Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru 2018 – Pleidlais y cyhoedd

 

Pwrpas y Gwobrau Angel Treftadaeth yw dathlu ymdrechion pobl sy’n mynd ati i hybu eu treftadaeth leol. Sefydlwyd y gwobrau gan Andrew Lloyd Webber yn 2011 ac maen nhw’n cael eu cyd-ariannu gan Sefydliad Andrew Lloyd Webber. Mae Cymru’n cymryd rhan am y tro cyntaf eleni, ac mae ein beirniaid wedi llunio rhestr fer o bymtheg unigolyn neu brosiect mewn pum categori.

Bydd y beirniaid yn dewis enillydd ym mhob categori, a bydd y rhain yn mynd ymlaen i seremoni derfynol yn Llundain i gystadlu yn erbyn y prosiectau buddugol o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn ogystal, rydym yn gwahodd y cyhoedd i roi gwybod i ni ba un o’r prosiectau ar y rhestr fer sydd yn eu barn nhw yn haeddu gwobr fwyaf.

Gallwch weld manylion y pymtheg prosiect isod. Yna gallwch fynd i’r dudalen bleidleisio lle gallwch ddewis y prosiect rydych chi’n dymuno pleidleisio drosto (cyfyngir pleidleisio i un bleidlais yr unigolyn).

Bydd y bleidlais yn cau am ganol nos ar 4 Tachwedd 2018 a chyhoeddir enw enillydd pleidlais y cyhoedd yn seremoni Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru ar 8 Tachwedd 2018 yn Neuadd Fawr Castell Caerffili. Bydd manylion pleidlais y cyhoedd a’r enillwyr eraill yn cael eu postio ar y dudalen hon ar ôl y digwyddiad.

 

Pleidleisiwch Nawr

 

 

Pobl ifanc

Bydd y wobr hon yn cydnabod cyfraniad pobl ifanc hyd at 25 oed i brosiectau treftadaeth.

  • The Armistice Cantata/Cantata’r Cadoediad: gwaith cerddorol mewn saith symudiad a gyfansoddwyd gan blant Ysgol Gynradd Thornhill, Caerdydd, ac a berfformiwyd gan gôr yr ysgol i goffáu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd y geiriau eu hysgrifennu gan y plant ar ôl gwneud ymchwil yn Archifau Morgannwg ac mae’r themâu’n cynnwys rôl menywod yn y rhyfel, y berthynas rhwng meibion a’u mamau, rôl staff uwch y lluoedd arfog, a’r dathliadau ar ddiwedd y rhyfel.
  • Treftadaeth Ddisylw: mae grŵp o bobl ifanc, Panel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion, yn ymchwilio i hanes Llawrcwmbach, ffermdy ucheldirol traddodiadol nodedig, ond heb ei gofnodi, sy’n gysylltiedig â mwynglawdd plwm ac arian. Yn ystafelloedd yr adeilad, a oedd o bosibl yn dŷ rheolwr y mwynglawdd ar un adeg, roedd llawer o wrthrychau pob dydd yn dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd y ffermwr a’i deulu wedi bod yn eu defnyddio. Mae’r prosiect wedi rhoi cyfle i’r bobl ifanc gofnodi’r adeilad, dadorchuddio cafn golchi mwyn y mwynglawdd, a churaduro arteffactau.
  • Ysgol Dyffryn Aman yn Cofio, prosiect ymchwil i hanes y plac yn neuadd yr ysgol sy’n anrhydeddu cyn-ddisgyblion a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf neu a fu’n gwasanaethu ynddo. Bu’r disgyblion yn gwneud ymchwil dogfennol i gyfrifiadau, archifau papurau newydd a chofnodion milwrol, ac yn holi perthnasau cyn-ddisgyblion er mwyn creu llyfryn ac arddangosfa ar gyfer y llyfrgell leol a chyfrannu at y prosiect Cofeb Ryfel Gorllewin Cymru ehangach.

 

Prentis / crefftwr(aig)

Bydd y wobr hon yn cydnabod gwirfoddolwr neu unigolyn proffesiynol sydd wedi cymhwyso medrau crefft a fu’n allweddol wrth atgyweirio neu achub safle hanesyddol.

  • Rachael Cochrane (prentis) a Liam Davies (cyn-brentis, bellach yn grefftwr amser-llawn) gyda’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd am eu gwaith ar adfer Traphont Ddŵr Brynich dros Afon Wysg ar gamlas Mynwy a Brycheiniog, adeiladwaith rhestredig Gradd 2* a Heneb Gofrestredig.
  • Matthew Roberts a Brett Burnell, Prentisiaid Saer Maen Traddodiadol, am eu gwaith yn Sain Ffagan ar adeiladu Llys Llywelyn, neuadd ganoloesol sydd wedi’i hailgreu ar sail olion Llys Rhosyr, neuadd a gododd Llywelyn Fawr ger Niwbwrch ar Ynys Môn tua 1237; bydd y palas canoloesol replica hwn yn cael ei ddefnyddio gan blant ysgol ar gyfer cysgu drosodd a gweithgareddau dysgu.
  • Hugh Haley, cadwraethwr dodrefn, am ei waith ar adfer y dodrefn yn Yr Ysgwrn, gan gynnwys casgliad y bardd rhyfel Hedd Wyn o gadeiriau barddol, yn eu plith Y Gadair Ddu, un o gelfi enwocaf Cymru, a enwyd felly gan iddi gael ei dyfarnu i’r bardd yn Eisteddfod 1917 ar ôl iddo gael ei ladd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele.

