Cyflwynwyd Deddf Cydraddoldeb 2010 ym mis Hydref 2010 i symleiddio a chymryd lle mwy na 100 o ddeddfau a rheoliadau gwrth-wahaniaethu blaenorol. Ar 5 Ebrill 2011, daeth dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus i rym yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Disodlodd y ddyletswydd yr holl ddyletswyddau cydraddoldeb blaenorol ym meysydd hil, anabledd a rhyw.
Mae’n ofynnol o dan y gyfraith i’r Comisiwn fodloni’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol fel cyflogwr ac fel corff sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Nid enwir y Comisiwn yn Atodlen 1 nac Atodlen 2 o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol) 2011, ac felly mae wedi’i eithrio o’r dyletswyddau penodol.
Mae hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn berthnasol i bawb, ac mae holl aelodau cymuned y Comisiwn yn gyfrifol amdano. Mae cyfrifoldeb ar holl aelodau’r gymuned i sicrhau bod y Comisiwn yn parhau’n amgylchedd cynhwysol, croesawgar, diogel a chynhyrchiol. Mae’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn amlinellu ymrwymiadau’r Comisiwn, a sut yr ydym yn bwriadu eu cyflawni.
Os hoffech gael y wybodaeth hon mewn fformat arall, Cysylltwch â Ni