Manteision gweithio i’r Comisiwn

Gwyliau blynyddol• 31 diwrnod o wyliau blynyddol
• 2 ddiwrnod braint
• 8 gŵyl gyhoeddus

Caiff gwyliau blynyddol a hawl i wyliau cyhoeddus a braint eu cyfrifo ar sail pro-rata yn achos staff rhan-amser.
Oriau gwaithEin horiau gwaith wythnosol safonol yw 37 awr heb gynnwys amser cinio ond yn cynnwys “awr llesiant” (pro-rata yn achos staff rhan-amser) i’w threulio’n gwneud rhywbeth sy’n cyfrannu at eich iechyd a llesiant.
Cynllun hyblygGweithredwn gynllun oriau gwaith hyblyg sydd ar agor i’r holl staff. Mae hwn yn cynnwys amserau dechrau a gorffen hyblyg (o fewn “oriau creiddiol” penodol) rhwng 7am a 7pm.
PensiwnCynigiwn gyfle i ymgeiswyr llwyddiannus ymuno â threfniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae’r rhain yn cynnwys cyfraniadau hael gan y cyflogwr, cyfraddau cyfrannu sydd ymhlith y rhai isaf yn y sector cyhoeddus, a phensiwn gwrth-chwyddiant diogel am oes heb yr ansicrwydd sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau. Gellir cael mwy o wybodaeth am Bensiynau Gwasanaeth Sifil yn www.civilservice-pensions.gov.uk
LleoliadMae swyddfa’r Comisiwn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth sy’n cynnig lleoliad ac amgylchedd gwaith ardderchog gan gynnwys:

• Parcio am ddim ar y safle
• Ffreutur wedi’i sybsideiddio
• Gostyngiad i staff yn siop y Llyfrgell Genedlaethol.
Trefniadau gwaith COVID-19O dan amgylchiadau arferol bydd ein holl staff yn gweithio o’n swyddfa yn Aberystwyth. Ond ar hyn o bryd maent hwy’n cydymffurfio â chais Llywodraeth Cymru i weithio o bell pan allant er mwyn lleihau i’r eithaf y perygl oddi wrth y pandemig Covid. Trefniant dros dro yw hwn ac nid yw’n golygu bod lleoliad ein gweithle dynodedig wedi newid.

Adolygwn y sefyllfa’n rheolaidd a phan gaiff y cyfyngiadau eu llacio, gan alluogi’r staff i ddychwelyd i weithio yn y swyddfa fel ag o’r blaen, byddwn yn edrych ar y posibilrwydd o newid ein trefniadau presennol a rhoi cyfle i staff wneud cais am ffordd fwy hyblyg o weithio. Gallai hyn fod ar ffurf ‘gweithio clyfar’, lle mae staff yn gweithio rhai oriau yn y swyddfa a rhai oriau o bell, neu’n gweithio gartref yn bennaf.

Byddwch cystal â nodi bod pob rôl yn y Comisiwn wedi’i lleoli yn y DU ac nid dramor ac fel hyn y bydd hi yn y dyfodol.
Hyfforddi a datblyguDarparwn gyfleoedd hyfforddi a datblygu ardderchog i’r holl staff a hyfforddiant sefydlu cynhwysfawr i staff newydd. Ar hyn o bryd cynigiwn ddosbarthiadau Cymraeg wythnosol i staff sy’n awyddus i wella eu sgiliau yn yr iaith.

Gall staff wneud cais am hyd at 5 diwrnod o Absenoldeb Arbennig (pro rata) y flwyddyn i ymgymryd â gweithgareddau gwirfoddoli.
Arferion gwaith teulu-gyfeillgarCynigiwn amrywiaeth o arferion gwaith teulu-gyfeillgar gan gynnwys cynlluniau absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant a rennir, a mabwysiadu uwch.
Teithio a chynhaliaethByddwn yn talu treuliau (teithio a chynhaliaeth) i staff am waith a wnânt y tu allan i’r swyddfa.
Amser yn lle cyflogGall staff hawlio “amser yn lle cyflog” am waith a wnânt y tu allan i’r swyddfa (e.e. gwaith maes neu fynychu digwyddiadau), a thelir amser a hanner/amser dwbl am weithio ar y penwythnos.
DilladAr gyfer rolau sy’n cynnwys gwaith maes, darparwn ddillad awyr agored/diogelwch.
Manteision iechydCynigiwn:

• Profion llygaid am ddim
• Cyfraniad hael tuag at sbectol newydd os oes angen sbectol arnoch i wneud eich gwaith
• Mynediad am ddim i’n Rhaglen Cynorthwyo Staff sy’n cynnwys gwasanaeth cynghori staff
• Yr hawl i fod yn aelod o Ganolfan Chwaraeon Aberystwyth am bris is
• Yr hawl i fod yn aelod o Gyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC), sy’n cynnig chwaraeon, cynigion hamdden, buddion i aelodau, a disgowntiau mewn siopau.
Partneriaeth gymdeithasolMae gennym undeb llafur gweithgar (Prospect) sy’n hybu ac yn gwarchod buddiannau ei aelodau. Mae’r berthynas rhyngom ni fel cyflogwr a’r undeb wedi’i seilio ar bartneriaeth gymdeithasol.

Tweets