Cynllun Gweithredol 2022-26

Ein cenhadaeth yw helpu pawb i ddeall, gwerthfawrogi a mwynhau amgylchedd hanesyddol Cymru yn ei holl amrywiaeth.


1. Cyflwyniad

2. Y Warant Frenhinol

3. Cylch gwaith Llywodraeth Cymru

4. Egwyddorion craidd

5. Cynllun Gweithredol 2022-2026


1. Cyflwyniad

Mae’r Cynllun Gweithredol hwn yn ehangu’r egwyddorion a nodir yn ein Gweledigaeth Strategol ac yn esbonio sut rydym yn bwriadu cyflawni gofynion y Warant Frenhinol a chylch gwaith Llywodraeth Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Nôl i ben y dudalen

2. Y Warant Frenhinol

Mae ein cenhadaeth graidd wedi’i hymgorffori yn ein Gwarant Frenhinol, sy’n datgan ei bod yn ofynnol i ni wneud y canlynol:

  • darparu ar gyfer arolygu a chofnodi henebion a strwythurau hynafol a hanesyddol sy’n gysylltiedig â diwylliant cyfoes, gwareiddiad ac amodau bywyd pobl Cymru o’r cyfnodau cynharaf, neu sy’n dangos hynny (gan gynnwys yr henebion a’r strwythurau hanesyddol yn, ar neu o dan wely’r môr o fewn môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig gerllaw Cymru)
  • drwy lunio, cynnal a churadu Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru fel y cofnod cenedlaethol sylfaenol o’r amgylchedd archaeolegol a hanesyddol,
  • drwy nodi, arolygu, dehongli a chofnodi pob adeilad, safle a heneb o ddiddordeb archaeolegol, pensaernïol a hanesyddol yng Nghymru neu o fewn y môr tiriogaethol gerllaw Cymru,
  • er mwyn gwella a diweddaru Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, a hefyd ymateb i anghenion statudol: drwy ddarparu cyngor a gwybodaeth sy’n berthnasol i gadw a chadwraeth adeiladau, safleoedd a henebion hynafol o ddiddordeb archaeolegol, pensaernïol a hanesyddol:
  • drwy gasglu a chyfnewid data â deiliaid cofnodion eraill a darparu mynegai i ddata o ffynonellau eraill: drwy hybu defnydd cyhoeddus o’r wybodaeth sydd ar gael yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru drwy bob dull priodol: drwy sefydlu a chynnal safonau cenedlaethol mewn arolygu, cofnodi a churadu cofnodion sy’n ymwneud ag archaeoleg a phensaernïaeth hanesyddol a rhoi arweiniad ar y materion hyn i gyrff eraill a thrwy arfer cyfrifoldeb am oruchwylio Cofnodion Safleoedd a Henebion lleol.

Yn ogystal, mae’r Comisiwn Brenhinol yn ymgynghorai statudol ym mhroses cynllunio a rheoli datblygu Cymru, sy’n golygu ei bod yn ofynnol i ni, o dan amodau llywodraeth San Steffan, Cymru a llywodraeth leol roi cyngor ar geisiadau am ganiatâd adeiladau rhestredig sy’n ymwneud â dymchwel adeiladau rhestredig yn rhannol neu’n llwyr, a rhoi sylwadau ar brosiectau seilwaith cenedlaethol, gan gynnwys ceisiadau cynllunio morol.

Gan weithio gyda Cadw rydym yn cefnogi swyddogion cadwraeth llywodraeth leol gyda chyngor cyn cynllunio yn ymwneud ag adeiladau rhestredig, ac rydym yn cynnal arolygon mewn perygl a gwaith ymchwil a gwaith arolygu brys ar gyfer safleoedd ac adeiladau sylweddol sydd mewn perygl.