 

 

Ymchwil / cyflwyno

Bydd y wobr hon yn cydnabod y rheiny sydd wedi helpu pobl i ddeall a mwynhau prosiect treftadaeth. Mae ar agor i bawb, boed hwy’n wirfoddolwyr, pobl broffesiynol, unigolion neu grwpiau.

  • Margaret Dunn a Darganfod Hen Dai Cymreig: Margaret Dunn, cyn arolygydd ysgolion, yw codwr arian a threfnydd diflino grŵp o 80 o wirfoddolwyr sydd wedi astudio mwy na 120 o dai canoloesol diweddar yng Ngogledd Cymru, gan helpu i drawsnewid ein gwybodaeth o dai canoloesol Cymreig a dangos i lawer o dai lloriog cynnar yn Eryri gael eu codi yn yr 16eg ganrif – yn gynharach nag a feddyliwyd – a’u bod yn fwy soffistigedig, mewn rhai ffyrdd, nag aneddiadau Seisnig o’r un cyfnod.
  • Barry Eveleigh (Byd Coll y Capel Cymreig), bydd yn gweithio gyda phobl sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol yn ystod y dydd ac yn defnyddio ei fedrau ffotograffig gyda’r nos ac ar y penwythnosau i gofnodi capeli hanesyddol sydd mewn perygl o golli eu nodweddion mewnol wrth gael eu defnyddio at bwrpasau eraill. Mae ef wedi gwneud cyfraniad enfawr i’n gwybodaeth o gapeli hanesyddol Cymru drwy ymchwilio i ryw 5,000 o gapeli hyd yn hyn.
  • Catrin Stevens ac Archif Menywod Cymru: am greu archif gyfoethog o eitemau’n ymwneud â hanes menywod, gan gynnwys prosiect hanes llafar, Lleisiau o Lawr y Ffatri, sy’n cofnodi profiadau menywod a oedd yn gweithio yn y diwydiannau gweithgynhyrchu o 1945 hyd.

 

O dan £5m

Bydd y wobr hon yn cydnabod gwirfoddolwyr a phobl broffesiynol, unigolion a grwpiau sydd wedi achub adeilad, lle, tirwedd neu safle hanesyddol.

  • Adfer Yr Ysgwrn, y ffermdy mynyddig ar lethrau deheuol Cwm Prysor a oedd yn gartref i’r bardd adnabyddus Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn fel y’i hadwaenir fel rheol, a laddwyd mewn brwydr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac y dyfarnwyd Cadair Eisteddfodol 1917 iddo ar ôl ei farwolaeth am ei awdl, Yr Arwr.
  • Insole Court, plasty rhestredig Gradd 2* gyda stablau a gerddi, hen gartref un o deuluoedd masnach lo pwysicaf Caerdydd, a achubwyd drwy ymdrechion y gymuned ac a adferwyd ar gost o £4.5m i ddarparu cyfleusterau cymunedol gyda llecynnau addysgol, neuadd gymunedol, caffi, ystafelloedd hyfforddi a chanolfan ymwelwyr, yn ogystal â lleoedd arddangos sy’n adrodd stori Insole Court, hanes y teulu Insole, a’r rhan a chwaraewyd ganddynt yn natblygiad diwydiant glo rhydd Rhondda.
  • Plas Kynaston, tŷ rhestredig Gradd II yn ardal gadwraeth Cefn Mawr, ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, cartref gynt i’r teulu Kynaston yr arweiniodd eu gweithgareddau diwydiannol at ddatblygu ffowndri Plas Kynaston a gynhyrchodd y gwaith haearn ar gyfer Traphont Ddŵr Pontcysyllte. Mae Ymddiriedolaeth Sioraidd Cymru wedi adfer y tŷ adfeiliedig a’i droi’n fflatiau un llofft isel eu pris i helpu i ateb y galw lleol am dai.

 

 

Mwy na £5m

Bydd y wobr hon yn cydnabod prosiectau sydd wedi gweld buddsoddiad ar raddfa fawr, o fwy na £5 miliwn fwy na thebyg, i achub neu adfywio adeilad neu le.

  • Sain Ffagan: yr ailddatblygiad £30m yn amgueddfa awyr agored Cymru sy’n adrodd stori Cymru drwy ei hadeiladau. Mae fferm o’r Oes Haearn (Bryn Eryr) a llys brenhinol o’r Oesoedd Canol (Llys Llywelyn) wedi’u hailgreu ac mae’r Prif Adeilad (rhestredig Gradd II) wedi’i weddnewid i greu orielau newydd a Chanolfan Ddysgu Weston.
  • Oriel Gelf Glynn Vivian, wedi’i sefydlu ym 1911 yn sgil cymynrodd y meistr copr Richard Glynn Vivian (1835–1910), yr oriel hon yw un o’r adeiladau cyhoeddus prin a oroesodd y bomio a ddinistriodd ganol Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’r ailddatblygiad yma wedi sicrhau dyfodol yr adeilad a’r casgliad celf cynyddol sydd ynddo, y mae’r ddau ohonynt mor allweddol i dreftadaeth ddiwylliannol Abertawe a Chymru.
  • Castell Aberteifi, man geni’r Eisteddfod ym 1176 a’r castell cyntaf o gerrig i gael ei adeiladu gan Gymro. Mae wedi cael ei adfer dros gyfnod o ddeng mlynedd gan wirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan wedi i ymgyrch gymunedol lwyddo i godi £12m mewn grantiau a rhoddion. Ers agor i’r cyhoedd ym mis Ebrill 2015, mae bellach yn denu 30,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac mae wedi chwarae rhan bwysig yn adfywiad economaidd y dref.

 

Pleidleisiwch Nawr

 

Map o brosiectau ar y rhestr fer:

 

Tweets