4. Cydnabyddiaeth ariannol swyddi uwch
5. Cyflogeion sy’n derbyn y cyflogau isaf
Atodiad A – Bandiau Cyflog o 1 Ebrill 2020
Atodiad B – Cyfansoddiad y staff yn ôl gradd
Atodiad C – Perthynoleddau tâl o fewn y Comisiwn
Atodiad D – Cyfansoddiad y staff yn ôl rhywedd
Atodiad E – Cyfansoddiad y Bwrdd yn ôl rhywedd
1.1. Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yw’r Comisiwn Brenhinol. Gofynnwyd i bob corff o’r fath gyhoeddi datganiad polisi tâl yn unol â’r argymhellion a wnaed ym mis Tachwedd 2015 gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Dryloywder Cydnabyddiaeth Ariannol Uwch Reolwyr yn y Sector Cyhoeddus Datganoledig. Felly, pwrpas y Datganiad Polisi Tâl hwn yw cyplysu ein polisi ag amrywiol faterion sy’n ymwneud â thâl a chydnabyddiaeth ariannol y gweithlu, gan gynnwys tâl a chydnabyddiaeth ariannol swyddi uwch mewn perthynas â’r cyflogeion sy’n derbyn y cyflogau isaf.
Nôl i ben y dudalen
2.1. Wrth bennu tâl a chyflog pob aelod o’i staff, bydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (y Comisiwn) yn cydymffurfio â holl ddeddfwriaeth berthnasol cyflogaeth.
2.2. Mae hyn yn cynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010, Rheoliadau 2000 Cyflogaeth Ran Amser (Atal Triniaeth Llai Ffafriol), Rheoliadau Gweithwyr Asiantaeth 2010, a lle bo’n berthnasol, Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Enillion).
2.3. O ran gofynion y Cyflog Cyfartal sy’n gynwysedig yn y Ddeddf Cydraddoldeb, mae’r Comisiwn yn gwneud yn siŵr nad oes gwahaniaeth mewn cyflogau o fewn ei strwythur tâl a bod modd cyfiawnhau pob amrywiad cyflog yn wrthrychol trwy ddefnyddio mecanwaith gwerthuso swyddi (JEGS) sy’n ystyriol o gydraddoldeb ac sy’n cysylltu cyflogau’n uniongyrchol â gofynion, galwadau a chyfrifoldebau’r rôl. JEGS yw Cynllun Cymorth Gwerthuso a Graddio Swyddi’r Gwasanaeth Sifil. Methodoleg gwerthuso swyddi ddadansoddol gyfrifiadurol ydyw sy’n cynnig ffordd systematig a chyson o werthuso rolau.
2.4. Gweler Atodiad D am drosolwg o gyfansoddiad rhywedd y gweithlu a staff uwch cyfan; gweler Atodiad E am drosolwg o gyfansoddiad rhywedd y Bwrdd.
Nôl i ben y dudalen
3.1. Mae cyflogau, graddfeydd a thelerau ac amodau gwasanaeth staff y Comisiwn Brenhinol yr un fath â’r rheiny ar gyfer Llywodraeth Cymru.
3.2. Bydd y Comisiwn yn adolygu ei gyllideb gyflogau bob blwyddyn, gan geisio’r gyfatebiaeth orau bosibl rhwng yr adnoddau sydd ar gael a’r gofynion a geir yn ein Gwarant Frenhinol, Llythyr Cylch Gwaith blynyddol Llywodraeth Cymru, a’n Cynllun Gweithredol.
3.3. Yn sgil trafodaethau cyflog yn 2020 gyda’r Undebau Llafur sy’n cynrychioli staff a gyflogir gan Lywodraeth Cymru, cytunwyd ar setliad cyflog un flwyddyn ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2020 hyd 31 Mawrth 2021. Dyfarnodd hyn gynnydd o 2.5% i bob pwynt cyflog a gradd i bob aelod staff. Mae hyn yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru (a’r Comisiwn Brenhinol) i fod yn Gyflogwr Cyflog Byw ac yn mynd â ni y tu hwnt i’r egwyddor ‘£10 yr awr’ y cytunwyd arni ynghynt. Er mwyn cynnal cadernid y gyfundrefn gyflog, cadwyd bwlch o 5% rhwng bandiau cyflog. Nid yw’r dyfarniad yn berthnasol i staff ar delerau ac amodau wedi’u diogelu.
