Mae gan y Comisiwn Brenhinol staff parhaol o ryw bymtheg ar hugain o bobl sy’n gweithio’n amser-llawn neu’n rhan-amser yn ei swyddfeydd yn Aberystwyth. Dros flynyddoedd lawer, mae’r Comisiwn wedi datblygu gweithlu medrus a helaeth ei gymwysterau ac wedi tyfu’n ganolfan gydnabyddedig o ragoriaeth ym meysydd treftadaeth. Bydd y mwyafrif o’r staff yn cyflawni rolau arbenigol – er enghraifft, ym meysydd gweinyddu archifau, archaeoleg, ffotograffiaeth, graffigwaith, addysg, hanes pensaernïol a rheoli gwybodaeth. Ysgrifennydd (Prif Weithredwr) y Comisiwn, a’r Cadeirydd a’r Comisiynwyr, sy’n llywio’u gwaith.
Caiff unrhyw swyddi gwag eu hysbysebu yn y wasg ac ar y wefan hon, gan gynnwys ambell gyfle i gael apwyntiad dros dro. Mae’r Comisiwn hefyd yn ceisio cynnig profiad gwaith, lleoliadau hyfforddi a chyfleoedd iwirfoddolwyr.
Cyfle cyfartal
Rydym ni’n gyflogwr cyfle cyfartal a chredwn y dylai pawb gael yr un cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a dyrchafiad ar sail eu galluoedd, eu cymwysterau a’u haddasrwydd ar gyfer y swydd.
Mae cyfle cyfartal wedi’i wreiddio yn ein polisïau a gweithdrefnau cyflogaeth, gan gynnwys recriwtio, hyfforddi, dyrchafu, rheoli perfformiad, sefydlu a chyfnod prawf.
Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw ymgeisydd am swydd gyda’r Comisiwn nac unrhyw aelod staff yn cael triniaeth lai ffafriol oherwydd eu hoedran, anabledd, rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol, beichiogrwydd neu gyfrifoldebau gofalu, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, neu gan eu bod nhw’n gweithio’n rhan-amser.
Partneriaeth gymdeithasol
Yn y Comisiwn Brenhinol, mae’r berthynas rhwng y cyflogwr a’r undeb llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni’n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr a’r undeb llafur yn cydweithio.
Ein hundeb llafur cydnabyddedig yw Prospect.
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i’r berthynas hon. Mae’r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundeb yn gweithio gyda rheolwyr y Comisiwn Brenhinol ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol.
Mae ein cynrychiolwyr undeb llafur yn gweithio i roi cyfle i’w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a’u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau I bawb.
Mae gan Gomisiwn Brenhinol hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda’r undeb llafur. Rydyn ni’n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni’n eich cefnogi i ymuno â’r undeb llafur, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
I gael gwybod rhagor, cysylltwch â ni.