Staff Ysgol Gynradd Thornhill a enillodd y wobr am y Cyfraniad Gorau i Brosiect Treftadaeth gan Bobl Ifanc am eu Cantata’r Cadoediad © Lauren Vickerman Poppet Studios Photography.
Cantata’r Cadoediad: Ysgol Gynradd Thornhill
Aeth plant Ysgol Gynradd Thornhill i Archifau Morgannwg i wneud ymchwil i’r Rhyfel Mawr. Daethant o hyd i boster recriwtio milwyr, apeliadau i fenywod ddod i weithio yn y ffatrïoedd, a thelegram ag ymylon du yn dweud wrth fam na fyddai ei mab yn dod adref. Cawsant eu hysbrydoli gan y rhain i ysgrifennu geiriau i saith cân boblogaidd o’r Rhyfel Byd Cyntaf, a ddefnyddiwyd yn sail i sioe gerdd a berfformiwyd gerbron cynulleidfaoedd o bobl oedrannus ar hyd a lled Bro Morgannwg. Maen nhw hefyd wedi creu adnodd i’w ddefnyddio gan ysgolion eraill, sy’n cynnwys y gerddoriaeth, geiriau’r caneuon, y sgript a gwybodaeth gefndir am y rhyfel.
Archif Menywod Cymru a enillodd y wobr am y Prosiect Ymchwil, Dehongli neu Gofnodi Treftadaeth Gorau am eu prosiect Lleisiau o Lawr y Ffatri. © Lauren Vickerman Poppet Studios Photography.
Lleisiau o Lawr y Ffatri: Archif Menywod Cymru
Sefydlwyd Archif Menywod Cymru i godi proffil ac i ddiogelu ffynonellau hanes menywod yng Nghymru. Yn 2013, cynhaliodd gwirfoddolwyr hyfforddedig sioeau ffordd ledled Cymru i gasglu profiadau menywod rhwng 60 a 90 oed a fu’n gwneud gwaith ffatri rhwng 1945 a 1975, yn aml fel prif enillydd cyflog y teulu. Recordiwyd mwy na 200 o gyfweliadau sydd bellach ar gael yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn Aberystwyth ynghyd â miloedd o luniau sydd ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru. Mae’r canlyniadau wedi ysbrydoli rhaglenni dogfen ar y teledu a’r radio, sioe gerdd (Ffatri Vox gan Inge Thomson) a llawer o brosiectau creadigol.
Matthew Roberts a Brett Burnell a ennillodd y wobr am Grefftwr neu Brentis Gorau am eu gwaith yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. © Lauren Vickerman Poppet Studios Photography.
Matthew Roberts a Brett Burnell am eu gwaith ar Lys Llywelyn yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
Gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau adeiladu traddodiadol, roedd Matthew Roberts a Brett Burnell yn bennaf cyfrifol am ailgreu neuadd fawr o’r drydedd ganrif ar ddeg a oedd yn rhan o lys Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), Tywysog Gwynedd, a hynny ar sail cofnodion ysgrifenedig ac olion ei balas ar Ynys Môn. Bydd grwpiau ysgol yn gallu cysgu dros nos yn y neuadd. Mae Matt a Brett erbyn hyn wedi ennill eu NVQ mewn gwaith saer maen ac wedi ymuno â thîm parhaol yr amgueddfa o adeiladwyr cadwraeth. Eu her nesaf fydd ailgreu tafarndy sy’n dyddio’n ôl i 1853.
Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, a enillodd y wobr am yr Enghraifft Orau o Achub Adeilad Hanesyddol (llai na £5m). © Lauren Vickerman Poppet Studios Photography.
Yr Ysgwrn, Cartref Hedd Wyn: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Enillodd Hedd Wyn, y bugail-fardd, gadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 ar ôl iddo gael ei ladd ym Mrwydr Passchendaele. Addunedodd mam Hedd Wyn y byddai’n ‘cadw’r drysau ar agor’ i’r llu o bererinion a alwai yn fferm y teulu, Yr Ysgwrn, i dalu teyrnged i rywun a oedd yn cynrychioli cenhedlaeth goll. Ganrif yn ddiweddarach, cafodd gwaith brys ei wneud i ddiogelu’r ffermdy rhestredig gadd II* wrth gadw ei awyrgylch arbennig. Addaswyd yr adeiladau fferm yn ganolfan wybodaeth lle gall ymwelwyr a grwpiau ysgol ddysgu am Hedd Wyn, y Rhyfel Mawr, diwylliant Cymraeg a threftadaeth amaethyddol.
Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan a enillodd y wobr am yr Enghraifft Orau o Achub Adeilad Hanesyddol (mwy na £5m). © Lauren Vickerman Poppet Studios Photography.
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Enghraifft brin o dreftadaeth Fodernaidd Gymreig, wedi’i chynllunio gan Bartneriaeth Percy Thomas ym 1975, yw’r prif adeilad rhestredig gradd-II yn Sain Ffagan. Cyfrannodd y gymuned at gynllunio gweddnewidiad yr adeilad i greu atriwm llawn golau syfrdanol lle bu’r cwrt agored o’r blaen ond sy’n cadw ei naws arbennig. Mae’r lle arddangos – sydd bellach yn gartref i gasgliadau hanes cymdeithasol ac archaeoleg cyfoethog yr amgueddfa – wedi’i ddyblu ac mae gweithdai newydd yn cynnig wyth gwaith yn fwy o le i ysgolion ac ymwelwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gyrsiau, gan roi profiad yr ymwelydd yn gyntaf.
Cwrt Insole, y plasty neo-Gothig rhestredig Gradd II* yn Llandaf a achubwyd gan ymdrechion y gymuned a ennillodd bleidlais y cyhoedd a oedd yn seiliedig ar y pymtheg prosiect a gyrhaeddodd y rhestr fer. © Lauren Vickerman Poppet Studios Photography.
Cwrt Insole, plasty rhestredig Gradd II* gyda stablau a gerddi, hen gartref un o deuluoedd masnach lo pwysicaf Caerdydd, a achubwyd drwy ymdrechion y gymuned ac a adferwyd gan Ymddiriedolaeth Cwrt Insole ar gost o £4.5m i ddarparu cyfleusterau cymunedol gyda llecynnau addysgol, neuadd gymunedol, caffi, ystafelloedd hyfforddi a chanolfan ymwelwyr, yn ogystal â lleoedd arddangos sy’n adrodd stori Insole Court, hanes y teulu Insole, a’r rhan a chwaraewyd ganddynt yn natblygiad diwydiant glo rhydd Rhondda.
dysgu mwy am yr holl brosiectau ar y rhestr fer