3.4. Gellir dod o hyd i’r graddfeydd cyflog cyfredol (Ebrill 2020 – Mawrth 2021) yn Atodiad A.
3.5. Pan fydd swydd wedi’i gwerthuso trwy JEGS, bydd y sgôr yn pennu’r band cyflog ar gyfer y swydd. Gwneir penodiadau newydd fel rheol ar bwynt isaf y radd berthnasol, er y gellir amrywio hyn o dan amgylchiadau eithriadol i sicrhau bod yr ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd yn cael ei benodi.
3.6. Bydd hicynnau o fewn y band cyflog yn cael eu talu ar naill ai 1 Ionawr neu 1 Gorffennaf bob blwyddyn (hyd nes y bydd uchafswm y band wedi’i gyrraedd) yn dibynnu ar y dyddiad cychwyn.
3.7. Ni fydd y Comisiwn yn talu bonysau nac yn gwneud taliadau eraill yn ymwneud â pherfformiad i’w staff.
3.8. Mae unrhyw daliadau a wneir mewn cysylltiad â therfynu cyflogaeth – oherwydd ymddiswyddiad, colli gwaith neu ymddeoliad – yn cael eu gwneud yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru.
3.9. Gweler Atodiad B am drosolwg o niferoedd staff yn ôl band cyflog.
Nôl i ben y dudalen
4.1. At ddiben y datganiad hwn, mae swyddi uwch yn golygu aelodau Tîm Gweithredol y Comisiwn (TG). (Manylir ar aelodaeth y tîm yn 4.2 isod.) Bydd y TG yn cyfarfod unwaith y mis i adolygu a gwneud penderfyniadau gweithredol am:
4.2. Aelodau’r Tîm Gweithredol yw Ysgrifennydd y Comisiwn a’r ddau Bennaeth Gwasanaeth (Gwybodaeth a Dealltwriaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus). Mae eu cyflogau sylfaenol ar 1 Ebrill 2020 fel a ganlyn:
a. Yr Ysgrifennydd
Cafodd swydd yr Ysgrifennydd ei hailraddio yn 2015; penodwyd yr Ysgrifennydd presennol ar G6 (EB1 gynt), ym mhen uchaf graddfa gyflog Band Gweithredol Llywodraeth Cymru, ond yn is na lefel Uwch Wasanaeth Sifil y graddio blaenorol. Mae’r band cyflog presennol ar gyfer y swydd yn dechrau ar £63,880 y flwyddyn ac yn codi i £74,730 y flwyddyn mewn tri cham cynyddrannol. Mae’r deiliad swydd presennol wedi cyrraedd uchafswm y band cyflog.
b. Penaethiaid Gwasanaeth
Mae’r band cyflog presennol ar gyfer y swyddi hyn yn dechrau ar £39,310 y flwyddyn ac yn codi i £47,000 mewn tri cham cynyddrannol. Mae deiliaid presennol y swyddi wedi cyrraedd uchafswm y band cyflog.
4.3. Mae gan y Comisiwn naw Comisiynydd ar hyn o bryd. Ni chânt eu talu ond derbyniant lwfans dyddiol am fynychu cyfarfodydd y Comisiwn a pharatoi ar eu cyfer. Mae Bwrdd y Comisiynwyr yn darparu arweiniad a dull llywodraethu i’r sefydliad, ac yn craffu ar bob un o weithgareddau’r Comisiwn Brenhinol, yn ogystal â herio’r gweithgareddau hynny’n adeiladol.
Nôl i ben y dudalen
5.1. Mae cyflogeion y Comisiwn sy’n derbyn y cyflogau isaf wedi’u cyflogi ar fand Cymorth Tîm Llywodraeth Cymru. Y cyflog isaf ar y band cyflog yw £20,000 y flwyddyn ac mae hyn yn codi mewn dau gam cynyddrannol i’r uchafswm o £23,830. Mae staff ar y band Cymorth Tîm yn derbyn cyflog cyfwerth ag amser llawn (37 awr) sydd ymhell uwchben Cyflog Byw y DU (sef £9 yr awr ar hyn o bryd) a bennwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw. Mae’r Comisiwn Brenhinol yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig.
5.2. Bydd y Comisiwn yn cefnogi staff ar gyflogau is drwy:
6.1. Mae’r berthynas rhwng cyfradd tâl y rhai sy’n cael eu talu lleiaf a’r swyddi uwch yn cael ei phenderfynu yn ôl y prosesau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pennu strwythurau tâl a graddio fel yr esboniwyd yn gynharach yn y datganiad polisi hwn.
6.2. Y tâl lleiaf yn y Comisiwn yw’r gyfradd gychwynnol yn amrediad cyflog Tîm Cymorth Llywodraeth Cymru. Mae’r aelod staff sy’n derbyn y tâl mwyaf ar radd G6 (Band 6) Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw swyddi yn strwythur y Comisiwn sydd yn G7 (Band F). Felly, mae’r cymariaethau perthynoledd tâl a roddir (gweler Atodiad C) yn ymwneud â’r Gweithredwr sy’n derbyn y cyflog uchaf (yr Ysgrifennydd) a’r Rheolwyr sy’n derbyn y cyflogau uchaf (y Penaethiaid Gwasanaeth).
Nôl i ben y dudalen
7.1. Bydd y Comisiwn yn rheoli ei gronfa o dalent drwy gyfrwng proses ffurfiol o Reoli Perfformiad, sy’n cydnabod perfformiad da, yn ogystal â thrwy ddarparu rhaglen hyfforddi a datblygu amrywiol sy’n briodol i’r swydd.
7.2. Corff bach yw’r Comisiwn ac mae’r mwyafrif o’i staff yn gweithio mewn rolau arbenigol ‘unig berson’. Bydd yn annog ei staff i feithrin, cynnal a gwella’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud eu swyddi yn ogystal â rhoi cyfleoedd iddynt ymestyn a datblygu’r rolau a lenwant. Bydd y Comisiwn yn gwneud hyn drwy ddarparu hyfforddiant perthnasol a heriol a hefyd drwy:
Mae’r Comisiwn yn credu bod yr ymagwedd hon yn sicrhau llwyddiant y sefydliad a’i le fel arweinydd ac arloeswr yn y sector.
Nôl i ben y dudalen
8.1. Mae polisi a gweithdrefnau’r Comisiwn wrth recriwtio staff (gan gynnwys swyddi uwch) yn dilyn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil 2015, sy’n nodi bod yn rhaid i ymgeiswyr gael eu penodi ar sail teilyngdod a chystadleuaeth deg ac agored.
8.2. Anogir staff i ymgeisio am swyddi ar radd uwch pryd bynnag y bydd cyfleoedd ar gyfer dyrchafiad yn codi.
8.3. Bydd pob aelod staff newydd, gan gynnwys staff uwch, yn cael ei dalu yn unol â bandiau cyflog Llywodraeth Cymru a pholisïau a gweithdrefnau perthnasol Llywodraeth Cymru sydd mewn grym adeg recriwtio.
8.4. Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i egwyddorion partneriaeth strategol Cymru Hanesyddol, sef gweithio tuag at gysoni cyflogau ac amodau ar draws y sector amgylchedd hanesyddol ar lefel y rhai gorau.
8.5. Mae’r Comisiwn hefyd wedi ymrwymo i’r egwyddor o feithrin ‘un gweithlu’ i’r sector a bydd yn annog staff i ymgeisio am rolau o fewn y cyrff eraill yn y sector treftadaeth a ariennir gan y Llywodraeth, yn ogystal ag am secondiadau o’r Comisiwn neu i’r Comisiwn pan ystyrir mai hyn sydd orau.
