Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2022
2. Cefndir a gofynion deddfwriaethol
4. Polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth
5. Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
6. Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb
7. Ymgynghori, cynnwys a hyfforddi
8. Arweinyddiaeth, rheolaeth a chyfrifoldebau
9. Asesiadau effaith cydraddoldeb
10. Adroddiadau cydraddoldeb ac amrywiaeth
11. Cysylltiadau a gwybodaeth bellach
Atodiad 1– Diffiniadau o nodweddion gwarchodedig
1.1. Drwy’r cyfan o’r polisi hwn, mae ‘cydraddoldeb’ yn golygu sicrhau bod pawb yn gallu cyrchu’r un cyfleoedd yn gyfartal, ac mae ‘amrywiaeth’ yn golygu cydnabod y gwahaniaethau rhwng pobl a sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod a’u parchu.
1.2. Y Comisiwn Brenhinol yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Nôl i ben y dudalen
2.1. Cyflwynwyd Deddf Cydraddoldeb 2010 ym mis Hydref 2010 i symleiddio a chymryd lle mwy na 100 o Ddeddfau a rheoliadau gwrth-wahaniaethu blaenorol. Ar 5 Ebrill 2011, daeth dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus i rym yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Disodlodd y ddyletswydd yr holl ddyletswyddau cydraddoldeb blaenorol ym meysydd hil, anabledd a rhyw.
2.2. Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb gyffredinol, a ategir gan ddyletswyddau penodol. Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol i’w chael yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac mae yr un fath drwy wledydd Prydain Fawr. Cafodd y dyletswyddau penodol eu creu drwy is-ddeddfwriaeth ac maent hwy’n wahanol i Gymru, Lloegr a’r Alban.
2.3. Mae’n ofynnol o dan y gyfraith i’r Comisiwn fodloni’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol fel cyflogwr ac fel corff sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Nid enwir y Comisiwn yn Atodlen 1 nac Atodlen 2 o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol) 2011, ac felly mae wedi’i eithrio o’r dyletswyddau penodol.
2.4. Fel cyflogwr, mae polisïau a gweithdrefnau’r Comisiwn yr un fath â rhai Llywodraeth Cymru. Nid oes rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth am ei aelodau staff gan ei fod yn cael ei ddosbarthu’n gorff bach (corff sy’n cyflogi llai na 50 o bobl). Mae’r holl bolisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â staff y Comisiwn i’w cael yn Llawlyfr Staff y Comisiwn.
2.5. Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol i’w gweld yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n nodi bod yn rhaid i’r sawl sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol, wrth gyflawni ei swyddogaethau, roi sylw dyledus i’r angen i:
1. Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth, ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf.
2. Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu, gan roi sylw dyledus yn arbennig i:
i. Diddymu neu leihau i’r eithaf anfanteision a ddioddefir gan bobl oherwydd eu nodweddion gwarchodedig;
ii. Cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig penodol lle mae’r rhain yn wahanol i anghenion pobl eraill;
iii. Annog pobl â nodweddion gwarchodedig penodol i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu weithgareddau eraill lle mae eu cyfranogiad yn anghymesur o isel.
2.6. Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn nodi bod ‘diwallu anghenion gwahanol’ yn golygu (ymhlith pethau eraill) cymryd camau i gymryd anableddau pobl anabl i ystyriaeth. Mae’n disgrifio ‘meithrin cysylltiadau da’ fel mynd i’r afael â rhagfarn a hybu dealltwriaeth rhwng pobl o wahanol grwpiau. Mae’n egluro y gall cydymffurfio â’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol olygu trin rhai pobl yn fwy ffafriol nag eraill. Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn cwmpasu’r nodweddion gwarchodedig canlynol ar gyfer staff a defnyddwyr gwasanaethau. Diffinnir y nodweddion hyn yn Atodiad 1:
Nodweddion gwarchodedig (staff) |
Nodweddion gwarchodedig |
Anabledd | Anabledd |
Rhyw (rhywedd) | Rhyw (rhywedd) |
Ailbennu rhywedd | Ailbennu rhywedd |
Beichiogrwydd a mamolaeth | Beichiogrwydd a mamolaeth |
Hil | Hil |
Crefydd a chredo | Crefydd a chredo |
Cyfeiriadedd rhywiol | Cyfeiriadedd rhywiol |
Oedran | Oedran |
Priodas a phartneriaeth sifil |
2.7. Cefnogir Polisi Iaith Gymraeg y Comisiwn gan ddeddfwriaeth wahanol, ac ni chynhwysir ef yn y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Gellir cael gwybodaeth bellach am y Polisi Iaith Gymraeg ar wefan y Comisiwn.
Nôl i ben y dudalen
3.1. Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i roi pobl wrth galon popeth mae’n ei wneud, ac i wasanaethu pobl mewn modd ymroddgar, cyfartal a diduedd.
3.2. Mae’r Comisiwn yn cefnogi cyflawni agenda strategol Llywodraeth Cymru, fel y’i mynegir yn ei Rhaglen Lywodraethu, i ‘[d]dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math’. Mae’r polisi hwn hefyd yn cefnogi nod y Llywodraeth i alluogi ‘twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu’ drwy wneud adnoddau diwylliannol a threftadaeth yn fwy hygyrch, ac annog mwy o gyfranogiad.
Nôl i ben y dudalen
4.1. Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i bawb wrth gyflawni ei swyddogaethau a’i wasanaethau, gan ei feithrin mewn amgylchedd o gyd-barch ac urddas.
4.2. Mae hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn berthnasol i bawb, ac mae holl aelodau cymuned y Comisiwn yn gyfrifol amdano. Mae cyfrifoldeb ar holl aelodau’r gymuned i sicrhau bod y Comisiwn yn parhau’n amgylchedd cynhwysol, croesawgar, diogel a chynhyrchiol.
4.3. Drwy ddarparu cyfle cyfartal i bob aelod o’n cymuned, a thrwy gydnabod a gwerthfawrogi amrywiaeth y gymuned honno, credwn y byddwn yn cyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol a chymdeithasol ond hefyd yn hybu effeithiolrwydd trefniadaethol a ffyrdd arloesol o weithio a fydd yn ein helpu i gyflawni ein swyddogaethau.
Nôl i ben y dudalen
5.1. Bydd y Comisiwn yn cynhyrchu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth bob blwyddyn sydd â’r nod o hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar waith y Comisiwn.
5.2. Bydd y gweithredoedd a nodir yn y cynllun yn rhoi eglurder a momentwm i’r agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y Comisiwn, drwy ganolbwyntio ar faterion penodol ac adrodd yn rheolaidd ar gynnydd.
Nôl i ben y dudalen
6.1. Mae’r Comisiwn wedi llunio Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb, sy’n ceisio hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws y naw nodwedd warchodedig.
6.2. Bydd y camau gweithredu a nodwyd yn y Cynllun yn rhoi eglurder a momentwm i’r agenda o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y Comisiwn, drwy ganolbwyntio ar faterion penodol ac adrodd yn rheolaidd ynghylch cynnydd.
Nôl i ben y dudalen
7.1. Bydd y Comisiwn yn parhau i ymgynghori â staff, defnyddwyr gwasanaethau ac unrhyw bartïon eraill sydd â diddordeb a’u cynnwys yn y polisi hwn, y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb ac unrhyw fentrau cydraddoldeb ac amrywiaeth eraill fel y bo’n briodol.
7.2. Bydd y Comisiwn yn parhau i ddarparu hyfforddiant i hybu ymwybyddiaeth gyffredinol o gydraddoldeb ac amrywiaeth, a bydd yn mynd i’r afael ag unrhyw fentrau hyfforddi penodol drwy’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Nôl i ben y dudalen
8.1. Yr Ysgrifennydd, sy’n adrodd i’r Comisiynwyr, sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros Gydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y Comisiwn.
8.2. Uwch reolwyr, rheolwyr llinell a’r Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sy’n gyfrifol am fonitro cydymffurfiad staff â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, am roi ar waith weithredoedd yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a’r Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb, ac am hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob rhan o’r Comisiwn.
8.3. Disgwylir i bob aelod o gymuned y Comisiwn gydymffurfio â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, â’r Cynlluniau Gweithredu cysylltiedig ac ag unrhyw fentrau cydraddoldeb ac amrywiaeth eraill o eiddo’r Comisiwn.
Nôl i ben y dudalen
9.1. Mae asesiad effaith cydraddoldeb yn cynnwys asesu effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau, arferion a gwasanaethau ar bobl mewn perthynas â’u nodweddion gwarchodedig. Mae’n helpu i sicrhau y cymerir anghenion pobl i ystyriaeth wrth ddatblygu a gweithredu polisi neu wasanaeth newydd, neu wrth wneud newidiadau i’n polisïau neu wasanaethau presennol.
