Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi llofnodi ‘Siarter i Gyflogwyr sy’n Gadarnhaol am Iechyd Meddwl’ y rhaglen ‘Mindful Employer’ (Cyflogwr Ystyriol).
Cafodd Mindful Employer, menter i’r DU gyfan sy’n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth GIG Partneriaeth Dyfnaint, ei sefydlu yn 2004. Mae’n cynnig mynediad haws i gyflogwyr i hyfforddiant, gwybodaeth a chefnogaeth broffesiynol ym maes Iechyd Meddwl yn y Gweithle, a’i nod yw helpu cyflogwyr i gymryd yr awenau wrth ofalu am iechyd meddwl eu staff.
Fel cyflogwr mae’r Comisiwn Brenhinol yn cydnabod bod pobl yn y DU sy’n profi afiechyd meddwl yn parhau i ddweud eu bod yn wynebu stigma a gwahaniaethu yn y gwaith. Drwy lofnodi’r Siarter, rydym yn ymrwymo i greu diwylliant cefnogol ag agored lle mae cydweithwyr yn teimlo y gallant siarad yn hyderus am iechyd meddwl, a byddwn yn ymdrechu i ofalu’n briodol am les meddyliol ein holl staff.
Rydym wedi ymrwymo i: