1. Ein hamgylchedd gweithredol
2. Cyflawni ein Hamcanion Allweddol
3. Cymorth grant Llywodraeth Cymru
Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf mae’r Comisiwn Brenhinol wedi datblygu’n sefydliad sy’n edrych tuag allan. Rydym ynghlwm wrth nifer o brosiectau ymchwil o bwys cenedlaethol a rhyngwladol sy’n mynd i’r afael â materion cyfoes allweddol yn ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd a galluogi pobl o bob cefndir i gymryd rhan yn nhreftadaeth Cymru.
Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi datblygu partneriaethau proffesiynol gyda’r prif sefydliadau sy’n ymwneud â deall, diogelu, gwella a chreu mynediad i dreftadaeth naturiol a diwylliannol Cymru, gan gynnwys yr RSPB, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a phrifysgolion Abertawe, Caerdydd, Bangor, Caer ac Aberystwyth, a nifer o awdurdodau lleol a grwpiau gwirfoddol, yn ogystal â’r tri sefydliad cenedlaethol arall sy’n gyfrifol am dreftadaeth ddiwylliannol Cymru – Cadw, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn ogystal â’r grant creiddiol a dderbyniwn gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ymchwil o’r tu allan drwy gydweithio â’r partneriaid uchod a phartneriaid eraill. Mae prosiectau o’r fath bellach yn cyfrif am oddeutu 20 y cant o’n hincwm ac mae hyn wedi ein galluogi i benodi staff ychwanegol i ymgymryd â gweithgareddau sy’n cyfrannu at gyflawni ein cylch gwaith o dan y Warant Frenhinol, sef ymchwilio i’r amgylchedd hanesyddol a churadu cofnodion.
Felly rydym yn edrych ymlaen at 2019-21 yn llawn hyder a brwdfrydedd, a chyda’r nod o adeiladu ar gyflawniadau’r blynyddoedd diwethaf a dod ag amrywiaeth o brosiectau uchelgeisiol i ben yn llwyddiannus. Y prif rai yw:
Mae sawl her ynghlwm wrth gyflawni’r agenda uchelgeisiol hon, yn enwedig y perygl y gallai gadael yr UE heb gytundeb ein gorfodi i ddod â’r prosiect CHERISH i ben yn gynnar os na fydd arian Ewropeaidd ar gael ar ei gyfer.
O ystyried ei bod hi’n cymryd tua 24 mis fel rheol i ddatblygu ceisiadau ar gyfer cyllid ymchwil, byddwn hefyd yn gweithio i ddatblygu prosiectau a phartneriaethau newydd i gymryd lle’r rheiny a gaiff eu cwblhau yn ystod cyfnod y cynllun hwn.
Rydym hefyd yn gorfod sicrhau cydbwysedd rhwng y rhwymedigaethau rydym wedi ymrwymo iddynt fel corff hyd braich a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, ein dyletswyddau o dan ein Gwarant Frenhinol, a’r ymrwymiadau sy’n deillio o’n cytundebau cyllid allanol a phartneriaeth. Mae gan bob un o’n cyllidwyr wahanol systemau adrodd a llywodraethu, ac mae cydymffurfio bellach yn weithgaredd o bwys ynddo’i hun ac yn cyfrif am oddeutu 15 y cant o’n holl gostau ac adnoddau.
Am y rheswm hwn, croesawn gynlluniau Llywodraeth Cymru i ysgafnhau’r baich o ran cydymffurfio sydd ar gyrff hyd braich, gan gynnwys cyflwyno cylchoedd gwaith ‘llywodraeth gyfan’. Felly mae’r cynllun gweithredol hwn yn cwmpasu cyfnod o 30 mis (o fis Ebrill 2019 hyd etholiadau Llywodraeth Cymru yn 2021) ac wedyn byddwn yn ymateb i unrhyw fframwaith newydd a ddatblygir gan y Llywodraeth newydd.
Mae gennym ymrwymiad cryf i Bartneriaeth Strategol Cymru Hanesyddol ac i gydweithio’n nes â Cadw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru i hybu diwylliant cyfoethog Cymru ymhlith cynulleidfaoedd lleol a rhyngwladol, i ddarparu gwasanaeth ardderchog i’r cyhoedd, i fod yn fwy effeithlon pryd bynnag y bo modd drwy gydweithio â’n partneriaid, ac i gynnal rhaglen o wella sgiliau a hyfforddiant i’r staff.