Gofynnir am ein harbenigedd gan y byrddau a’r panelau cynghori amrywiol yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol yr ydym yn aelodau ohonynt, a phanelau’r DU a rhyngwladol, fel Fforwm Treftadaeth yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, y Fforwm Digital4Culture, Rhwydwaith Archaeoleg Ddiwydiannol y DU, Fforwm Mannau Addoli Hanesyddol Cymru, Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol, Grŵp yr Amgylchedd Adeiledig Hanesyddol, y Panel Archifau Pensaernïol, Menter Treftadaeth Leol Cymru, Grŵp Llywio Fframwaith Ymchwil Archaeolegol Cymru, Grŵp Rheoli Casgliad y Werin Cymru, a Grŵp Rheoli Safle Treftadaeth Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Nôl i ben y dudalen

3. Cylch gwaith Llywodraeth Cymru

Gan ein bod yn dibynnu ar y pwrs cyhoeddus am gyfran o’n cyllid, rydym yn cyflawni ein gwaith Gwarant Frenhinol mewn ffyrdd sy’n cyfrannu’n amlwg at y targedau yn y Rhaglen Lywodraethu ac at yr amcanion a nodir yn ein Llythyr Cylch Gwaith gan Ddrprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon. Rydym yn credu bod lefel uchel o gydgyfeiriant rhwng y ddau gylch gwaith yn y pedwar maes a ganlyn, a’r rhain fyddwn yn eu blaenoriaethu yn ystod y pum mlynedd nesaf:

  1. Cymru wyrddach: mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
  2. Strategaeth ddigidol Cymru: cyflawni trawsnewid digidol wrth ddarparu ein gwasanaethau cyhoeddus.
  3. Yr iaith Gymraeg a hanes Cymru: datblygu Rhestr o Enwau Llefydd Hanesyddol Cymru, cyfrannu at y Cwricwlwm Cenedlaethol i Gymru a’i bwyslais ar hanes Cymru a chefnogi’r nod o sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu.
  4. Strategaeth ddiwylliannol: cyfrannu at lunio a chyflawni strategaeth ddiwylliannol Cymru a hwyluso ymgysylltu cymunedol ag amgylchedd hanesyddol Cymru.

Nôl i ben y dudalen

4. Egwyddorion craidd

Wrth gyfrannu at yr amcanion hyn, byddwn yn parhau i bwysleisio pa mor ganolog yw ein Gwarant Frenhinol a chyd-ddibyniaeth gwaith arolygu’r Comisiwn Brenhinol a’i guradu ar Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Rhyng-gysylltiad y gweithgareddau hyn, a’r gwasanaethau cyhoeddus sy’n seiliedig arnynt, sy’n ein gwneud yn unigryw fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru.

Drwy ein gwaith arolygu rydym yn creu gwybodaeth newydd sy’n cael ei defnyddio i wella CHCC, gan sicrhau bod y cofnod yn parhau i dyfu fel adnodd sy’n gyfoes ac sy’n galluogi defnyddwyr i ddeall, gwerthfawrogi a mwynhau hanes amrywiol Cymru a’i hamgylchedd hanesyddol.

Drwy ganolbwyntio ein gwaith arolygu ar dreftadaeth sydd mewn perygl ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, ein nod yw creu cofnod ar gyfer y dyfodol o newid yn yr amgylchedd hanesyddol a darparu’r sylfaen dystiolaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen i benderfynu pa adeiladau a henebion ddylid eu gwarchod drwy wahanol ffurfiau ar gofrestru ac yn sail i bolisïau cadwraeth, cynllunio a rheoli datblygu llywodraeth leol a chenedlaethol a gwneud penderfyniadau.

Byddwn yn cefnogi Cadw a Llywodraeth Cymru i gyflawni ymrwymiadau cytundeb statudol a rhyngwladol Cymru o ran cynllunio, cadwraeth a stiwardiaeth gyfrifol ar yr amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys gwarchod a rheoli Tirwedd Llechi Treftadaeth Byd Gogledd Orllewin Cymru sydd newydd ei gofrestru.   

Byddwn yn sicrhau bod Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) yn cael ei reoli i’r safonau uchaf o ran cadwraeth, catalogio a mynediad cyhoeddus, yn unol ag un o dri chasgliad cenedlaethol Cymru (ochr yn ochr â’r Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru) a chan gydymffurfio â’n Hachrediad Gwasanaeth Archif a’n statws fel Man Adneuo Cydnabyddedig ar gyfer cofnodion cyhoeddus.

