Hyderus o ran Anabledd
Mae’r Comisiwn yn gyflogwr sy’n Hyderus o Ran Anabledd.
Cynllun y llywodraeth yw Hyderus o Ran Anabledd sydd â’r nod o annog cyflogwyr i recriwtio a chadw pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd. Mae’n cymryd lle’r cynllun Dau Dic: Cadarn o Blaid Pobl Anabl.
Fel Cyflogwr sy’n Hyderus o ran Anabledd (Cam 2) rydym:
- wedi ymgymryd â’r hunanasesiad Hyderus o ran Anabledd a’i gwblhau’n llwyddiannus;
- yn cymryd yr holl gamau craidd i fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd;*
- yn cynnig o leiaf un gweithgaredd i gael y bobl iawn ar gyfer ein busnes ac o leiaf un gweithgaredd i gadw a datblygu ein pobl.
* Fel Cyflogwr Ymroddedig Hyderus o Ran Anabledd (Cam 1) rydym wedi ymrwymo i:
- sicrhau bod ein proses recriwtio yn gynhwysol a hygyrch;
- defnyddio amrywiaeth o sianeli i hysbysebu a hyrwyddo swyddi gwag er mwyn cyrraedd pobl anabl;
- cynnig cyfweliad i bobl anabl;
- rhagweld a darparu addasiadau rhesymol yn ôl y gofyn;
- cefnogi unrhyw aelodau staff presennol sy’n mynd yn anabl neu’n cael eu taro gan salwch hirdymor, er mwyn eu galluogi i aros yn y gwaith; ac
- o leiaf un gweithgaredd a fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl anabl.