Rydym hefyd yn cefnogi ymdrechion y Prif Weinidog a’r Uned Cyrff Cyhoeddus i greu un gweithlu ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru ac i wella effeithiolrwydd drwy gydweithredu â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.
Nôl i ben y dudalen
Yn y cynllun gweithredol hwn nodir y prif weithgareddau y byddwn yn ymgymryd â hwy yn ystod y 30 mis nesaf mewn ymateb i’r llythyr cylch gwaith a dderbyniwn gan y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, sy’n nodi’r Amcanion Allweddol ar gyfer y Comisiwn Brenhinol ar gyfer gweddill y Tymor Llywodraeth presennol (hyd fis Mai 2021).
AA 1: Yn amodol ar drafodaethau pellach gyda’m swyddogion a’r cyngor a roddant imi, datblygu platfform TG newydd, sy’n gadarn ac yn effeithiol, er mwyn darparu mynediad at archifau a gwasanaethau’r Comisiwn Brenhinol. AA 2: Darparu cynnwys, gwasanaethau ac adnoddau digidol o safon uchel ar gyfer cynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol. AA 3: Gwneud casgliadau, gwasanaethau ac adnoddau’r Comisiwn Brenhinol yn fwy hygyrch, drwy gyfrwng gweithgareddau estyn-allan, partneriaethau lleol, ac ati. AA 4: Arwain y dasg o reoli data am amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, yn cynnwys y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol (CAHion) statudol. |
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn dal y casgliad cenedlaethol o gofnodion yn ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru, gan gynnwys casgliadau helaeth a chynhwysfawr o ffotograffau. Mae hwn yn adnodd allweddol i’r sawl sy’n ceisio deall sut mae gwahanol agweddau ar hunaniaeth Cymru wedi datblygu ers y cyfnodau cynharaf.
Cynnwys a darpariaeth ddigidol: bydd y rhan fwyaf o’r unigolion a sefydliadau sy’n gwneud defnydd o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn gwneud hynny drwy ddefnyddio Coflein, ein cyfleuster chwilio gwe-seiliedig, i chwilio am gofnodion a’u hadalw. Ar ôl dibynnu am dros ddeng mlynedd ar ein partneriaeth SWISH gyda Chomisiwn Brenhinol yr Alban gynt ar gyfer y cyfleuster hwn, rydym bellach wedi dechrau datblygu platfform darpariaeth ddigidol newydd a fydd yn darparu mynediad hwylus i adnoddau cyfoethog Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Un o’r prif amcanion ar gyfer y cyfnod yw hwn, a’r nod yw lansio’r platfform digidol newydd yn 2020. Bydd hyn yn ei dro yn rhyddhau’r arian rydym yn ei gyfrannu ar hyn o bryd at y bartneriaeth SWISH i’w ddefnyddio i hyfforddi staff fel y gallant gynnal a gwella’r system newydd. Yna byddwn yn ystyried cyfleoedd pellach i ddatblygu’r platfform fel gwasanaeth i’r amgylchedd hanesyddol ehangach yng Nghymru (gweler Darpariaeth Ddigidol uchod).
Mynediad: yn ogystal â pharhau i gasglu, diogelu, catalogio a darparu deunyddiau’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru, byddwn yn parhau i hybu defnydd ac ymwybyddiaeth o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ac i ddefnyddio ein gweithgareddau gwasanaeth cyhoeddus ac estyn-allan wedi’u hen sefydlu i sicrhau bod adnoddau’r Comisiwn Brenhinol ar gael i bawb. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys ein gwasanaethau ar-lein a’n hystafell ymchwil gyhoeddus, rhaglen brysur o ddigwyddiadau a gweithgareddau estyn-allan megis cyhoeddiadau, sgyrsiau, darlithiau, symposia, teithiau cerdded tywys, dyddiau agored ac arddangosfeydd teithiol, yn ogystal â’n stondinau yn Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Arweinyddiaeth ar gyfer y CAHion: byddwn yn parhau i arwain y gwaith o reoli data am amgylchedd hanesyddol Cymru drwy oruchwylio’n annibynnol y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol. Byddwn yn ystyried y dewisiadau ar gyfer creu Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Cymru Gyfan a fydd yn fwy ymatebol ac effeithlon o ran darparu data CAH-seiliedig, a byddwn hefyd yn adolygu ein gweithdrefnau archwilio i sicrhau y bydd yr archwiliadau CAH pum-mlynyddol a gynhelir yn 2020 yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gwella ansawdd y data a’r gwasanaethau a ddarperir.
Nôl i ben y dudalen
AA 5: Monitro bodlonrwydd defnyddwyr ac ymgorffori eu hadborth ym mentrau a datblygiadau’r dyfodol. |
Bodlonrwydd defnyddwyr: byddwn yn parhau i fonitro bodlonrwydd ac adborth defnyddwyr ac i sicrhau y defnyddir y wybodaeth a gesglir i lywio’r ffordd y byddwn yn cynllunio ein prosiectau, cynhyrchion a gwasanaethau. Byddwn yn dechrau adolygiad o’n strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd gyda’r nod o sicrhau ein Comisiynwyr a Llywodraeth Cymru ein bod ni’n bodloni anghenion ein holl ddefnyddwyr ac yn gwneud cyfleoedd diwylliannol yn hygyrch i bobl o bob cefndir, gan adlewyrchu amrywiaeth ein cenedl, a chan annog yr amrywiaeth ehangaf bosibl o gynulleidfaoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol. Yn y modd hwn, bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyfrannu at y nod o wneud Cymru’n genedl weithgar greadigol.
Nôl i ben y dudalen
AA 6: Parhau â’ch rhaglen ymchwiliol bresennol, yn enwedig o ran cynorthwyo i ddatblygu’r enwebiad dan arweiniad Cyngor Gwynedd i gael Statws Treftadaeth y Byd i Dirweddau Llechi Cymru wrth iddo gyrraedd y camau hollbwysig cyn mynd gerbron UNESCO. |
Cais Safle Treftadaeth Byd Diwydiant Llechi Cymru: byddwn yn parhau i roi cefnogaeth gref i’r cais i sicrhau Safle Treftadaeth y Byd i Ddiwydiant Llechi Cymru cyn iddo gael ei gyflwyno i UNESCO yn hydref 2019. Bydd ein staff maes yn parhau i weithio ar y dogfennau craidd ar gyfer yr enwebiad, gan weithio yn y maes i nodi asedau o bwys. Byddwn yn tynnu lluniau o’r awyr er mwyn cyflenwi delweddau cyfoes ar gyfer y dogfennau enwebu, ac yn darparu delweddau hanesyddol o’n harchif. Byddwn yn helpu i ddylunio a chynhyrchu’r ddogfen enwebu derfynol, gan ddefnyddio ein hadnoddau GIS, mapio, dylunio, a modelu 360-gradd. Bydd staff a Chomisiynwyr yn cynnig sylwadau fel ‘cyfeillion beirniadol’ ar ddrafftiau’r ddogfen enwebu.
Arolygu ac ymchwilio: Bydd ein tîm o staff maes hynod brofiadol yn ymgymryd â rhaglen brysur o waith arolygu i gofnodi a dehongli adeiladau hanesyddol, tirweddau a henebion pwysicaf Cymru, gan ddefnyddio dulliau fel arolygon archaeolegol, ffotograffiaeth, laser-sganio 3D, dronau, LiDAR a thynnu lluniau o’r awyr.
Mae ein strategaeth arolygu’n cynnwys cynnal prosiectau wedi’u seilio ar thema neu ardal i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o rannau o’n treftadaeth nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol, sy’n eithriadol o bwysig, neu sydd mewn perygl o ganlyniad i esgeulustod, difrod amgylcheddol neu ddatblygiad. O dan rai amgylchiadau, byddwn yn cofnodi adeiladau arbennig o bwysig mewn ymateb i fygythiadau penodol, ac yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid perthnasol i wneud hynny pryd bynnag y bo modd.
