Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau Adroddiad a Blaengynllun 2022-24

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 – Adran 6

1. Enw’r awdurdod cyhoeddus

2. Cyflwyniad a chyd-destun

3. Uchafbwyntiau, canlyniadau allweddol a phroblemau

4. Camau gweithredu 2022–24

5. Adolygu’r ddyletswydd Adran 6

Atodiad A: Blaengynllun bioamrywiaeth


1. Enw’r awdurdod cyhoeddus

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Nôl i ben y dudalen

2. Cyflwyniad a chyd-destun

Cyfansoddiad

Cafodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (‘y Comisiwn’) ei sefydlu gan Warant Frenhinol yn 1908 (fel y’i diwygiwyd yn 2000). Fel Comisiwn Brenhinol, mae gennym swyddogaeth gyfansoddiadol benodol: rydym yn adrodd yn y pen draw i EM y Frenhines, a hi’n unig sydd â’r pŵer i benodi Comisiynwyr, a gaiff eu penodi i’r Bwrdd oherwydd eu harbenigedd mewn materion y mae’r Warant yn ymdrin â nhw, ac sy’n atebol i’r Goron am oruchwylio’r Comisiwn ar lefel strategol ac am gyflawni’r amcanion y sefydlwyd y Comisiwn ar eu cyfer, fel yr eglurir yn y Warant. 

Cyllid

Mae’r Comisiwn wedi cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru ers 1999; cyn hynny, y Swyddfa Gymreig oedd yn darparu cyllid ar ei gyfer. Caiff ein cyllid craidd ei ategu gan incwm o grantiau ac o werthu llyfrau a ffotograffau. Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, rydym yn gweithredu fel asiant cyflawni ar ran Gweinidogion Cymru, a’n rôl yw cyflawni ein cyfrifoldebau a gaiff eu pennu yng nghyd-destun nodau strategol Llywodraeth Cymru. Gan weithio gyda’r Comisiwn a’i Fwrdd, mae Gweinidogion Cymru yn egluro’r hyn y maent yn ei ddisgwyl yn gyfnewid am gyllid mewn Llythyr Cylch Gwaith tymor llywodraethu. Rydym yn ymateb i hynny drwy Gynllun Gweithredol ynghyd â chyfres o bethau allweddol i’w cyflawni, a gaiff eu cytuno gyda’r Tîm Partneriaeth yn Is-adran Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru.

Cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw helpu pawb i ddeall, gwerthfawrogi a mwynhau amgylchedd hanesyddol Cymru yn ei holl amrywiaeth.

DEALL – cyfrannu at warchod treftadaeth a dylanwadu ar bolisi cenedlaethol: Rydym yn helpu i sicrhau bod ein treftadaeth werthfawr ac unigryw yn cael ei gwarchod a’i gwella. Rydym yn gwneud hynny trwy ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol ynghylch rheoli treftadaeth a thrwy ymateb i’r ystod o fygythiadau y mae adeiladau, archaeoleg, tirweddau a threftadaeth forol yn eu hwynebu, sy’n cynnwys yr argyfwng hinsawdd ac anghenion newidiol cymdeithas a’r economi.

GWERTHFAWROGI – cyfrannu i hunaniaeth Cymru: Mae’r modd yr ydym yn cyflwyno amgylchedd hanesyddol Cymru yn cyfoethogi canfyddiad pobl o Gymru, ei diwylliant a’i hiaith, gartref, ymhlith Cymry alltud ac yn fyd-eang, ac yn helpu i wneud Cymru yn lle gwell i fyw, gweithio a buddsoddi ynddo ac i ymweld ag ef.

MWYNHAU – cyfoethogi bywydau pobl: Mae ein gwaith yn addysgu, yn hysbysu ac yn diddanu gan wella bywydau pobl yng Nghymru, yn eu holl amrywiaeth, ac mae’n cyfrannu i ddealltwriaeth ddiwylliannol, addysg, iechyd a lles, a’r economi o ran twristiaeth.

Diben

Prif ddiben y Comisiwn, fel yr eglurir yn y Warant ac fel y cytunwyd gan Weinidogion Cymru, yw arolygu, cofnodi a dehongli amgylchedd hanesyddol Cymru a darparu gwybodaeth amdano, gan gynnwys gwely’r môr mewn dyfroedd tiriogaethol; cadw a gwella Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru; darparu gwybodaeth archaeolegol i’r Arolwg Ordnans; a chynnal trosolwg o gofnodion rhanbarthol am yr amgylchedd hanesyddol. Yng nghyswllt “arolygu, cofnodi a dehongli amgylchedd hanesyddol Cymru a darparu gwybodaeth amdano” y mae ein swyddogaethau’n fwyaf perthnasol i fioamrywiaeth.

Staffing

Mae’r Comisiwn yn cyflogi 33 aelod o staff arbenigol, gan gynnwys ymchwilwyr sy’n gweithio yn y maes i gofnodi adeiladau, henebion archaeolegol a thirweddau. Mae gennym hefyd dîm pwrpasol o reolwyr cofnodion a staff gwasanaeth cyhoeddus sy’n cynnal Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, yn rhedeg y llyfrgell a’r ystafell chwilio, yn ateb ymholiadau ac yn helpu ymwelwyr i ddod o hyd i’r deunydd y mae ei angen arnynt o’n casgliad helaeth o ffotograffau, lluniadau, dogfennau a setiau data digidol.

Swyddfeydd

Nid yw’r Comisiwn yn berchen ar ei swyddfeydd na’i dir ei hun. Yn hytrach, mae wedi’i leoli yn y Llyfrgell Genedlaethol y mae’n cymryd lle ganddi ar brydles ar gyfer swyddfa, archif a llyfrgell. Y Llyfrgell Genedlaethol sy’n gyfrifol am yr adeilad a’r gwaith o’i gynnal a’i gadw ac am ddarparu cyfleustodau megis dŵr a thrydan, felly ychydig o ddylanwad uniongyrchol sydd gennym ar fioamrywiaeth trwy ein swyddfeydd. Fodd bynnag, mae gan y Llyfrgell ei pholisi bioamrywiaeth ei hun, ac rydym yn cydymffurfio â’r polisi hwnnw.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Er nad yw’r Comisiwn ar y rhestr o gyrff cyhoeddus sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’n gryf o blaid cyflawni agenda strategol Llywodraeth Cymru fel y caiff ei mynegi yn ei Rhaglen Lywodraethu. Mae’r Comisiwn yn teimlo cyfrifoldeb tuag at egwyddor graidd y Ddeddf ac wedi ymrwymo i gyflawni’r egwyddor honno, sef ‘gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant’. Rydym yn cyfrannu at saith nod y Ddeddf trwy ein gwaith craidd a thrwy ein prosiectau a’n rhaglenni penodol: https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/cenedlaethaur-dyfodol/ymateb-i-ddeddf-llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-cymru-2015/

Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau

Caiff y Comisiwn ei ystyried yn sefydliad ‘Grŵp 1’, fel yr eglurir yn nogfen Canllawiau ar Adrodd ar gyfer Adran 6, gan ein bod yn rhentu swyddfa ac nad yw ein swyddogaethau’n gysylltiedig yn uniongyrchol â bioamrywiaeth a/neu reoli tir.

Trefniadau llywodraethu

Cyfrifoldeb Ysgrifennydd (Prif Swyddog Gweithredol) y Comisiwn yw cyflawni’r ddyletswydd Adran 6 yn y pen draw, a’r Rheolwr Llywodraethu a Risg sy’n gyfrifol am fonitro ac adolygu’r ddyletswydd Adran 6.

Yn 2019, sefydlodd y Comisiwn Weithgor Cenedlaethau’r Dyfodol, gyda chynrychiolwyr o bob rhan o’r sefydliad yn gweithredu fel hyrwyddwyr materion gwyrdd. Yn dilyn hynny, ym mis Ebrill 2020, cyhoeddwyd ein Datganiad Polisi Amgylcheddol. Mae Cynllun Gweithredu Amgylcheddol blynyddol yn egluro sut y mae’r Comisiwn yn gweithio tuag at ei ymrwymiadau fel y cânt eu hegluro yn y Datganiad Polisi Amgylcheddol, yn bodloni’r ymrwymiadau hynny neu’n eu monitro. Un o’r ymrwymiadau yn y Datganiad Polisi yw “ceisio cynnal a gwella bioamrywiaeth gan hybu cydnerthedd ecosystemau wrth wneud hynny”. Rydym yn cyflwyno adroddiad i Dîm Partneriaeth Llywodraeth Cymru bob chwarter ynghylch ein cynnydd o ran y Cynllun Gweithredu Amgylcheddol.
Nôl i ben y dudalen

3. Uchafbwyntiau, canlyniadau allweddol a phroblemau

Arolygu ac Ymchwilio 

Ein gwaith arolygu ac ymchwilio yng nghyswllt safleoedd ac adeiladau hanesyddol yw’r maes gwaith y mae bioamrywiaeth yn fwyaf perthnasol iddo. Mae’r gwaith hwn yn golygu cynnal ymchwil yn y maes er mwyn casglu gwybodaeth am leoliad, dosbarthiad a threfn unrhyw ddiwylliannau dynol o’r gorffennol. Yn achos unrhyw safle yr ydym yn gwneud gwaith arolygu arno, mae arnom angen caniatâd gan dirfeddianwyr ac asiantaethau (e.e. Cadw a Cyfoeth Naturiol Cymru); bryd hynny y bydd ein hystyriaeth i fioamrywiaeth yn fwyaf blaenllaw.

Wrth gynnal asesiadau risg ar gyfer adeiladau sy’n cael eu harolygu, rydym bob amser yn ystyried rhywogaethau a warchodir, megis ystlumod.

Safleoedd a warchodir 
Mae rhai o’r safleoedd yr ydym yn ymchwilio iddynt yn cael eu gwarchod yn benodol oherwydd eu bywyd gwyllt a’u cynefinoedd naturiol arbennig. Am y rheswm hwnnw, mae ein gwaith yno – er enghraifft ym mharth arfordirol Cymru ac ar ynysoedd megis Ynys Skomer, Ynys Enlli, Ynys Seiriol ac Ynys Gwales – yn digwydd y tu allan i’r prif dymhorau bridio ar gyfer adar a morloi.

Mae gwaith maes ar Ynys Gwales wedi datgelu tystiolaeth o anheddiad cynnar sydd bellach wedi’i orchuddio a’i amgylchynu gan nythod huganod. Rydym wedi gwneud gwaith arolygu a chloddio ar yr ynys, a oedd yn golygu cael caniatâd gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar a chydweithio’n agos â hi. Mae ein gwaith yn digwydd wedi i’r huganod fudo ym mis Hydref.

Mae’r ynysoedd hyn yn cynnig gwarchodfa bwysig i sawl rhywogaeth adar y môr, megis palod, huganod, adar drycin Manaw, mulfrain, gwylogod, llursod, mulfrain gwyrdd a gwylanod coesddu. Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau megis y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru er mwyn sicrhau bod unrhyw waith yr ydym yn ei wneud yn cael yr effaith leiaf posibl.

Staff y Comisiwn yn esbonio arolwg LiDAR Ynys Skomer i staff a gwirfoddolwyr hirdymor Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Gwelliannau o ran technoleg
Diolch i dechnoleg arolygu newydd (https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/ein-gwaith-cofnodi/rhannu-ein-gorffennol-digidol/) rydym yn cael llai o effaith ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol. Er enghraifft, mae sganio â laser o’r awyr neu arolygu LiDAR (Light Detection and Ranging), fel y caiff ei alw hefyd, yn ddull sy’n lleihau’r angen am waith arolygu mwy ymwthiol lle mae arolygwyr yn cerdded ar hyd safleoedd, ac mae’r uchder hedfan yn golygu nad yw’n effeithio ar goed na llystyfiant yn ystod y cyfnod casglu data.

Rhannu gwybodaeth
Yn olaf, rydym bob amser yn rhannu â thirfeddianwyr y wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a chanlyniadau ein gwaith. Yn aml, mae’r manylion hynny’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch rheoli safleoedd a bioamrywiaeth. Er enghraifft, cafodd ein ffotograffau o’r awyr eu defnyddio i gyfrif nythod huganod er mwyn asesu’r boblogaeth ar Ynys Gwales, ac mae ein data arolygu wedi helpu i fapio’r modd y mae’r nythfa wedi ymledu.

Prosiect CHERISH

Er bod y Comisiwn wedi bod yn astudio archaeoleg Ynys Skomer ac Ynys Gwales ers sawl blwyddyn, mae’r gwaith arfordirol yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd yn cael ei gyflawni yn rhan o’n prosiect CHERISH (Climate, Heritage and Environments of Reefs, Islands and Headlands), sef prosiect 6 blynedd am y newid yn yr hinsawdd, a gaiff ei ariannu gan gyllid Ewropeaidd. Caiff y prosiect hwn ei arwain gan y Comisiwn Brenhinol mewn partneriaeth â Rhaglen Ddarganfod Canolfan Archaeoleg ac Arloesi Iwerddon, Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth a Geological Survey, Iwerddon.

