Datganiad Polisi Amgylcheddol

Dyddiad Adolygu: Gorffennaf 2022

1. Y Comisiwn Brenhinol yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

2. Rydym yn deall bod ein gwaith o ddydd i ddydd yn cael effaith ar yr amgylchedd, a hynny, yn bennaf, trwy ddefnyddio adnoddau, trwy deithio a thrwy gynhyrchu gwastraff.

3. Rydym wedi ymrwymo i wella ein perfformiad amgylcheddol, gan leihau ein hôl-troed carbon a gweithio tuag at nodau datblygiad cynaliadwy, sy’n cwmpasu’r economi, cymdeithas, a’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â’r amgylchedd.

4. Bydd y Comisiwn Brenhinol yn lleihau ei effeithiau amgylcheddol niweidiol trwy:

  1. Sicrhau cydymffurfiad â’r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol, safonau a rhwymedigaethau cydymffurfio eraill;
  2. Hyrwyddo a hwyluso ymwneud y staff â bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol;
  3. Rheoli gwastraff trwy leihau, ailddefnyddio a hyrwyddo ailgylchu;
  4. Lleihau i’r eithaf effaith ein defnydd o egni, dŵr a phapur ar yr amgylchedd;
  5. Lleihau i’r eithaf blastigion untro y mae modd eu hosgoi a gweithio tuag at beidio â’u defnyddio o gwbl;
  6. Hyrwyddo mentrau trafnidiaeth cynaliadwy ac annog defnyddio fideo-gynadledda a thele-gynadledda;
  7. Ceisio cynnal a gwella bioamrywiaeth cyn belled ag y bo hynny’n gyson ag ymarfer priodol ein swyddogaethau, gan hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau wrth wneud hynny;
  8. Ymgorffori cynaliadwyedd yn ein gweithdrefnau caffael;
  9. Codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a’r angen am addasu, cydweithio, ac annog cydweithio a gweithredu ar draws y sector amgylchedd hanesyddol; a
  10. Sefydlu amcanion a/neu dargedau amgylcheddol ac adrodd ar gynnydd yn flynyddol.

Bydd y Tîm Gweithredol yn adolygu’r datganiad polisi hwn bob dwy flynedd. Ar ôl ei adolygu, bydd y datganiad yn cael ei gymeradwyo gan y Comisiynwyr. Bydd yr adolygiad nesaf ym mis Ebrill 2024.

Cydnabyddiaeth
Seilir y ddogfen hon ar y polisïau a fabwysiadwyd gan gan Brifysgol Bangor a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.


I lawrlwytho’r ddogfen hon fel ffeil PDF, cliciwch yma: Datganiad Polisi Amgylcheddol

Mae’r polisi hwn hefyd ar gael yn Saesneg | This policy is also available in English.

Logo Trwydded Llywodraeth Agored
Mae’r ddogfen hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.

Tweets