Byddwn yn parhau â’n gwaith hirsefydlog ar adeiladau gwerinol canoloesol Cymru, gan weithio gyda phartneriaid megis cymdeithasau lleol a helpu gyda hyfforddiant anffurfiol ar gyfer eu gwirfoddolwyr. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda Phrifysgol Caerdydd ar ddulliau dyddio coed arloesol sy’n seiliedig ar isotopau ocsigen.
Addoldai Hanesyddol: byddwn yn gweithio gyda Cadw a’r Architectural History Practice i gwblhau arolwg o’r holl eglwysi Catholig yng Nghymru er mwyn mesur a phwyso eu pwysigrwydd ac i hwyluso gwneud penderfyniadau gwybodus am geisiadau grant, rhestru, a chau a gwaredu posibl. Byddwn yn gweithio gyda Cadw a’r Eglwys Gatholig i nodi addoldai y dylid gwneud cofnod mwy manwl ohonynt. Byddwn hefyd yn cynnal arolwg peilot o addoldai diwedd y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif yng Nghymru cyn cynnal arolwg Cymru gyfan. Byddwn yn parhau i gadeirio Fforwm Addoldai Hanesyddol Cymru gyda’r nod o helpu cynulleidfaoedd i gwrdd â’r her o ofalu am yr addoldai hanesyddol y maent hwy’n gyfrifol amdanynt.
Nôl i ben y dudalen
AA 7: Parhau i gydweithio gyda Croeso Cymru i hyrwyddo Cymru, yn cynnwys trwy gyfrwng y ‘Flwyddyn Darganfod’ a’r blynyddoedd dilynol a fydd â thema arbennig i hyrwyddo twristiaeth. |
Bydd y Comisiwn Brenhinol yn gwneud cyfraniad pwysig at hyrwyddo a diogelu lle Cymru yn y byd, drwy gyflwyno diwylliant, treftadaeth ac iaith y genedl i gynulleidfa ryngwladol a helpu i hyrwyddo ein gwlad yn fyd-eang. Byddwn yn gwneud hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys ein harddangosfeydd, sgyrsiau a chyhoeddiadau, ein gweithgarwch ar gyfryngau cymdeithasol, ein gwaith maes ac ymchwil a’n gwasanaethau i’r cyhoedd. Byddwn yn cefnogi gweithgareddau sy’n hyrwyddo Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru, ac yn dathlu cofrestru Diwydiant Llechi Gogledd Cymru os bydd hyn yn llwyddiannus. Fel y corff sy’n cadeirio Fforwm Addoldai Hanesyddol Cymru, byddwn yn trefnu symposiwm i ddwyn ynghyd bawb sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ffydd a phererindota gyda’r nod o hybu cydlynu a budd ariannol.
Y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol: yn ychwanegol at y gweithgareddau isod, byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid yn y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol i hyrwyddo treftadaeth Cymru ac i gyfrannu i’r adroddiad ‘Heritage Counts’ sy’n ddogfen rymus dros dreftadaeth, a byddwn yn cymryd rhan weithgar yn fforymau a byrddau strategol y sector treftadaeth Cymreig.
Blwyddyn Darganfod: byddwn yn mynd ati i ddatblygu cyfres gydlynol o weithgareddau ar gyfer Blwyddyn Darganfod, gan gynnwys digwyddiadau, cynnwys gwefan ac arddangosfeydd, gyda’r nod o annog pobl i ymchwilio a darganfod mwy am dreftadaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chroeso Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw, Fforwm Addoldai Hanesyddol Cymru a phartneriaid eraill yn y sector. Byddwn yn cyhoeddi ein cyfrol Cymru a’r Môr, llyfr dwyieithog llawn lluniau 328-tudalen sy’n cael ei gynhyrchu mewn partneriaeth â’r cyhoeddwr, Y Lolfa, a bydd ein harddangosfa deithiol ar yr un thema yn parhau i gael ei dangos yn amgueddfeydd Cymru.
Nôl i ben y dudalen
AA 8: Parhau i ddarparu profiadau dysgu o’r radd flaenaf. AA 9: Parhau i greu adnoddau dysgu digidol ar gyfer Hwb mewn partneriaeth â’r Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a Cadw. AA 10: Gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, ac yn rhyngwladol. |
Fel rhan o’n rhaglen CHERISH byddwn yn cynnal cloddiadau cymunedol yng Nghymru yn ystod haf 2019 a haf 2020; a byddwn yn cefnogi’r rhaglen o arolygon maes a chloddiadau sy’n cael eu cynnal gan Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur i ddarganfod mwy am y dirwedd fynachaidd o amgylch yr abaty.
Byddwn yn parhau i ddarparu profiadau dysgu o safon uchel, yn anffurfiol drwy ein llyfrgell ac ystafell ymchwil gyhoeddus a’r staff gwybodus sy’n gweithio yno a thrwy ymweliadau grŵp gan blant ysgol, myfyrwyr a grwpiau cymunedol, ac yn fwy ffurfiol drwy gynnig cyfleoedd gwirfoddoli neu leoliadau i fyfyrwyr.
Byddwn yn parhau i gyfrannu at y gwaith o ddiffinio cwricwlwm Cymru-ganolog newydd i ysgolion fel aelod o’r gweithgor a sefydlwyd at y pwrpas hwnnw gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Byddwn hefyd yn parhau i helpu Partneriaeth Strategol Cymru Hanesyddol i roi ar waith ei chynllun gweithredu ar gyfer datblygu sgiliau. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda Phrentisiaethau Cymru i ddiffinio a chyflwyno Fframweithiau Prentisiaethau ffurfiol ar gyfer y sector treftadaeth.
Nôl i ben y dudalen
AA 11: Parhau i gynorthwyo gyda’r dasg o reoli’r amgylchedd hanesyddol yng nghyd-destun newid hinsawdd, yn rhannol trwy eich rôl fel aelodau o is-grŵp ‘Addasu ar gyfer Newid Hinsawdd’ y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, ac yn enwedig yn y meysydd hynny mae gennych arbenigedd ynddynt, fel treftadaeth forol. |
Cyngor cynllunio: byddwn yn parhau i gynorthwyo’r rheiny sy’n gweithio ym meysydd cynllunio, cadwraeth a pholisi amgylcheddol er mwyn cyfrannu at reolaeth gynaliadwy o’r amgylcheddau hanesyddol a naturiol, yn enwedig mewn meysydd lle y mae gennym arbenigedd neilltuol megis treftadaeth forol.
Archaeoleg arforol: byddwn yn cyfrannu at ddiffinio a hyrwyddo polisi archaeoleg arforol yng Nghymru ac yn darparu cyngor arbenigol mewn ymateb i geisiadau am drwyddedau morol fel rhan o’r drefn caniatâd morol, gan sicrhau bod llongddrylliadau hanesyddol a phalaeo-dirweddau boddedig yn cael eu deall yn well a’u gwarchod yn dda.
Adeiladau mewn perygl: byddwn yn parhau i drafod â Cadw ynghylch adeiladau unigol a mathau o adeiladau sydd fwyaf mewn perygl a byddwn yn ymgymryd â gwaith cofnodi os yw’r adnoddau gennym (ac os nad oes gennym ddigon o adnoddau i gwrdd â’r angen byddwn yn asesu hyd a lled y gwaith ac yn ceisio lefelau priodol o gyllid).
CHERISH: yn ychwanegol at yr uchod, bydd y gwaith y mae’r Comisiwn Brenhinol yn ei wneud fel rhan o’r prosiect CHERISH yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o newid hinsawdd a’i effeithiau. Mae hyn yn wir hefyd am ein gwaith ar ran is-grŵp newid hinsawdd y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, sy’n cynnwys modelu effeithiau posibl newidiadau yn lefel y môr a llifogydd ar y naill law a chodiadau mewn tymheredd ar y llaw arall.
Nôl i ben y dudalen
AA 12: Parhau i gynnig cymorth i wasanaethau cadwraeth awdurdodau lleol a gweithio gyda Cadw i bennu blaenoriaethau cofnodi fel rhan o’r dasg o reoli asedau hanesyddol sydd mewn perygl. |
Cymorth ar gyfer gwasanaethau cadwraeth awdurdodau lleol: fe fyddwn, fel ymgynghoreion statudol yn y broses Caniatâd Adeilad Rhestredig, yn parhau i roi cyngor i swyddogion cadwraeth awdurdodau lleol ar geisiadau Caniatâd Adeilad Rhestredig. Byddwn yn rhoi gweithdrefnau newydd ar waith ar gyfer rheoli a monitro’r gwaith hwn (yn ogystal â’r gwaith ar gyngor cynllunio morol a thrwyddedu morol). Byddwn yn cynhyrchu arweiniad ar lefelau o gofnodi at ddefnydd swyddogion cadwraeth a chynllunio awdurdodau lleol er mwyn annog y defnydd o amodau cynllunio sy’n gofyn i ymgeiswyr am Ganiatâd Adeilad Rhestredig gofnodi’r adeiladau dan sylw ar lefel briodol o fanylder. Byddwn yn gweithio gydag asiantaethau treftadaeth Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i sicrhau bod y pedair cenedl yn mabwysiadu ymagwedd gyson.
Nôl i ben y dudalen
AA 13: Parhau i gynnig gweithgareddau a phrofiadau sy’n cael effaith ar iechyd a llesiant ein cymunedau, gan weithio mewn partneriaeth â gwirfoddolwyr a sefydliadau priodol. |
Iechyd meddwl: yn dilyn y digwyddiad undydd a gynhaliwyd gan y Comisiwn Brenhinol yn 2017 i gyflwyno gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol i Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, rydym wedi dechrau sefydlu sylfaen gadarn o weithgarwch pellach er mwyn hybu’r archif fel archif cof, adnodd y gellir ei ddefnyddio i ysgogi atgofion a chof i bobl sy’n byw gyda dementia. Byddwn yn datblygu hyn mewn cydweithrediad â Chasgliad y Werin Cymru ac yn gweithio gyda sefydliadau yng Nghymru i feithrin ymagwedd gyffredin.
Teithiau cerdded tywys: byddwn yn helpu i hyrwyddo iechyd da a llesiant i bawb drwy barhau i weithio gyda grwpiau lleol i drefnu ac arwain teithiau cerdded mewn rhannau o Gymru y mae ganddynt dreftadaeth gyfoethog.
Nôl i ben y dudalen
AA 14: Annog a chynyddu cyfranogiad mewn gweithgareddau diwylliannol ymhlith cynulleidfaoedd eang iawn. |
Treftadaeth Ddisylw: Ceredigion Gyfyngedig?: byddwn yn cwblhau cam olaf ein prosiect Ceredigion Gyfyngedig?, wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu arfer gorau wrth weithio gyda phobl ifanc nad oes ganddynt lawer o gysylltiad â threftadaeth. Mae cynllun gweithredu’r prosiect wedi’i seilio ar anghenion a chymhellion y bobl ifanc, partneriaid a rhanddeiliaid a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad, ac mae wedi’i strwythuro mewn ffordd a fydd yn galluogi pobl ifanc i reoli a diffinio manylion ac allbynnau eu prosiect wrth iddo ddatblygu.
Lleoliad ‘Sgiliau ar gyfer y Dyfodol’: mae’r Comisiwn Brenhinol yn gweithio mewn partneriaeth â’r Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Ceredigion ar y cynllun Uchelgais Diwylliannol: Amrywiaethu’r gweithle treftadaeth drwy gydweithredu, cyfle a sgiliau. Ariennir y cynllun gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i bwrpas yw rhoi cyfleoedd i bobl rhwng 18 a 24 oed o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is gael profiad gwaith yn y sector treftadaeth. Mae un lleoliad cyflogedig tri-mis wedi’i gwblhau’n llwyddiannus a byddwn yn parhau i gynnig lleoliadau tra bo cyllid ar gael.
Nôl i ben y dudalen
AA 15: Parhau i gynnal sefydliad effeithiol ac effeithlon trwy gyflawni eich swyddogaethau corfforaethol yn unol â safonau arferion gorau a chanllawiau corfforaethol Llywodraeth Cymru. |
Swyddogaethau corfforaethol: mae swyddogaethau corfforaethol y Comisiwn Brenhinol yn cynnwys llywodraethu, cyllid, caffael a thalu cyflenwyr, rheoli cyfleusterau, cynllunio ar gyfer trychineb, cynnal cofrestr risg, iechyd a diogelwch, TGCh a Diogelwch Seibr, adnoddau dynol a gweithgareddau hyfforddi, monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth, codi arian a datblygu partneriaethau allanol, cydymffurfiad Iaith Gymraeg, adroddiadau chwarterol i Lywodraeth Cymru, yr adroddiad blynyddol, yr archwiliad blynyddol, trefnu cyfarfodydd y Comisiwn, recriwtio Comisiynwyr, a llawer mwy.
Yn sgil archwiliad diweddar o’n cydymffurfiad â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol fe sicrhawyd achrediad Cyber Essential Plus gydag IASME, a byddwn yn parhau i roi blaenoriaeth uchel i Ddiogelwch Seibr a phreifatrwydd personol yn ein holl weithgareddau.
Byddwn yn parhau i weithio gydag archwiliwyr Llywodraeth Cymru ar raglen dreigl o ymchwilio a sicrhau: yn 2020 archwilir ein cydymffurfiad â’r rheolau caffael mewn perthynas â’n gweithgarwch is-gontractio darpariaeth ddigidol, ac yn 2021 archwilir ein gweithgarwch adnoddau dynol.
Partneriaeth Strategol Cymru Hanesyddol: fel aelod o Bartneriaeth Strategol Cymru Hanesyddol a’i phedwar gweithgor byddwn yn gweithio gyda sefydliadau eraill, staff ac undebau llafur cydnabyddedig yn y sectorau amgylchedd hanesyddol, amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yng Nghymru i fynd i’r afael â gofynion sgiliau arbenigol yn y pedwar sefydliad cenedlaethol a’r sector treftadaeth ddiwylliannol ehangach.
Bydd Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol yn parhau i wasanaethu fel cyd-gadeirydd Partneriaeth Strategol Cymru Hanesyddol a bydd yn ymdrechu i yrru agendâu eraill y bartneriaeth yn eu blaen: rhoi sylw i gostau swyddfa gefn, gwasanaeth cwsmeriaid, cyfleoedd masnachol, brandio, cysoni cyflogau a thelerau ac amodau cyflogaeth ar draws y sector, a thynnu’r rhwystrau biwrocrataidd i symudiad rhydd staff o’r naill sefydliad i’r llall.
Blaenoriaethau’r Comisiwn Brenhinol ar gyfer y flwyddyn fydd cydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a chael achrediad Cyber Essentials Plus gydag IASME.
Nôl i ben y dudalen
Bydd Llywodraeth Cymru’n darparu’r dyraniad cyllid canlynol i’r Comisiwn Brenhinol yn 2019-20 ar gyfer cyflawni’r blaenoriaethau a amlinellir yn y Cynllun Gweithredol hwn. Rhoddir ffigurau dros dro hefyd ar gyfer gwariant cyfalaf yn 2020-21 i dalu am gostau datblygu’r platfform darpariaeth ddigidol newydd.
Refeniw | Cyllideb 2019-20 £000 |
Refeniw (gros) | 1,618 |
Namyn: incwm a gynhyrchir | (87) |
Llinell sylfaen y refeniw | 1,531 |
Cyllid a ddyrennir i gwrdd â chostau pensiwn ychwanegol y sector cyhoeddus Trosglwyddiad gan Cadw i gyllido Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru Grant gan Cadw ar gyfer gwaith ar y Gofrestr o Barciau a Gerddi Hanesyddol | 65 60 63 |
Cyfanswm y Refeniw (net) | 1,719 |
Cyfalaf | Cyllideb 2019-20 £000 | Cynlluniau 2020-21 £000 |
Cyfanswm y Cyfalaf | I’w gadarnhau | I’w gadarnhau |
Cyllid ychwanegol nad yw’n gymorth grant sydd wedi’i glustnodi eisoes ar gyfer cynorthwyo gyda gweithgareddau penodol:
Cynlluniau 2019-20 £000 | Dangosol 2020-21 £000 | |
Rhaglen Casgliad y Werin Cymru | I’w gadarnhau | I’w gadarnhau |
I lawrlwytho’r ddogfen hon fel ffeil PDF, cliciwch yma: Cynllun Gweithredol 2019-21
![]() | Mae’r ddogfen hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. |