Mae Caer Bentir Caerfai yn Sir Benfro yn un o safleoedd astudio CHERISH. Yma, mae’r tîm wedi cynnal nifer o ymchwiliadau a oedd yn cynnwys arolygu gan ddefnyddio cerbyd awyr di-griw a gwaith cloddio. Cafodd hynny ei wneud gan ymgynghori’n llawn â thirfeddianwyr a rheolwyr tir ac ystyried bioamrywiaeth, er enghraifft brain coesgoch sy’n nythu ar y safle.

Amcan allweddol CHERISH yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, y cynnydd mewn tywydd stormus a thywydd eithafol (yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol agos) ar dreftadaeth ddiwylliannol riffiau, ynysoedd a phentiroedd ym moroedd rhanbarthol Cymru ac Iwerddon.

Mae’r prosiect yn targedu bylchau mewn data a gwybodaeth reoli, gan ddefnyddio technegau arloesol i ddarganfod, asesu, mapio a monitro asedau treftadaeth ar y tir ac o dan y môr, gan rannu’r canlyniadau yn eang a datblygu arfer gorau ar gyfer addasu i’r newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.

Ymgynghori ynghylch materion morol

Yn yr amgylchedd morol, mae pwysau allweddol yn cynnwys gweithgarwch anghynaliadwy gan bobl, y newid yn yr hinsawdd sy’n arwain at gynhesu ac asideiddio moroedd a chefnforoedd y byd, a chyflwyno rhywogaethau estron goresgynnol.

Mae gan y Comisiwn rôl allweddol i’w chwarae fel un o ymgyngoreion statudol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer ceisiadau am drwyddedau morol. Mae hynny’n ein galluogi i gyfrannu ein dealltwriaeth hirdymor o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru i’r gwaith o gynllunio prosiectau morol, megis adeiladu amddiffynfeydd arfordirol a chyflwyno cynlluniau ynni adnewyddadwy ar y môr neu ddyframaethu cynaliadwy. 

Argraff arlunydd o drawsnewidwyr ynni morol Deep Green Minesto sy’n gweithredu yn Nyfnder Caergybi oddi ar Ynys Môn. © Minesto. 2018


Wrth wneud hynny, gallwn sicrhau nad yw prosiectau o’r fath – a gaiff eu comisiynu’n aml yn rhan o’n proses o addasu i’r newid yn yr hinsawdd a lliniaru’r newid hwnnw – yn cael effaith niweidiol yn eu tro ar dreftadaeth ddiwylliannol Cymru sy’n adnodd cyfyngedig a bregus.
Nôl i ben y dudalen

4. Camau gweithredu 2022–24

Rydym wedi sicrhau bod ein hymateb yn cyd-fynd ag amcanion 1, 4 a 6 Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru, fel sy’n ofynnol ar gyfer sefydliad ‘Grŵp 1’.

Yn ystod y tair blynedd nesaf (2022–24), bydd y Comisiwn yn bodloni ei ddyletswydd bioamrywiaeth trwy chwe maes gweithredu:

Maes Gweithredu 1: Gwneud ymrwymiad cryf

▪ Ymrwymo i fioamrywiaeth yn ein Cynllun Gweithredol.
▪ Ymrwymo i fioamrywiaeth yn ein Datganiad Polisi Amgylcheddol.

Maes Gweithredu 2: Ennyn diddordeb ein staff a’u cynorthwyo

▪ Sicrhau bod staff arolygu ac ymchwilio yn parhau i ymgorffori bioamrywiaeth yn eu gwaith arolygu.
▪ Hybu manteision gwirfoddoli i’r holl staff, yn enwedig yng nghyd-destun byd natur/mannau gwyrdd, a’u hannog i fanteisio ar eu pum diwrnod y flwyddyn (pro rata) o Absenoldeb Arbennig i ymgymryd â gweithgareddau gwirfoddol.
▪ Annog staff i gymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol i Gyfrif Ieir Bach yr Haf ac yn yr Arolwg Gwylio Adar yr Ardd.

Maes Gweithredu 3: Ymgorffori ymhellach drefniadau caffael cynaliadwy

▪ Codi ymwybyddiaeth cyflenwyr trwy ychwanegu datganiad ynghylch caffael cynaliadwy at ein Harchebion Prynu.
▪ Parhau i hybu trefniadau caffael cynaliadwy ymhlith y staff.

Maes Gweithredu 4: Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu adnoddau

▪ Parhau i adolygu prosesau sy’n defnyddio llawer o bapur.
▪ Parhau i leihau’r defnydd o gynnyrch plastig untro y gellir osgoi ei ddefnyddio a gweithio i gyrraedd sefyllfa lle nad yw cynnyrch plastig o’r fath yn cael ei ddefnyddio o gwbl.

Maes Gweithredu 5: Parhau i godi ymwybyddiaeth o’r newid yn yr hinsawdd a’r angen i addasu

▪ Bod yn bartner arweiniol ym mhrosiect CHERISH.
▪ Cyflawni’r elfennau o Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd: Cynllun Addasu’r Sector sy’n berthnasol i’r Comisiwn.
▪ Cydweithio â rhanddeiliaid perthnasol i arwain sgyrsiau ynghylch addasiadau posibl yn yr amgylchedd adeiledig.

Maes Gweithredu 6: Gwneud bioamrywiaeth yn rhan o gais prosiect Bryngaer Pendinas

▪ Gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Natur i gynnwys llinyn bioamrywiaeth yng nghais prosiect Bryngaer Pendinas er mwyn deall beth sy’n gwneud Pendinas yn gynefin cystal ar gyfer bywyd gwyllt a sut y gellir gwella hynny. 
Nôl i ben y dudalen

5. Adolygu’r ddyletswydd Adran 6

Byddwn yn adolygu’r ddyletswydd Adran 6 bob blwyddyn, a bydd Gweithgor Cenedlaethau’r Dyfodol yn monitro cynnydd ar sail y meysydd gweithredu bob chwarter.
Nôl i ben y dudalen

Atodiad A: Blaengynllun bioamrywiaeth

 

Arweinydd (Arweinwyr)

Mesur(au) Llwyddiant

1. Gwneud ymrwymiad cryf

Rheolwr Llywodraethu a Risg 

Ymrwymiadau wedi’u cynnwys yn ein Cynllun
Gweithredol a’n Datganiad Polisi Amgylcheddol.

2. Ennyn diddordeb ein staff a’u cynorthwyo

Pennaeth Gwybodaeth a Dealltwriaeth Rheolwr Llywodraethu a Risg 
Rheolwr Adnoddau Dynol 

Staff yn fwy ymwybodol o fioamrywiaeth.

Mwy o staff yn cymryd Absenoldeb Arbennig er mwyn ymgymryd â gweithgareddau gwirfoddol.

3. Ymgorffori ymhellach drefniadau caffael cynaliadwy

Rheolwr Gweithrediadau 

Cyflenwyr yn fwy ymwybodol.

Staff yn fwy ymwybodol ac yn fwy hyderus.

4. Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu adnoddau

Rheolwr Gweithrediadau 

Staff yn fwy ymwybodol ac yn fwy hyderus.

Llai o adnoddau’n cael eu defnyddio.

5. Parhau i godi ymwybyddiaeth o’r newid yn yr hinsawdd a’r angen i addasu

Uwch-ymchwilydd (Archaeoleg)

Mwy o gydweithio a rhannu arfer gorau.

Mwy o wybodaeth er mwyn helpu i wneud penderfyniadau.

Y cyhoedd yn fwy ymwybodol o’r newid yn yr hinsawdd ac yn deall mwy amdano.

6. Gwneud bioamrywiaeth yn rhan o gais prosiect Bryngaer Pendinas

 

Uwch-ymchwilydd (Arolygu o’r Awyr)

Mwy o wybodaeth er mwyn helpu i wneud penderfyniadau.

Y cyhoedd yn fwy ymwybodol o fioamrywiaeth ac yn deall mwy amdano.

Nôl i ben y dudalen


I lawrlwytho’r ddogfen hon fel ffeil PDF, cliciwch yma: Adroddiad a Blaengynllun Bioamrywiaeth 2022-24

Open Government Licence logo Mae’r ddogfen hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.

Nôl i ben y dudalen

Tweets