Rhagymadrodd
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Cyfrifoldeb dros y Cynllun
Diben a Strwythur y Cynllun Cyhoeddi
Cael Cyhoeddiadau
Polisi ar godi tâl
Y Dosbarthiadau o Wybodaeth yr ydym yn Addo’u Cyhoeddi:
Adrodd
Agendâu, Papurau a Chofnodion
Cynllunio a Strategaeth
Dogfennau Galluogi
Dogfennau Polisi
Llyfrau Printiedig
Recriwtio
Setiau Data Archifol
Setiau Data Treftadaeth
Dyma Gynllun Cyhoeddi Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (y Comisiwn Brenhinol) a luniwyd o dan Adran 19 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Nôl i ben y dudalen
Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi’i gyfansoddi o dan Warant Frenhinol i lunio a chadw cofnod o amgylchedd archaeolegol, pensaernïol a hanesyddol Cymru. Yn unol â hynny, mae gan y Comisiwn Brenhinol rôl genedlaethol o ran rheoli treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru fel cychwynnwr, curadur a chyflenwr gwybodaeth awdurdodol i wneuthurwyr penderfyniadau unigol a chorfforaethol, a rhai’r llywodraeth, ac i ymchwilwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol. I’r diben hwnnw, mae’n gwneud hyn:
Pennaeth Cangen Wybodaeth y Comisiwn Brenhinol yw’r uwch-aelod o’r staff sy’n gyfrifol am y cynllun ar ran y sefydliad.
Rheolwr yr Archif: Gareth Edwards sy’n gyfrifol am gynnal y cynllun o ddydd i ddydd.
Nôl i ben y dudalen
Diben y cynllun cyhoeddi hwn yw nodi:
Ym mhob achos, geiriad cychwynnol y dosbarthiadau o wybodaeth yr ydym yn addo’u cyhoeddi yw “Yr ydym yn addo cyhoeddi”. Dangosir y dosbarthiadau dan benawdau ac fe’u rhestrir yn nhrefn yr wyddor.
Nôl i ben y dudalen
Mae’r wybodaeth yr ydym yn addo’i chyhoeddi ar gael mewn sawl fformat. Mae’r mwyafrif o’r dogfennau ar gael ar ffurf copi caled, er mai drwy ddulliau electronig yn unig y gellir cyrchu rhai ohonynt. Mae’r mwyafrif ohonynt ar gael drwy’n gwefan, a gellir llwytho rhai ohonynt i lawr o ffeiliau .PDF. Bydd y cynllun yn datgan yn glir ym mha fformat y mae’r wybodaeth ar gael.
Os hoffech gael unrhyw un o’r dogfennau yr ydym wedi’u cyhoeddi am ddim, cysylltwch â Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn y cyfeiriad hwn:
C H C C Gwasanaethau Darllenwyr
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ffordd Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU
Ffôn: +44 (0) 1970 621200. Ffacs: +44 (0) 1970 627701
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ar agor i’r cyhoedd, a gall y rhai sy’n galw yno’n bersonol gael copïau o’r cyhoeddiadau. Dyma’r amserau agor:
Os hoffech gyrchu’n dogfennau electronig drwy’n gwefan, y cyfeiriad yw: www.cbhc.gov.uk
Oni nodir fel arall, mae’r cyhoeddiadau sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun ar gael yn rhad ac am ddim. Llyfr printiedig sydd wedi’i gynhyrchu gan y Comisiwn Brenhinol yw pob cyhoeddiad y codir tâl amdano, a gall prisiau ac argaeledd y llyfrau amrywio. I gael rhestr ohonynt a manylion eu prisiau a’u hargaeledd, cysylltwch â’r:
Adran Gwerthu Llyfrau
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ffordd Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU
Ffôn: +44 (0) 1970 621229. Ffacs: +44 (0) 1970 627701
E-bost: admin.rcahmw@cbhc.gov.uk
neu ewch i dudalennau’r Siop Lyfrau ar wefan y Comisiwn Brenhinol.
Nôl i ben y dudalen
Yn nhrefn yr wyddor:
Adrodd
Yr ydym yn addo cyhoeddi Adroddiad Blynyddol: adroddiad sy’n crynhoi gweithgareddau’r Comisiwn Brenhinol dros y flwyddyn flaenorol. Mae hwn ar gael ar ffurf llyfryn printiedig a gellir cyflenwi copi ohono os gwneir cais amdano. Mae modd hefyd ei gyrchu drwy wefan y Comisiwn Brenhinol a gellir ei lwytho i lawr ar ffurf ffeil .PDF.
Yr ydym yn addo cyhoeddi Newyddlen: cyhoeddiad chwarterol o’r enw Cofnod sy’n tynnu sylw at amrywiol weithgareddau a digwyddiadau’r Comisiwn Brenhinol. Mae ef ar gael ar ffurf llyfryn printiedig y gellir cyflenwi copïau ohono os gwneir cais amdanynt. Gellir hefyd ei gyrchu drwy wefan y Comisiwn Brenhinol a’i lwytho i lawr ar ffurf ffeil .PDF.
Yr ydym yn addo cyhoeddi Adroddiadau Achlysurol: adroddiadau ar amrywiol bynciau treftadaeth ac agweddau ar waith y Comisiwn Brenhinol. Gellir eu cyrchu drwy wefan y Comisiwn Brenhinol a gellir cyflenwi copïau printiedig ohonynt os gwneir cais amdanynt.
Nôl i ben y dudalen
Agendâu, Papurau a Chofnodion
Yr ydym yn addo cyhoeddi Cofnodion y Comisiynwyr: agendâu a chofnodion y cyfarfodydd o Gomisiynwyr y Comisiwn Brenhinol. Maent ar gael drwy wefan y Comisiwn Brenhinol, a gellir cyflenwi copi printiedig ohonynt os gwneir cais amdano.
Nôl i ben y dudalen
Cynllunio a Strategaeth
Yr ydym yn addo cyhoeddi’r Cynllun Strategol: y ddogfen sy’n nodi rhaglen y Comisiwn Brenhinol ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae ef ar gael drwy wefan y Comisiwn Brenhinol, a gellir ei lwytho i lawr ar ffurf ffeil .PDF. Gellir hefyd gyflenwi copi printiedig ohono os gwneir cais amdano.
Nôl i ben y dudalen
Dogfennau Galluogi
Yr ydym yn addo cyhoeddi’r Warant Frenhinol: y ddogfen sy’n cyfansoddi’r Comisiwn Brenhinol yn gyfreithiol ac yn nodi ei gyfrifoldebau. Mae hi ar gael drwy wefan y Comisiwn Brenhinol a gellir cyflenwi fersiwn printiedig ohoni os gwneir cais amdano.
Yr ydym yn addo cyhoeddi’r Datganiad Cenhadaeth a’r Nodau ac Amcanion: dogfennau sy’n nodi’r hyn y mae’r Comisiwn Brenhinol yn dymuno’i gyflawni a sut mae’n bwriadu ei gyflawni. Maent ar gael drwy’n gwefan a gellir cyflenwi fersiwn printiedig ohonynt os gwneir cais amdano.
Nôl i ben y dudalen
Dogfennau Polisi
Yr ydym yn addo cyhoeddi’r Polisi Casglu: y polisi sy’n rheoli caffael cofnodion ar gyfer yr C H C. Mae ef ar gael drwy’n gwefan a gellir cyflenwi fersiwn printiedig ohono os gwneir cais amdano.
Yr ydym yn addo cyhoeddi’r Polisi ar Reoli Cofnodion: y polisi sy’n rheoli’r cofnodion a gynhyrchir gan y Comisiwn Brenhinol. Gellir cyflenwi fersiwn printiedig ohono os gwneir cais amdano.
Nôl i ben y dudalen
Llyfrau Printiedig
Yr ydym yn addo cyhoeddi llyfrau printiedig sy’n ymwneud ag amrywiol themâu ym meysydd archaeoleg, pensaernïaeth a threftadaeth Cymru. Maent yn gyhoeddiadau y codir tâl amdanynt a gall eu prisiau a’u hargaeledd amrywio.
Nôl i ben y dudalen
Recriwtio
Yr ydym yn addo cyhoeddi Swyddi Gwag: fe’u cyhoeddir at ddibenion recriwtio staff. Maent ar gael drwy wefan y Comisiwn Brenhinol a gellir eu cyhoeddi yn y wasg leol a chenedlaethol.
Nôl i ben y dudalen
Setiau Data Archifol
Yr ydym yn addo cyhoeddi Catalog o Archifau Electronig CHC: catalog o’r cofnodion a gedwir yn Archif yr CHC. Oherwydd ei faint a’i natur, nid yw hwn ond ar gael yn llawn drwy wefan y Comisiwn Brenhinol, er y gall fod modd cyflenwi adrannau printiedig ohono os gwneir cais am hynny.
Nôl i ben y dudalen
Setiau Data Treftadaeth
Yr ydym yn addo cyhoeddi rhannau o’r Gronfa Ddata Greiddiol o Safleoedd: y brif gronfa ddata o wybodaeth y Comisiwn Brenhinol am safleoedd a henebion. Oherwydd ei maint a’i natur, nid yw hi ond ar gael drwy wefan y Comisiwn Brenhinol, fel rhan o system C A R N (Y Mynegai Creiddiol i Gofnodion Archaeolegol) neu’r Gronfa Ddata Capeli.
![]() |
Mae’r ddogfen hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. |