Nod Angylion Treftadaeth Cymru yw cydnabod pobl sy’n gwneud gwahaniaeth i dreftadaeth Cymru mewn gwahanol ffyrdd: drwy godi arian ac adfer adeiladau hanesyddol, drwy gymhwyso sgiliau adeiladu traddodiadol at brosiectau, drwy hyfforddi ac ysbrydoli pobl eraill, drwy’r ffyrdd maen nhw’n dod â lleoedd hanesyddol yn fyw.
Ariennir y Gwobrau gan Sefydliad Andrew Lloyd Webber a chawsant eu sefydlu oherwydd angerdd personol Andrew dros adeiladau hanesyddol a’i edmygedd o’r rheiny sy’n eu hachub a’u hadfer.
“Rydw i’n canmol pawb sy’n cystadlu am y Gwobrau Angel ac sy’n dangos i’r byd y gwaith bendigedig maen nhw’n ei wneud i achub a diogelu ein treftadaeth. Rydw i’n arbennig o falch bod Cymru’n cymryd rhan eleni gan fod hyn yn golygu bod y Gwobrau Angel yn cael eu cynnal ar hyd y DU am y tro cyntaf. Mae’r Gwobrau Angel yn tynnu sylw at yr unigolion a grwpiau arbennig hynny sy’n mynd i’r afael ag adeiladau a safleoedd hanesyddol anodd sydd mewn perygl ac sy’n ysbrydoli pobl eraill i ymuno â nhw. Rydw i wrth fy modd y byddwn ni’n cyflwyno gwobr arbennig yn y seremoni yn Llundain i’r enillydd cyffredinol o’r holl gategorïau Gwobrau Angel yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru.” Andrew Lloyd Webber
Mae Gwobrau Angylion Treftadaeth Cymru yng ngofal grŵp llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o nifer o sefydliadau treftadaeth Cymreig blaenllaw.
Meddai’r prif feirniad Farwnes Andrews, ‘Roedd gan y beirniaid waith anodd iawn yn dewis tri yn unig o bob categori oherwydd yr angerdd, medrusrwydd ac ymrwymiad a ddangoswyd gan bawb a enwebwyd ar gyfer gwobr’.
Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru – Enillwyr 2018
Bydd enw’r enillydd cyffredinol o’r pedair cenedl (Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon) yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad mawreddog yn Llundain ar 27 Tachwedd 2018.
Mae Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru yng ngofal grŵp llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o nifer o sefydliadau Cymreig, gan gynnwys Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, Cyngor Archaeoleg Prydain Cymru, y Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol, Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru, Glandŵr Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n gweinyddu’r Gwobrau yng Nghymru ar ran y Grŵp Llywio Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru.