A yw fy mhrosiect yn gymwys?
I fod yn gymwys i wneud cais am Wobr Angel Treftadaeth Cymru rhaid i chi fod yn grŵp neu’n unigolyn sydd wedi gwneud un neu ragor o’r pethau canlynol:
Beth yw categorïau’r gwobrau?
Categorïau’r gwobrau yw:
Bydd y pum enillydd o bob gwlad yn cael eu barnu gan Andrew Lloyd Webber a beirniad o Loegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru. Bydd un o’r 20 prosiect cymwys yn cael ei goroni’n brif enillydd.
Pa oedrannau sydd wedi’u cynnwys yn y categori ‘pobl ifanc’?
Mae unrhyw un hyd at 25 oed (oedran adeg cyflwyno’r cais) yn gymwys yn y categori hwn.
Ai dim ond prosiectau a gwblhawyd sy’n gymwys?
Mae prosiectau a gwblhawyd o fewn y deng mlynedd ddiwethaf, neu a fydd yn cael eu cwblhau erbyn diwedd Hydref 2018, yn gymwys.
A oes angen i safleoedd treftadaeth fod yn Ased Hanesyddol dynodedig i fod yn gymwys?
Nac oes, nid oes angen i adeilad/safle for ar restr Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru nac mewn ardal gadwraeth ddynodedig; serch hynny, hoffem gael gwybod os yw ef.
Sut y gallaf ddarganfod a yn Ased Hanesyddol dynodedig?
Mae Cadw yn cadw rhestr genedlaethol o safleoedd.
Gallwch chwilio am safleoedd dynodedig cenedlaethol ar wefan Cadw, http://cadw.gov.wales/historicenvironment/recordsv1/cof-cymru/?skip=1&lang=cy
Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol restri a mapiau o ardaloedd cadwraeth a ddynodwyd ganddynt ar eu gwefannau.
Beth yw’r telerau ac amodau?
I fod yn gymwys, gofynnir i bob ymgeisydd a phawb a enwebir ar gyfer gwobr lofnodi eu bod yn derbyn y telerau ac amodau ar gyfer y gwobrau.
Sut y byddwch chi’n penderfynu pa geisiadau i’w rhoi ar y rhestri byr?
Bydd y beirniaid yn defnyddio’r meini prawf isod i farnu eich cais/prosiect. Bydd y tri gorau ym mhob categori yn mynd ar y rhestri byr.
Gall y canlynol eich helpu i ddangos ar eich ffurflen gais sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf. Mae’r rhestr isod yn nodi’r hyn y bydd y beirniaid yn chwilio amdano wrth asesu eich cais.
Beth rydych chi’n ei olygu wrth ‘dreftadaeth’?
Treftadaeth yw adeilad, safle neu ardal sydd o bwysigrwydd pensaernïol, hanesyddol neu ddiwylliannol arbennig. Gallai fod yn adeilad neu grŵp o adeiladau (gan gynnwys addoldai), parc neu ardd, safle archaeolegol, maes brwydr, safle llongddrylliad, ardal gadwraeth neu fath arall o ardal neu le.
Beth yw ystyr y gair ‘achub’?
Gall safle gael ei achub mewn gwahanol ffyrdd, sy’n dibynnu i raddau helaeth ar y math o safle. Er enghraifft, mae achub adeilad rhestredig yn wahanol iawn i achub maes brwydr cofrestredig. Mae pob safle yn wahanol ac mae’r atebion ar eu cyfer yn wahanol hefyd. Dyna beth sy’n gwneud ein treftadaeth mor arbennig.
Pa un a yw eich prosiect (e.e. prosiect atgyweirio mawr, darganfod defnydd newydd ar gyfer safle, ac ati) bron wedi’i orffen, neu wedi’i gwblhau eisoes, dywedwch wrthym beth rydych chi’n ei wneud i sicrhau y bydd y cenedlaethau a ddaw yn gallu ei ddeall, ei fwynhau a gofalu amdano.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: angel@cbhc.gov.uk