Mae gan y Comisiwn Brenhinol rôl allweddol o ran sicrhau bod amgylchedd hanesyddol Cymru yn parhau’n gyfoethog, amrywiol a gwerthfawr i bobl Cymru, heddiw ac yn y dyfodol. Mae’r ymchwil a wnawn i ddeall y gwahanol fathau o adeiladau hanesyddol, henebion neu dirweddau yn helpu i adnabod yr enghreifftiau gorau a’u diogelu rhag cael eu dymchwel neu eu newid mewn ffordd anaddas. Mae argyfwng yr hinsawdd yn bygwth ein hamgylchedd hanesyddol, ac mae effaith hyn ar ein safleoedd treftadaeth unigryw yn sylweddol.
Byddwn yn mynd i’r afael â’n gwaith “cenedlaethau’r dyfodol”, wedi’i enwi ar ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mewn dwy ffordd. Ar y naill law, mae ein gwaith maes a’n hymchwil yn canolbwyntio fwyfwy ar addasu ac ar godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd. Ar y llaw arall, rydym ni’n addasu ein swyddfa a’r ffordd y cynhaliwn ein busnes i’w gwneud yn amgylcheddol gynaliadwy, gan ymdrechu i ymdrin ag achosion sylfaenol newid hinsawdd.
Rydym ni’n cynyddu ein gwybodaeth, ein gallu a’n cydnerthedd er mwyn ymdrin ag effeithiau newid hinsawdd ar dreftadaeth Cymru. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau na fydd penderfyniadau heddiw am ein treftadaeth yn cael effaith negyddol pellach ar yr hinsawdd. Gellir gwneud y ddau beth hyn orau mewn partneriaeth.
Ni yw’r partner arweiniol ym mhrosiect CHERISH Iwerddon-Cymru. Prosiect chwe blynedd o hyd (2017–23) a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd yw hwn. Gweithiwn ochr yn ochr â’r Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesedd Iwerddon, Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ac Arolwg Daearegol Iwerddon. Prif amcan CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd) yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd ar dreftadaeth gyfoethog môr ac arfordir Cymru ac Iwerddon yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Defnyddir amrywiaeth o dechnegau a dulliau i astudio gwahanol safleoedd, megis caerau pentir sy’n erydu a llongddrylliadau y mae cynnydd yn lefel y môr a thywydd stormus yn effeithio arnynt.
Rydym hefyd yn bartner ymroddedig sy’n helpu i gyflawni’r gweithredoedd yn Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd yng Nghymru: Cynllun Addasu’r Sector. Cyhoeddwyd y cynllun hwn ym mis Chwefror 2020 gan Is-grŵp Newid Hinsawdd Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol (GAH/HEG). Mae’n nodi’r peryglon, cyfleoedd ac anghenion addasu ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyfrannu’n uniongyrchol drwy ei raglenni gwaith ei hun, ond mae ef hefyd yn aelod gweithgar o Is-grŵp Newid Hinsawdd GAH sydd, ers ysgrifennu’r Cynllun Addasu’r Sector, bellach yn canolbwyntio ar waith hyrwyddo a chydlynu er mwyn ei gyflawni.
Byddwn yn parhau i sefydlu partneriaethau a fydd yn defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol yr argyfwng yn yr amgylchedd hanesyddol o ganlyniad i newid hinsawdd. Hon fydd ein prif flaenoriaeth yn y dyfodol. Un maes o’r fath yw ein gwaith ar adeiladau’r ugeinfed ganrif yng Nghymru, yn enwedig adeiladau a godwyd ers yr Ail Ryfel Byd, y mae llawer iawn o garbon ymgorfforedig wedi’i storio ynddynt. Mae deall yr adeiladau hyn yn well, gan roi’r pwyslais ar adnewyddu ac ailddefnyddio yn hytrach na dymchwel ac adeiladu o’r newydd, yn gallu cael cryn effaith ar yr ymgyrch i ddod yn genedl sero net. Gan ymuno â phenseiri, gwyddonwyr defnyddiau, ac arbenigwyr ym maes newid hinsawdd, byddwn yn ceisio sicrhau cyllid i hybu’r ymchwil hwn.
Rydym yn deall bod ein gwaith o ddydd i ddydd yn cael effaith ar yr amgylchedd, a hynny, yn bennaf, drwy ddefnyddio adnoddau, drwy deithio, a thrwy gynhyrchu gwastraff. Rydym wedi ymrwymo i wella ein perfformiad amgylcheddol, gan leihau ein hôl-troed carbon a gweithio tuag at nodau datblygiad cynaliadwy.
I’r perwyl hwn, rydym ni wedi sefydlu Gweithgor Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n nodi sut y byddwn yn cyflawni, yn monitro neu’n gweithio tuag at ein hymrwymiadau yn y Datganiad ar Bolisi Amgylcheddol. Oherwydd COVID-19 nid ydym wedi gallu rhoi sylw i sawl gweithred yn y Cynllun wrth i ni weithio gartref. Sut bynnag, mae’r pandemig hefyd wedi gweddnewid y ffordd a weithiwn mewn ffyrdd mwy cadarnhaol. Nid ydym yn argraffu cymaint. Nid ydym yn teithio cymaint. Rydym wedi gorfod symud ar-lein brosesau sy’n gofyn am ddefnyddio llawer o bapur. Byddwn yn sicr yn parhau â’r arferion gwyrddach hyn pan ddychwelwn i’r swyddfa.
Rydym wedi ymrwymo i leihau effeithiau newid hinsawdd i’r eithaf ac i ymuno ag eraill i wneud hynny. Rydym yn falch o fod yn aelod o’r Rhwydwaith Addas i’r Dyfodol yn ogystal â’r Rhwydwaith Treftadaeth-Hinsawdd, rhwydwaith cydgefnogaeth o sefydliadau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chyflawni uchelgeisiau Cytundeb Paris. Byddwn yn parhau i ddysgu oddi wrth eraill, i rannu arfer gorau, ac i ddefnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i annog pobl eraill i wneud yr un fath.