9.2. Bydd asesiadau effaith cydraddoldeb yn parhau i gael eu hymgorffori yng ngwaith y Comisiwn o ddydd i ddydd.
Nôl i ben y dudalen
10.1. Bydd y Tîm Gweithredol yn adolygu cynnydd mewn perthynas â’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth unwaith bob chwarter. Bydd Arweinwyr Tîm yn rhoi adborth ar unrhyw weithredoedd priodol i’r timau unigol yn y cyfarfodydd tîm misol.
10.2. Bydd adroddiad chwarterol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei gyflwyno i’r Comisiynwyr. Bydd yr adroddiadau hyn yn:
11.1. Os hoffech gael y cyhoeddiad hwn ar ffurf dogfen bapur neu mewn fformat arall, cysylltwch â Reina van der Wiel yn reina.vanderwiel@cbhc.gov.uk, neu drwy ffonio 01970 621 240.
Nôl i ben y dudalen
12.1. Mae’r Comisiwn yn croesawu adborth ar ei Bolisi a’i Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth gan ddefnyddwyr ei wasanaethau ac aelodau staff. Byddwch cystal â chysylltu â Reina van der Wiel yn reina.vanderwiel@cbhc.gov.uk, neu drwy ffonio 01970 621 240.
Nôl i ben y dudalen
13.1. Bydd y Tîm Gweithredol yn adolygu’r polisi hwn bob tair blynedd. Ar ôl ei adolygu, caiff y polisi ei gymeradwyo gan y Comisiynwyr. Cynhelir yr adolygiad nesaf ym mis Ebrill 2025.
Nôl i ben y dudalen
Daw’r diffiniadau canlynol o nodweddion gwarchodedig o arweiniad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, ac fe’u rhestrir yn nhrefn yr wyddor.
Ailbennu rhywedd: Y broses o newid o un ryw i’r llall.
Anabledd: Mae anabledd gan unigolyn os oes nam meddyliol neu gorfforol arno/arni sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu’r unigolyn hwnnw i ymgymryd â gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
Beichiogrwydd a mamolaeth: Cyflwr o fod yn feichiog neu’n disgwyl babi yw beichiogrwydd. Cyfeiria mamolaeth at gyfnod ar ôl y geni, a chysylltir ef ag absenoldeb mamolaeth, yng nghyd-destun cyflogaeth. Pan nad yw yng nghyd-destun gwaith, mae diogelwch rhag gwahaniaethu ar sail mamolaeth yn ymwneud â’r 26 wythnos ar ôl y geni, ac mae hyn yn cynnwys ymdrin â menyw yn anffafriol oherwydd ei bod yn bwydo ar y fron.
Crefydd a chredo: Ystyrir crefydd yn ôl ei ystyr arferol ond cynhwysa chredo gredoau crefyddol ac athronyddol, gan gynnwys diffyg cred (e.e. Anffyddiaeth). Yn gyffredinol, nid yw credo’n perthyn i’r diffiniad hwn os nad yw wedi effeithio ar eich ffordd o fyw neu’r penderfyniadau a wnaethoch.
Cyfeiriadedd rhywiol: Pa un a yw atyniad rhywiol unigolyn tuag at ei ryw ei hunan, y rhyw arall neu’r ddwy ryw.
Hil: Mae hyn yn cyfeirio at grŵp o bobl a ddiffinnir gan eu hil, lliw, a chenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth), a gwreiddiau ethnig neu genedlaethol.
Oedran: Mae hyn yn cyfeirio at unigolyn sy’n perthyn i oedran penodol (e.e. 32 mlwydd oed) neu ystod o oedrannau (e.e. 18 – 30 mlwydd oed).
Priodas a phartneriaeth sifil: Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, nid yw priodas wedi’i chyfyngu bellach i uniad rhwng dyn a menyw. Mae’n cynnwys priodas rhwng cyplau o’r un rhyw hefyd.
Gall perthynas rhwng cyplau o’r un rhyw ac (yng Nghymru a Lloegr) cyplau nad ydynt o’r un rhyw gael ei chydnabod yn gyfreithiol yn ‘bartneriaeth sifil’ hefyd. Rhaid peidio â thrin partneriaid sifil yn llai ffafriol na chyplau priod (ac eithrio pan gaiff ei ganiatáu gan y Ddeddf Cydraddoldeb).
Rhyw (rhywedd): Bod yn ddyn neu’n fenyw. Ynghylch rhywedd: y rolau a pherthnasoedd cymdeithasol ehangach sy’n strwythuro bywydau dynion a menywod. Mae’r rhain yn newid dros gyfnod o amser ac yn amrywio o ddiwylliant i ddiwylliant.
I lawrlwytho’r ddogfen hon fel ffeil PDF, cliciwch yma: Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeith 2022-25