Mae gwirfoddolwyr wedi cyfrannu llawer i waith y Comisiwn Brenhinol dros y blynyddoedd drwy i ymchwilwyr unigol gyfrannu eu darganfyddion i brosiectau’r Comisiwn Brenhinol – er enghraifft, drwy ein helpu i gofnodi miloedd o gapeli yng Nghymru.
Byddwn ni hefyd yn croesawu gwirfoddolwyr i’n swyddfeydd yn Aberystwyth. Gallent fod yn dymuno magu profiad mewn meysydd gwaith penodol neu â diddordebau cyffredinol yr hoffent fynd ar eu trywydd ym myd archaeoleg, pensaernïaeth, ymchwil hanesyddol a rheoli archifau. Gall cyfle godi i wneud gwaith fel ateb ymholiadau darllenwyr, catalogio casgliadau archifol, arolygu maes, darlunio neu gyhoeddi. Gall lleoliadau hyfforddi noddedig a chyfleoedd phrofiad gwaith fod ar gael o dro i dro. Os hoffech chi wybod rhagor, Cysylltwch â Ni.