Nôl i ben y dudalen
1. Cymorth Tîm
Cymorth Tîm | ||||
Pwynt Graddfa | 2019 | O 1 Ebrill 2019 | Cynnydd | Cynnydd % |
1 | £20,000 | £20,500 | £500 | 2.5% |
2 | £21,620 | £22,160 | £540 | 2.5% |
3 | £23,250 | £23,830 | £580 | 2.5% |
2. Swyddog Gweithredol, Swyddog Gweithredol Uwch, Uwch-swyddog Gweithredol, Gradddau 6 a 7
SG (Band C) | ||||
Pwynt Graddfa | 2019 | O 1 Ebrill 2020 | Cynnydd |
Cynnydd % |
1 | £24,415 | £25,030 | £615 | 2.5% |
2 | £25,650 | £26,290 | £640 |
2.5% |
3 | £28,150 | £28,850 | £700 |
2.5% |
SGU (Band D) | ||||
Pwynt Graddfa | 2019 | O 1 Ebrill 2020 | Cynnydd |
Cynnydd % |
1 | £29,850 | £30,600 | £750 | 2.5% |
2 | £31,750 | £32,540 | £790 |
2.5% |
3 | £33,650 | £34,490 | £840 |
2.5% |
4 | £36,500 | £37,410 | £910 |
2.5% |
USG (Band E) | ||||
Pwynt Graddfa | 2019 | O 1 Ebrill 2020 | Cynnydd |
Cynnydd % |
1 | £38,355 | £39,310 | £955 | 2.5% |
2 | £40,545 | £41,560 | £1,015 |
2.5% |
3 | £42,690 |
£43,760 | £1,070 |
2.5% |
4 | £45,850 | £47,000 | £1,150 |
2.5% |
G7 (Band F) | ||||
Pwynt Graddfa | 2019 | O 1 Ebrill 2020 | Cynnydd |
Cynnydd % |
1 | £49,625 | £50,870 | £1,245 | 2.5% |
2 | £52,430 | £53,740 | £1,310 |
2.5% |
3 | £55,235 | £56,620 | £1,385 |
2.5% |
4 | £59,350 | £60,830 | £1,480 |
2.5% |
G6 (Band G) | ||||
Pwynt Graddfa | 2019 | O 1 Ebrill 2020 | Cynnydd |
Cynnydd % |
1 | £62,320 | £63,880 | £1.560 | 2.5% |
2 | £64,620 | £66,240 | £1,620 |
2.5% |
3 | £67,985 | £69,690 | £1,705 | 2.5% |
4 | £72,905 | £74,730 | £1,825 |
2.5% |
Band Cyflog | Nifer | % | CAALl | % |
CT | 7 | 20 | 6 | 19 |
SG | 11 | 31 | 10 | 31 |
SGU | 14 | 40 | 13 | 41 |
USG* | 2 | 6 | 2 | 6 |
G7 | 0 | 0 | 0 | 0 |
G6* | 1 | 3 | 1 | 3 |
Cyfanswm | 35 | 100% | 32 | 100% |
* Swyddi uwch (Tîm Gweithredol)
Lluosrif cyflog | Cymhareb | |
Cymhareb isel i uchel | Y lluosrif rhwng cyflog blynyddol y cyflogai isaf ei gyflog a’r cyflogai uchaf ei gyflog fel cymhareb. |
1 i 3.65 |
Cymhareb isel i Bennaeth Gwasanaeth | Y lluosrif rhwng cyflog blynyddol y cyflogai isaf ei gyflog a’r gyfradd tâl Rheoli uchaf fel cymhareb. |
1 i 2.29 |
Cymhareb ganolrifol i uchel | Y lluosrif rhwng cyflog canolrifol y Comisiwn a’r uchaf ei gyflog fel cymhareb. |
1 i 2 |
Cymhareb ganolrifol i Bennaeth Gwasanaeth | Y lluosrif rhwng cyflog canolrifol y Comisiwn a’r gyfradd tâl Rheoli uchaf fel cymhareb. |
1 i 1.26 |
Sylwer: Cyfrifwyd y gymhareb ganolrifol drwy dynnu G7 allan (gan nad oes unrhyw swyddi ar y band hwn), felly mae cyfanswm o 19 cam; canolrif = £37,410 (SGU, pwynt graddfa 4).
Band Cyflog | Dynion | Menywod | ||||||
Nifer | % o’r band | CAALl | % o’r band | Nifer | % o’r band | CAALl | % o’r band | |
CT | 4 | 57 | 3.4 | 57 | 3 | 43 | 2.6 | 43 |
SG | 6 | 55 | 6 | 58 | 5 | 45 | 4.3 | 42 |
SGU | 6 | 43 | 5.5 | 43 | 8 | 57 | 7.2 | 57 |
USG* | 2 | 100 | 2 | 100 | 0 | 0 | 0 | 0 |
G7 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
G6* | 1 | 100 | 1 | 100 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 19 | 17.9 | 16 | 14.1 |
* Swyddi uwch (Tîm Gweithredol)
Rhywedd | Nifer | % |
Menywod | 5 | 56 |
Dynion | 4 |
44 |
Cyfanswm | 9 |
100% |
I lawrlwytho’r ddogfen hon fel ffeil PDF, cliciwch yma: CBHC Datganiad Polisi Tâl 2020-21