir arnynt gan y newid yn yr hinsawdd. Yn ddiweddar, yr ydym wedi cwblhau prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ynghylch rhyfel y llongau-U ar hyd glannau Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan ddod â’r data a gasglwyd o arolygon morol Prifysgol Bangor i sylw cynulleidfa ehangach.

Model o weddillion HMS Derbent wedi’i greu o bwyntiau data ecoseinydd amlbelydr (MBES). Delwedd a gynhyrchwyd gan SEACAMS2, Prifysgol Bangor ar gyfer Prosiect y Llongau-U, 2018. NPRN 272125

Crëwyd amgueddfa rithwir ynghylch Anghydffurfiaeth yng Nghymru mewn partneriaeth ag Addoldai Cymru. Ariannodd yr AHRC brosiect ar y cyd â Phrifysgol Bangor a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd i ddefnyddio disgrifiadau ymwelwyr o’r Cyfandir â Chymru yn y ddeunawfed ganrif a’r un ddilynol i greu cyfres o adnoddau digidol, gan gynnwys ymweliad Realiti Rhithwir ag Abaty Tyndyrn. Bydd prosiect newydd, a ariannir gan Sefydliad Lloyd’s Register, yn cysylltu’n cofnodion ni o longddrylliadau â’r wybodaeth ddigidedig am golledion, gan roi’r defnyddwyr mewn cysylltiad â’r deunyddiau ffynhonnell y mae’n dealltwriaeth ni o’r gorffennol wedi’i hadeiladu arni.

Nôl i ben y dudalen

Tweets