Byddwn yn parhau i sicrhau bod yr adnodd unigryw hwn ar gael drwy Coflein a’n Gwasanaeth Ymholiadau pwrpasol sy’n cael ei staffio gan weithwyr proffesiynol cymwys i sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid o’r safon uchaf. Byddwn yn hyrwyddo ein hadnoddau i’r ystod ehangaf o ddefnyddwyr ac at yr ystod ehangaf o ddibenion, er mwyn galluogi pobl i ddeall, gwerthfawrogi a mwynhau treftadaeth Cymru a’u cymunedau eu hunain.

Byddwn yn parhau i arwain y sector yn y defnydd o dechnoleg newydd ac arloesi, yn anad dim er mwyn sicrhau’r mynediad ehangaf posibl at y deunydd sy’n cael ei gadw yn CHCC drwy ein platfform Coflein, ein Gwasanaeth Ymholiadau ac yn y gwaith arloesol rydym yn ei wneud i wthio ffiniau integreiddio a dadansoddi data ar sail mapiau, arolygon digidol o safleoedd ac adeiladau, a dehongliad digidol o safleoedd a naratifau treftadaeth ac ymgysylltu â hwy.

Byddwn yn rhannu ein gwybodaeth gyda sefydliadau partner drwy ein gwaith yn gouchwylio Cofnodion yr Amgylchedd Hanesyddol a’r gynhadledd Gorffennol Digidol yn ogystal â thrwy ein gwaith gyda’r Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth i ddatblygu Storfa Ddigidol Ddibynadwy ddwyieithog ar gyfer y celfyddydau a’r dyniaethau yng Nghymru. Byddwn yn gwneud defnydd o dechnoleg ddigidol arloesol, mwy o ddigideiddio ar ein harchifau a’n platfformau ar-lein fel dull o alluogi ymgysylltu byd-eang â’n data a’n gweithgareddau allgymorth.

Byddwn yn dangos perthnasedd ein gwaith a’n casgliadau i gymunedau amrywiol yng Nghymru ac yn eu helpu i adrodd straeon am eu bywydau a’u treftadaeth. Drwy ddarparu mynediad i gasgliadau cyfoethog CHCC, a gweithio mewn partneriaeth â chyrff treftadaeth, twristiaeth, addysgol a diwylliannol eraill yng Nghymru ac yn rhyngwladol, byddwn yn cynyddu ein heffaith ac yn cyflwyno delwedd gadarnhaol o dreftadaeth Cymru i’r byd.

Byddwn yn gweithio tuag at fframio a chyflawni strategaeth ddiwylliannol Cymru a thuag at ddull mwy integredig o ddiogelu, hyrwyddo a gwella treftadaeth naturiol a diwylliannol Cymru ar draws gwahanol bortffolios Llywodraeth Cymru.

Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus cwbl ddwyieithog ac yn annog y defnydd o’r Gymraeg yn ein holl weithgareddau.

Byddwn yn dathlu amrywiaeth ac yn ceisio dileu anghydraddoldeb yn ei holl ffurfiau a sicrhau bod ein gwaith yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Chynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod ein prosesau caffael yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol ac yn cyfrannu at egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a helpu i ddatblygu diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.

Mae’r berthynas rhwng y cyflogwr a’r undeb llafur yn y Comisiwn Brenhinol yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydym yn credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy i reolwyr a’r undeb llafur gydweithio i roi llais gwirioneddol i staff yn y gweithle, sicrhau bod buddiannau staff yn cael eu hyrwyddo a’u hamddiffyn, helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau i bawb, yn enwedig meysydd fel cyflog, telerau ac amodau, polisïau a gweithdrefnau a chynllunio’r gweithlu a newid sefydliadol.

Byddwn yn cefnogi iechyd corfforol a meddyliol ein gweithlu, yn annog dull ‘un tîm’ o weithredu ymhlith cydweithwyr, gan adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu o’r pandemig i hyrwyddo hyblygrwydd a gallu i addasu ynghyd ag ymddygiadau cydweithredol a chefnogol. Byddwn yn adolygu mannau ac arferion gweithio (gan gynnwys gweithio o gartref) i gefnogi effeithlonrwydd a chynhyrchiant a buddion amgylcheddol. Byddwn yn helpu staff i ddatblygu drwy hyfforddiant, hyfforddi a dysgu oddi wrth ein gilydd. Ein nod ni yw cynyddu amrywiaeth ein gweithlu a’n gallu yn y Gymraeg a sicrhau ein bod yn gynhwysol ac yn groesawgar i bawb.
Nôl i ben y dudalen

5. Cynllun Gweithredol 2022–2026

1. Cymru wyrddach: mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Cadeirio is-grŵp Newid Hinsawdd HEG ac arwain y gwaith o gyflawni Cynllun Addasu Sector yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd.
  • Cwblhau prosiect CHERISH yn ystod 2022–23 gyda blwyddyn o weithgarwch i hybu ymwybyddiaeth o effeithiau newid hinsawdd ar dreftadaeth Cymru a mesurau lliniaru ac addasu priodol.
  • Cynnal y bartneriaeth Gymreig / Gwyddelig gadarn sydd wedi cyflwyno prosiect CHERISH a gweithio i sicrhau cyllid dilynol ar gyfer gwaith pellach i fonitro effeithiau newid yn yr hinsawdd ar yr amgylchedd hanesyddol, gyda’r nod o ddarparu mecanwaith rhybuddio cynnar ac ystod o fesurau lliniaru ac addasu.
  • Parhau i fonitro a deall effeithiau newid yn yr hinsawdd ar amgylchedd hanesyddol Cymru drwy ein gwaith arolygu o’r awyr a dronau, ein gwaith arolygu morol a’n gwaith maes archaeolegol. Mae hyn yn cynnwys parhau â’n gwaith fel ymgynghorai statudol ar gyfer cynllunio morol a chyfrannu at gynllunio seilwaith ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy, prosiectau ailgoedwigo ac amddiffyn yr arfordir ac afonydd, i sicrhau nad yw’r amgylchedd hanesyddol yn cael ei effeithio’n negyddol gan fesurau lliniaru ac addasu.
  • Parhau â’n gwaith o gofnodi treftadaeth adeiledig yr 20fed ganrif sydd mewn perygl, gan gynnwys y rhai mwyaf arwyddocaol o blith yr ysgolion sydd i’w newid o dan Raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, canolfannau dinesig ar ôl y rhyfel a mannau addoli.
  • Gyda phartneriaid academaidd, ceisio cyllid gan y cyngor ymchwil i gyflwyno prosiect i astudio anghenion cadwraeth adeiladau’r 20fed ganrif a’r materion sy’n ymwneud ag ynni a charbon ymgorfforedig ac ôl-ffitio fel opsiwn amgen i newid adeiladau.
  • Datblygu mentrau newydd i dargedu ardaloedd penodol o dreftadaeth ddiwylliannol forol Cymru sydd dan fygythiad arbennig oherwydd newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys archaeoleg arfordirol a’r parth rhynglanwol, harbyrau hanesyddol bach a safleoedd archaeolegol yr ucheldir.
  • Cefnogi gwaith Gweithgor Cenedlaethau’r Dyfodol y Comisiwn Brenhinol i gyflawni ein Cynllun Gweithredu Amgylcheddol.
  • Parhau â’n haelodaeth o’r Rhwydweithiau Addas i’r Dyfodol a Threftadaeth Hinsawdd gan weithio ledled Cymru a’r byd ehangach i rannu arfer gorau.
  • Lliniaru effaith amgylcheddol ein gweithrediadau ein hunain drwy alluogi’r staff hynny sy’n gallu gweithio gartref i wneud hynny, lleihau siwrneiau cymudo, sicrhau bod cymaint â phosib o’r siwrneiau cysylltiedig â busnes a wneir yn defnyddio dulliau cynaliadwy, gan leihau gwastraff ar draws y Comisiwn i gyflawni targedau gwastraff sero, gan gefnogi gwaith ein Hyrwyddwyr Gwyrdd a sicrhau bod yr effaith ar fioamrywiaeth yn cael ei hystyried yn briodol wrth wneud penderfyniadau.
  • Annog defnyddwyr ein gwasanaethau i wneud llai o siwrneiau drwy ddigideiddio a sicrhau bod mwy o ddeunydd archif ar gael ar-lein gan CHCC a darparu gwasanaeth digideiddio llawn lle bynnag y bo modd, yn amodol ar gyfyngiadau hawlfraint.

2. Strategaeth ddigidol Cymru: cyflawni trawsnewid digidol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Sicrhau bod ein systemau TGCh yn gadarn ac yn ddiogel.
  • Datblygu a gwella Coflein fel porthol i adnoddau CHCC drwy raglen barhaus o adolygu a gwella data; archwilio cynnwys Coflein i sicrhau ei fod yn cefnogi amcanion amrywiaeth; a diffinio safon ar gyfer data Coflein fel sail i greu cynnwys yn y dyfodol ac ymateb i ddisgwyliadau defnyddwyr.
  • Adolygu a phenderfynu ar ddatblygiad ein safleoedd eraill yn y dyfodol, gan gynnwys Meysydd y Gad, Capeli, Enwau Llefydd, Cymru Hanesyddol a gwefannau corfforaethol.
  • Annog mwy o fynediad digidol i gasgliadau CHCC drwy ehangu maint y deunydd sydd ar gael drwy Coflein.
  • Adeiladu ar y gwaith sydd wedi’i wneud gan y Gwasanaeth Ymholiadau yn ystod y pandemig i annog defnyddwyr i wneud mwy o ddefnydd o’n gwasanaethau mynediad o bell, gan ateb ymholiadau yn ddigidol lle bynnag y bo modd.
  • Yn amodol ar gyllid, sicrhau bod y casgliad cyflawn o luniau o’r awyr o Gymru ar gael fel blaenoriaeth, gan mai dyma’r rhan o CHCC y mae’r galw mwyaf amdani.
  • Derbyn a chatalogio casgliad archifau Cadw a sicrhau ei fod ar gael drwy Coflein.
  • Ceisio cyllid UKRI ar gyfer Storfa Ddigidol Ddibynadwy ddwyieithog ar gyfer sector y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru a chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o reoli a chyflawni’r prosiect mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.
  • Datblygu ac ymestyn ein gwaith arloesol ym maes integreiddio data seiliedig ar fapiau fel dull o ddod â ffynonellau data gwahanol am yr amgylchedd hanesyddol at ei gilydd mewn ffyrdd sydd fwyaf defnyddiol i lywodraethau, cynllunwyr, rheolwyr cyfleustodau a seilwaith, datblygwyr, rheolwyr treftadaeth, myfyrwyr, academyddion a chymunedau.
  • Mewn partneriaeth â sefydliadau eraill sy’n cadw data (gan gynnwys Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Weinyddiaeth Amddiffyn ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru) ystyried ffyrdd o ddarparu siop un stop gynhwysfawr ar gyfer data amgylchedd hanesyddol Cymru.
  • Recriwtio Swyddog Geomateg i gefnogi ein datblygiad a gweithredu technolegau arolygu newydd wrth gofnodi safleoedd archaeolegol ac adeiladau hanesyddol, yn ogystal â phrosesu a thrin y data hyn fel sail i ddealltwriaeth a rhaglenni adfer a chadwraeth.
  • Cyflymu’r broses o drosglwyddo data maes i fynediad cyhoeddus drwy Coflein a phlatfformau data eraill (gan gynnwys SketchFab), er mwyn galluogi defnyddwyr i ddefnyddio’r canlyniadau arolygu mwyaf diweddar.
  • Parhau i ymchwilio a datblygu ein defnydd o dechnolegau arolygu digidol, gan gynnwys sganio laser, ffotogrametreg, ffotograffiaeth gigapixel, casglu data drôn a LiDAR, arolygu geoffisegol ac arolygu morol, gan sicrhau bod safleoedd yn cael eu cofnodi i’r lefelau uchaf o gywirdeb a manylder.
  • Mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, ceisio cyllid i barhau â’n gwaith dehongli digidol sy’n arwain y sector er mwyn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o safleoedd ac adeiladau a’u naratif, gan gynnwys ailadeiladu rhithwir, animeiddiadau digidol, adnoddau rhyngweithiol a chynhyrchion realiti cymysg.

3. Yr iaith Gymraeg a hanes Cymru: datblygu Rhestr o Enwau Llefydd Hanesyddol Cymru, cyfrannu at Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru a’i bwyslais ar hanes Cymru a chefnogi’r nod o sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Ymateb i strategaeth Cymraeg 2050 drwy gefnogi dysgwyr Cymraeg gyda hyfforddiant, annog y defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith ac mewn cyfarfodydd a darlithoedd cyhoeddus ac mewn rhyngweithio cymdeithasol strwythuredig (fel ein sesiynau ‘Sgwrs dros Baned’ wythnosol).
  • Parhau i gydymffurfio â’n Safonau Iaith Gymraeg drwy ddarparu gwasanaeth cyhoeddus cwbl ddwyieithog, creu a rhannu cynnwys Cymraeg ar-lein, annog y defnydd o’r Gymraeg yn ein holl weithgareddau allgymorth a recriwtio siaradwyr Cymraeg i swyddi gwag lle bynnag y bo modd, a thrwy hynny greu amgylchedd ffafriol i nod y llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
  • Mewn partneriaeth â’n partneriaid yn y sector treftadaeth, cynnal ein presenoldeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol drwy gyflwyno darlithoedd, sgyrsiau, gweithgareddau ac arddangosfeydd yn y Lle Hanes (y Pafiliwn Treftadaeth).
  • Gweithio gydag un neu fwy o ysgolion yng Nghymru i ddatblygu deunyddiau dysgu i alluogi myfyrwyr i astudio hanes a phensaernïaeth adeiladau eu hysgolion eu hunain fel rhan o gwricwlwm Cynefin sy’n canolbwyntio ar Gymru.
  • Gweithio gydag ysgolion a phartneriaid yn y sector treftadaeth i gyfrannu modiwlau at yr Hwb i gefnogi addysgu hanes Cymru.
  • Drwy weithgareddau fel ymweliadau wyneb yn wyneb ac ymweliadau grŵp rhithwir, parhau i gefnogi dysgu ar bob lefel, hyrwyddo ein hadnoddau a’n harbenigedd yn hanes Cymru a’i hamgylchedd hanesyddol, a’r technolegau arloesol rydym yn eu defnyddio i’w gofnodi.
  • Drwy ddarparu mynediad i gasgliadau cyfoethog CHCC, parhau i gynorthwyo athrawon a myfyrwyr i wneud ymchwil yn ymwneud â hanes safleoedd a chymunedau ledled Cymru.
  • Drwy ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli ac ymgysylltu a chefnogi pobl o bob cefndir i feithrin sgiliau mewn meysydd fel llyfrgellyddiaeth, rheoli archifau a data, technegau arolygu a chloddio, ymchwil hanes lleol, dendrocronoleg, mapio a ffotograffiaeth.
  • Parhau i chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad Casgliad y Werin Cymru a datblygu ei gwmpas a’i ddefnydd.
  • Parhau i ehangu’r Rhestr o Enwau Llefydd Hanesyddol a chynyddu ymwybyddiaeth a defnydd o’r Rhestr i hyrwyddo pwysigrwydd, gwerth a chadw enwau llefydd hanesyddol ac enwau llefydd Cymraeg yn arbennig.
  • Sefydlu a hwyluso gwaith grŵp gorchwyl a gorffen i asesu’r cynnydd presennol, nodi amcanion ar gyfer y dyfodol a gwneud argymhellion i’r Comisiwn Brenhinol ar sut gallwn wella a hyrwyddo’r Rhestr o Enwau Llefydd Hanesyddol.
  • Ymateb i argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen Enwau Llefydd i nodi amcanion a rhaglenni gwella, hyrwyddo a gweithio mewn partneriaeth ar gyfer y dyfodol.

4. Strategaeth Ddiwylliannol: cyfrannu at lunio a chyflawni Strategaeth Ddiwylliannol Cymru a hwyluso ymgysylltu cymunedol ag amgylchedd hanesyddol Cymru

Rydym yn rhagweld y bydd y Strategaeth Ddiwylliannol yn atgyfnerthu’r ymrwymiadau canlynol yn y Rhaglen Lywodraethu:

  • Mynd i’r afael â phob math o anghydraddoldeb a chreu Cymru wrth-hiliol.
  • Sicrhau bod hanes a diwylliannau ein cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl LGBTQ+ yn cael eu cynrychioli a’u dathlu’n briodol.
  • Gwella mynediad i dreftadaeth a chefnogi cyfranogiad wrth ddarganfod a rhannu treftadaeth amrywiol Cymru.
  • Hyrwyddo iechyd a lles; creu cyfleoedd ar gyfer presgripsiynau cymdeithasol i fynd i’r afael ag ynysu a chefnogi lles.
  • Galluogi pobl mewn grwpiau bregus neu ddifreintiedig a’r rhai mewn cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol.
  • Creu cyfleoedd i bobl ifanc, yr henoed a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn llefydd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.
  • Sicrhau y gall cymunedau ffynnu fel canolfannau cyfnewid cymdeithasol, hamdden, chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol.
  • Cyflwyno delwedd bwerus a chadarnhaol o Gymru i’r byd.

Mewn ymateb i’r Strategaeth Ddiwylliannol rydym yn rhagweld y byddwn yn ymgymryd â rhai o’r canlynol:

  • Yn amodol ar gyllid y Loteri Genedlaethol, cyflwyno prosiect ymgysylltu cymunedol yn seiliedig ar fryngaer Pendinas mewn partneriaeth â Fforwm Cymunedol Penparcau ac ysgolion ac elusennau lleol.
  • Yn amodol ar gyllid y Loteri Genedlaethol, cefnogi’r Sefydliad Treftadaeth Iddewig gyda’i brosiect i sefydlu canolfan ffisegol a hwb digidol ar gyfer archwilio treftadaeth y Gymuned Iddewig yng Nghymru sydd wedi’i lleoli yn yr hen synagog ym Merthyr Tudful, drwy greu cyfres o adnoddau digidol arloesol ar gyfer dehongli ac addysgu.
  • Tynnu sylw at dreftadaeth y cymunedau nad ydym pur anaml yn eu clywed yn ein prosiectau, arddangosfeydd, gwefan a chynnwys cyfryngau cymdeithasol, gan sicrhau bod hanes a diwylliannau ein cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl LGBTQ+ yn cael eu cynrychioli’n briodol yng ngwaith ymchwil ac allgymorth y Comisiwn Brenhinol.
  • Mynd ati i hyrwyddo treftadaeth pob ffydd yng Nghymru; ymchwilio i waith partneriaeth gyda Dr Abdul-Azim Ahmed, Prifysgol Caerdydd, ar brosiect ar dreftadaeth Islam yng Nghymru; a pharhau i gadeirio’r Fforwm Mannau Addoli Hanesyddol, gan arddangos arfer gorau o ran cynnal defnydd cymunedol o fannau addoli, cyfrannu at amcan Llywodraeth Cymru o wneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn llefydd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt a hyrwyddo pererindod a thwristiaeth ffydd i gyflawni strategaeth dwristiaeth Croeso Cymru.
  • Cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn genedl gyfeillgar i oedran drwy ein rhaglen wirfoddoli, drwy guradu ‘Archif Cof’ Casgliad y Werin Cymru a hyrwyddo ffotograffau archifol CHCC ar gyfer gwaith cof gyda phobl sy’n byw gyda dementia.
  • Cryfhau ein partneriaethau gyda sefydliadau gwirfoddol a chymunedau drwy ein gwaith ar gyfer Casgliad y Werin Cymru, gan weithio’n agos gydag archifau lleol a rhanbarthol, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd i hyrwyddo’r prosiect ac annog cyfranogiad.
  • Cefnogi cymunedau llechi gogledd orllewin Cymru i fanteisio i’r eithaf ar fuddion y statws Treftadaeth Byd; annog twristiaeth gynaliadwy a chefnogi’r gwaith o warchod a rheoli’r dirwedd llechi drwy gyfrannu at weithgareddau’r grŵp rheoli a chyflawni’r camau gweithredu yn y Cynllun Rheoli Eiddo, gan gynnwys cyhoeddi ‘Gofalu am Dirweddau Llechi Cymru’ yn ddwyieithog.
  • Drwy waith y gwasanaeth ymholiadau, parhau i annog dysgu gydol oes ac ymgysylltu â hanes a diwylliant Cymru gan unigolion a grwpiau lleol, a thrwy hynny helpu i oresgyn anghydraddoldebau addysgol.
  • Cyflwyno canlyniadau ein gwaith yn ôl i’r cymunedau rydym yn cynnal ymchwil ynddynt drwy gyfrwng sgyrsiau byw ac ar-lein, blogiau tywys a deunydd gwefan er mwyn annog cyfranogiad mewn darganfod a rhannu treftadaeth amrywiol ar lefel leol.
  • Parhau â rhaglen o gyhoeddiadau amrywiol (erthyglau cyfryngau, pamffledi, llyfrau poblogaidd, adroddiadau ymchwil, papurau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid, penodau mewn gweithiau wedi’u golygu, monograffau) sy’n hyrwyddo treftadaeth Cymru ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
  • Gwella balchder yn y gymuned leol a galluogi gweithgareddau treftadaeth a chadwraeth a arweinir gan y gymuned drwy gefnogi ymholiadau gan ymchwilwyr lleol a grwpiau cymunedol wrth gynnal ymchwil a sicrhau cofnodion perthnasol.
  • Parhau i ddarparu cymorth a hwyluso mynediad a chyfranogiad i gymunedau Byddar ac i’r rhai sy’n byw gydag anableddau eraill, gan gynnwys anableddau cudd, gan ein staff sydd wedi’u hyfforddi mewn meysydd fel Iaith Arwyddion Prydain, sy’n Gyfeillion Dementia ac yn Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, yn ogystal â darparu offer fel dolen sain, cyferbyniad uchel, bysellfwrdd cyfrifiadur allweddi mawr a chwyddwydrau ar gyfer y rhai â nam ar eu golwg yn yr ystafell chwilio.
  • Cefnogi pobl ifanc i mewn i waith drwy greu profiad gwaith, hyfforddiant a chyfleoedd mentora, a chefnogi’r archwiliad sgiliau sector fydd yn cael ei gynnal o dan nawdd is-grŵp sgiliau Partneriaeth Strategol Cymru Hanesyddol. Wrth greu swyddi newydd, ystyried recriwtio hyfforddeion lle bynnag y bo modd, a cheisio cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau ffurfiol sy’n arwain at gyflogaeth amser llawn gyda’r Comisiwn.
  • Defnyddio’r rhwydwaith newydd o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i helpu i gau’r bwlch rhwng pobl ag anableddau a gweddill y boblogaeth sy’n gweithio.
  • Cefnogi egwyddorion ‘Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru’ drwy wella amrywiaeth y gweithlu ac ar lefel bwrdd ac annog ymgeiswyr amrywiol ar gyfer swyddi a swyddogaethau Comisiynydd.
  • Parhau i ymgysylltu â phobl o bob rhan o’r byd, gan gynnwys y Cymry ar wasgar, drwy sicrhau bod mwy o CHCC ar gael ar-lein a chysylltu â’n hymholwyr a’n cwsmeriaid byd-eang drwy ein gweithgarwch gwasanaethau cyhoeddus a’n rhwydwaith Cyfeillion sy’n cynyddu. Gweithio gyda phartneriaid sector (gan gynnwys Ysgol Pensaernïaeth Cymru, y Rhaglen Ddarganfod yn Iwerddon a Phrifysgol Maastricht) i gynnal ymchwil newid hinsawdd ar sail ryngwladol, gan gynnwys cynnal cynadleddau rhyngwladol ac ysgolion undydd, a chwilio am gyfleoedd ar gyfer rhaglenni cyfnewid dysgu.

I lawrlwytho’r ddogfen hon fel ffeil PDF, cliciwch yma: Cynllun Gweithredol 2022-26

Open Government Licence logo
Mae’r ddogfen hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.

Nôl i ben y dudalen

Tweets